Archive for “Hydref, 2014”

SNAP Cymru yn croesawu Jane McCann i’r tîm

Mae Jane wedi ymuno â SNAP Cymru yn ddiweddar fel Gweithiwr Cymorth Teuluoedd a Phobl Ifanc, ac mae’r tîm cyfan yn falch iawn o’i chroesawu. Yn y gorffennol mae Jane wedi darlithio ar y gyfraith yn Abertawe. Ar ôl cael plant bu’n rhoi sgyrsiau i blant ysgol, grwpiau cybiau ac eraill am gŵn tywys, anabledd a dallineb, gan eu helpu nhw i ddysgu darllen a chynnig cyngor ynghylch hawliau lles.

Fel yr esboniodd hi wrth i ni gael sgwrs, roedd y ffaith bod ganddi hi anghenion arbennig a bod ei mab hi wedi cael ei fwlio yn golygu bod ymuno â SNAP Cymru yn benderfyniad hawdd.

‘Cafodd fy mab ei fwlio’n wael yn yr ysgol ac roedd yn bryderus iawn, felly roeddwn yn ymwybodol o bwysigrwydd gwasanaeth tebyg i’r hyn mae SNAP Cymru yn ei gynnig. Hefyd, roedd gan nifer o’m ffrindiau blant ag anghenion ychwanegol. Gyda fy nghefndir cyfreithiol i, meddyliais y byddai hwn yn faes diddorol ac yn llawn boddhad, ac unwaith y byddwn i’n dod yn gyfarwydd â’r pwnc, byddwn i’n gallu bod o gymorth’.

Yn ystod ein sgwrs, tynodd sylw at agwedd gadarnhaol arall sef natur bositif a chynhwysol y sefydliad, gan ychwanegu

‘Mae’r hyfforddiant a gefais wedi bod yn wych, mae’n rhoi hyder i mi y byddaf yn gallu gwneud y gwaith!’

Yr hyn sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf iddi hyd yn hyn ydy cyfarfod y teuluoedd eu hunain a bod yn rhan uniongyrchol o helpu i geisio datrys eu hanawsterau. Mae ei rôl newydd wedi cynnwys rhoi cymorth i deulu â dau o feibion ag anghenion ychwanegol sydd wedi bod yn ei chael hi’n anodd yn yr ysgol. Mae Jane yn gobeithio y bydd hi’n gallu gwneud yr un peth gyda mwy o deuluoedd yn y dyfodol wrth iddi hi gael mwy o brofiad.

Mae ei chi tywys Peggy wedi bod yn boblogaidd iawn yn y swyddfa, ac wedi ei helpu hi i ddechrau sgwrsio ar sawl achlysur. Fel mae Jane yn dweud

‘Mae hi’n fy ngwneud i’n llawer mwy hyderus ac yn fy ngalluogi i fynd allan yn annibynnol. Rwyf yn dal i orfod gofyn i bobl am arweiniad a help pan rydw i allan, ond mae’n llawer haws gwneud hynny pan mae hi wrth fy ochr. Mae hi’n rhoi’r grym i mi. Mae hi hefyd yn cael pawb i siarad gyda mi – gyda hi maen nhw eisiau siarad go iawn, ond rydw i’n yn cael cyfarfod â llawer o bobl hyfryd gan fy mod i gyda hi’!

SNAP Cymru yn Dathlu Lansio Gwefan Ddwyieithog Newydd

Dathlwyd lansiad gwefan ddwyieithog newydd SNAP Cymru mewn digwyddiad yn adeilad Pierhed ym Mae Caerdydd, yr wythnos ddiwethaf.  Cafodd y digwyddiad ei noddi gan Huw Lewis AC – y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Ruth Conway – Pennaeth y Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol, a fu’n siarad ar ei ran.

Mae www.snapcymru.org yn wefan ddwyieithog a gyflwynwyd ar ddechrau’r mis.  Mae’r safle yn darparu gwybodaeth bwysig i rieni a phobl ifanc ar agweddau amrywiol Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial drwy sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol ar gael i deuluoedd.

Cafodd y wefan ei chreu gan Galactig, asiantaeth ddigidol greadigol ddwyieithog yng Ngogledd Cymru.  Darparwyd y cyfieithiad gan Cymen.

Arweinydd y digwyddiad oedd Huw Roberts, un o ymddiriedolwyr SNAP, a rhoddodd drosolwg o waith SNAP.

Siaradodd Nia Frobisher a Rebecca Bartle, gwirfoddolwyr ifanc gyda SNAP Cymru, yn Gymraeg a Saesneg, gan esbonio sut mae’r wefan newydd yn diwallu’r angen am lwyfan dwyieithog a hyblyg ar-lein sydd ar gael ar bob dyfais, yn cynnwys ffôn clyfar, llechen neu liniadur.  Rhoddwyd amlinelliad hefyd ganddynt o’r ffordd y mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad SNAP i ddarparu gwybodaeth hygyrch, ddibynadwy a chywir i bob teulu, yn eu dewis iaith, a soniwyd am allu’r gwefannau i rannu erthyglau, newyddion ac adborth drwy facebook, twitter, cylchlythyr a thudalennau rhyngweithiol.  Cyflwynwyd gwefan ac ap unigryw SNAP Cymru, Wmff! hefyd.  Mae Nia yn astudio’r gyfraith yn King’s College Llundain ar hyn o bryd, ac mae ei gwaith gwirfoddoli yn cynnwys cynghori pobl ifanc ynglŷn â’u hawliau cyfreithiol, ac mae Rebecca yn gobeithio astudio Anthropoleg Gymdeithasol yn y Brifysgol.

Yn dilyn hyn cafwyd anerchiad teimladwy iawn gan Nicola Coleman, rhiant plentyn ag anghenion arbennig o Gaerffili, ar effaith bersonol gwaith y sefydliad.  Pwysleisiodd bwysigrwydd gwybodaeth gryno a neges syml a chlir i rieni sy’n derbyn cyngor o wahanol gyfeiriadau, er mwyn diwallu anghenion unigol ei phlentyn.  Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd grymuso rhieni a phlant, er mwyn iddynt allu byw eu bywydau i’w potensial llawn.  I’w mab ei hun, mae hyn yn golygu mwynhau ei hun fel unrhyw blentyn 11 oed; gallu syml ond pwysig iawn.

Yna cyflwynwyd trosolwg o’r safleoedd a’r budd-daliadau sy’n cael eu cynnwys ar y wefan gan Sarah Clements, Cydgysylltydd Hyfforddiant a Gwybodaeth SNAP, a oedd yn pwysleisio ymatebolrwydd y wefan, y mynediad cyflym at wybodaeth, a’r fformat hygyrch a hawdd i ddefnyddio.

Ein siaradwr olaf oedd Ruth Conway, a oedd yn cynrychioli Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau.  Hi yw Pennaeth y Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr Adran Addysg a Sgiliau.  Disgrifiodd bwysigrwydd y wefan yng nghyd-destun y diwygiadau statudol newydd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, a chyfraniad SNAP yn y broses hon.

Croeso i’n Intern Newydd – Maxwell Dean

Dyma rai o sylwadau Max am ei ddyddiau cyntaf gyda ni….

Mae SNAP Cymru yn elusen sy’n ceisio grymuso teuluoedd a phobl ifanc yng Nghymru sy’n wynebu gwahaniaethu neu gael eu heithrio o ganlyniad i anghenion dysgu, tlodi, amddifadedd, anabledd neu iaith, drwy ddarparu gwybodaeth gywir, cyngor gwrthrychol a chymorth iddynt.  Gall hyn fod ar nifer o faterion gwahanol, yn cynnwys asesiadau, datganiadau o anghenion addysgol arbennig, bwlio, presenoldeb yn yr ysgol, gwahardd, darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol a gwahaniaethu.  Maent hefyd yn darparu gwasanaethau eraill, yn cynnwys eiriolaeth (drwy eu gwasanaeth annibynnol; Amdanaf Fi), datrys anghytundebau a hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Mae Wmff! yn llwyfan ar-lein newydd lle gall pobl ifanc ofyn am gyngor a chymorth, yn cynnwys fideos o storïau personol lle mae pobl ifanc yn disgrifio eu hanawsterau yn y gorffennol ond, yn bwysicach, sut y gwnaethant eu goresgyn.  Mae’r hanesion hyn yn cynnwys profiad o fwlio ym myd addysg, gwaith neu fod yn ddi-waith, addysg neu hyfforddiant.  Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar eich hawliau cyfreithiol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1989.  O ganlyniad i hyn, roedd y storïau hyn yn ysbrydoledig i mi.  Gobaith SNAP Cymru yw y byddant yn datblygu fforwm y wefan yn y dyfodol, drwy gymorth ap neilltuedig sydd ar gael ar hyn o bryd, pryd bynnag y bydd angen eu cymorth ar berson ifanc.  Mae’r wefan hefyd yn cynnwys nifer o ddolenni i wefannau addysgiadol eraill.

Mae fy nghyfnod gyda’r sefydliad wedi bod yn gadarnhaol ac yn gefnogol iawn hyd yma.  Mae lefel y cyfrifoldebau sydd gennyf yn dangos hyder yn fy ngallu.  Mae hyn er gwaethaf fy mhroblemau lleferydd personol, sy’n parhau i fod yn rhwystr personol i nifer o gyfleoedd cyflogaeth.  Mae hyn hefyd yn dweud cyfrolau am eu hagwedd a’u gwerthoedd at bobl ifanc ag anghenion arbennig a sut maent yn eu grymuso drwy’r rhain.  Mae’r cyfle hwn wedi fy helpu i ganfod fy llais; yma, nid yw fy mhroblemau yn fy atal rhag cyflawni fy mhotensial.  Maent yn cydnabod y sgiliau sydd gennyf, yn hytrach na’r nad wyf wedi’u datblygu ymhellach eto.  Mae’r profiad hwn, a’r hyder yr wyf wedi’i fagu ar ôl dilyn cwrs gyrfaoedd diweddar, Academi Raddedigion GoWales, yn rhoi hyder i mi bod gennyf y gallu i gyflawni llawer mwy yn y dyfodol.

Yr effaith fwyaf cadarnhaol, a’r effaith fwyaf i mi a SNAP Cymru, yw fy mod yn cael profiad gwaith hollbwysig a gwirioneddol mewn amgylchedd gwaith (rhywbeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn marchnad swyddi gystadleuol) ac rwyf hefyd yn helpu’r sefydliad i gyflawni ei nodau a’i amcanion.

Taith Ysbrydoledig Jared Barry

Llwyddodd taith gerdded noddedig ddiweddar Jared Barry, a oedd yn 58.3 milltir o Aberhonddu i Gaerdydd, i godi £315 i helpu gwaith a chymorth SNAP Cymru i deuluoedd.  Ar ôl clywed am hen gyfaill o’r fyddin a oedd wedi cwblhau’r daith mewn 17 awr ac 20 munud, penderfynodd Jared, sy’n gerddwr brwd, y byddai’n ymgymryd â’r her o gwblhau’r daith mewn amser cyflymach.  Dechreuodd ar ei daith ar 13eg Mehefin 2014.  Mae Llwybr Taf yn dilyn nifer o lwybrau hanesyddol, yn cynnwys hen dramffyrdd, rheilffyrdd a chamlesi a llwybrau halio camlesi presennol, gyda golygfeydd o Ben y fan a bywyd gwyllt yn cynnwys tylluanod a phenwaig.

Er gwaethaf yr heriau corfforol ac emosiynol a wynebodd Jared ar ei daith, cafodd gryfder ac ysbrydoliaeth gan ei blant i fwrw ymlaen a gwyddai eu bod yn dibynnu arno.

Penderfynodd y tad o Gaerffili i ymgymryd â’r her fel gweithred o werthfawrogiad am gymorth yr oedd ei deulu wedi’i dderbyn yn y gorffennol gan SNAP Cymru ar gyfer ei fab awtistig 13 oed.  Roedd hyn yn cynnwys eirioli ar ran y teulu mewn proses adolygu datganiad blynyddol drwy eu gwasanaeth Amdanaf Fi annibynnol, anfon gwirfoddolwr i fynychu cyfarfodydd a darparu cymorth dilynol.  Cawsant gymorth gan eiriolwyr SNAP i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd iddynt, bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u bod yn cyfrannu mewn penderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt hwy, pan fydd angen.  Cawsant gyngor hefyd yn ddiweddar gan SNAP Cymru i gysylltu ag asiantaethau perthnasol a allai gwnsela eu mab ym mlwyddyn 9, ar ôl iddo wynebu bwlio difrifol.  Sylweddolodd Jared hefyd y byddai’n ffordd dda i’w helpu i reoli ei ddiabetes ei hun.

Un cymhelliant hollbwysig arall oedd dymuniad i weld effaith bositif elusen leol sydd, fel nifer o elusennau eraill, yn wynebu pwysau cynyddol ar eu gwasanaethau, yn parhau i helpu pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.  Ar ôl cwblhau’r daith gerdded yn llwyddiannus, sylweddolodd Jared pa mor bwysig yw hi i gael ffrind mewn cyfnodau o angen.  Oherwydd hyn, mae’r stori hon yn dangos yn berffaith pa mor bwysig yw’r cymorth hwn, i alluogi teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus a chywir sy’n eu grymuso hwy a’u plant.

Y Dimensiwn Rhyngwladol – Cydweithrediad rhwng Cyngor Caerdydd a SNAP Cymru

Mae’n bleser gan Gyngor Caerdydd, SNAP Cymru a grŵp o ysgolion gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau Cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiect Ymgysylltu â Theuluoedd a Chymunedau, lle byddwn yn cydweithio gyda’n cydweithwyr yn Warsaw, Gwlad Pwyl a Ferrol, Sbaen.

O ganlyniad i’r cyngor a’r cymorth y mae ysgolion wedi’i dderbyn gan Gyngor Caerdydd yn y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd sylweddol yn lefel y cyfranogiad yn y Dimensiwn Rhyngwladol.  Mae gan Gyngor Caerdydd ei Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhyngwladol ei hun yn awr, sy’n cynorthwyo ysgolion ar draws Consortia Canol De Cymru a De Ddwyrain Cymru.  Mewn cydweithrediad â phartneriaid o bob cwr o’r byd, maent wedi gweld athrawon a dysgwyr ifanc yn datblygu fel dinasyddion rhyngwladol, ac mae’r gwaith sydd wedi’i gwblhau wedi cael effaith ar safonau ac ymgysylltiad ar draws ein hysgolion.  Maent wedi croesawu gwesteion o bob cwr o’r byd, sydd wedi cyfoethogi profiad ein dysgwyr ifanc a’n hathrawon yn yr ystafell ddosbarth.  Mae staff wedi elwa ar gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ac maent wedi ymweld â phartneriaid mewn nifer o wledydd, gan rannu arfer da a chyflwyno agweddau newydd a chyffrous at addysgu a dysgu yn ein hysgolion.

Yn 2013 dechreuodd Cyngor Caerdydd, SNAP Cymru a nifer o ysgolion ar draws Caerdydd ar brosiect 2 flynedd gyda phartneriaid yn Nuremberg, yr Almaen, a fu’n edrych ar ddealltwriaeth a rennir o addysgu a dysgu cynhwysol.

Rydym yn cydweithio i:

  • datblygu modiwlau ar gyfer prosesau dysgu cyffredin, sy’n canolbwyntio ar safonau
  • rhannu deunyddiau ac agweddau at weithio mewn partneriaeth â theuluoedd
  • creu gweithgareddau i ddatblygu hyfforddiant athrawon ymhellach

Mae gan y ddau ranbarth lefelau amrywiol o ddatblygiad mewn arfer cynhwysol.  Felly, rydym yn dysgu gan ein gilydd ac yn datblygu strategaethau, cysyniadau a modiwlau cyffredin.

Ymgysylltiad â Theuluoedd a Chymunedau

Yn dilyn ymlaen o lwyddiant y prosiect hwn, mae Cyngor Caerdydd, SNAP Cymru a grŵp newydd o ysgolion wedi gwneud cais am gyllid gan Ewrop i edrych ar Ymgysylltiad â Theuluoedd a Chymunedau.  Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein cais wedi bod yn llwyddiannus, a rhwng nawr a 2016, byddwn yn cydweithio gyda chydweithwyr yn Warsaw, Gwlad Pwyl a Ferrol, Sbaen.

Yn unol â blaenoriaethau Ewropeaidd, byddwn yn cydweithio i nodi strategaethau ar gyfer gwella lefelau cyrhaeddiad pobl ifanc, yn arbennig y rhai sydd mewn perygl o adael yr ysgol yn gynnar, gyda sgiliau sylfaenol isel (disgyblion mudol a disgyblion difreintiedig).  Rydym yn ceisio cyflawni gwell dealltwriaeth ac ymatebolrwydd i amrywiaeth cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol, ac annog ein teuluoedd i gyfrannu mwy yn y gymdeithas.  Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ein rhanbarthau.  Nid oes gan nifer o’r teuluoedd hyn lawer o brofiad, os o gwbl, o addysg a phwysigrwydd addysg i’w plant.  Mae’r nodwedd ddemograffig gynyddol hon, yn cyd-fynd â chynnydd yn nifer y teuluoedd sydd wedi ymddieithrio ymhlith ein poblogaeth gynhenid.  Mae pob rhanbarth sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi dechrau ystyried yn barod sut y gallwn ymgysylltu â theuluoedd a’u dysgwyr ifanc yn y pen draw ym maes addysg, ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy.  Rydym wedi cynllunio prosiect a fydd yn ein galluogi i weithio gyda’n partneriaid o ranbarthau amrywiol, a chrynhoi ein hadnoddau a’n syniadau er mwyn i ni allu ymgysylltu’n well gyda theuluoedd a phlant sy’n anoddach eu cyrraedd.  Drwy gydweithio, darparu hyfforddiant i athrawon, cyfleoedd hyfforddiant achrededig i rieni a datblygu llais i fyfyrwyr, credwn y gallwn gydweithio i wella uchelgeisiau ac ymgysylltiad.