Sut y byddwn yn cefnogi teuluoedd

Ein nod yw sicrhau bod modd i deuluoedd gael gafael ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad yng nghyswllt Anghenion Addysgol Arbennig eu plant a phobl ifanc fel bod modd iddynt wneud penderfyniadau priodol a chytbwys. Ein dymuniad yw sicrhau y rhoddir clust i farn a dymuniadau plant a phobl ifanc ac y rhoddir ystyriaeth iddynt.

  • Sicrhau bod barn plant, pobl ifanc a rhieni’n fodd i ddatblygu polisi ac arfer Anghenion Addysgol Arbennig lleol a bod eu barn yn dylanwadu arnynt

Er mwyn rhoi cymaint o gefnogaeth a phosib i bawb y mae arnynt ei hangen, mae gennym ddwy ffordd o gynnig cefnogaeth:

  • Cewch wybodaeth berthnasol gan gynnwys taflenni manwl a Chwestiynau a Ofynnir  yn Aml ar y wefan hon.
  • Gallwch ein ffonio neu anfon e-bost atom yn ein gwasanaeth llinell gymorth.  Wrth gysylltu â ni fel hyn, byddwch yn medru cael gafael ar ymgynghorydd hyfforddedig a phrofiadol a fydd yn rhoi i chi gyngor a chefnogaeth annibynnol, gywir a chyfrinachol.

Mae’r wybodaeth a’r llinell gyngor ar gael o ddydd Llun – dydd Gwener 9.30 am – 4.30 pm ac mae peiriant ateb ar gael bob adeg arall. Fe wnawn eich ffonio’n ôl os byddwch yn gadael neges.

  • Rydym yn gwrando ar eich pryderon
  • Rydym yn eich cynorthwyo i ganfod gwybodaeth briodol
  • Rydym yn rhoi gwybodaeth am sut y mae ysgolion a’r awdurdod lleol yn adnabod ac yn asesu Anghenion Addysgol Arbennig
  • Rydym yn eich cynorthwyo i baratoi ar gyfer cyfarfodydd ac yn eich cynorthwyo i benderfynu pa gwestiynau i’w gofyn
  • Rydym yn cynorthwyo gyda gwaith papur
  • Gallwn eich cynorthwyo i gyfathrebu gyda’r ysgol a datrys anghytundebau yn gynna
0345 120 3730

Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd a phobl ifanc yn gweld eu bod yn medru datrys materion penodol ar ôl cael y cyngor. Cewch ddod yn ôl mor aml ag y dymunech ynghylch mater penodol neu faterion eraill a gyfyd.

Bydd yn rhaid wrth gefnogaeth barhaus ein tîm gwaith achos gyda rhai materion. Os oes rhestr aros am y gwasanaeth hwn fe ddywedir wrthych. Fel arall, rhoddir i chi amcan o ‘r amser y bydd yr ymgynghorydd yn cael yn ôl atoch.  Nid yw’n bosib rhoi cymorth mewn cyfarfodydd bob amser, fodd bynnag, byddwn yn eich cynorthwyo bob amser i baratoi ymlaen llaw a sicrhau eich bod yn deall y broses a bod gennych y wybodaeth gywir.

Llenwch y ffurflen yn ddiogel ar lein isod os ydych am gael cyngor a help penodol ar gyfer eich plentyn. Bydd un o’n cynghorwyr hyfforddedig yn anfon ateb i chi drwy e-bost. Byddwn yn anelu at roi’r wybodaeth berthnasol i chi o fewn pum niwrnod gwaith.

Gweithwyr Proffesiynol 

Dylai gweithwyr proffesiynol sy’n cysylltu â ni ar ran teuluoedd annog teuluoedd i wneud hunan atgyfeiriad lle bynnag y bo modd.Mae’n rhaid iddynt gael caniatâd y rhiant i atgyfeirio. Gall gweithwyr proffesiynol hefyd gysylltu er mwyn cael gwybodaeth a chyngor cyffredinol.

Gallwch naill ai wneud atgyfeiriad drwy lwytho’r ffurflen gyfeirio i mewn broffesiynol neu drwy lenwi’r ffurflen atgyfeirio ddiogel isod:

At hyn, rydym yn gweithio gydag ysgolion, colegau, Awdurdodau Lleol ac asiantaethau eraill i’w cynorthwyo i ddatblygu perthynas gadarnhaol gyda rhieni.  Rydym yn hapus i roi sesiynau gwybodaeth a phwyntiau gwybodaeth i ysgolion a cholegau. Gweler ein tudalennau hyfforddi am ragor o wybodaeth.

Ceir llawer o gynghorion yn ein hadran Cwestiynau a Ofynnir yn Aml isod ar ystod eang o bynciau a phroblemau.

Cwestiynau Cyffredin

Pa gyfleoedd a chymorth sydd ar gael ar ôl gadael ysgol?

Ar ôl cyrraedd 16 oed bydd gan bobl ifanc amryw o ddewisiadau. Gallant fynd yn eu blaen i fyd gwaith, dilyn hyfforddiant cysylltiedig â gwaith, mynd ymlaen i addysg bellach neu aros yn yr ysgol.

Mae angen cyngor a chymorth ar bobl ifanc ar yr adeg hon, ac mae hyn yn arbennig o wir am rai ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Os yw person ifanc ar ddatganiad yn aros yn yr ysgol, yma mae dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i gynnal eu datganiad tan ddiwedd y flwyddyn academaidd ar ôl eu pen blwydd yn 19 oed.

Os yw’r person ifanc yn gadael yr ysgol ac yn mynd ymlaen i Addysg Bellach bydd eu datganiad yn cael ei ddisodli gan Asesiad o Angen 140, a elwir weithiau’n Gynllun Sgiliau Dysgu, a bydd yr Adran Addysg a Dysgu Gydol Oes (AADGO) yn talu am hwn. Mae plant ar ddatganiad yn cael help yn awtomatig gan Gyrfa Cymru drwy eu Hadolygiadau Pontio Blwyddyn 9 a Blwyddyn 11 a bydd cynllun pontio’n cael ei gynhyrchu; mae gan bob ysgol gynghorydd gyrfa AAA.

Beth ddylwn i ei ystyried cyn gadael ysgol?

Gall y cwestiynau canlynol helpu.

  • A yw’r person ifanc wedi cael unrhyw gymorth gyrfa?
  • A yw’r rhiant a’r person ifanc wedi trafod beth hoffai’r person ifanc ei wneud pan fydd yn gadael yr ysgol?
  • A oes unrhyw ymholiadau wedi’u gwneud ynglŷn â pha gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael?
  • A oes ymholiadau wedi’u gwneud yn yr ysgol ynglŷn â pha opsiynau maent yn feddwl sydd ar gael i’r person ifanc? A allant wneud unrhyw awgrymiadau’n seiliedig ar eu profiad?
  • A oes ymholiadau wedi’u gwneud â Gyrfa Cymru i drafod yr opsiynau?

 phwy ddylwn i gysylltu am ragor o wybodaeth?

Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae Gyrfa Cymru yn gysylltiad rhagorol am bopeth sy’n ymwneud â darpariaeth ôl-16 oed. Gallant dynnu sylw at y dewisiadau sydd ar gael a helpu â materion eraill fel cyllid a budd-daliadau. Mae ganddynt wybodaeth helaeth a gallant eich cyfeirio at asiantaethau eraill a all helpu.

Beth yw Eiriolaeth?

Gall eiriolaeth olygu pethau gwahanol i bobl wahanol, yn ddibynnol ar brofiadau a dealltwriaeth.

Mae llawer yn meddwl ei fod yn ymwneud â chwynion yn unig. Nid yw hyn yn wir bob amser. Mae eraill yn meddwl ei fod yn golygu rhoi cyngor, ond er y gall eiriolaeth weithiau gynnwys rhywfaint o gyngor, mae’n ymwneud yn fwy â gwrando a sicrhau bod llais plant a phobl ifanc yn cael ei glywed, boed yr eiriolwr yn cytuno ai peidio.

Mae eiriolaeth yn broses sy’n helpu i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed, i gael gwybodaeth ac i wybod beth yw eu hawliau a’u hawliadau. Dylai plant a phobl ifanc gael cymorth i’w helpu i gael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, er enghraifft, wrth ysgrifennu ac adolygu IEPau a PSPau. Dylid holi eu barn yn ystod asesiadau, gan gynnwys asesiad statudol, ac mewn tystiolaeth ar gyfer PDC ac apeliadau yn erbyn gwaharddiadau.

A yw Eiriolaeth yn opsiynol ynteu’n ofynnol?

I rai plant a phobl ifanc mae darparu eiriolaeth yn statudol, h.y. ‘plant a phobl ifanc agored i niwed’ fel y’u diffinnir o fewn Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol:

  • Unrhyw blentyn mewn angen (gan gynnwys plant anabl neu wael iawn).
  • Plant sydd ar ymylon gofal, mewn gofal, neu sydd wedi gadael gofal. Mae’r canlynol yn dangos grwpiau o blant a phobl ifanc sydd â hawl statudol i gael gwasanaeth eiriolaeth o dan y ddeddfwriaeth bresennol:
  • Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed sydd yng ngofal y GIG h.y. mewn Ysbyty neu ofal sylfaenol (meddyg teulu, deintydd ac yn y blaen)
  • Plant a Phobl Ifanc sy’n Gadael Gofal
  • Plant a Phobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal
  • Plant a Phobl Ifanc sydd mewn angen, sy’n cynnwys:
    • problemau iechyd meddwl
    • anabledd (o fewn diffiniad Deddf Plant 1989)
    • wedi’u gwahardd o’r ysgol
    • ceiswyr lloches neu ffoaduriaid
    • plant a phobl ifanc o dan 18 oed ar eu pen eu hunain mewn lloches oherwydd eu statws digartref
    • sy’n ddigartref neu mewn llety anfoddhaol i ffwrdd o gartref
    • mewn llety preswyl, ysgolion, Unedau Diogel ac o dan glo
    • mewn Ysbytai annibynnol
    • yn y System Cyfiawnder Troseddol
    • gofalwyr ifanc
    • mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso
    • mamau oedran ysgol

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau mynediad at eiriolaeth i bob plentyn a pherson ifanc. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gynnig Gwasanaeth Eirioli a Chynghori Cenedlaethol drwy un pwynt cyswllt dros y ffôn neu negeseuon testun 7 diwrnod yr wythnos i blant a phobl ifanc yng Nghymru – mae MEIC ar gael yn awr.

Pwy all fy helpu i gael mwy o wybodaeth am Eiriolaeth?

Am ragor o wybodaeth am ddatblygiad eiriolaeth yng Nghymru, cysylltwch ag un ai SNAP Cymru neu’r canlynol:

Is-adran Cymru NSPCC

Capitol Towers

Heol y Brodyr Llwydion

Caerdydd

CF10 3AG

Ffôn: 029 2026 7000

NYAS – Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol

99-105 Argyle St

Penbedw

Cilgwri

CH41 6AD

Ffôn: 0151 649 8700

Tros Gynnal

12 Ffordd y Gogledd

Caerdydd

CF10 3DY

Ffôn: 02920396974

NCH Cymru

Llys Dewi Sant

68a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen

Caerdydd

CF11 9DN

Ffôn: 029 2022 2127

Sut ydw i’n gwybod os yw fy mhlentyn yn cael ei fwlio?

Mae bwlio’n cael ei ddiffinio fel ymddygiad niweidiol bwriadol dros gyfnod o amser.

Gall bwlio gynnwys sylwadau pryfoclyd a galw enwau, bygythiadau a thrais corfforol, difrod i eiddo personol, gadael plentyn allan o weithgareddau cymdeithasol, lledaenu sibrydion a seibr fwlio.

A all ysgol fy mhlentyn roi diwedd ar y bwlio?

Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i benaethiaid a chyrff llywodraethu gynhyrchu polisi i atal pob math o fwlio ymhlith disgyblion. Rhaid i’r polisi fod ar gael i rieni/ gofalwyr os gwneud cais amdano.

Mae cylchlythyr Llywodraeth Cymru 23/2003 ‘Parchu Eraill: Canllawiau Gwrth-fwlio yn rhoi manylion am strategaethau sydd â’r nod o atal ac adweithio i achosion o fwlio.

Beth alla i ei wneud i roi diwedd ar y bwlio?

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i wella’r sefyllfa.

  • Gofynnwch i’r plentyn egluro beth sy’n digwydd.
  • A ydych chi wedi cysylltu â’r ysgol i drafod eich pryderon?
  • A yw teimladau eich plentyn wedi cael eu hystyried?
  • A yw’r ysgol wedi egluro ei safbwynt a’i dealltwriaeth o’r sefyllfa?
  • A yw’r ysgol yn barod i helpu ac i weithio â’r rhiant / gofalwr a’r plentyn?
  • A oes rhywun wedi cysylltu â’r Awdurdod Lleol ynglŷn â’r sefyllfa?
  • A yw’r rhiant, y plentyn neu’r ysgol wedi bod yn cadw cofnod o unrhyw ddigwyddiadau wrth iddynt ddigwydd?

Gofynnwch am gopi o bolisi gwrth-fwlio’r ysgol a threfnwch i gael gair ag aelod priodol o staff yr ysgol. Mae gan yr ysgol a’r Corff Llywodraethu ddyletswydd gofal dros eu disgyblion. Dylai’r ysgol wneud pob ymdrech i roi strategaethau ar waith i wella’r sefyllfa.

Os, ar ôl cyfnod o amser, y byddwch chi neu eich plentyn yn teimlo nad yw hyn yn llwyddo, rhowch wybod i’r ysgol, ac os bydd angen ystyriwch gysylltu â’r Corff Llywodraethu a’r Awdurdod Lleol.

Pwy all roi rhagor o wybodaeth i mi ar ddelio â bwlio?

Gallwch gysylltu â SNAP Cymru am fanylion ar sut y ddelio ag achosion o fwlio neu gallwch gael cyngor pellach gan y canlynol:

Taflenni gwybodaeth Canllawiau Gwrth-Fwlio a phosteri yr LlC yn cynnig cyngor i rieni, gofalwyr a phlant ar beth i’w wneud os yw plentyn yn cael ei fwlio.

www.kidscape.org.uk – mae Kidscape yn gweithio â phlant sy’n dioddef oherwydd bwlio’n bennaf ond mathau eraill o gamdriniaeth hefyd.

Nid wyf yn teimlo bod ysgol fy mhlentyn yn gwrando arnaf i. Beth allaf i wneud?

Os bydd y cysylltiadau rhwng rhieni, ysgolion a’r Awdurdod Lleol (ALl) yn chwalu gall hyn gael effaith fawr ar broblemau a’r ateb iddynt. Mae’r Cod Ymarfer AAA ar gyfer Cymru yn rhoi pwyslais ar yr angen i rieni, ysgolion, yr ALl ac eraill i weithio mewn partneriaeth fel y bydd plant a phobl ifanc ag AAA yn cyflawni eu potensial.

Mae’r Cod Ymarfer yn cydnabod bod gan rieni ‘wybodaeth allweddol’ am eu plant ac yn chwarae ‘rôl hanfodol’ i benderfynu beth sydd orau ar gyfer eu lles. Mae’n cydnabod hefyd bod ‘partneriaethau’n gallu bod yn her’ ac ar adegau y bydd angen ‘cymorth ychwanegol’.

Rhaid i’r ALl sicrhau bod cyngor a gwybodaeth ar gael i rieni drwy Wasanaethau Partneriaethau Rhieni.

Pan fydd rhieni’n profi anawsterau cyfathrebu, gall Gwasanaethau Partneriaethau Rhieni eu cynorthwyo mewn trafodaethau â’r ALl, a chynorthwyo yn y broses o ddatblygu trefniadau i weithio mewn partneriaeth.

Sut allaf i ddatrys y sefyllfa pan fydd cyfathrebu ynghylch anghenion fy mhlentyn chwalu?

Dyma rai cwestiynau y gallwch eu hystyried:

  • A ydym yn gwybod beth yn union yw teimladau fy mhlentyn?
  • A ydym wedi cysylltu â’r ysgol i drafod unrhyw bryderon?
  • A yw teimladau eich plentyn wedi’u hesbonio wrth yr ysgol?
  • A oes rhywun wedi gofyn i’ch plentyn am ei safbwynt a’i deimladau ef ynghylch y sefyllfa?
  • A yw’r ysgol yn barod i helpu ac i weithio â’r rhiant a’r plentyn?
  • A oes rhywun wedi cysylltu â’r ALl ynghylch y sefyllfa?
  • A yw’r rhiant yn ymwybodol o’r Gwasanaethau Partneriaeth Rhieni yn eu hardal?

Gall canfod yr atebion i’r rhain helpu i ddatrys y sefyllfa.

Nid yw’r ysgol byth yn gwrando ar fy mhryderon. Beth alla i ei wneud?

Os oes problem ag addysg y plentyn, y cam cyntaf yw cysylltu â’r ysgol. Efallai nad ydynt yn ymwybodol o’r mater neu eu bod eisoes yn cymryd camau i roi sylw iddo.

Os ydych chi wedi cysylltu â’r ysgol ac nad ydynt wedi llwyddo i ddatrys y mater, y cam nesaf y gallwch ei gymryd yw cysylltu â’r Awdurdod Lleol (ALl) i drafod y pryderon hyn. Gall y rhiant gynnwys eu Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni lleol ar unrhyw adeg.

Mae manylion am Wasanaethau Partneriaethau Lleol ar gael gan yr ALl.

Beth yw Datrys Anghydfod?

Mae Datrys Anghydfod yn angenrheidiol weithiau pan fydd y trafodaethau rhwng rhieni/gofalwyr, ysgolion a’r Awdurdod Lleol yn mynd yn anodd.

Yn yr achosion hyn gellir trefnu bod hwylusydd annibynnol gyda phrofiad yn y materion sy’n cael eu trafod ar gael. Bydd y ddwy ochr yn cael eu gwahodd i fynegi eu safbwyntiau, gyda’r hwylusydd wedyn yn chwilio am unrhyw feysydd ble mae cytundeb rhyngddynt a helpu i ganfod unrhyw opsiynau i ddatrys y gwahaniaethau.

Bydd yr hwylusydd yn sicrhau nad oes dim pwysau gormodol yn cael ei roi ar y naill ochr na’r llall yn yr ymdrechion i ddod i gytundeb.

Pwy sy’n gysylltiedig â Datrys Anghydfod?

Er mwyn osgoi neu ddatrys anghydfod rhwng rhieni ac ysgolion o ran y ddarpariaeth addysgol arbennig a roddir i’w plentyn, mae’r Ddeddf Addysg a’r COP yn mynnu bod Awdurdodau Lleol yn darparu gwasanaethau datrys anghydfod. Dylai’r rhain ddangos annibyniaeth a hygrededd, a datrys anghydfod yn gynnar ac anffurfiol.

Dylai trefniadau ar gyfer y gwasanaethau hyn, gan gynnwys sut i gael gafael arnynt, fod yn hysbys i rieni, penaethiaid, ysgolion ac eraill priodol.

A yw Datrys Anghydfod yn cymryd lle apeliadau i’r tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig?

Rhaid rhoi gwybod i rieni nad yw eu hawl i Apelio i’r Tribiwnlys AAA yn cael eu heffeithio drwy gymryd rhan mewn datrys anghydfod.

Beth ddylwn i ei ystyried cyn cymryd rhan mewn Datrys Anghydfod?

Dylai’r pwyntiau canlynol eich helpu i benderfynu a yw datrys anghydfod yn addas i chi:

  • Sut dechreuodd yr anghydfod?
  • A yw’r materion dan sylw wedi cael eu trafod â’r ysgol / yr Awdurdod Lleol?
  • A yw’r ddwy ochr yn teimlo bod modd datrys yr anghydfod?
  • Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni?
  • A yw pob ymdrech wedi’u gwneud i ddatrys yr anghydfod?
  • A ydych chi’n dymuno / eisoes wedi apelio i TAAAC neu SENDiST?

Os ydych chi’n credu bod datrys anghydfod yn opsiwn addas i chi, cysylltwch â’r Awdurdod lleol i ganfod pwy sy’n darparu’r gwasanaeth hwn yn eich ardal chi.

Beth yw Gwahaniaethu?

Gwahaniaethu yw trin unigolyn yn llai ffafriol.

Mae’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn rhai ag anabledd. Mae gwahaniaethu ar sail anabledd yn cynnwys methiant i ‘wneud addasiadau rhesymol’ ar gyfer unigolyn, gan roi’r unigolyn hwnnw o dan anfantais oherwydd eu hanabledd.

Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 yn rhoi dyletswyddau ar ysgolion o ran plant ag Anghenion Addysgol Arbennig ac anableddau sy’n cynnwys hygyrchedd yn yr amgylchedd a mynediad i ysgolion i ddisgyblion ag anableddau.

Sut fyddaf i’n gwybod bod ysgol yn gwahaniaethu yn erbyn fy mhlentyn?

Os gwnewch ateb y cwestiynau isod mi ddylai fod yn amlwg a yw’r ysgol yn gwahaniaethu.

  • Ym mha ffordd ydych chi’n teimlo bod eich plentyn yn cael ei drin yn annheg?
  • A oes rhywun wedi gofyn i’r plentyn egluro sut y mae’n teimlo am bethau?
  • A yw’r pryderon hyn wedi’u codi â’r ysgol ac a yw’r pryderon hyn wedi’u cymryd o ddifrif?
  • A oes rhywun wedi gofyn am farn yr ysgol am y sefyllfa?

Beth allaf i ei wneud os oes gwahaniaethu yn erbyn fy mhlentyn?

Mae cymorth a chyngor ar gael gan SNAP Cymru, cysylltwch â ni

Oes rhaid i Grwpiau Chwarae/ Cynlluniau Chwarae ddiwallu Anghenion Addysgol Arbennig fy mhlentyn?

Mae Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar yn ymwneud â’r blynyddoedd cyn oedran addysg ffurfiol neu oedran ysgol statudol.

Gallai darpariaeth gynnwys; ysgol feithrin, grŵp chwarae, grwpiau mam a’i phlentyn, uned asesu blynyddoedd cynnar, gofalwr/aig plant ac ati.

Gall y Bartneriaeth Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ym mhob sir roi rhestr o leoliadau ym mhob ardal.

Rhaid i Leoliad Blynyddoedd Cynnar sy’n derbyn arian oddi wrth yr Awdurdod Lleol gadw mewn cof Gôd Ymarfer Cymru 2002 o ran Anghenion Addysgol Arbennig a dilyn yr arweiniad a osodwyd ar gyfer adnabod anghenion plant ag Anghenion Addysgol Arbennig a chwrdd â’r cyfryw anghenion. Ystyrir ei fod yn arfer da i leoliadau preifat hefyd gadw’r Côd Ymarfer mewn cof.

Nid yw fy mhlentyn wedi cael diagnosis ac nid yw ar ddatganiad. A ddylai barhau i gael cymorth?

Mae’n bwysig bod Anghenion Addysgol Arbennig plentyn yn cael eu canfod mor gynnar â phosibl er mwyn trefnu’r ymyriadau cynharaf posibl.

Mae’r cwestiynau y dylech eu gofyn yn cynnwys:

  • A oes unrhyw bryderon am ddatblygiad y plentyn a beth yw’r pryderon hynny?
  • A oes unrhyw un, gan gynnwys Gweithwyr Iechyd Proffesiynol, wedi mynegi pryderon am ddatblygiad y plentyn?
  • A oes rhywun wedi cysylltu â’r sefydliad blynyddoedd cynnar ynghylch y pryderon hyn?
  • A oes rhywun wedi gofyn am farn y sefydliad blynyddoedd cynnar?

Heb dystiolaeth am y cwestiynau uchod, nid yw’n debygol y bydd gennych hawl i gael cymorth ychwanegol.

Rwyf yn teimlo nad yw anghenion fy mhlentyn yn cael sylw. Beth ddylwn i ei wneud?

Os yw plentyn yn mynychu sefydliad blynyddoedd cynnar mae’n bwysig trafod y pryderon â hwy a gofyn iddynt beth yw eu barn.

Os nad yw’r plentyn yn mynychu sefydliad blynyddoedd cynnar, dylid trafod y pryderon â Meddyg Teulu neu Ymwelydd Iechyd a all gynnal profion datblygiadol. Efallai y bydd angen atgyfeirio’r plentyn at baediatregydd am asesiad pellach.

Beth mae’r Awdurdod Lleol (ALl) yn ei wneud?

Mae’r Awdurdod Lleol (ALl) yn gyfrifol am gydlynu gwasanaethau addysg o fewn eu sir.

Eu prif gyfrifoldebau yw:

  • Gwella safonau addysgol drwy gynllun datblygu addysgol.
  • Gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, yr Heddlu a’r sector gwirfoddol i wella cyfleoedd i rai sydd mewn perygl o brofi allgau cymdeithasol ac addysgu’r sawl sydd wedi’u gwahardd.
  • Sicrhau darpariaeth effeithiol i’r sawl sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig drwy ganfod, darparu ac ariannu gwasanaethau megis seicoleg addysg a gwasanaethau cymorth addysgu arbenigo.
  • Sicrhau bod trafnidiaeth i’r ysgol yn hygyrch i’r sawl sydd ei angen.
  • Sicrhau bod digon o leoedd cyn ysgol ar gae.
  • Monitro ansawdd addysgu a dysgu yn y sir.
  • Monitro ysgolion a’u polisïau megis polisïau derbyn a phresenoldeb yn yr ysgolion.

Mae gan bob ALl adran sy’n gyfrifol am blant a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig.

Mae holl bolisïau’r ALl ar gael i’r cyhoedd a gellir eu cael drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r Cyngor Sir neu eu llwytho i lawr o wefan y Cyngor. Mae gwybodaeth am gyfleusterau arbenigol i’w chael yn llyfryn darpariaeth y Cyngor.

Beth yw Gwaharddiad Cyfnod Penodol?

Mae Gwaharddiad Cyfnod Penodol yn golygu bod disgybl yn cael ei wahardd am gyfnod penodol o amser.

Ni chaniateir i Waharddiadau Cyfnod Penodol fod am fwy na chyfanswm o 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol.

Beth yw Gwaharddiadau Amser Cinio?

Mae Gwaharddiadau Amser Cinio’n fath o waharddiad cyfnod sefydlog. Mae pob gwaharddiad amser cinio’n cyfrif fel chwarter diwrnod.

Os oes gan blentyn hawl i gael cinio ysgol am ddim rhaid gwneud darpariaeth arall i alluogi’r plentyn i gael cinio.

Beth yw Gwaharddiad Parhaol?

Gall Gwaharddiad Parhaol ddigwydd pan fydd gan blentyn broblemau ymddygiadol cyson a difrifol neu gall ddigwydd o ganlyniad i achos difrifol o dorri polisi’r ysgol. Bydd yr ysgol yn gwahardd plentyn yn barhaol a bydd yn rhaid dod o hyd i ddarpariaeth addysg arall yn ei lle.

Beth yw Gwaharddiad Mewnol?

Nid yw Gwaharddiad Mewnol, pan fydd disgybl yn cael ei dynnu o’r dosbarth, yn cael ei gyfrif fel gwaharddiad. Gall disgybl gael ei symud, gyda chymorth priodol, i ystafell arall neu ddosbarth arall.

Beth yw Tynnu Disgybl o’r Ysgol yn Wirfoddol neu Waharddiad Anffurfiol?

Bydd Tynnu Disgybl o’r Ysgol yn Wirfoddol neu Waharddiad Anffurfiol yn digwydd pan ofynnir i riant / gofalwr dynnu’r plentyn o’r ysgol am gyfnod.

Sut y diffinnir Gwaharddiad Anghyfreithlon?

Gwaharddiad Anghyfreithlon yw un sy’n gwrthod yr hawl i gwestiynu’r gwaharddiad drwy’r dulliau priodol.

Sut mae ysgol yn mynd ati i wahardd disgybl?

Rhaid i’r pennaeth hysbysu’r rhiant/gofalwr, disgybl (os yw dros 11 oed) ac, yn achos rhai sy’n mynychu Uned Cyfeirio Disgyblion, yr unigolyn perthnasol yn yr Awdurdod Lleol, neu, yn achos disgyblion sy’n derbyn gofal, adran gwasanaethau cymdeithasol eu ‘cartref’, ar unwaith bod y penderfyniad i wahardd wedi’i wneud, yn ysgrifenedig, o fewn 1 diwrnod o’r gwaharddiad.

Rhaid i’r llythyr hwn gynnwys:

  • cyfnod y gwaharddiad
  • y rheswm dros wahardd a’r hawl i apelio
  • hawl yr unigolyn i gael copi o gofnod ysgol y disgybl
  • yr amser a’r dyddiad a bennwyd ar gyfer dychwelyd i’r ysgol
  • manylion cyswllt ar gyfer cyngor a gwybodaeth ynglŷn â’r hawl i fynd â’r achos i Bwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDC)
  • manylion cyswllt clerc y PDC
  • y dyddiad cynharaf pan fyddai’r PDC yn cwrdd.

Pan fydd disgybl yn cael ei wahardd am fwy nag un diwrnod ysgol, rhaid i ysgolion roi gwaith i’r disgybl ei wneud, ond y rhiant / gofalwr sy’n gyfrifol am ei ddychwelyd.

Sut ydw i’n apelio yn erbyn gwaharddiad fy mhlentyn o’r ysgol?

Bydd y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDC) yn delio ag unrhyw apeliadau yn erbyn gwaharddiadau o’r ysgol.

O dan Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999, mae gofyniad ar Gyrff Llywodraethu ysgolion i sefydlu PDC.

Mae PDC yn cynnwys 3 – 5 o lywodraethwyr (heb gynnwys y pennaeth) a Chlerc y PDC, sy’n rhoi cymorth gweinyddol a chyngor ar y broses wahardd.

Mae dyletswydd ar benaethiaid i hysbysu’r PDC a’r Awdurdod Lleol o bob gwaharddiad sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol:

  • Mae cyfanswm y gwaharddiad cyfnod penodol yn 5 diwrnod ysgol neu lai, neu, 20 gwaharddiad amser cinio neu lai. (PDC yn cael ei hysbysu unwaith y tymor).
  • Gwaharddiadau sy’n golygu bod disgybl yn colli arholiad cyhoeddus.
  • Gwaharddiadau sy’n fwy na 5 diwrnod ysgol neu fwy nag 20 amser cinio mewn unrhyw un tymor.
  • Pob gwaharddiad parhaol.

A allaf fi apelio os yw fy mhlentyn wedi’i wahardd am 5 diwrnod neu lai mewn un tymor?

Pan fydd cyfanswm pob gwaharddiad cyfnod penodol mewn un tymor yn 5 diwrnod ysgol neu lai, gall y rhieni a’r disgybl gyflwyno sylwadau gerbron y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDC) a gallant gael eu cofnodi ar gofnod ysgol y disgybl, ond ni all y PDC orchymyn bod y disgybl yn cael ei aildderbyn.

A allaf fi apelio os yw fy mhlentyn wedi cael ei wahardd am rhwng 5 a 15 diwrnod mewn un tymor?

Pan fydd cyfanswm pob gwaharddiad cyfnod penodol mewn un tymor yn fwy na 5 diwrnod ysgol, ond yn ddim mwy na 15, gall y rhieni a’r disgybl, os ydynt yn dymuno, gyflwyno sylwadau gerbron y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDC).

Rhaid cynnal y cyfarfod hwn rhwng y 6ed a’r 50fed diwrnod ysgol ar ôl cael hysbysiad o’r gwaharddiad. Gall y PDC orchymyn bod y disgybl yn cael ei aildderbyn.

A allaf fi apelio os yw fy mhlentyn wedi cael ei wahardd am fwy na 15 diwrnod mewn un tymor?

Pan fydd cyfanswm pob gwaharddiad cyfnod penodol mewn un tymor yn fwy na 15 diwrnod ysgol rhaid cynnal cyfarfod rhwng y 6ed a’r 50fed diwrnod ysgol ar ôl cael hysbysiad o’r gwaharddiad. Gall y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion orchymyn bod y disgybl yn cael ei aildderbyn.

A allaf fi apelio os yw fy mhlentyn wedi cael ei wahardd o’r ysgol yn barhaol?

Os yw disgybl wedi cael ei wahardd yn barhaol rhaid cynnal cyfarfod rhwng y 6ed a’r 50fed diwrnod ysgol ar ôl cael hysbysiad o’r gwaharddiad. Gall y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion orchymyn bod y disgybl yn cael ei aildderbyn.

A allaf fi apelio os yw gwaharddiad fy mhlentyn yn golygu y bydd yn colli arholiad?

Os bydd disgybl yn colli arholiad cyhoeddus o ganlyniad i waharddiad, rhaid i’r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDC) wneud pob ymdrech resymol i gwrdd ac i adolygu’r penderfyniad i wahardd cyn dyddiad yr arholiad. Yn yr achos hwn gall cadeirydd y PDC gynnal cyfarfod ar ei ben ei hun.

A allaf fi apelio os yw fy mhlentyn wedi cael ei wahardd o Uned Cyfeirio Disgyblion (PRU)?

Mae cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol (ALl) i adolygu pob gwaharddiad cyfnod penodol o Unedau Cyfeirio Disgyblion (PRUau) ac i ystyried sylwadau a geir gan rieni a disgyblion pan fydd cyfanswm y gwaharddiadau cyfnod penodol yn 15 diwrnod neu fwy mewn unrhyw un tymor – gall yr ALl orchymyn bod y disgybl yn cael ei aildderbyn.

Yn achos gwaharddiadau parhaol, mae gan rieni a disgyblion hawl i apêl annibynnol.

Yn dilyn apêl, mae fy mhlentyn wedi cael ei wahardd eto. A allaf fi apelio fwy nag unwaith mewn tymor?

Pan fydd disgybl yn cael gwaharddiad pellach o fewn un tymor, rhaid i’r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion gwrdd ar gyfer pob gwaharddiad ac adolygu effeithiolrwydd y cynlluniau cymorth sydd ar waith.

Beth sydd yn rhaid i PDC ei ystyried wrth adolygu achos?

Wrth adolygu gwaharddiad cyfnod penodol, rhaid i Bwyllgor Disgyblu Disgyblion ystyried:

  • Sylwadau a wneir gan y rhieni, y disgyblion neu gynrychiolwyr eraill.
  • A oedd yr ysgol yn cydymffurfio â gweithdrefnau gwahardd a Chanllawiau Llywodraeth Cymru cyn gwneud y penderfyniad i wahardd.
  • A yw polisïau’r ysgol ar ymddygiad, gwrth-fwlio, Anghenion Addysgol Arbennig, cyfle cyfartal a chydraddoldeb hiliol yn gyfoes ac wedi’u gweithredu’n briodol.
  • A yw’r ysgol wedi cymryd pob cam rhesymol i weithredu strategaethau cymorth sydd â’r nod o helpu’r disgybl i wella’i ymddygiad, yn enwedig effeithiolrwydd y cynllun cymorth bugeiliol.

Sut allaf fi baratoi fy apêl?

Wrth baratoi achos i’w roi gerbron PDC, dylai rhieni, disgyblion a chynrychiolwyr eraill ystyried:

  • A oedd a llythyr gan y pennaeth yn eu hysbysu o’r gwaharddiad yn ystyried y ‘cyfrifoldebau allweddol’ fel y’u nodwyd yn yr adran ar waharddiadau.
  • A yw’r pennaeth wedi cyhoeddi polisi ymddygiad yr ysgol.
  • Yr hyn sydd gan y disgybl i’w ddweud am y digwyddiad:
  • Yr hyn a arweiniodd at y digwyddiad
  • Ym mhle oedd y digwyddiad wedi digwydd
  • Pwy oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad
  • Beth oedd eraill wedi’i ddweud a’i wneud
  • Beth yn union oedd y disgybl wedi’i ddweud a’i wneud
  • Yr hyn sydd gan bobl eraill i’w ddweud am y digwyddiad:
  • Yr hyn mae’r pennaeth ac aelodau eraill o’r staff wedi’i ddweud
  • Yr hyn mae unrhyw dystion wedi’i ddweud (dylid anfon datganiadau tystion atoch fel rhan o’r broses).
  • A yw datganiadau tystion yn amrywio – tynnwch sylw at yr amrywiadau hyn; gallai hyn fod yn dystiolaeth o gamddealltwriaeth.
  • A yw’r holl ddatganiadau tystion wedi’u casglu – gan dynnu sylw at y rhai sy’n cadarnhau fersiwn y disgybl o’r digwyddiadau.
  • Ynghylch y disgybl:
    • A oedd yr ymddygiad hwn yn groes i gymeriad y disgybl?
    • A oes unrhyw amgylchiadau sy’n esgusodi’r digwyddiad – a yw’r disgybl wedi bod o dan unrhyw bwysau ychwanegol yn ddiweddar?
    • A allai’r ymddygiad fod yn ganlyniad i bwysau cyfoedion?
    • A oes gan y disgybl anabledd sy’n effeithio ar ei ymddygiad a’i ddealltwriaeth?
    • A yw’r gwaharddiad yn briodol i oed a gallu’r disgybl?
    • A yw’r gosb yn unol â’r gosb a roddwyd i eraill?
    • Os oes gan y disgybl becyn cymorth e.e. Cynllun Cymorth Bugeiliol, a yw’r gweithdrefnau ar gyfer eu hadolygu a’u diwygio wedi’u cynnal yn briodol?
    • A oes tybiaeth fod y disgybl mewn ‘mwy o risg o ymddieithrio o’r ysgol?’ Dywed Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 47/06 fod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ‘mewn mwy o beryg o ymddieithrio o’r ysgol’.
    • Cofiwch bwyntiau da’r disgybl!

Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys:

  • teuluoedd mewn amgylchiadau anodd
  • disgyblion sy’n ddawnus a thalentog
  • teithwyr
  • gofalwyr ifanc
  • ffoaduriaid
  • rhai sy’n newid ysgol
  • rhai o gefndir ethnig lleiafrifol
  • rhai sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol
  • rhai ag anableddau, AAA neu anawsterau emosiynol neu ymddygiadol
  • rhai sy’n gwrthod mynd i’r ysgol, rhai â ffobia ynghylch yr ysgol a throseddwyr ifanc
  • merched ysgol sy’n feichiog neu rieni ifanc
  • bwlio oherwydd cyfeiriadedd rhywiol

Pan mae disgybl ar Weithredu gan yr Ysgol, Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy neu ar ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig mae rhwymedigaeth ar yr ysgol i wneud pobl ymdrech i osgoi gwaharddiad parhaol. Gall hyn gynnwys; gofyn am gyngor arbenigol, cryfhau’r mesurau cymorth presennol a / neu newid ysgolion. Yn yr achos hwn, dylai’r pennaeth dynnu’r gwaharddiad yn ôl.

Pa bryd allaf fi ddisgwyl clywed canlyniad yr apêl?

Rhaid i’r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion gadarnhau ei benderfyniad yn ysgrifenedig o fewn un diwrnod ysgol ar ôl y cyfarfod.

Os bydd fy apêl yn llwyddiannus a fydd fy mhlentyn yn dychwelyd i’r ysgol?

Pan fydd y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDC) yn penderfynu gadael disgybl yn ôl i’r ysgol, dylai’r dyddiad dychwelyd fod o fewn 5 diwrnod ysgol. Gall y PDC drafod mesurau tymor byr i helpu ailintegreiddio â’r Awdurdod Lleol.

Beth fydd yn digwydd os bydd fy apêl yn aflwyddiannus?

Pan fydd y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDC) yn cadarnhau gwaharddiad o fwy na 15 diwrnod dylent sicrhau bod parhad addysg y disgybl yn briodol. Gallai hyn gynnwys tiwtora yn y cartref a / neu wasanaethau arbenigol.

Pan fydd y PDC yn cadarnhau gwaharddiad parhaol, rhaid i’r llythyr roi manylion am yr hawl i apelio i Banel Apelio Annibynnol (IAP).

Beth yw Panel Apelio Annibynnol (IAP)?

Mae Panel Apelio Annibynnol yn cynnwys; cadeirydd a nifer o ymarferwyr addysg a llywodraethwyr ysgol. Ni fydd y rhain yn dod o’r ysgol mae’r disgybl yn ei mynychu ar y pryd.

A allaf fi apelio yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Disgyblu Disgyblion?

Pan fydd gwaharddiad parhaol yn cael ei gadarnhau gan Bwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDC) neu os yw disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol o Uned Cyfeirio Disgyblion, mae gan rieni a disgyblion hawl i apelio i banel annibynnol.

Rhaid cyflwyno apêl  yn ysgrifenedig i glerc y panel, gan ddatgan sail yr apêl, a hynny o fewn 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad penderfyniad y PDC.

Rhaid i banelau gwrdd o fewn 15 diwrnod ysgol ar ôl cyflwyno’r apêl, er y gallant ohirio’r gwrandawiad os ydynt yn teimlo bod angen gwneud hynny.

Pwy all fod yn bresennol yng ngwrandawiad Panel Apelio Annibynnol?

Dylai gwrandawiad Panel Apelio Annibynnol gynnwys rhieni, y disgybl, y pennaeth, tystion, llywodraethwr enwebedig a swyddog o’r ALl.

Gyda chydsyniad ymlaen llaw pob ochr, gall cynrychiolwyr ar ffurf cynghorydd cyfreithiol, eiriolwr (rhaid darparu eiriolwr ar gyfer y disgybl pan fydd angen) a gweithwyr proffesiynol eraill fod yn bresennol.

What will the Independent Appeal Panel consider?

In addition to all written statements and oral representations the panel must consider the views of the Local Authority and whether all legal aspects and guidance have been met.

Beth fydd y Panel Apelio Annibynnol yn ei ystyried?

Yn ogystal â’r holl ddatganiadau ysgrifenedig a’r sylwadau llafar, rhaid i’r panel ystyried safbwynt yr Awdurdod Lleol ac a oes cydymffurfiad â’r holl agweddau cyfreithiol a’r canllawiau.

Pa bryd allaf fi ddisgwyl penderfyniad gan y Panel Apelio Annibynnol?

Rhaid hysbysu pob parti erbyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith.

Gall y panel ddod i’r penderfyniadau canlynol;

  • gadael y disgybl yn ôl i’r ysgol
  • cadarnhau’r gwaharddiad
  • ni chyfarwyddir gadael yn ôl i’r ysgol oherwydd amgylchiadau neilltuol

Pan fydd y panel yn penderfynu gadael y disgybl yn ôl i’r ysgol, rhaid i’r dyddiad dychwelyd fod o fewn 5 diwrnod ysgol.

Os bydd gwaharddiad parhaol yn cael ei gadarnhau, rhaid i’r Awdurdod Lleol wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer parhad addysg y disgybl. Fel yn achos gwaharddiadau cyfnod penodol o fwy na 15 diwrnod, gallai hyn gynnwys tiwtora yn y cartref a / neu wasanaethau arbenigol.

Ble allaf fi gael mwy o wybodaeth am y broses wahardd?

Gallwch ofyn am fwy o wybodaeth drwy gysylltu â SNAP Cymru neu’r mudiadau canlynol:

Canolfan Gyfreithiol y Plant. Mae Llinell Gymorth ar gyfer rhieni ar agor rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 0808 802 0008

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru: Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion: canllawiau. Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 001/2004 diwygiwyd yn 2006

www.new.wales.gov.uk/topics/educationandskills

Ble allaf fi gael mwy o wybodaeth am y broses wahardd?

Gallwch ofyn am fwy o wybodaeth drwy gysylltu â SNAP Cymru neu’r mudiadau canlynol:

Canolfan Gyfreithiol y Plant. Mae Llinell Gymorth ar gyfer rhieni ar agor rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 0808 802 0008

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru: Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion: canllawiau. Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 001/2004 diwygiwyd yn 2006

Ar gael yn: www.new.wales.gov.uk/topics/educationandskills

Beth yw Bwrdd Iechyd Lleol?

Mae gan bob Awdurdod Unedol / Sir yng Nghymru Fwrdd Iechyd Lleol (BILl) sy’n cydlynu’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer yr ardal, megis Practis Meddyg Teulu, Fferyllfeydd, Deintyddion ac Optegwyr.

Mae hefyd 9 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) sy’n comisiynu gwasanaethau mwy arbenigol, fel Ysbytai a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion (CAHMS).

Ceir manylion llawn am y BILlau ac Ymddiriedolaethau GIG y gwahanol ardaloedd yn www.wales.nhs.uk

Beth allaf fi ei wneud os wyf yn poeni am iechyd fy mhlentyn?

Os ydych chi’n poeni am iechyd eich plentyn, bydd meddwl am y cwestiynau isod yn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi weithredu.

  • A oes unrhyw bryderon am unrhyw agweddau ar eich y plentyn? Os oes, beth yw’r pryderon hyn?
  • A oes unrhyw weithwyr iechyd / addysg proffesiynol wedi dweud bod ganddynt bryderon am unrhyw agwedd ar iechyd y plentyn?
  • A oes rhywun wedi gofyn i’r plentyn a oes ganddo unrhyw bryderon?
  • A oes unrhyw broblemau wedi eu trafod â Meddyg?
  • A yw’r pryderon hyn wedi’u trafod â’r ysgol?

At bwy ddylwn i fynd am gyngor ynghylch iechyd fy mhlentyn?

Mae’n bwysig eich bod yn trafod unrhyw bryderon sy’n gysylltiedig ag iechyd â meddyg a fydd yn y sefyllfa orau i egluro pa wasanaethau arbenigol sydd ar gael ac i wneud unrhyw atgyfeiriadau maent yn credu sydd eu hangen.

Dylid trafod unrhyw bryderon iechyd ag ymwelydd iechyd / gweithiwr cymdeithasol y teulu.

Os yw’r plentyn yn yr ysgol, trafodwch unrhyw beth sy’n eich poeni â hwy a gofynnwch iddynt am eu barn. Efallai eu bod yn ymwybodol o’r broblem ac y gallant gynnig cyngor a chymorth.

Mae fy mhlentyn yn gwrthod mynd i’r ysgol. Beth allaf fi ei wneud?

Os yw plentyn yn gwrthod mynd i’r ysgol mae angen canfod y rheswm a datrys y broblem drwy weithio â’r plentyn ac â’r ysgol. Gall gwrthod mynd i’r ysgol fod yn fwy cyffredin yn ystod cyfnodau pontio.

Mae gofyniad cyfreithiol ar rieni i wneud yn siŵr bod eu plentyn yn cael addysg llawn amser tan ddiwedd Blwyddyn 11. Os nad yw eich plentyn yn mynd i’r ysgol gall y Swyddog Lles Addysg gysylltu â chi.

Dylent allu eich helpu a’ch cefnogi, ond weithiau efallai y byddant yn dueddol o roi gormod o bwyslais ar y cosbau a’r canlyniadau os yw’ch plentyn yn parhau i wrthod mynd i’r ysgol. Siaradwch â’r ysgol os yw eich plentyn yn gwrthod mynd yno.

Pam fod fy mhlentyn yn gwrthod mynd i’r ysgol?

Gall y cwestiynau canlynol eich helpu i gael gwell syniad o’r hyn sy’n achosi’r broblem.

  • A oes rhywun wedi siarad â’r plentyn a’i annog i fynegi ei deimladau a’r hyn sy’n ei boeni?
  • A oes gan y plentyn ofn neu bryder penodol?
  • A yw’r plentyn yn poeni am ei gynnydd mewn maes penodol?
  • A yw’r plentyn yn dioddef o ddiffyg hyder / hunan barch?
  • A oes newidiadau arwyddocaol wedi bod ym mywyd y plentyn a all fod yn effeithio arno?
  • A yw’r plentyn yn cymdeithasu ac yn gwneud ffrindiau?
  • A yw’r plentyn yn cael ei fwlio?
  • A oes gan y plentyn anabledd – amlwg neu gudd?
  • A all fod salwch corfforol ar y plentyn?

Pa gamau allaf fi eu cymryd i annog fy mhlentyn i fynd i’r ysgol?

Dyma rai awgrymiadau a all helpu.

  • A ydych chi wedi siarad â’ch plentyn a’i holi pam nad yw eisiau mynd i’r ysgol?
  • A ydych chi wedi cysylltu â’r ysgol i drafod y sefyllfa? Cofiwch roi gwybod iddynt am unrhyw anawsterau wrth iddynt godi gan mai chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich plentyn yn mynd i’r ysgol.
  • A all yr ysgol awgrymu a rhoi strategaethau ar waith i helpu eich plentyn i fynd yn ôl i’r ysgol?
  • A yw’r Swyddog Lles Addysg wedi’i hysbysu o’r sefyllfa?
  • A yw’r ysgol yn teimlo y byddai atgyfeiriad at Seicolegydd Addysgol yn briodol?
  • A oes angen cymorth arbenigol? Os oes, gall yr ysgol neu’ch Meddyg Teulu atgyfeirio at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion (CAMHS) yn eich ardal?
  • Os oes gan y plentyn weithiwr cymdeithasol, a yw’r mater wedi’i godi â hwy?

A all yr ysgol helpu os yw fy mhlentyn yn gwrthod mynd yno?

Os yw plentyn yn dal i wrthod mynd i’r ysgol, ac os oes ganddo anghenion arbennig, dylai’r ysgol fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu.

Un o’r pethau y gall yr ysgol wneud yw cynnig yw hyn a elwir yn “ddarpariaeth amgen”. Felly, yn hytrach na gorfod mynd yn ôl i’r ysgol a pharhau â’r hyn nad oedd yn amlwg yn briodol, gall yr ysgol greu pecyn dysgu gwahanol; er enghraifft, mae rhai ardaloedd yn awr yn cynnig e-ddysgu – ble gall plant ddysgu o gartref drwy gyfrifiadur. Neu gallai’r person ifanc wneud rhywfaint o leoliadau gwaith estynedig neu fynd i goleg am ran o’r wythnos.

Mae cryn dipyn o blant a phobl ifanc sy’n cyrraedd eu harddegau yn sylweddoli nad yw’r ysgol yn gweithio iddyn nhw, a dyna pam y mae darpariaeth amgen wedi’i chyflwyno. Holwch yr ysgol ynghylch hyn, ac os na allant helpu, ffoniwch eich Awdurdod Lleol a gofynnwch am siarad â’r sawl sy’n cydlynu darpariaeth amgen. Gallwch hefyd gysylltu â SNAP Cymru am help a chyngor.

A oes unrhyw wasanaethau cymorth a all helpu?

Gall eich Meddyg Teulu hefyd atgyfeirio eich plentyn at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion (CAMHS) i weld a fyddai eich plentyn yn elwa ar gwnsela neu gymorth ganddynt.

A allaf fi Addysgu fy mhlentyn gartref?

Dylai’r ysgol a’r Awdurdod Lleol eich cefnogi os yw rhiant yn penderfynu addysgu eu plentyn gartref.

Gall Education Otherwise a’r Home Education Advisory Service roi gwybodaeth i rieni ar addysgu cartref.

A allaf fi gael gofal seibiant i fy mhlentyn?

Gall teuluoedd sydd â phlant ag anableddau gael gofal seibiant neu rannu gofal drwy eu Hadran Gwasanaethau Cymdeithasol lleol, drwy Ymwelwyr Iechyd arbenigol neu drwy’r sector gwirfoddol.

Os gofynnir iddynt, bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnal ‘asesiad craidd’ neu asesiad ‘plentyn mewn angen’ i ganfod a yw gofynion y plentyn yn cyflawni’r meini prawf ar gyfer cael gwasanaethau gofal seibiant / rhannu gofal. Mae gofal seibiant a rhannu gofal yn brofiadau gwerthfawr i deuluoedd plant ag anableddau gan eu bod yn rhoi cyfle i’r plentyn brofi perthnasoedd newydd a gweithgareddau prif ffrwd.

Gall gofal seibiant fod am ychydig oriau neu ychydig ddyddiau, yn ddibynnol ar yr angen a’r hyn sydd ar gael. Mae gan bob Sir / Awdurdod eu trefniadau a’u meini prawf eu hunain ar gyfer gofal seibiant a rhannu gofal.

O dan Ddeddf Plant 1989, dylai plant ag anableddau gael cynnig yr un mynediad at weithgareddau chwarae a hamdden o ansawdd da â phawb arall, Mae’n anghyfreithlon o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 i ddarparwyr gwasanaethau wahaniaethu yn erbyn plant anabl a rhaid gwneud pob ymdrech i ddiwallu anghenion unrhyw blentyn ag anabledd.

Beth ddylwn i ei ystyried wrth wneud cais am wasanaethau seibiant neu hamdden?

Dyma rai pethau i’w cadw mewn cof cyn gwneud cais.

  • Pa wasanaeth hoffech chi ei gael?
  • A oes gan y plentyn anabledd neu angen addysgol arbennig?
  • A ydych chi’n cael cymorth gan weithiwr proffesiynol a all eich helpu i gael mynediad at y gwasanaeth yr hoffech ei gael?
  • A ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â Gwasanaethau Cymdeithasol neu Ymwelydd Iechyd Arbenigol yn y gorffennol?
  • A ydych chi’n gwybod beth yw eich hawl i gael gwasanaethau o’r fath?

Sut ydw i’n mynd ati i ofyn am wasanaethau seibiant neu hamdden?

Efallai y bydd angen i deuluoedd gysylltu â’u Gweithiwr Cymdeithasol neu Ymwelydd Iechyd Arbenigol er mwyn cael gofal seibiant neu rannu gofal.

Os nad oes gan y teulu Weithiwr Cymdeithasol neu Ymwelydd Iechyd Arbenigol dylent gysylltu â’r Swyddog ar Ddyletswydd yn eu Hadran Gwasanaethau Cymdeithasol lleol i ofyn am asesiad craidd er mwyn canfod pa wasanaethau mae’r plentyn yn gymwys i’w cael.

Dylai’r Tîm Anableddau Plant allu rhoi gwybodaeth am y gweithgareddau hamdden sydd ar gael yn y Sir ar gyfer plant ag unrhyw fath o anawsterau.

Mae anghenion fy mhlentyn yn newid wrth iddo fynd yn hŷn. Sut fydd hyn yn effeithio ar ei Ddatganiad neu Gynllun Addysg Unigol?

Mae athrawon yn monitro ac yn adolygu cynnydd disgyblion yn rheolaidd. Yn ychwanegol at yr adolygiadau anffurfiol hyn bydd adegau penodol pan gynhelir adolygiadau ffurfiol.

Mae 3 math o adolygiad ffurfiol, ac mae’r rhain yn sicrhau bod y ddarpariaeth i’r plentyn yn ddigonol ac yn briodol.

Yr adolygiadau hyn yw;

  • Adolygiad o’r Cynllun Addysg Unigol
  • Adolygiad Blynyddol o’r Datganiad
  • Adolygiad Pontio

Beth yw Adolygiad o’r Cynllun Addysg Unigol?

Defnyddir yr adolygiadau hyn i fonitro cynnwys y Cynllun Addysg Unigol, i weld a oes cynnydd ac i bennu targedau ar gyfer y Cynllun nesaf. Dylai’r rhieni a’r plentyn gael eu cynnwys yn y broses hon.

Dylai Cynllun gael ei adolygu dair gwaith y flwyddyn gan na fydd yn ddogfen weithredol heb adolygiadau rheolaidd.

Beth yw Adolygiad Blynyddol o’r Datganiad?

Rhaid adolygu datganiad bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn parhau’n briodol.

Rhaid i’r ysgol gydlynu’r cyfarfod, er bod gan rieni’r hawl i ofyn am adolygiad ar unrhyw adeg os oes ganddynt bryderon gwirioneddol am lefel a math y ddarpariaeth a roddir i’w plentyn.

Bydd y Pennaeth yn gwahodd rhieni a gweithwyr iechyd proffesiynol , a gofynnir i bawb a wahoddwyd baratoi adroddiadau ysgrifenedig a fydd yn cael eu hystyried.

Diben y cyfarfod yw trafod cynnydd, y ddarpariaeth, targedau ac anghenion y plentyn. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un i fynegi eu pryderon.

Bydd crynodeb ar gael i bawb oedd yn bresennol, gyda chopi’n cael ei anfon at yr Awdurdod Lleol er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer diwygio’r datganiad. Os nad yw rhieni’n hapus ag unrhyw ddiwygiadau, gallant apelio i’r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig (TAAA) (am ragor o wybodaeth am apelio, gweler Apelio a Thribiwnlysoedd).

Beth yw’r adolygiad Pontio?

Mae pontio’n cyfeirio at newid cyfnod addysgol neu sefydliad addysg.

Mae Adolygiad Pontio’n cymryd lle Adolygiad Blynyddol cyn pontio.Mae ysgolion yn cael eu hannog i gynnal yr adolygiad pontio yn Nhymor yr Hydref cyn y symud er mwyn caniatáu digon o amser i gynllunio.

Os yw’r plentyn yn symud ysgol, yna dylid gwahodd cynrychiolydd o’r ysgol newydd, fel arfer y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig, i’r cyfarfod.

Yn achos yr adolygiad pontio cyn pontio 14+ ac 16+ oed dylid cynnwys Gyrfa Cymru, gweithiwr cymdeithasol os yn briodol, a’r person ifanc ei hun.

Beth yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer yr adolygiadau hyn?

Dylech gadw’r canlynol mewn cof:

  • A oes gennych chi gopïau o’r Cynllun Addysg Unigol?
  • A yw’n hysbys pwy fydd yn bresennol yn y cyfarfod?
  • A ydych chi wedi cael adroddiadau ysgrifenedig cyn yr adolygiad?
  • A wyddoch chi pa faterion sy’n debygol o gael eu codi gan yr ysgol?
  • A oes gennych chi unrhyw broblemau/pryderon yr hoffech eu trafod?
  • A yw barn y plentyn yn hysbys?

Cysylltwch â’r ysgol i sicrhau eu bod wedi gwahodd y bobl briodol. Os nad ydynt, gofynnwch iddynt wneud hynny. Mae’n bwysig eu bod yn bresennol, ond os na allant ddod i’r cyfarfod, gofynnwch i’r cyfarfod gael ei aildrefnu, neu o leiaf sicrhau bod eu cyngor ysgrifenedig ar gael.

Gwrthodwyd lle i fy mhlentyn yn yr ysgol o fy newis. Pam?

O bryd i’w gilydd bydd teulu’n gwneud cais i ysgol nad yw yn eu dalgylch am fod yn well ganddynt yr ysgol honno, ond gall yr ysgol wrthod mynediad i’r disgybl hwnnw.

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros wrthod yw bod yr ysgol yn llawn neu eu bod yn teimlo na allant ddiwallu anghenion y plentyn dan sylw. Os gwrthodir lle i blentyn yn yr ysgol yna mae gan y rhieni hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad drwy ddilyn y weithdrefn apelio a amlinellir gan yr ysgol.

Sut allaf fi fynd ati i baratoi ar gyfer yr apêl?

Gall y cwestiynau canlynol eich helpu gyda’ch apêl:

  • A ydych chi wedi cael hysbysiad ffurfiol o’r penderfyniad, ynghyd â rhesymau?
  • A yw’r ysgol wedi’i henwi ar ddatganiad eich plentyn?
  • A oes gan y rhiant blant eraill yn yr ysgol?
  • A fyddai’r ysgol yn mynd yn fwy na 10% dros ei chwota o ddisgyblion pe bai’r plentyn yn cael ei dderbyn? Ni all ysgolion dderbyn disgybl pe byddent yn mynd yn fwy na 10% dros nifer y disgyblion y cytunwyd arno.
  • A yw’r plentyn yn byw o fewn dalgylch yr ysgol dan sylw?

Hefyd: Cysylltwch â’r ysgol neu’r Awdurdod Lleol i ofyn am wybodaeth ar sut mae’r broses apelio’n gweithio. Byddai’n syniad da hefyd i drefnu cyfarfod â’r ysgol i sicrhau bod yr holl ffactorau perthnasol wedi’u hystyried pan wnaethpwyd y penderfyniad..

Mae fy mhlentyn yn cael anhawster ymdopi â’i waith ysgol. A oes unrhyw help ar gael?

Gall rhieni fod yn ansicr ynglŷn â pha help ychwanegol mae eu plentyn yn ei gael yn yr ysgol neu efallai y byddant yn teimlo nad yw’n cael digon o help.

Gall yr ysgol ddarparu cymorth ar wahanol gamau a lefelau. Er mwyn gofalu am yr ystod o alluoedd mewn dosbarth gall athro roi gwaith symlach (neu anoddach) i rai plant – gelwir hyn yn wahaniaethiad.

Gall plant sydd â lefelau angen uwch gael eu rhoi ar yr Ymateb Graddedig fel yr amlinellwyd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Cymru 2002.

Mae gan fy mhlentyn Gynllun Addysg Unigol. Beth yw’r cam nesaf?

Os oes gan blentyn Gynllun Addysgu Unigol a’i fod yn cael cymorth gan staff yn yr ysgol h.y. athro dosbarth, Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCo), Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (LSA), dywedir eu bod ar Flynyddoedd Cynnar / Gweithredu gan yr Ysgol.

Os gwelir, ar ôl monitro, nad yw’r plentyn yn dangos dim neu fawr ddim cynnydd yna gall gael ei symud i Flynyddoedd Cynnar / Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.

Mae fy mhlentyn yn cael ei symud i Flynyddoedd Cynnar / Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. Beth mae hyn yn ei olygu?

Bydd hyn yn digwydd pan fydd plentyn sydd â Chynllun Addysg Unigol, yn cael ei gynorthwyo gan yr ysgol a hefyd yn cael cymorth gweithwyr proffesiynol o’r tu allan i’r ysgol, megis Seicolegydd Addysg, Therapydd Iaith a Lleferydd, athro arbenigol, yn ddibynnol ar anghenion y plentyn.

Mae cynnydd yn cael ei fonitro ac os nad oes cynnydd digonol yn cael ei wneud, gellir gofyn am Asesiad Statudol.

Beth yw Asesiad Statudol?

Mae hwn yn asesiad llawn a chynhwysfawr o anghenion y plentyn sy’n cael ei gydlynu gan yr Awdurdod Lleol (ALl).

Bydd y cais amdano’n cael ei wneud gan yr ysgol fel arfer, ond mae gan rieni hawl i wneud cais yn uniongyrchol i’r ALl os ydynt yn dymuno..

Beth allaf fi ei wneud i sicrhau bod fy mhlentyn yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arno?

Dylai’r canlynol eich helpu i ddeall pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.

  • A oes gan y plentyn Gynllun Addysg Unigol ac os oes, a yw wedi’i rannu â’r rhiant?
  • A yw’r pryderon wedi’u trafod â’r ysgol?
  • A yw’r ysgol wedi mynegi unrhyw bryderon / problemau â’r rhiant?
  • A ydych chi’n gwybod pa gymorth ychwanegol, os o gwbl, mae’r plentyn yn ei gael?
  • A oes rhywun wedi holi’r plentyn beth yw ei farn am yr ysgol?
  • A oes gweithwyr proffesiynol o’r tu allan i’r ysgol wedi cyfrannu o gwbl at addysg y plentyn?
  • A yw’r rhiant a’r ysgol yn cytuno ynglŷn â beth yn union yw anawsterau’r plentyn?

Pan fydd yn amlwg pa gam mae’r plentyn wedi’i gyrraedd o fewn yr ymateb graddedig, bydd wedyn yn haws i weld beth ddylai’r cam nesaf fod. Gall rhieni wedyn ofyn cwestiynau ar sail gwybodaeth a all helpu i symud y broses yn ei blaen. Mae’n bwysig dros ben bod teuluoedd yn gweithio mewn partneriaeth â’r ysgol.

Beth allaf fi ei wneud os wyf yn anghytuno â’r broses asesu statudo?

Gall rhiant apelio:

  • Os yw’r Awdurdod Lleol (ALl) yn gwrthod asesu neu ailasesu anghenion plentyn yn ffurfiol (ni fydd yr ALl yn ystyried cais pellach nes bydd cyfnod o 6 mis wedi mynd heibio ers y cais diwethaf)
  • Os yw’r ALl yn gwrthod cyhoeddi neu’n methu â chynnal datganiad anghenion addysgol.
  • Yn erbyn cynnwys Rhan 2 a/neu Ran 3 y datganiad terfynol neu ddiwygiedig.
  • Yn erbyn yr ysgol a enwyd yn Rhan 4 y datganiad terfynol.
  • Os nad yw’r ysgol wedi’i henwi yn Rhan 4 y datganiad terfynol.

Pan fydd rhiant yn anghytuno â phenderfyniad a wnaethpwyd gan yr ALl sy’n ymwneud ag unrhyw rai o’r uchod ac yn dymuno’i  herio, mae ganddynt hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC). Mae TAAAC yn gorff annibynnol a sefydlwyd i glywed anghydfodau rhwng rhieni a’r ALl. Gall SNAP Cymru helpu i’ch arwain drwy’r broses hon.

Beth allaf fi ei wneud os wyf yn teimlo bod yr ysgol wedi gwahaniaethu yn erbyn fy mhlentyn oherwydd ei anabledd?

Os bydd rhiant yn teimlo bod eu plentyn wedi dioddef gwahaniaethu neu wedi cael ei drin yn annheg oherwydd ei anabledd mae ganddynt hawl i apelio i’r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (SENDisT). Cysylltwch â SNAP Cymru os hoffech gael help â’r broses hon.

Gall rhiant wneud hawliad i’r tribiwnlys yn erbyn gwahaniaethu ar sail anabledd yn ysgolion Cymru, gan gynnwys ysgolion meithrin a dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio anabledd fel ‘nam corfforol neu feddyliol sydd wedi cael effaith negyddol sylweddol a thymor hir ar allu unigolyn i wneud gweithgareddau beunyddiol normal’.

Sut allaf fi wybod os oes gwahaniaethu’n digwydd?

Mae dwy ffordd o adnabod gwahaniaethu:

  • Triniaeth llai ffafriol – Gall ysgol fod yn gwahaniaethu os yw’n trin plentyn yn “llai ffafriol” am reswm sy’n gysylltiedig â’i anabledd, ac na all gyfiawnhau’r driniaeth honno.
  • Methiant i gymryd camau rhesymol – Gellir cyhuddo’r ysgol o wahaniaethu os nad yw’n cymryd ‘camau rhesymol’ i sicrhau nad yw eich plentyn o dan anfantais sylweddol o’i gymharu â’r disgyblion eraill yn yr ysgol.

Faint o amser sydd gennyf i apelio?

Mae cyfyngiad amser o 6 mis ar gyfer gwneud hawliad sy’n dechrau o’r amser pan ddigwyddodd y gwahaniaethu ar sail anabledd honedig.

Sut fyddaf fi’n gwybod bod fy mhryderon yn cael eu cymryd o ddifrif?

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun:

  • A ydych chi wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan yr Awdurdod Lleol (ALl)? Ni ellir apelio nes byddwch wedi cael hysbysiad ffurfiol o’r penderfyniad neu wedi cael y datganiad terfynol.
  • A ydych chi wedi cael llyfryn i rieni o’r enw ‘Sut i apelio’ ar gyfer apeliadau AAA neu ‘Sut i wneud hawliad’ ar gyfer Apeliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd?
  • A ydych wedi cysylltu â’r ALl i drafod pryderon?
  • A yw’r Gwasanaeth Datrys Anghydfod lleol wedi ei ddwyn i’ch sylw neu a ydych wedi’i ddefnyddio?

Ni fydd cymryd rhan yn y broses Datrys Anghydfod yn effeithio ar hawl rhieni i apelio i TAAAC.

Beth os na fyddaf yn fodlon â phenderfyniad yr Awdurdod Lleol?

Os, ar ôl trafod y mater â’r Awdurdod Lleol, bydd rhiant yn dymuno apelio i TAAAC neu SENDisT, mae ganddynt 2 fis o’r dyddiad pan gawsant y llythyr yn eu hysbysu o’r penderfyniad neu’r datganiad terfynol neu ddiwygiedig i gyflwyno apêl.

Fel arfer, bydd y broses apeliadau AAA gyfan, o’r cofrestru i’r gwrandawiad a chyhoeddi penderfyniad, yn cymryd rhwng 3 a 4 mis.

Cysylltwch â SNAP Cymru os hoffech gael help i’ch arwain drwy’r broses hon.

 phwy allaf fi gysylltu ynghylch apelio?

Efallai y bydd y mudiadau canlynol yn help i chi yn y maes hwn:

Gwasanaeth IPS SNAP Cymru

Bydd Cymdeithas y Gyfraith neu Ganolfannau Cyngor ar Bopeth lleol yn gwybod am gyfreithwyr a all eich helpu i apelio os bydd angen; hefyd, y cyfreithwyr hynny sy’n cynnig cyllid cyhoeddus..

Mae TAAAC a SENDisT ar gael yn: www.sentw.gov.uk neu ffoniwch 01597 829 800

A oes angen cymorth fy Adran Gwasanaethau Cymdeithasol lleol arnaf?

Mae angen cymorth Gweithiwr Cymdeithasol ar lawer o blant ag anableddau.

Mae gan bob Awdurdod Lleol Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gyfrifol am gydlynu cymorth a gwasanaethau i blant a’u gofalwyr.

Mae dyletswyddau Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnwys darparu gwasanaeth gweithiwr cymdeithasol, cadw cofrestr o blant anabl, darparu gwybodaeth am y gwasanaethau a gynigir ganddynt ac asesiadau o angen ar gyfer plant a’u teuluoedd.

Bydd gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol pob Awdurdod Lleol:

  • Tîm Anabledd Plant
  • Tîm Amddiffyn Plant
  • Tîm Plant mewn Angen
  • Tîm Plant sy’n derbyn gofal
  • Tîm Mabwysiadu.

Mae dyletswydd ar Wasanaethau Cymdeithasol o dan adran 17 (10) Deddf Plant 1989 i ddiogelu ac i hybu buddiannau plant mewn angen. Plant mewn angen yw rhai o dan 18 oed ac sydd ‘yn annhebygol o gyrraedd neu gynnal, neu gael y cyfle i gyrraedd neu gynnal safon resymol o iechyd neu ddatblygiad heb i Awdurdod Lleol ddarparu gwasanaethau iddo’.Mae’r Ddeddf yn cydnabod bod plant anabl yn blant mewn angen.

Mae gan bob plentyn felly hawl i gael asesiad i benderfynu a yw’n blentyn mewn angen a bydd hyn yn nodi’r gwasanaethau a dybir sy’n briodol ac yn angenrheidiol. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall arwain at gyfleoedd rhannu gofal / gofal seibiant a chymorth ymarferol yn y cartref.

Cwestiynau allweddol:

  • Pam ydych chi’n teimlo bod angen cymorth Gwasanaethau Cymdeithasol arnoch?
  • A ydych chi’n ymwybodol o’r mathau o gymorth y gall Gwasanaethau Cymdeithasol eu darparu yn eich ardal?
  • HA yw eich plentyn wedi cael unrhyw asesiadau gan Wasanaethau Cymdeithasol?

Sut ydw i’n gwneud cais am gymorth gan fy Adran Gwasanaethau Cymdeithasol lleol?

I holi a ydych chi’n gymwys a / neu pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal cysylltwch â’ch Adran Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.

Neu, gall teulu gael help gan eu Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd, Nyrs Gymunedol, Paediatregydd neu drwy fudiadau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau yn eich ardal.

Yn yr un modd ag y mae gan blentyn hawl i gael asesiad craidd / plentyn mewn angen, mae gan riant / gofalwr hawl hefyd i gael eu hasesiad eu hunain i sicrhau bod eu hanghenion hwythau’n cael eu diwallu. Gall Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd ddarparu help a chyngor yn ymwneud â budd-daliadau a thaliadau y gallwch eu hawlio ar gyfer eich plentyn.

Beth yw Asesiad Statudol?

Mae Asesiad Statudol yn asesiad cynhwysfawr, ffurfiol, amlasiantaethol o anghenion plentyn ac sy’n cael ei gydlynu gan yr Awdurdod Lleol (ALl).

Fel arfer bydd yr ysgol neu weithiwr proffesiynol arall yn gwneud cais am yr asesiad, ond mae gan rieni hawl i wneud cais ysgrifenedig uniongyrchol i’r ALL os ydynt yn dymuno.

Os yw plentyn yn ‘derbyn gofal’ gan yr awdurdod lleol, rhaid i’r cais gael ei wneud gan bwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant.

Faint o amser ddylai gymryd?

Mae’r broses, o’r dechrau i’r diwedd, yn cymryd tua 26 wythnos.

Sut mae Asesiad Statudol yn cael ei gynnal?

Yn ystod y cam cyntaf, bydd yr Awdurdod Lleol (ALl) yn casglu gwybodaeth ragarweiniol gan y rhiant a gweithwyr proffesiynol cyn penderfynu a yw am fwrw ymlaen ag asesiad llawn neu beidio.

Os bydd yr ALl yn gwrthod cynnal asesiad, bydd y rhieni a’r ysgol yn cael eu hysbysu’n ysgrifenedig a gall y rhieni apelio i TAAAC os ydynt yn anghytuno â’r penderfyniad (am ragor o wybodaeth am apelio a TAAAC, gweler Adran 1 ar Apeliadau a Thribiwnlysoedd.)

Os penderfynir cynnal asesiad, bydd yr ALl yn gofyn am wybodaeth fwy manwl gan bawb sy’n gysylltiedig â’r achos. Bydd yr wybodaeth fanwl yn cael ei hystyried gan banel o weithwyr proffesiynol, a all benderfynu cyhoeddi Nodyn yn Lle datganiad arfaethedig / drafft o Anghenion Addysgol Arbennig.

Mae Nodyn o’r fath yn amlinellu anghenion y plentyn mewn ffordd debyg iawn i ddatganiad ond nid yw’n ddogfen gyfreithiol. Gall rhieini apelio ar yr adeg hon yn erbyn y penderfyniad i beidio cyhoeddi datganiad. Mae datganiad yn ddogfen gyfreithiol ac mae cyfrifoldeb ar yr ALl i gyflawni’r ddarpariaeth a amlinellir.

Pan fydd rhieni’n hapus â chynnwys y datganiad arfaethedig, bydd datganiad terfynol yn cael ei gynhyrchu. Os yw rhieni’n anhapus â’r datganiad terfynol, gallant apelio i TAAAC.

Cyn mynd ag achos i dribiwnlys, cysylltwch â SNAP Cymru am arweiniad ar sut i fwrw ymlaen.

Sut ddylwn i baratoi ar gyfer Asesiad Statudol?

Bydd meddwl am y cwestiynau hyn yn eich helpu cyn i asesiad gael ei gynnal.

  • Pam mae’r rhieni/ysgol yn teimlo bod angen cynnal Asesiad Statudol?
  • A ofynnwyd i’r ysgol egluro’r broses i chi?
  • A ofynnwyd i’r rhieni am eu barn?
  • A yw’r rhiant / ysgol wedi gofyn i’r plentyn am ei farn?
  • A yw pob apwyntiad, yn enwedig rhai meddygol, wedi’u cadw?
  • A ofynnwyd i’r ALl am unrhyw anghydfod a all fodoli?

Sut allaf fi wneud yn siŵr y bydd yr asesiad mor llwyddiannus â phosibl?

Siaradwch â’r ysgol am y sefyllfa gan y bydd gweithio mewn partneriaeth yn golygu bod y cais yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus.

Mae gan bob Awdurdod Lleol (ALl) Adran Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), er bod y teitl yn gallu amrywio o Sir i Sir. Mae gan rai ALlau swyddogion cyswllt rhieni a all helpu ond hyd yn oed os nad oes ganddynt un, bydd rhywun ar gael i drafod eich pryderon.

Mae gan SNAP Cymru wybodaeth am Amserlen yr Asesiad, Datganiadau a Nodyn yn Lle Datganiad yn ein hadran Help a Chymorth.

Beth yw Pontio?

Mae pontio’n golygu symud o un cyfnod i un arall. Mewn addysg, mae’n golygu symud o un cyfnod allweddol i un arall neu symud sefydliad addysg.

Gall cyfnodau pontio fod yn arbennig o anodd i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), felly bydd angen trin y sefyllfa’n sensitif.

Bydd rhannu gwybodaeth briodol pan fydd disgybl yn newid ysgol yn rhan angenrheidiol o unrhyw bontio, ac yn achos rhai â datganiad anghenion addysgol arbennig mae’n arfer i SENCO yr ysgol newydd fod yn bresennol yn adolygiad blynyddol y disgybl er mwyn cyfarwyddo’u hunain ag anghenion y disgybl.

O Flwyddyn 9 ymlaen mae llunio ac adolygu’r cynllun pontio’n flynyddol yn orfodol i’r disgyblion hynny â datganiad anghenion addysgol. Mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am lunio cynllun pontio ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc â datganiad anghenion addysgol. Mae hyn yn cynnwys rhai nad ydynt yn cael eu haddysgu mewn ysgol h.y. rhai ag anawsterau iechyd neu anabledd, rhai sy’n mynd i Uned Cyfeirio Disgyblion a rhai sy’n cael eu haddysgu gartref.

Mae Gyrfa Cymru yn gyfrifol am ganfod ac ail ymgysylltu â’r rhai hynny nad ydynt yn cael addysg ffurfiol.

Beth fydd cynnwys  y cynllun pontio?

Byddai amlinelliad cyffredinol o’r cynllun pontio yn cynnwys y canlynol:

  • Dewisiadau addysg Ôl-16 oed, gan gynnwys Addysg Bellach ac Uwch a cholegau arbenigol.
  • Cyfleoedd hyfforddi a gwaith.
  • Trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol..
  • Cael help i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol.
  • Gwybodaeth am weithgareddau hamdden, arian ac iechyd.
  • Cynllunio ar gyfer byw’n annibynnol, llety, tai ac ati.

Pwy ddylai fod yn bresennol yng nghyfarfod y cynllun pontio?

Mae presenoldeb y canlynol yn hanfodol yng nghyfarfod y cynllun Pontio:

  • Y Rhiant / Gofalwr a’r Plentyn
  • Y Pennaeth neu ei gynrychiolydd, fel arfer Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) yr ysgol
  • Gyrfa Cymru
  • Gwasanaethau Cymdeithasol h.y. Tîm Gofal Anabledd y Plentyn / Tîm Cymorth Cymunedol, Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal

Gallai’r canlynol hefyd fod yn bresennol, os yn briodol:

  • Iechyd
  • Lles Addysg
  • Seicoleg Addysg
  • Therapi Galwedigaethol
  • Ffisiotherapi
  • Timau Troseddau Ieuenctid
  • Gwasanaethau Partneriaethau Rhieni
  • Cynrychiolydd y Sector Gwirfoddol.

Sut dylwn i baratoi ar gyfer y cyfarfod pontio?

Ystyriwch y canlynol cyn mynd i’r cyfarfod pontio fel na fyddwch yn cael eich taro gan unrhyw beth annisgwyl.

  • Beth hoffech chi ei weld yn digwydd?
  • A ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich cynnwys yn y broses bontio?
  • A yw’r SENCO wedi trosglwyddo’r holl wybodaeth berthnasol i’r bobl briodol?
  • A ydych weld ymweld ag unrhyw ddarpar leoliadau posibl?
  • A ydych chi wedi cael cyfle i drafod eich anghenion â’r lleoliad nesaf?
  • A ydych chi’n teimlo’n hapus â’r ffordd mae’r broses gynllunio’n mynd yn ei blaen ac a yw eich llais yn cael ei glywed?

Ar ôl canfod beth yw barn y plentyn, byddem yn argymell y canlynol:

  • Siarad â’r ysgol i ganfod beth yw’r opsiynau a’u hargymhellion
  • Cysylltu â’r Awdurdod Lleol i gael gwybod pa ysgolion fyddai’n addas ar gyfer y plentyn a threfnu i ymweld â hwy
  • Siarad â chynghorydd gyrfaoedd i weld pa opsiynau sydd ar gael i’r plentyn a beth fydd angen i’r plentyn ei wneud i fanteisio arnynt.

Sut ydw i’n sicrhau trafnidiaeth ar gyfer fy mhlentyn i’r ysgol o’n dewis?

Mae’r Awdurdod Lleol (ALl) yn gyfrifol am ddarparu lleoliad addysg llawn amser mewn un o ysgolion yr Awdurdod i blant sy’n byw yn ardal yr Awdurdod hwnnw.

Mae gan bob ysgol brif ffrwd ddalgylch ac, fel rheol, bydd plentyn yn cael ei addysg yn ei ysgol ddalgylch.

Os yw teulu’n dewis anfon eu plentyn i ysgol wahanol i’r un a gynigir iddynt, maent hwy eu hunain wedyn yn gyfrifol am drefnu ac am dalu costau trafnidiaeth.

Os gellir dangos, fodd bynnag, nad yr ysgol ddalgylch yw’r lleoliad mwyaf addas i’r plentyn, yna bydd yr ALl yn darparu trafnidiaeth i’r lleoliad agosaf sy’n addas o fewn yr Awdurdod..

Gall y rhesymau pam nad yw ysgol yn addas gynnwys diffyg cyfleusterau neu arbenigedd i ddiwallu anghenion addysgol y plentyn neu fod yr ysgol yn un cyfrwng Saesneg a bod y teulu am gael addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae copïau o bolisi trafnidiaeth pob ardal ar gael gan yr ALl.

Sut dylwn i baratoi fy nghais am drafnidiaeth?

Dylid cysylltu â’r ALl i ofyn am gopi o’u polisi trafnidiaeth i gael gwybod beth yn union y gellir ei ddisgwyl ganddynt.

Pan fyddant yn deall y polisi a’r weithdrefn, bydd rhieni wedyn mewn sefyllfa llawer gwell i lunio dadl neu godi unrhyw bwyntiau maent yn credu sy’n berthnasol.

Drwy siarad â’r ysgol a rhieni eraill, byddwch yn sylweddoli nad ydych ar eich pen eich hun wrth wneud cais a gall helpu os byddwch yn gweld nad ydych yn herio penderfyniad ar eich pen eich hun.