Archive for “Ionawr, 2015”

Dyfodol ansicr yng Nghymru o ran gwybodaeth a chyngor annibynnol

Dyfodol ansicr yng Nghymru o ran gwybodaeth wrthrychol, cyngor annibynnol ac arweiniad a chymorth diduedd i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd.  

SNAP Cymru yw’r prif ddarparwr gwasanaethau cyngor addysgol yng Nghymru ac mae’n meddu ar Nod Ansawdd Arbenigol y Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol (Cyngor Addysgol) ynghyd â Buddsoddwyr mewn Pobl (Efydd) a Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr. Mae SNAP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd am dros 25 o flynyddoedd a chafodd Wobr Gwirfoddoli Jiwbilî Diemwnt y Frenhines yn 2012.

Mae pryder cynyddol ymhlith teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a’r Trydydd Sector ynghylch dyfodol gwasanaethau cymorth i deuluoedd ledled Cymru ar adeg pan fo newidiadau sylweddol i’r modd y bydd anghenion plant yn cael eu hasesu a’u diwallu mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill yng Nghymru.  

Yn ôl Denise Inger, Prif Weithredwr SNAP Cymru, er y dylai’r newidiadau sydd ar droed yn y ddeddfwriaeth addysg newydd gefnogi cydraddoldeb i bob plentyn yng Nghymru, bydd angen i lawer o bobl ifanc a theuluoedd gael gwybodaeth wrthrychol, cyngor annibynnol ac arweiniad a chymorth diduedd i lywio’r systemau a’r prosesau diwygiedig o fewn ysgolion a rhyngddynt, a phrosesau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol awdurdodau lleol.  Dywedodd y teuluoedd eu bod yn teimlo’n bryderus, bod angen iddynt frwydro drwy systemau i gefnogi eu plant ac nad oes ganddynt lawer o ffydd wrth ddelio â gweithwyr proffesiynol.

Dywedodd Denise Inger

“Mae’r cysylltiad rhwng tlodi ac anghenion dysgu ychwanegol yn amlwg. Mae gan lawer o blant a phobl ifanc sy’n profi effeithiau tlodi anghenion dysgu ychwanegol hefyd.  Mae rhieni yn aml yn emosiynol anabl wrth geisio delio â materion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu plant ac mae SNAP Cymru wedi darganfod bod gan rai rhieni anawsterau iaith neu lythrennedd eu hunain hefyd. Y plant a’r bobl ifanc hyn fydd yn wynebu’r anfantais fwyaf os na fydd gwybodaeth ar gael yn hawdd i deuluoedd er mwyn gofyn am wasanaethau cymorth mewn argyfwng a gwasanaethau ataliol.  Mae’r gwaith ymchwil yn profi bod y costau sy’n gysylltiedig â phlant nad ydynt mewn addysg yn uchel i’r gymdeithas, ac mae’n rhaid i ni gefnogi pob plentyn i gyrraedd ei botensial.

Mae SNAP, fel darparwyr eraill yn y trydydd sector, yn bryderus iawn am y toriadau parhaus yn arian yr Awdurdod Lleol ac yn sgil y toriadau, fod rhai Awdurdodau Lleol yn dewis darparu eu gwasanaethau cyngor a chymorth ‘annibynnol’ yn fewnol yn hytrach na chomisiynu corff allanol fel SNAP Cymru.  O’n profiad ni, nid yw rhieni’n derbyn bod gwasanaethau cyngor ‘annibynnol’ a ddarperir gan staff yr awdurdod lleol yn gallu bod yn annibynnol.  Ceir barn gyffredinol na all gwasanaeth ‘mewnol’ fod yn annibynnol yng ngwir ystyr y gair ac nad yw’n effeithiol i unrhyw barti – boed yn awdurdod lleol, yn rhiant, yn blentyn neu’n berson ifanc, yn arbennig lle ceir anghytundeb. Dyma un o’r rhesymau dros sefydlu SNAP Cymru yn yr 1980au. A fydd personél yr awdurdodau lleol mewn sefyllfa i herio’r Awdurdod Lleol corfforaethol drwy’r systemau cyfreithiol gan y byddant mewn gwirioneddol yn herio eu cyflogwyr?Y pwynt dan sylw yma yw a fydd gan rieni’r ffydd y caiff y prosesau a’r systemau cyfreithiol fel trefniadau llywodraethu ysgolion, Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) a’r Ombwdsmon, a roddwyd ar waith i sicrhau tegwch, eu gweithredu mewn modd gwrthrychol a diduedd?A fydd trafod a chyfryngu’n digwydd cyn gynted â phosibl i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc?A yw hyn yn golygu camu’n ôl i adeg cyn i Ddeddf Addysg 1981 ddod i rym, a roddwyd ar waith i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb i blant ag anghenion arbennig mewn addysg?

Mae nifer y teuluoedd sy’n dod at SNAP Cymru gyda phroblemau ynghylch yr addysg a ddarperir gan ysgolion wedi cynyddu fwy na phedair gwaith yn y ddwy flynedd diwethaf, ac mae’n parhau i gynyddu.   Mae SNAP Cymru yn cefnogi ac yn grymuso teuluoedd i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion i wella’r ddarpariaeth i blant.   Heb y gwasanaeth annibynnol hwn, nid oes neb i gefnogi partïon a helpu i roi newidiadau ar waith.

Mae ein cofnodion achos yn dangos bod yr atgyfeiriadau sy’n ymwneud â bwlio wedi cynyddu 150% dros ddwy flynedd, bod yr atgyfeiriadau sy’n ymwneud â gwahardd plant o ysgolion wedi cynyddu 176%, tra bod yr atgyfeiriadau sy’n ymwneud â diffyg presenoldeb a bod mewn sefyllfa lle nad oes ysgol i fynd iddi wedi cynyddu 236%.   Mae’r holl broblemau hyn yn cael effaith ddirfawr ar ganlyniadau addysgol ac mae cysylltiad cryf rhyngddynt ac anawsterau yn y dyfodol, yn cynnwys tlodi.   Mae pryderon am wahaniaethu a methiant i wneud addasiadau rhesymol wedi cynyddu 333%, sy’n syfrdanol, tra bo’r problemau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a therapïau wedi cynyddu 136%.Arhosodd yr atgyfeiriadau newydd gan rieni’n rhesymol sefydlog ond cynyddodd yr atgyfeiriadau gan Dimau Amlasiantaeth 274% a chynyddodd yr atgyfeiriadau gan awdurdodau lleol 276%.Cynyddodd yr atgyfeiriadau uniongyrchol gan weithwyr iechyd proffesiynol unigol o 31 i 131 sy’n gyfystyr â chynnydd o 337% tra bo gweithwyr cymdeithasol unigol wedi gwneud 91 o atgyfeiriadau, sef cynnydd o 160%, a chynyddodd sefydliadau gwirfoddol eraill nifer eu hatgyfeiriadau 251%.  Ar y cyfan, yn y ddwy flwyddyn ysgol ddiwethaf, mae’r galw am wasanaethau SNAP wedi cynyddu 72% gyda nifer a chymhlethdod y problemau a gyflwynwyd yn cynyddu 156%.  Y cyfan yn digwydd ar adeg pan fo arian yn cael ei dorri neu, ar y gorau, ei rewi.

Nid esboniodd y Papur Gwyn ‘Delivering Learning for All’ a fydd yr egwyddor o roi mynediad at arweiniad, cymorth a chyngor annibynnol a diduedd yn rhad ac am ddim i blant a theuluoedd yn cael ei chadw yn y diwygiadau addysgol sy’n digwydd nawr ac yn y dyfodol.   Mae problem wirioneddol yn gysylltiedig â chael cymorth mewnol gan aelod o staff awdurdod lleol i gefnogi teulu i weithredu ar hawliad TAAAC yn erbyn yr awdurdod lleol hwnnw. Amlygir hyn yn yr adroddiad ar Hawl y Plentyn i Apelio lle dangosir nad yw’n fuddiol i Blant sy’n Derbyn Gofal gael gweithiwr cymdeithasol fel eu hunig ffordd o herio’r awdurdod lleol ar faterion yn ymwneud ag addysg, gan eu bod ill dau yn gweithio i’r un bobl.Mae gan SNAP Cymru bob ffydd y bydd y Gweinidog yn ystyried bod hyn yn elfen angenrheidiol o’r broses ddeddfu, ond mae’r modd y caiff cyngor annibynnol ei ddarparu yn peri pryder o hyd.

Mae gan rai plant fynediad at wasanaeth eiriolaeth annibynnol ar hyn o bryd a daw’r Eiriolydd Annibynnol at SNAP Cymru yn aml i gael arweiniad a chyngor diduedd cywir am ddim er budd plant a phobl ifanc.  Gall fod angen eiriolaeth neu gymorth ychwanegol ar blant a phobl ifanc sy’n byw gyda gofalwyr sy’n berthnasau neu rieni mabwysiadol hefyd.  Bydd gofalwyr yn dod at SNAP Cymru yn aml i sicrhau bod anghenion eu plant maeth yn cael sylw gan mai dim ond gwybodaeth y byddant hwy, fel gofalwyr maeth, yn gallu ei chynnig am nad oes ganddynt yr hawl i herio’r penderfyniadau a wneir gan Awdurdodau Lleol.  Dyblodd nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal yr oedd angen cyngor ac arweiniad arnynt gan SNAP Cymru yn ystod blwyddyn ysgol 2013-2014.

Mae SNAP Cymru wedi wynebu mwy na’i chyfran o doriadau dros y tair blynedd diwethaf, yr un faint â sawl gwasanaeth arall yn cynnwys Awdurdodau Lleol.  Rydym ni i gyd yn gorfod rheoli cyfnod hynod anodd o galedi ariannol.  Fodd bynnag, mae SNAP Cymru yn pryderu’n fawr am unrhyw ostyngiad pellach yn nifer y gwasanaethau am ddim i deuluoedd, yn arbennig ar y cam hwn o newidiadau a diwygiadau deddfwriaethol.  Mae Awdurdod Lleol Sir Benfro eisoes wedi rhoi rhybudd terfynu gwasanaeth ac mae Sir Gaerfyrddin wedi torri’r gwasanaeth lleol i un diwrnod yr wythnos a fydd, yn ei barn ni, yn golygu y bydd cornel Dde-orllewinol Cymru heb gyngor annibynnol ystyrlon nac arweiniad a chymorth diduedd i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd.  Mae’r trafodaethau’n parhau ledled gweddill Cymru a gobeithiwn y bydd awdurdodau lleol yn parhau i gefnogi gwasanaethau annibynnol SNAP Cymru er gwaethaf eu cyfyngiadau ariannol eu hunain.

Bydd SNAP Cymru yn parhau i geisio cymorth i fod yn rhagweithiol, yn weledol ac yn hygyrch ledled Cymru i weithio gyda’r holl bartneriaid i gyflawni newidiadau cadarnhaol a chodi’r safon ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n profi tlodi ac yn cael trafferth cyrraedd eu potensial yn addysgol.  Mae gweledigaeth SNAP Cymru yn ymwneud â phartneriaeth a chydraddoldeb, gweithio ledled Cymru i rannu arferion da er mwyn cyflawni tegwch i’r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd.  Mae SNAP Cymru yn annog pobl Cymru i gefnogi gwybodaeth, cyngor, cymorth ac arweiniad annibynnol a chywir am ddim i’r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru”.Gall unrhyw un sy’n awyddus i gefnogi SNAP Cymru fynd i www.snapcymru.org ac ymuno â ni ar Facebook a twitter”.

I gael rhagor o wybodaeth:

Prif Gyfarwyddwr Gweithredol, Denise Inger:denise.inger@snapcymru.org

 

Richard Mylan, rhiant a Noddwr SNAP Cymru…

Pan ddaeth yn amlwg nad oedd iaith fy mab yn datblygu, ei fod yn ofnus ac yn bryderus mewn amgylchiadau newydd, roedd ei fam a minnau’n poeni’n arw.Roeddem yn teimlo llawer o emosiynau gwahanol ac ni wyddem lle i droi.  Bu SNAP Cymru o gymorth i ni o’r cychwyn cyntaf.  Fe wnaeth wrando arnom a rhoi cyngor i ni ar bob cam, o’r atgyfeiriad i’r diagnosis.  Yn anad dim, fe rodd yr hyder i ni drwy ein paratoi ar gyfer cyfarfodydd gyda’r holl weithwyr proffesiynol dan sylw.  Roeddem yn gwybod beth i’w ofyn a phan gyrhaeddai’r adroddiadau, byddai’n ein helpu i’w deall.

Cafodd Jaco ddiagnosis o Anhwylder Datblygiadol Treiddiol (PDD), ffurf ar awtistiaeth sy’n effeithio ar ddatblygiad ei iaith.Roeddem yn poeni am ei addysg a dywedodd y gweithwyr proffesiynol wrthym y byddai’n well iddo gael ei addysg mewn ysgol cyfrwng Saesneg gan fod prinder therapyddion Cymraeg eu hiaith.  Mae mam Jaco a’r teulu ehangach yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dywedodd SNAP Cymru wrthym am gymryd cyngor pellach ac ymweld â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg a siarad â staff yr ysgolion gan fod plant dwyieithog, ar y cyfan, yn gallu cyrraedd yr un lefelau addysgol yn y naill iaith ond bod pob plentyn yn tueddu i wneud yn well yn yr iaith a siaredir gartref.  Gwnaethom ddewis addysgu Jaco drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi datblygu’n ddwyieithog.Dyma’r penderfyniad iawn i Jaco, cafodd wasanaethau da gan y therapyddion iechyd ac mae’r ysgol wedi bod yn wych.

Bu SNAP Cymru yn help mawr yn ystod y blynyddoedd cyntaf, bob amser yno i’n paratoi ar gyfer adolygiadau’r ysgol a llawer o wybodaeth am wasanaethau eraill a grwpiau i rieni.

Rwy’n poeni’n arw am y toriadau pellach i SNAP. Mae wedi colli cryn dipyn o arian dros y tair blynedd diwethaf a nawr bod Awdurdod Lleol Sir Benfro wedi gwneud toriadau ariannol, gallai hyn gael effaith bellgyrhaeddol ar y gwasanaeth hollbwysig hwn sydd wedi datblygu gwirfoddolwyr a staff profiadol am dros 25 o flynyddoedd.

Gwn y bydd angen i’m mab a phlant eraill sydd â PDD gael mwy o help wrth iddynt fynd yn hŷn.  Gall delio â chymhlethdodau systemau ysgolion cyfun, rhyngweithio cymdeithasol a’r broses bontio gyffredinol fynd yn drech na nhw.  Mae hyn yn wir am lawer o blant ag anableddau wedi’u diagnosio neu beidio a’r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol eraill.   Er fy mod yn dra llafar ac yn hyderus, bydd angen SNAP Cymru arnaf i o hyd i’n cefnogi drwy’r broses o drosglwyddo fy mab o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd flwyddyn nesaf ac wedi hynny wrth iddo ddod yn oedolyn ifanc.

Prin yw’r cymorth cyfreithiol sydd ar gael i blant neu deuluoedd ac mae’n bwysig iawn bod teuluoedd a phobl ifanc yn cael mynediad at wasanaethau annibynnol am ddim.  Mae’n rhaid i ni i gyd sicrhau nad yw plant a theuluoedd agored i niwed ar fwy o golled byth yn ystod y cyfnod gwleidyddol, ariannol heriol hwn.    Nod SNAP Cymru yw cynghori a grymuso ac mae’n fy ngrymuso i o wybod y bydd SNAP yn aros gyda’n teulu ni i drafod a chyfryngu, cynghori a chefnogi, a phe bai angen dyfarniad drwy TAAAC ar unrhyw adeg, bydd SNAP Cymru yno o hyd yn ein cefnogi drwy’r broses heriol ac emosiynol honno i sicrhau bod anghenion y plentyn yn parhau i fod wrth wraidd popeth.

Y peth pwysicaf i blant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd yw mynd i’r afael â’r problemau bach cyn iddynt ddatblygu’n rhai mawr. Mae cael cyngor gwirioneddol annibynnol gan SNAP Cymru wedi helpu fy nheulu i herio ac ymddiried yn yr ysgol a’r awdurdod lleol gan fod gennyf i’r holl wybodaeth a gwn ei bod hi’n gywir ac yn ddiduedd.   Mae cael y wybodaeth a’r cymorth hwn wrth law wedi ein galluogi ni i wneud ein penderfyniadau ein hunain, sy’n seiliedig ar wybodaeth, er budd Jaco.  Dylai’r cyngor a’r cymorth hwn fod ar gael i bob teulu ar bob adeg waeth beth fo’i anghenion presennol.  O’m profiad i, ni fydd SNAP Cymru yn gwneud môr a mynydd o bethau.  Mae’n delio ag ystod eang o faterion yn amrywio o gynnig gwybodaeth syml a chywir sy’n hawdd ei deall i reoli achosion cymhleth heb fod angen i deuluoedd boeni am gost cynrychiolaeth gyfreithiol.   Dylai’r gwasanaeth hwn barhau i fod am ddim i Bob Plentyn a Phob Teulu ledled Cymru GYFAN.  Rwy’n annog pob rhiant i gefnogi SNAP Cymru a sicrhau ei d dyfodol yng Nghymru.

Richard Mylan

@RichardMylan

Cystadleuaeth Golff – Llwyddiant unwaith eto i SNAP!

Ar 29ain Rhagfyr 2014 daeth aelodau o’r gymuned leol ym Mangor at ei gilydd er mwyn codi £170 gwerthfawr i SNAP.  Fel yn y blynyddoedd o’r blaen, cynhaliwyd y digwyddiad yng nghlwb golff Bangor.Roedd y tywydd o’u plaid wrth iddynt fwrw iddi yn gynnar am 9 o’r gloch y bore.Efallai nad yw £170 yn ymddangos yn swm enfawr ond mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i elusen fach annibynnol fel ni.

Gyda chymorth y tywydd, mae’r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal bob mis Rhagfyr ond un ers 2011, gyda 25 o chwaraewyr golff yn cymryd rhan, gan gystadlu am wobrwyon ariannol bob blwyddyn sydd weithiau’n cael eu rhoi yn ôl.Yn y diwedd, Kevin Jones, David Roberts a Geraint Jones oedd y tîm a gariodd y dydd ar draul Kevin Williams, Eurwyn Hughes a Wynn Morris.Kevin Jones oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth unigol gyda Chris Wyatt yn ail a Hayden Williams yn drydydd.

Kevin Jones oedd un o brif drefnwyr yr achlysur.Roedd cyfraniad Trevor Jones wrth wneud y trefniadau ar gyfer cyflwyno’r gwobrau a chymorth Alison a Geraint Jones o dafarn y Royal Oak yn Rachub hefyd yn werthfawr iawn.Does dim rhaid dweud bod Alison a Geraint wedi sicrhau awyrgylch croesawgar gyda bwyd blasus ac wedi cyfrannu rhodd dderbyniol iawn.  Hoffai SNAP Cymru hefyd ddiolch yn fawr iawn i glwb golff Bangor am adael i ni ddefnyddio eu cwrs ac i Joe a Josteyna o’r Vic ym Methesda am eu rhodd.

Casglwyd £568 i gyd gyda’i gilydd ers 2011.  Bydd hanner yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu Seren, merch Stephanie Prydderch ac Eryl Jones i wella ar ôl ei salwch.

Fel bob amser, rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gymorth a gawsom gyda’r achlysur hwn ac i bawb, gan gynnwys y golffwyr, am eu gwaith caled dros y blynyddoedd yn sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant parhaus.