All posts in “Digwyddiadau”

Digwyddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Digwyddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a drefnwyd ar yr 2ail o Fawrth 2018 yng Nghaerdydd

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal digwyddiad ar thema “Gwahaniaethu mewn Addysg a gwneud gwahaniaeth”. Trefnwyd y seminar ar yr 2il o Fawrth 2018 yng Nghanol Caerdydd.

Mae pob corff cyhoeddus sy’n gweithio ym maes addysg yn dod dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond nid yw llawer ohonynt yn deall holl oblygiadau’r ddeddfwriaeth felly maen nhw’n agored i heriau cyfreithiol.  Mae’r digwyddiadau wedi’i anelu at Awdurdodau Lleol, Prifysgolion a cholegau Addysg Bellach. Bydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar waith y Comisiwn, a bydd hefyd yn rhoi cyfle i ddeall sut gall cyrff eu diogelu eu hunain rhag torri darpariaethau’r Ddeddf.

Bydd y digwyddiad yn werthfawr iawn i bawb sy’n cynghori’r cyhoedd am gyfraith Cydraddoldeb, gan gynnwys cynghorwyr undebau myfyrwyr.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Michael Clarke – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Mike Charles – Uwch Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr, Sinclairs Law
  • David Lawson – Cyfreithiwr Cyfraith Gyhoeddus, Siambrau Serjeants’ Inn
  • Amanda Daniels/Caroline Rawson – Cyfarwyddwyr Cynorthwyol, SNAP Cymru

Dydd Llun Mawrth  19fed 2018

13:30 – 16:30

Sinclairs Law, Charles House, Ffordd Churchill, Caerdydd  CF10 2HE

Eventbrite 

I gael rhagor o wybodaeth  amanda.daniels@snapcymru.org

Michael Clarke Pennaeth – Cyfraith Cymru yn Michael.Clarke@equalityhumanrights.com

SNAP Cymru – yn cefnogi plant a theuluoedd ers 1986

Yn Rydym yn falch iawn ein bod yn dathlu 30 mlynedd o SNAP Cymru.  Yn bwrw’r agenda cynhwysiant yn ei blaen ar gyfer plant a phobl ifanc ac arloesi gyda dull partneriaeth ar gyfer datrys problemau ym maes addysg.

Llyfryn Dathlu 30 Mlynedd

Ym 1986 fe enillodd elusennau Scope a Mencap grant i sefydlu gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Annibynnol yn ne Cymru. Gwnaed hyn mewn ymateb i’r ffaith bod y sefydliadau hyn yn derbyn nifer fawr o alwadau gan deuluoedd a oedd angen cymorth dybryd arnynt i ddeall y dryswch o asesiadau a darpariaeth ar gyfer anghenion ychwanegol.   Ymhen ychydig flynyddoedd roedd yr elusen, yn gwbl annibynnol ac yn cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolwyr yn ei rhinwedd ei hun.

‘Mae SNAP Cymru’n unigryw i Gymru ac mael eu datrys heb angen am apel…’ ‘Y GORAU I Addysg Arbennig’ Papur Gwyrdd y Swyddfa Gymreig yn son am SNAae’n gweithredu gwasanaeth cefnogi rheini ym mron bob cwr o’r wlad … Golyga ei waith y bu nifer o anghydfodau gP Cymru 

 Adroddiad Y Comisiwn Archwilio yn nodi gwerth a mantais o gymorth Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni(GPR) i deulioedd yng Nghymru Deddf Anabledd o Anghenion (2001) yn gwneud GPR yn statudol a gofyniad ar Awdurdodau Lleol i’w ariannu. 20 ALl yn gomisiynu SNAP Cymru

Wrth i SNAP Cymru dyfu, a lledaenu ar draws Cymru gyfan, fe wnaethom gymryd cyfrifoldeb dros nifer fwy o feysydd gwaith, wrth I anghenion gael eu nodi, yn cynnwys: Datrys Anghytundebau; Eiriolaeth Plant; Gwahaniaethu ac Apeliadau. Drwy hyn, rhoddwyd hyfforddiant achrededig a dulliau rheoli ansawdd ar waith i gynorthwyo ein staff, gwirfoddolwyr ac eraill i wella’r gwasanaeth a gynigiwyd ar bob lefel. Yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf rydym yn ymfalchïo ein bod wedi cynorthwyo 70,000 o deuluoedd ac wedi helpu i ddatrys 150,000 o faterion.

30 o flynyddoedd ers hynny, mae teuluoedd yn dweud wrthym bod angen yr ystod hon o wasanaethau arnynt fwy nag erioed o’r blaen. Roedd hyn yn amlwg o’r nifer enfawr o deuluoedd a oedd yn defnyddio ein gwasanaethau. P’un a ydynt yn rhieni sy’n ceisio ymrafael â chymhlethdodau gwneud cais am asesiad neu blentyn sydd angen cymorth gan eiriolwr oherwydd bwlio, mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn derbyn y materion ac yn ceisio eu datrys gyda phob parti perthnasol.

 “Mae SNAP Cymru’n cynnig gwasnaeth amhrisiadwy i deuluoedd wrth eu cynorthwyo i dderbyn yr addysg a’r gefnogaeth y mae eu plant ei angen ac y mae ganddynt hawl iddo. Meant yn rym effeithiol a grymus yn y gwaith o lobio i wella bywydau eu miloedd o gleientiaid. Pen a baent yn bodoli yna byddai’n rhiad i rywun eu dyfeisio.”  Peter Black AC, Aelod Cynulliad dros Dde Orllewin Cymru

Mae llawer wedi newid er gwell, wrth i’r agenda gynhwysiant ddatblygu. Mae yna fynyddoedd i’w dringo o hyd, ond wrth i ni edrych yn ôl, gall pob un ohonom ymfalchïo yn yr hyn mae SNAP wedi’i gyflawni gyda rhieni a phartneriaid. Mae ein gweledigaeth yn parhau yn glir ac rydym yn parhau i hyrwyddo newid er mwyn gwella polisi, arfer a darpariaeth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

 “Rydym wedi bod a pherthynas hirsefydlog gyda SNAP Cymru ac rydym yn gwerthfawogi’n fawr iawn yr heriau y maent yn eu gosod i’n polisiau a’n harferion. Trwy’r her yma teimlwn bod ein gwasanathau ar gyfer AAA wedi gwella.”

Sharon Davies, Rheolwr Mynediad I Ddysg, AALl Abertawe

“Dylem gofio bod angen i rieni dderbyn yr holl wybodaeth sydd ar gael fel y gallant wneud penderfyniadau adeiladol, sydd wedi eu seilio ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael. Rwy’n dal i ryfeddu at y rol y mae SNAP yn ei chwarae wrth gefnogi rhieni trwy gydol y cyfnod hwn, sy’n aml iawn yn adeg pryderus.” 

Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes & Sgiliau 2000-2007

Rydym yn bresennol ar ambell i stryd fawr erbyn hyn, yn ailgylchu dillad ac eitemau diddorol drwy ein siopau elusen arddull boutique. Yma rydym yn denu gwirfoddolwyr lleol ac yn croesawu cymunedau lleol i brofi cynhesrwydd teulu SNAP Cymru a chael gwybodaeth am sut y gallwn ni eu helpu a sut y gallant hwy helpu eraill.

Mae SNAP Cymru, yn diolch i’n teuluoedd a’n pobl ifanc, ein gwirfoddolwyr, ein staff, ein noddwyr a’r holl weithwyr proffesiynol sy’n ein croesawu i’w gwasanaethau. Mae cyfnod newydd a chyffrous o’n blaenau er mwyn cyflawni anghenion ychwanegol plant a phobl ifanc. Byddwn yn cyflwyno 30 mlynedd o brofiad ac ymroddiad i’r cyfnod newydd hwn ac edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd i ddathlu ein carreg filltir nesaf.

 

 

Cystadleuaeth Golff – Llwyddiant unwaith eto i SNAP!

Ar 29ain Rhagfyr 2014 daeth aelodau o’r gymuned leol ym Mangor at ei gilydd er mwyn codi £170 gwerthfawr i SNAP.  Fel yn y blynyddoedd o’r blaen, cynhaliwyd y digwyddiad yng nghlwb golff Bangor.Roedd y tywydd o’u plaid wrth iddynt fwrw iddi yn gynnar am 9 o’r gloch y bore.Efallai nad yw £170 yn ymddangos yn swm enfawr ond mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i elusen fach annibynnol fel ni.

Gyda chymorth y tywydd, mae’r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal bob mis Rhagfyr ond un ers 2011, gyda 25 o chwaraewyr golff yn cymryd rhan, gan gystadlu am wobrwyon ariannol bob blwyddyn sydd weithiau’n cael eu rhoi yn ôl.Yn y diwedd, Kevin Jones, David Roberts a Geraint Jones oedd y tîm a gariodd y dydd ar draul Kevin Williams, Eurwyn Hughes a Wynn Morris.Kevin Jones oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth unigol gyda Chris Wyatt yn ail a Hayden Williams yn drydydd.

Kevin Jones oedd un o brif drefnwyr yr achlysur.Roedd cyfraniad Trevor Jones wrth wneud y trefniadau ar gyfer cyflwyno’r gwobrau a chymorth Alison a Geraint Jones o dafarn y Royal Oak yn Rachub hefyd yn werthfawr iawn.Does dim rhaid dweud bod Alison a Geraint wedi sicrhau awyrgylch croesawgar gyda bwyd blasus ac wedi cyfrannu rhodd dderbyniol iawn.  Hoffai SNAP Cymru hefyd ddiolch yn fawr iawn i glwb golff Bangor am adael i ni ddefnyddio eu cwrs ac i Joe a Josteyna o’r Vic ym Methesda am eu rhodd.

Casglwyd £568 i gyd gyda’i gilydd ers 2011.  Bydd hanner yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu Seren, merch Stephanie Prydderch ac Eryl Jones i wella ar ôl ei salwch.

Fel bob amser, rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gymorth a gawsom gyda’r achlysur hwn ac i bawb, gan gynnwys y golffwyr, am eu gwaith caled dros y blynyddoedd yn sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant parhaus.

Ymddangosiad Richard Mylan, noddwr SNAP Cymru, ar #thewrightstuff ddoe ar 5 on demand

Mae Richard, un o noddwyr SNAP Cymru, yn fwyaf enwog efallai fel Oliver yn y gomedi sefyllfa deledu Coupling, fel Chris yn Grownups ac fel Joe Andrews yn nrama BBC WalesBelonging. Mae Richard wedi ymddangos hefyd fel Dr Simon Hills yn Doctors ac ar hyn o bryd mae’n chwarae rhan Simon Lowsley, y dirprwy bennaeth, yn Waterloo Road, tan 2014.

Mae Richard hefyd yn canfod amser i weithio gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog yn dysgu ffilm a drama i bobl ifanc yng Nghaerdydd ac mae’n dysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn y Stiwdio Actorion Ifanc.

Un peth sy’n llai hysbys am Richard yw bod gan ei fab, Jaco, sydd bron yn naw, fath ar awtistiaeth o’r enw anhwylder datblygu treiddiol (PDD) sy’n effeithio ar ei lefaredd a’i sgiliau echddygol.

Cafodd Richard ei gyfweld ar y Wright Show ar Channel 5 ar 3 Rhagfyr, a gofynnwyd iddo am rinweddau addysg prif ffrwd o’i chymharu ag ysgol arbennig i blant a phobl ifanc a chanddynt anhwylderau yn y sbectrwm awtistig, a phrofiad personol Richard ei hun.

“Cafodd Jaco ddiagnosis cynnar ac roedd hynny’n wych, oherwydd roedd yn golygu y gallem roi’r holl systemau ar waith ar gyfer yr ysgol a phethau yn gynnar, ond mae plant eraill yn llawer hŷn, sy’n anoddach.”

“Mae Jaco yn cael trafferth deall pethau ond rwy’n ei weld fel unigolyn rhyfeddol, unigryw ond bod awtistiaeth yn gymhleth ac mae pob plentyn yn wahanol, ac arnynt angen gwahanol gefnogaeth a dewisiadau.”

Dywedodd Richard fod Jaco yn mynychu ysgol prif ffrwd yng Nghaerdydd a bod ei athrawon a’i gyd-ddisgyblion yn wych. “Mae wedi’i amgylchynu gan y bobl anhygoel hyn sy’n ei helpu, a phlant eraill sy’n ei feithrin. Mae ganddo gynorthwyydd dysgu un-i-un yn yr ysgol ac mae wrth ei fodd. Mae ei athrawon yng Nghaerdydd yn rhagorol a bob amser yn agored i syniadau newydd.”

Dywedodd Richard wrth Mathew Wright, “fel rhiant mae angen ichi ddeall anghenion eich plentyn, bod pethau’n esblygu o hyd, ac mae angen i chi fod ychydig gamau o flaen y system er mwyn sicrhau’r gefnogaeth a’r addysg orau i’ch plentyn.” Crybwyllodd Richard fod SNAP Cymru yng Nghymru a’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth wedi bod yn gymorth aruthrol iddo ef a Jaco yn ystod y broses asesu statudol ac wedi hynny. Mae Richard wedi bod yn noddwr a chefnogwr cryf i SNAP Cymru ers blynyddoedd lawer oherwydd bod arno eisiau cyfrannu at godi ymwybyddiaeth, ac arian y mae angen mawr amdano, i elusen y mae ef yn teimlo sy’n gwneud gwahaniaeth. Mae Richard hefyd yn noddwr i Autism Puzzles, elusen o Gaerdydd sy’n cael ei rhedeg gan rieni sy’n wirfoddolwyr ac sy’n cefnogi teuluoedd eraill sy’n mynd drwy ddiagnosis ac ar ôl diagnosis, gyda sesiynau yn seiliedig ar therapi, sesiynau galw i mewn a sesiynau hwyl i deuluoedd. Gellir cysylltu â hwy ar 02920 811114 neu ebostiwch AutismPuzzles@hotmail.co.uk

SNAP Cymru yn Dathlu Lansio Gwefan Ddwyieithog Newydd

Dathlwyd lansiad gwefan ddwyieithog newydd SNAP Cymru mewn digwyddiad yn adeilad Pierhed ym Mae Caerdydd, yr wythnos ddiwethaf.  Cafodd y digwyddiad ei noddi gan Huw Lewis AC – y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Ruth Conway – Pennaeth y Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol, a fu’n siarad ar ei ran.

Mae www.snapcymru.org yn wefan ddwyieithog a gyflwynwyd ar ddechrau’r mis.  Mae’r safle yn darparu gwybodaeth bwysig i rieni a phobl ifanc ar agweddau amrywiol Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial drwy sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol ar gael i deuluoedd.

Cafodd y wefan ei chreu gan Galactig, asiantaeth ddigidol greadigol ddwyieithog yng Ngogledd Cymru.  Darparwyd y cyfieithiad gan Cymen.

Arweinydd y digwyddiad oedd Huw Roberts, un o ymddiriedolwyr SNAP, a rhoddodd drosolwg o waith SNAP.

Siaradodd Nia Frobisher a Rebecca Bartle, gwirfoddolwyr ifanc gyda SNAP Cymru, yn Gymraeg a Saesneg, gan esbonio sut mae’r wefan newydd yn diwallu’r angen am lwyfan dwyieithog a hyblyg ar-lein sydd ar gael ar bob dyfais, yn cynnwys ffôn clyfar, llechen neu liniadur.  Rhoddwyd amlinelliad hefyd ganddynt o’r ffordd y mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad SNAP i ddarparu gwybodaeth hygyrch, ddibynadwy a chywir i bob teulu, yn eu dewis iaith, a soniwyd am allu’r gwefannau i rannu erthyglau, newyddion ac adborth drwy facebook, twitter, cylchlythyr a thudalennau rhyngweithiol.  Cyflwynwyd gwefan ac ap unigryw SNAP Cymru, Wmff! hefyd.  Mae Nia yn astudio’r gyfraith yn King’s College Llundain ar hyn o bryd, ac mae ei gwaith gwirfoddoli yn cynnwys cynghori pobl ifanc ynglŷn â’u hawliau cyfreithiol, ac mae Rebecca yn gobeithio astudio Anthropoleg Gymdeithasol yn y Brifysgol.

Yn dilyn hyn cafwyd anerchiad teimladwy iawn gan Nicola Coleman, rhiant plentyn ag anghenion arbennig o Gaerffili, ar effaith bersonol gwaith y sefydliad.  Pwysleisiodd bwysigrwydd gwybodaeth gryno a neges syml a chlir i rieni sy’n derbyn cyngor o wahanol gyfeiriadau, er mwyn diwallu anghenion unigol ei phlentyn.  Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd grymuso rhieni a phlant, er mwyn iddynt allu byw eu bywydau i’w potensial llawn.  I’w mab ei hun, mae hyn yn golygu mwynhau ei hun fel unrhyw blentyn 11 oed; gallu syml ond pwysig iawn.

Yna cyflwynwyd trosolwg o’r safleoedd a’r budd-daliadau sy’n cael eu cynnwys ar y wefan gan Sarah Clements, Cydgysylltydd Hyfforddiant a Gwybodaeth SNAP, a oedd yn pwysleisio ymatebolrwydd y wefan, y mynediad cyflym at wybodaeth, a’r fformat hygyrch a hawdd i ddefnyddio.

Ein siaradwr olaf oedd Ruth Conway, a oedd yn cynrychioli Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau.  Hi yw Pennaeth y Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr Adran Addysg a Sgiliau.  Disgrifiodd bwysigrwydd y wefan yng nghyd-destun y diwygiadau statudol newydd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, a chyfraniad SNAP yn y broses hon.

Yr Her Ysgolion yn llwyddiant mawr eto!

Mae’r Her Ysgolion wedi ennill ei blwyf fel digwyddiad o bwys yng nghalendr yr ysgolion. Mae’n tynnu sylw at yr angen am weithgareddau bywiog a chyfranogol i blant sydd ag anableddau.

Mae’r Her Ysgolion wedi datblygu o’r gydnabyddiaeth bod gweithgareddau ymestynnol yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad unigol plant o bob oed a gallu.

Hon yw 24edd flwyddyn yr Her Ysgolion sy’n cael ei drefnu drwy bartneriaeth rhwng Local Aid, SNAP Cymru, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cydlynwyr Ysgolion Heddlu Castell-nedd Port Talbot, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Colegau Gŵyr, Ymddiriedolaeth y Tywysog,  HSBC a nifer o fusnesau a mudiadau gwirfoddol lleol eraill.

Trefnir mwy na 30 o weithgareddau dan nawdd mudiadau a busnesau lleol ym mhob rhan o’r parc. Bob dydd bydd mwy na 400 o blant o fwy na 100 o ysgolion ledled ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cymryd rhan. Bydd timau o fusnesau a mudiadau lleol yn croesawu mwy na 2,000 o blant, athrawon, gofalwyr, rhieni a gwylwyr yn ystod y digwyddiad pum niwrnod.

Mae’n wythnos lawn hwyl sy’n rhoi cyfle i blant feithrin hyder, sgiliau arwain, hunan-barch a sgiliau adeiladu tîm yn ogystal â chael cyfle i fwynhau a mynd yn wlyb a mwdlyd iawn.

Un agwedd bwysig ar yr wythnos yw gwisgoedd ffansi’r plant. Y thema eleni oedd y Rhyfel Byd Cyntaf a thrwy gydol yr wythnos gwelsom rai gwisgoedd anhygoel gan gynnwys milwyr, morwyr ac awyrenwyr.

Roedd yn wythnos fendigedig ac roedd ymdrech a brwdfrydedd yr holl blant a gymerodd ran wedi gadael argraff fawr arnom ac wedi helpu i greu awyrgylch hyfryd.

Mae ein Prif Weithredwr, Denise Inger yn llawn brwdfrydedd dros yr Her Ysgolion a’r manteision sydd ynddo i blant a phobl ifanc. Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, meddai:
‘Mae’r digwyddiad yn dibynnu’n llwyr ar gydweithio rhwng gweithwyr proffesiynol a rhannu adnoddau ac mae’n cyflawni rhywbeth arbennig dros blant. Mae Her Ysgolion Local Aid yn rhoi cyfleoedd i blant sydd ag anghenion ychwanegol i gynrychioli eu hysgol. Digwyddiad cystadleuol, ymestynnol a chynhwysol yw hwn … ac mae’r plant yn cael hwyl!’

Yn olaf, diolch yn fawr i’n gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i sicrhau bod yr wythnos yn llwyddiant mawr. Diolch yn arbennig i Joshua Ham, Sean Lloyd ac Alex Gatherer a weithiodd yn ddiflino yn torri allan blodau pabi a chreu pôs yr awyren ddwbl i’w addurno a’i ddatrys gan y plant.

“Rhoi yw pwrpas bywyd”

Llwyddiant gwych James Hale yn nhriathlon Gŵyr

Mae James Hale wedi codi dros £800 i SNAP Cymru drwy gymryd rhan yn y  digwyddiad pellter Olympaidd, Triathlon Gŵyr, sy’n cael ei gynnal yn hyfrydwch ysblennydd Porth Einon. Gyda’r elfen nofio 1500m yn digwydd mewn dŵr cysgodol ar draeth sydd wedi ennill statws Baner Las, cwrs Beicio 37K anhygoel a Ras 10k, mae’n ffordd wych o godi arian i SNAP Cymru.

  • Mi gymerais i ran yn y ras dros Snap Cymru oherwydd bod yr elusen wedi helpu dau o fy ffrindiau gorau, sef Mez a Tosh. Mae ganddyn nhw fachgen bach digon o ryfeddod o’r enw Alby sydd ag awtistiaeth. Mae Alby yn ffodus bod ganddo ddau riant cariadus sy’n gwybod be di be ac felly yn gallu ei helpu gydol ei oes ond roedd angen SNAP Cymru arnyn nhw’r un fath i’w helpu i gael cymorth a chyngor cywir ac annibynnol. Byddai’r elusen Gymreig leol wych hon yn hynod o ddiolchgar am unrhyw rodd a gallwch fod yn sicr y byddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer achos da.

    James

Mae cymryd rhan mewn triathlon yn galw am ymroddiad a chryfder personol. Diolch, James, am rannu eich cyflawniadau gyda’ch ffrindiau a SNAP Cymru ac am gyfrannu arian nawdd a fydd yn rhoi cefnogaeth a chymorth i blant a phobl ifanc eraill ledled Cymru sydd ag anghenion ychwanegol, yn union yr un fath ag Alby.

Dywedodd Denise Inger, Cyfarwyddwr SNAP Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn y rhoddion hyn gan deulu a ffrindiau James. Bydd ymdrechion yr un fath ag un James i godi arian yn ein helpu i godi arian y mae gymaint ei angen arnon ni i gefnogi miloedd o blant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd sy’n dibynnu ar y cymorth a’r cyngor annibynnol sy’n cael ei ddarparu gan SNAP ledled Cymru.    Gyda’r pwysau cynyddol sydd ar wasanaethau a darpariaeth i blant ac i deuluoedd, mae’n bwysicach nag erioed bod cyngor annibynnol cywir ar gael i deuluoedd.”

Dywedodd Mererid, mam Alby: “Mae elusennau bach fel SNAP yn aml yn cael eu hesgeuluso pan mae pobl yn cyfrannu ac yn codi arian, sy’n aml yn cael ei roi i elusennau mwy sy’n weithredol ar draws y DU.  Mae hyn yn gwneud ymdrechion James a chyfraniadau ei deulu a’i ffrindiau yn fwy arbennig byth. Mi wnaeth SNAP Cymru ein helpu’n wirioneddol i gael y cymorth iawn i Alby. Mae’n golygu gymaint mwy pan mai elusen fach leol, sy’n eich helpu chi’n bersonol ac sydd bob amser ar gael i chi bob tro rydych yn troi atynt am wybodaeth a chyngor, sy’n cael nawdd.”

SNAP Cymru oedd yr unig elusen unigryw Gymreig i gael ei dewis i dderbyn Gwobr Jiwbilî’r Frenhines ar gyfer Gwirfoddoli, a dim ond wrth i unigolion ymwneud â ni drwy roi o’u hamser i godi arian rydym yn gallu parhau i gefnogi teuluoedd ledled Cymru.

Gwnewch wahaniaeth: Bydd unrhyw rodd a gawn gennych, ni waeth pa mor fach, yn helpu i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.

Mae sawl ffordd o godi arian i SNAP Cymru, a mwynhau eich hun wrth wneud hynny! Beth am gynnal te parti neu gwis neu glirio eich trugareddau a’u gwerthu ar eBay? Neu efallai bod rhyw achlysur arbennig gennych ar y gorwel lle gallwch ofyn i bobl am gyfraniad yn hytrach nag anrhegion? Mae pob rhodd, bach neu fawr, yn helpu i sicrhau bod pob teulu yn cael y cymorth y mae arno ei angen bob cam o’r ffordd. I gael syniadau eraill am sut i gyfrannu, codi arian neu wirfoddoli i ni, edrychwch ar ein tudalennau rhoddion a gwirfoddoli ar ein gwefan.