Archive for “Tachwedd, 2014”

Hawl y Plentyn i Apelio

Mae gan bob plentyn hawl, dan erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), i’w lais gael ei glywed mewn penderfyniadau sy’n effeithio arno/i.

Hyd yma, nid yw plant a chanddynt anghenion arbennig wedi gallu mynnu’r hawl hon yn llawn gan eu bod yn cael eu hatal rhag apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (SENTW). Fodd bynnag, mae’r sefyllfa hon wedi newid, a bydd plant a phobl ifanc ledled Cymru bellach yn gallu cyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio arnynt drwy wneud eu hapêl a’u hawliad eu hunain i’r tribiwnlys.

Gwneud Apêl

Nid yw’r broses hon yn golygu gosod hawliau plant yn erbyn hawliau rhieni. Gall plant a phobl ifanc roi’r dystiolaeth orau amdanynt hwy eu hunain o ran disgrifio eu hamgylchiadau a phennu eu hanghenion. Pryd bynnag y bo modd, dylent allu cyfrannu at bob agwedd o’r broses AAA, gan gynnwys gwneud eu hapêl a’u hawliad eu hunain.

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth sy’n gwneud darpariaeth i blant yng Nghymru gael hawl i apelio o safbwynt anghenion addysgol arbennig (AAA) a’r hawl i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru eu hunain.

Cynhaliwyd prosiectau peilot yn Sir Gaerfyrddin a Wrecsam, gyda’r ddau’n treialu gwahanol ddull o weithredu; dewisodd Sir Gaerfyrddin ganolbwyntio ar wella cyfathrebu gyda dull gweithredu oedd yn canolbwyntio ar y teulu, tra dewisodd Wrecsam gysylltu â phobl ifanc drwy gyfrwng model yn seiliedig ar hawliau, gan gefnogi cyfraniad mwy gan blant a phobl ifanc a datblygu gweithdrefnau a dulliau i annog cyfraniad mwy gan blant a phobl ifanc yn y broses gwneud penderfyniadau.

Ac ystyried canfyddiadau cadarnhaol yr adroddiad gwerthuso, bydd yr hawliau a’r dyletswyddau newydd yn dod i rym ledled Cymru ym mis Ionawr 2015.

I weld yr adroddiad gwerthuso cliciwch yma >

http://wales.gov.uk/statistics-and-research/evaluation-pilot-young-peoples-rights-appeal-claim-sen-tribunal/?skip=1&lang=cy

O ganlyniad, o fis Ionawr 2015, bydd plant a phobl ifanc yng Nghymru yn gallu

  • Apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ynghylch rhai penderfyniadau a wneir gan eu hawdurdod lleol ynghylch eu hanghenion addysgol arbennig.
  • Cyflwyno hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd.

Mae’r hawliau apelio a gwneud hawliad yr un fath yn union â’r rhai sy’n bodoli eisoes i rieni/gofalwyr. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl y rhiant i wneud apêl a hawliad. Yr unig beth y mae’n ei olygu yw bod gan blant a phobl ifanc bellach yr un hawliau â’u rheini/gofalwyr i wneud eu hapêl neu eu hawliad eu hunain.

Mae’r gyfraith yn cydnabod na fydd pob plentyn yn teimlo eu bod yn gallu gwneud apêl neu hawliad. Yn y sefyllfa hon, gall ffrind achos weithredu ar ran plentyn i wneud apêl neu hawliad i ni yn Nhribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Y Ffrind Achos

Mae ffrind achos yn berson sy’n adnabod y plentyn neu’r person ifanc yn dda. Gall fod yn rhywun yn y teulu neu’n rhywun fel athro neu weithiwr cymdeithasol neu  eiriolwr. Gall person ifanc wneud apêl ar ei ben ei hun neu gyda chymorth ffrind achos. Gall ffrind achos helpu a chefnogi plentyn neu berson ifanc mewn sawl ffordd drwy:

  • Osgoi neu ddatrys anghytundebau gyda’r awdurdod lleol gan ddefnyddio trefniadau datrys anghydfod, megis gwasanaeth SNAP Cymru
  • Trafod y materion gyda’r plentyn neu berson ifanc a phenderfynu a ddylid gwneud apêl neu beidio,
  • Cefnogi’r plentyn neu berson ifanc i gwblhau’r Cais Apêl a’i anfon i’r tribiwnlys, neu dderbyn gwybodaeth am yr apêl,
  • Sicrhau bod dymuniadau a safbwyntiau’r plentyn neu’r person ifanc yn cael eu cynrychioli mewn gwrandawiadau, a chynghori’r plentyn neu’r person ifanc ar gynnydd a chanlyniad yr apêl.

Mae staff y tribiwnlys, gyda chymorth plant a phobl ifanc, wedi cynhyrchu gwybodaeth glir a hygyrch i bobl ifanc, rhieni/gofalwyr a ffrindiau achos a gellir ei chanfod ar wefan y tribiwnlys

http://sentw.gov.uk/youngpeople/?skip=1&lang=cy

http://sentw.gov.uk/youngpeople/?lang=en

Mae’r tribiwnlys hefyd wedi cynhyrchu fideo i helpu plant a phobl ifanc drwy broses y gwrandawiad ac i ddangos beth sy’n digwydd mewn gwrandawiad tribiwnlys. Mae’r fideo hon hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n mynd i wrandawiad tribiwnlys

https://www.youtube.com/watch?v=Ll16sLl59lQ

https://www.youtube.com/watch?v=29kCC8Pygms

Yn sgil sefyllfa SNAP Cymru fel gwasanaeth diduedd, annibynnol y gellir ymddiried ynddo ledled Cymru, rydym yn gweithio’n agos gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd, y tribiwnlys ac awdurdodau lleol i ddatblygu partneriaethau a fydd yn rhoi anghenion y plentyn wrth graidd y broses ac yn darparu gwybodaeth gywir am ofynion deddfwriaethol, polisi lleol, arferion a darpariaeth i bawb sy’n ymwneud â hyn.

Bydd swyddogion Teulu a Phobl Ifanc profiadol SNAP Cymru ar gael i ddarparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth niwtral, ddiduedd i rymuso pobl ifanc i:

  • Gymryd rhan lawn yn y cynllunio a’r gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt,
  • Datrys anghydfodau ar gam cynnar,
  • Darparu cefnogaeth ac eiriolaeth ffrind achos lle bo angen.

Hawliau plant i wneudapêl neu hawliad i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru – canllawiau statudol i awdurdodau lleol

http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/141222-childrens-rights-to-appeal-and-claim-to-the-sentw-cy.pdf

SNAP Cymru yn falch o gyhoeddi tair siop newydd

Gan adeiladu ar lwyddiant diweddar ein siop SNAP Cymru yn Llandrindod, rydym yn bwriadu agor tair siop arall yng Nghastell-nedd, Doc Penfro a Llanelli. Bydd ein strategaeth siopau yn cefnogi SNAP Cymru i ddod yn fwy annibynnol a chynaliadwy yn y dyfodol, ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch ac yn weladwy yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Bydd ein siop yng Nghastell-nedd, yn Stryd Alfred, yn agor cyn y Nadolig, ac yr ydym yn bwriadu agor siop Doc Penfro, yn Lower Meyrick Street, a siop Llanelli, yn Stryd Cowell, yn y Flwyddyn Newydd.

Rydym yn chwilio am eitemau o ansawdd da i’w gwerthu yn ein siopau newydd cyffrous. Gall yr eitemau gynnwys:

  • Dillad ail-law o ansawdd da, yn enwedig ffasiwn vintage neu antique i fenywod
  • Ategolion ffasiwn megis tlysau, ffwr, hetiau, esgidiau a bagiau llaw
  • Bric-a-brac gan gynnwys ornaments, lluniau, fasys, llestri, a chyllyll a ffyrc
  • Llyfrau, recordiau, cryno-ddisgiau a DVDs newydd neu ail-law
  • Dodrefn o ansawdd da

Cofiwch – os na fyddai arnoch eisiau ei brynu, mae’n debyg iawn na fyddwn yn gallu ei werthu. Bydd ein cwsmeriaid yn chwilio am eitemau o ansawdd uchel.

Mae cymryd rhan drwy gyfrannu eitemau i’n siop yn ffordd llawn hwyl o gefnogi SNAP Cymru! Gofynnwch i deulu a ffrindiau gyfrannu’n hael.

Rydym hefyd yn croesawu arbenigedd a chyfraniadau unrhyw wirfoddolwyr parod. Mae hwn yn gyfle nid yn unig i chwarae rhan gadarnhaol yn y datblygiad cyffrous hwn i’r mudiad, ond hefyd i ddysgu sgiliau newydd wrth ymwneud yn uniongyrchol â’r cyhoedd. Mae gwirfoddolwr a rhoddion yn rhan hanfodol o ymdrechion cynaliadwyedd SNAP Cymru i’r dyfodol a hoffem ddiolch ymlaen llaw i bawb sy’n ein helpu.

Gallwch ddod ag eitemau i’n swyddfa gasglu yn South Road, Penallta, CF82 7ST, neu i unrhyw un o’n swyddfeydd ledled Cymru, neu fel arall ffoniwch ni ar 01554 778288 ac fe gasglwn eich bagiau.

Cyfweliad gyda Soraya, Gwirfoddolwr gyda SNAP Cymru

Yn ddiweddar cefais gyfle i eistedd lawr a chael sgwrs sydyn gyda ffrind o’r enw Soraya, sydd wedi ymuno â SNAP Cymru fel gwirfoddolwr yn ddiweddar iawn. Buom yn trafod pam roedd hi eisiau ymuno â SNAP Cymru a beth oedd y cyfle yn golygu iddi hi.

Pam wnes di ddewis gwneud cais i wirfoddoli yma?

“Rydw i’n credu mai pobl ifanc yw’r dyfodol, rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig i helpu’r rheini sydd o dan anfantais pan maen nhw’n ifanc, a gwneud hynny cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Hefyd rydw i’n meddwl bod fan hyn yn lle gwych i gael profiad gwerthfawr o weithio gyda theuluoedd”.

Sut mae dy werthoedd di yn debyg i rai SNAP Cymru?

“Rydw i eisiau defnyddio fy ngwybodaeth a fy nghymhelliant er mwyn helpu pobl ifanc i wneud y mwyaf o’u potensial ac rydw i’n gwybod bod SNAP Cymru yn rhannu’r gwerthoedd hyn”.

Beth wyt ti’n gobeithio ei gyflawni drwy wirfoddoli?

“Byddwn i’n hoffi medru cynnig cymorth i bobl ifanc ar sut i ddechrau busnes.  Mae gen i beth profiad yn y maes hwn ac felly rydw i’n gobeithio medru cynnig ychydig o gyngor ar hyn, hyd yn oed os mai cyfyngedig fydd y cyngor hwnnw. Rydw i hefyd yn gweld gwirfoddoli a gweithio gyda SNAP fel cyfle i helpu i wrthbrofi stereoteipiau a rhagdybiaethau pobl am y rheini sy’n derbyn cefnogaeth, oherwydd maen nhw’n anghywir”.

– Wyt ti’n sôn am y safbwyntiau ystumiedig sy’n ymddangos mewn ffynonellau megis y papurau tabloid?

“Ydw. Dydw i ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli pa mor heriol ydy hi i bobl o gefndiroedd dan anfantais neu dlawd ddatblygu mewn bywyd heb gael rhyw faint o gymorth”.

Beth sy’n apelio fwyaf atat ti o ran SNAP, a’r ardal y mae’n gweithio ynddi?

“Yn fy marn i mae’n rhaid i ni ofalu am bobl ifanc rŵan, oherwydd os ydyn nhw’n colli’r ffordd yn ifanc, mae’n bosib y bydden nhw ar goll am byth. Er enghraifft, mae angen cymorth ar rai rieni llai cefnog fel y gall eu plant gyflawni eu potensial”.

Oes gennyt ti brofiad o berson ifanc yn dy deulu di yn wynebu gwahaniaethu sy’n effeithio eu gallu nhw i fod yn rhan o’r gymdeithas?

“Na, dim yn fy nheulu i, ond rydw i’n cofio pan roeddwn i yn yr ysgol, roedd llawer o’m ffrindiau yn destun hwyl oherwydd eu rhywioldeb. Roedd hyn mewn cyfnod pan oedd pobl yn llai ystyriol am faterion o’r math, ac fel plentyn ifanc wnes i ddim meddwl amdano ryw lawer, na’i ddeall chwaith. Fodd bynnag rydw i’n gwybod bod hyn wedi arwain at iselder i nifer ohonyn nhw, ac at effeithiau tymor hir eraill”.