Datrys Anghydfod yw’r broses ffurfiol lle mae’r Awdurdod Lleol (ALl) a/neu ysgolion a rhieni’n cwrdd i geisio dod o hyd i ateb i wahaniaeth barn yn ymwneud ag Anghenion Addysgol Arbennig.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yn darparu gwasanaeth datrys anghydfod annibynnol. Gall SNAP Cymru weithio gyda chi i ddatrys eich anghydfodau.

Continwwm Cymodi

Mae Gwasanaethau Partneriaethau Rhieni SNAP Cymru (GPRh) yn anelu at hyrwyddo partneriaeth rhwng plant, pobl ifanc, teuluoedd a phobl broffesiynol, a’u helpu i geisio cytundeb am ddarpariaeth cefnogaeth i blant a phobl ifanc. Trwy annog sgwrs agored a negodi, gellir osgoi gwrthdaro.

Caiff gwasanaethau cymodi eu cyflwyno drwy brosiectau lleol sy’n gweithio er mwyn sicrhau partneriaeth o ran cynllunio a gwneud penderfyniadau mor gynnar â phosib. Mae ein gwaith yn cefnogi ysgolion ac asiantaethau i feithrin perthynas bositif â theuluoedd.

Fodd bynnag, weithiau ni fydd datrys anghydfod yn anffurfiol yn arwain at gytundeb. Os yw hyn yn digwydd, gellir trefnu mynediad i wasanaeth datrys anghydfod ffurfiol SNAP Cymru.

Mae’r gwasanaeth datrys anghydfod yn annibynnol i’r Gwasanaeth Partneriaethau Rhieni ac mae’n galw ar sgiliau arbennig carfan o hwyluswyr wedi’u hyfforddi sy’n meddu ar wybodaeth arbenigol o anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan gynnwys Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac anableddau.

Gall awdurdodau lleol, ysgolion ac asiantaethau eraill gomisiynu gwasanaeth datrys anghydfod SNAP Cymru pan fo gofyn.

Pryd mae datrys anghydfod yn ffurfiol yn briodol?

  • Pan gyflwynir apêl gerbron Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (SENTW), Tribiwnlys Anghenion Arbennig ac Anableddau (SENDIST), neu
  • Pan geir anghytundeb a allai arwain at apêl, neu
  • Pan geir anghytundeb rhwng rhieni, yr ALl neu ysgolion, ac mae’r ddwy ochr yn cytuno i geisio dod o hyd i ateb.

Sut mae cael mynediad at y gwasanaeth?

  • Bydd yr ALl a SNAP Cymru yn cynnig y gwasanaeth. Gall rhieni ac ysgolion gysylltu â’u Hawdurdod Lleol, yr ysgol neu SNAP Cymru i ofyn am ddatrys anghydfod. Gall rhieni a’r ALl wneud cais i gael mynediad i’r gwasanaeth. Fodd bynnag, mae angen i bob ochr gytuno i gyfranogi’n llawn mewn ymgais i ddod i gytundeb. Bydd yr ALl yn cysylltu â SNAP Cymru gyda chytundeb rhieni..
  • Gall rhieni gysylltu â SNAP Cymru am ragor o wybodaeth a chyngor.
  • Bydd SNAP Cymru yn sefydlu’r broses o ddatrys anghydfod mor gyflym â phosib, fel arfer drwy drefnu trafodaethau a chyfarfodydd mor fuan â phosib a heb oedi fel na chaiff gweithredoedd pellach eu peryglu.
  • Bydd datrys anghydfod yn ceisio dod o hyd i ateb heb fod angen tribiwnlys.
  • Pe na bai’r cyfarfod yn llwyddo i ddod o hyd i gytundeb ar yr holl faterion sy’n cael eu trafod ac os yw apêl yn parhau, bydd modd i rieni a’r ALl ddangos eu bod wedi ceisio datrys y materion ac adrodd wrth SENTW (os ydynt yn gysylltiedig) am unrhyw feysydd y cytunwyd arnynt.

Sut mae’n gweithio?

  • Bydd SNAP Cymru yn darparu mynediad i hwylusydd profiadol sydd wedi’i hyfforddi, sy’n trefnu ac yn cadeirio trafodaethau a chyfarfodydd datrys anghydfod yn ffurfiol.
  • Bydd yr hwylusydd yn casglu cymaint o wybodaeth â phosib am yr anghydfod cyn trefnu cyfarfod datrys anghytundebau ffurfiol.
  • Yn ystod cyfarfodydd, ac yntau’n ddiduedd, bydd yr hwylusydd yn cynnal cydbwysedd grym rhwng yr awdurdod a rheini drwy esbonio prosesau, gan roi’r cyfle cyntaf i rieni siarad a gofyn am eglurhad ynghylch materion gan ddefnyddio iaith heb jargon.
  • Mae’r cyfle i’r ddwy ochr siarad a lleisio eu barn yn hollbwysig. Yma bydd yr hwylusydd yn nodi meysydd y cytunwyd arnynt ac yn gweithio gyda’r ddwy ochr i adeiladu ar dir cyffredin a magu dealltwriaeth gyffredin, gan nodi opsiynau posib ar gyfer cytundeb.
  • Yn ystod y cyfarfod, bydd yr hwylusydd yn crynhoi prif faterion yr anghydfod o safbwynt pob ochr.
  • Bydd yr hwylusydd yn gyfrifol am lunio nodiadau yn y cyfarfod a llunio drafft o unrhyw gytundeb a geir. Maent yn gyfrifol am gofnodi canlyniad y cyfarfod datrys anghydfod yn ysgrifenedig.
  • Mae’n bwysig bod y ddwy ochr yn cyfrannu at y broses o lunio a geirio’r cytundeb er mwyn ei berchenogi. Bydd yr hwylusydd yn ysgrifennu’r cytundeb gwirfoddol ac yn esbonio’i statws gwirfoddol. Ni ddylai unrhyw un deimlo’r pwysau i ddod i gytundeb a phe bai angen, gellir trefnu rhagor o gyfarfodydd.
  • Rhoddir copi o’r ddogfen ysgrifenedig i’r ddwy ochr ei llofnodi.

Pa ddeilliannau ddylen ni eu disgwyl?

  • Cytundeb gwirfoddol wedi’i negodi sy’n bodloni’r ddwy ochr lle nad oes angen rhagor o weithgarwch.
  • Y ddwy ochr yn teimlo bod yr holl opsiynau wedi eu harchwilio i’r eithaf.
  • Na ohiriwyd ac na newidiwyd unrhyw weithgarwch pellach heb fod cyfiawnhad am wneud hynny.
  • Cafwyd gwell dealltwriaeth rhwng pob ochr.