Y diweddaraf am ddiwygio Dysgu Ychwanegol

Yn ôl pob tebyg, rydych wedi clywed bod newidiadau yn yr arfaeth i’r ffordd y bydd anghenion addysgol arbennig (AAA) plant a phobl ifanc yn cael eu canfod, eu hasesu a’u diwallu yng Nghymru.

Cafodd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi ar 6 Gorffennaf 2015 yn yr adran ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru (LlC).  Cafodd y Bil ei gyflwyno’n ffurfiol i Raglen Ddeddfwriaethol Gymreig y Cynulliad yn y Cynulliad nesaf yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2016.

Bydd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn cael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn Nadolig 2016.

Bydd pwyllgor y Cynulliad yn craffu ar y Bil, a naill ai’n cytuno neu’n anghytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil neu’n gwneud argymhellion ar gyfer diwygio’r Bil.

Unwaith y bydd y pwyllgor wedi cytuno ar y Bil, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei basio, caiff ei gyflwyno ar gyfer Cydsyniad Brenhinol wedyn. Ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol, bydd y Bil yn dod yn Ddeddf Cynulliad a gellir dechrau’r gyfraith newydd.

Bydd fersiwn ddrafft o’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gael er mwyn helpu Aelodau Cynulliad i graffu ar y Bil.

Yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, bydd y Cod ADY a’r rheoliadau sy’n ategu’r Ddeddf yn cael eu diwygio wedyn (yn seiliedig ar unrhyw argymhellion ar gyfer gwelliannau) ac yn destun ymgynghoriad. Yna byddant yn cael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad a’u cyhoeddi.

Mae nifer o deuluoedd pryderus wedi cysylltu â ni yn ddiweddar ar ôl cael gwybod nad yw’r ALl yn ‘llunio datganiadau ar gyfer plant’ yn eu hardal.   Cyn i’r Bil ddod yn ddeddf mae’r Gweinidog wedi dweud lawer gwaith:

 “Rwyf eisiau pwysleisio er hynny fod yr holl gyfrifoldebau a gofynion sy’n gysylltiedig â’r fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn aros yn eu lle am y tro.  Byddaf yn ysgrifennu at yr awdurdodau lleol i’w hatgoffa o hyn.”  (Mae hyn yn cynnwys asesiad statudol a llunio datganiadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd eu hangen)

Mae llawer o Awdurdodau Lleol wedi dweud wrth rieni

 ” Nid ydym yn derbyn caisiadau am asesiadau statudol oherwydd mae’r Llywodraeth yn dod â Bil newydd ar gyfer AAA. Rydym am datblygu cynlluniau datblygu annibynnol. Mae popeth ar fin newid, felly, nid ydym yn ysgrifeni datganiadau bellach”

Mae Simon Thomas, AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi dweud

“…mae awdurdodau a chynghorau’n dweud wrth etholwyr, rhieni a disgyblion, ‘Nid ydym am fwrw ymlaen ar hyn o bryd oherwydd mae Bil yn yr arfaeth a bydd popeth yn newid a byddwn yn adolygu’r sefyllfa pan fydd y Bil gennym’.”

Mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu at bob Awdurdod Lleol i sicrhau eu bod yn gweithredu o fewn y gyfraith ac yn sicrhau eu bod yn dilyn y gofynion cyfredol a’r canllawiau i Asesu plentyn yn Statudol pan fo gan y plentyn anawsterau dysgu sy’n gofyn am ddarpariaeth AAA ar ei gyfer.  Cysylltwch â SNAP Cymru os bydd angen cyngor annibynnol arnoch chi.

Y camau nesaf ar gyfer AAA/ADY yng Nghymru

Yn ôl pob sôn, mae gan y Bil drafft gefnogaeth drawsbleidiol eang. Blwyddyn academaidd 2017/18 yw’r cynharaf y gallai unrhyw gynigion ddod i rym

 

Y prif newidiadau

  1. Bydd y termau ‘anghenion dysgu ychwanegol’ a ‘darpariaeth ddysgu ychwanegol’ yn cymryd lle Anghenion Addysgol Arbennig a Darpariaeth Addysgol Arbennig.

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cynnwys yr union ddiffiniadau. Bydd y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol yn cynnwys pawb y credir bod ganddynt AAA ar hyn o bryd (h.y. plant a phobl ifanc sy’n cael cymorth drwy Gweithredu gan yr Ysgol/Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar, Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy/Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy ac sydd â datganiadau o AAA).  Hefyd, bydd y term yn cael ei ddefnyddio am bobl ifanc hyd at 25 oed sy’n cael eu disgrifio fel rhai sydd ag Anawsterau ac Anableddau Dysgu ar hyn o bryd.

Ni fydd y ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn wahanol iawn i’r diffiniad presennol o ‘ddarpariaeth addysgol arbennig’ – bydd yn gymwys i ddarpariaeth sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol fel arall i, y ddarpariaeth addysgol a wneir yn gyffredinol ar gyfer plant neu bobl ifanc o’r un oed, heblaw mewn ysgolion arbennig.

  1. Ehangu’r grŵp oedran i 0-25

Mae’r system bresennol yn cynnwys plant hyd at 16 oed neu 19 oed (yn ôl y math o ddarpariaeth ôl-16, h.y. a fyddant yn aros yn yr ysgol neu’n mynd i sefydliad addysg bellach). Bydd y system newydd yn helpu plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed.

  1. Yn lle Datganiadau o AAA ac Asesiadau Anawsterau Dysgu (asesiadau adran 139a ar gyfer y rheini sydd ym Mlwyddyn 11 ar hyn o bryd) ceir Cynllun Dysgu Unigol.

Bydd hwn yn rhoi amddiffyniad statudol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ledled Cymru.  Bydd y Cod Ymarfer newydd yn cynnwys strwythur manwl a safonau sylfaenol ar gyfer Cynllun Dysgu Unigol – mae hyn wedi’i groesawu gan fod pryderon wedi codi ynghylch gorsymleiddio a diffyg manylder yn y Cynllun Dysgu Unigol.

Credwn y dylai’r Cynllun Dysgu Unigol gynnwys y canlynol er mwyn bod yn effeithiol:

  •  anghenion cydnabyddedig y plentyn neu berson ifanc;
  •  y canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y plentyn neu berson ifanc;
  • y ddarpariaeth ychwanegol sydd ei hangen i gwrdd â’r anghenion hynny;
  • cynllun gweithredu sy’n dangos sut, pa bryd a chan bwy y bydd yr ymyriadau y cytunwyd arnynt yn cael eu darparu a sut y bydd y canlyniadau i ymyriadau’n cael eu mesur;
  • gwybodaeth ddigonol fel y bydd modd gorfodi’r ddogfen drwy’r gyfraith;
  • meini prawf ar gyfer llwyddiant a dyddiadau adolygu.

Bydd yn ofynnol i ysgolion annibynnol ddangos, wrth gofrestru, eu bod yn gallu cynnig y math o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen.

  1. Bydd y ddyletswydd statudol am baratoi a gweithredu Cynllun Dysgu Unigol ar yr awdurdod lleol, er mwyn sicrhau bod atebolrwydd am ddarparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd Ysgolion, Colegau ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn gorfod gwneud eu ‘hymdrechion gorau’ (gwneud popeth yn eu gallu) i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yng Nghynllun Dysgu Unigol y plentyn neu berson ifanc yn cael ei darparu.  Mae hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau lleol roi trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith i gyflawni, monitro ac adolygu eu dyletswyddau o ran anghenion dysgu ychwanegol. Bydd gwerthuso a chraffu’n bwysig iawn gan fod 85-100% o’r cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei ddirprwyo i ysgolion.

  1. Cod Ymarfer newydd ar gyfer AAA

Bydd Cod Ymarfer newydd ar gyfer AAA sy’n cynnwys manylion y fframwaith cyfreithiol newydd. Bydd yn darparu canllawiau manwl i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd yn rhaid i’r Cod fod yn ddealladwy i deuluoedd ac adlewyrchu’r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’u plant. Rhaid i’r Cod fod yn glir, bydd yn cynnwys gofynion mandadol a bydd yn hawdd ei orfodi.

  1. Bydd angen i wasanaethau gydweithio’n hyblyg i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd a gofalwyr yn cael cymorth cydlynol sydd wedi’i gydgysylltu’n dda i’w helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol
  1. Trefniadau cryfach i fynnu bod Awdurdodau Lleol yn rhoi gwybodaeth a chyngor a bod Llywodraeth Cymru yn gosod canllawiau ac yn gwneud trefniadau effeithiol ar gyfer datrys anghytundebau ynghylch darpariaeth ddysgu ychwanegol rhwng plant a phobl ifanc, neu eu rhieni, a’r ysgol neu’r awdurdod lleol. Bydd hyn yn cynnwys prosesau cwyno a datrys anghydfodau cyn apelio i’r tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  1. Yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn:
  • penderfyniad ynglŷn ag a oes gan y sawl ADY a phenderfyniad gan ALl ynglŷn ag a oes angen paratoi a chynnal CDUi berson ifanc;
  • cynnwys y Cynllun Dysgu Unigol, gan gynnwys y disgrifiad o anghenion y plentyn neu berson ifanc neu’r ddarpariaeth addysgol i gwrdd â’r anghenion hynny;
  • methiant i gynnig y ddarpariaeth sydd wedi’i nodi yn y Cynllun Dysgu Unigol; 
  • yr ysgol a enwir mewn CDU at ddiben derbyn neu’r math o ysgol neu sefydliad a ddynodir yn y cynllun;
  • os na chaiff ysgol neu sefydliad ei enwi mewn CDU,
  • gwrthod cais i adolygu Cynllun Dysgu Unigol;
  • penderfyniad i beidio â chymryd y cyfrifoldeb am CDU yn dilyn cais i ystyried gwneud hynny;
  • penderfyniad i beidio â diwygio CDU; a
  • penderfyniad i beidio â pharhau â Chynllun Dysgu Unigol
  • Byddai pob un o’r uchod ar gael i blant a phobl ifanc 0-25 oed a’u teuluoedd

Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu system addysg sy’n ymateb i’w anghenion dysgu unigol ac rydym yn gobeithio y bydd y cynigion newydd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn cyfrannu at wireddu’r dyheadau hyn.  Rydym wedi ymgynghori â theuluoedd a phobl ifanc er mwyn ymateb i’r cynigion hyn a byddwn yn cyflwyno’r sylwadau i Lywodraeth Cymru yn y dyddiau nesaf.  Bydd ymateb SNAP Cymru yn cael ei osod ar y wefan cyn hir.

Er mwyn sicrhau llwyddiant y diwygiadau, rhaid i’r bartneriaeth rhwng ysgolion a rhieni fod yn rhan ganolog o’r broses gweithredu.  Mae pontio o un system i un arall, a chyflwyno Cynlluniau Dysgu Unigol yn lle Datganiadau yn enwedig, yn rhywbeth a allai achosi pryder.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni drwy ein llinell gymorth ar 0845 1203730 neu yn @snapcymru.org neu cysylltwch yn uniongyrchol ag amanda.daniels@snapcymru.org 01554778288.