Gwaharddiad

Mae nifer o adroddiadau yn y blynyddoedd diwethaf, a phrofiadau SNAP Cymru wrth weithio â theuluoedd, yn dangos yn amlwg fod nifer o blant a phobl ifanc gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan gynnwys AAA ac anableddau, yn wynebu risg uwch o gael eu gwahardd o’r ysgol, bwlio ac allgáu cymdeithasol tymor hir na’r hyn a wynebir gan eu cyfoedion.

Mae SNAP Cymru wedi ymrwymo i leihau nifer y plant sy’n wynebu risg, drwy weithio ag ysgolion, teuluoedd a phobl ifanc i ddatrys materion a lleihau ymddygiad sy’n arwain at y risg o wahardd, bwlio, triwantiaeth, diffyg presenoldeb a difaterwch.

Cyflawnir hyn drwy –

  • Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth er mwyn datrys anghydfodau drwy gamau cychwynnol.
  • Cynnig cyngor a chefnogaeth i deuluoedd mewn Gwrandawiadau ac Apeliadau Disgyblu.
  • Hwyluso gweithio aml-asiantaeth er mwyn darganfod datrysiadau mewn ysgolion ac yn y gymuned.
  • Cefnogaeth gadarnhaol i bolisïau a gweithredoedd cynhwysfawr er mwyn lleihau neilltuo anghyfreithlon, gwirfoddol, cyfnod penodol a pharhaol.
  • Ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn comisiynu eiriolaeth a chynrychiolaeth uniongyrchol i bobl ifanc sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol neu o sefydliadau addysg

Mae gwaharddiad parhaol yn waharddiad lle mae’r ysgol yn teimlo bod disgybl wedi torri rheolau’r ysgol (y polisi ymddygiad) ac na ddylai’r disgybl hwnnw barhau yn yr ysgol honno oherwydd digwyddiad neu ddigwyddiadau.

Y pennaeth neu’r aelod staff uchaf ei rym yn unig a all wahardd. Gall pennaeth wahardd yn barhaol am drosedd gyntaf o dan rai amgylchiadau eithriadol.

Mae gwahardd yn barhaol yn benderfyniad difrifol a dylid ei ddefnyddio fel arfer fel ateb terfynol pan roddwyd cynnig ar yr holl strategaethau eraill a lle rhoddwyd cefnogaeth heb lwyddiant.

Y dewis olaf bob tro yw gwaharddiad. Dylid bod wedi archwilio strategaethau a chynlluniau unigol ar gyfer bodloni anghenion ymlaen llaw. Ni ddylid gwahardd ym merw’r digwyddiad oni bai bod yna fygythiad ar unwaith i ddiogelwch unigolion.

Dylai’r ysgol osod a marcio gwaith, y bydd angen i rieni/gofalwyr drefnu ei gasglu a’i ddychwelyd.

Os ydych yn gofidio am waharddiadau neu os hoffech chi dderbyn gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth annibynnol yn rhad ac am ddim, cysylltwch â’r:

Llinell Gymorth 0845 120 3730

SNAP Cymru: Gwaharddiad Parhaol

Os yw’ch plentyn wedi ei wahardd, darllenwch un o’r canllawiau isod.

Gwaharddiad Parhaol
Gwaharddiad Tymor Penodol
Gwaharddiad Gwirfoddol ac Amser Cinio

Sut dylid hysbysu rhieni/gofalwyr?

Dylai’r ysgol hysbysu’r rhiant/gofalwr dros y ffôn ar unwaith, pan fo hynny’n bosibl, ac yna drwy lythyr o fewn un diwrnod ysgol, a dylai’r llythyr esbonio:

  • bod y gwaharddiad yn un parhaol
  • y rhesymau am y gwaharddiad
  • hawl y rhiant/gofalwr a’r disgybl i roi cyflwyniad gerbron Pwyllgor Disgyblu’r Disgybl (PDD) a’r dyddiad olaf y gellir cynnal y cyfarfod
  • hawl y rhieni/gofalwyr i weld neu dderbyn copi o gofnodion ysgol eu plentyn ar gais ysgrifenedig yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001
  • manylion cyswllt y clerc i’r PDD
  • bydd angen i rieni/gofalwyr hysbysu’r clerc os ydynt yn dymuno mynychu’r PDD, ac os bydd ffrind neu gefnogwr yn dod gyda nhw, fel Cefnogwr Annibynnol i Rieni SNAP Cymru.

Beth all rhieni/gofalwyr ei wneud?

  • Siarad am y digwyddiad(au) gyda’r plentyn a chymryd nodiadau.
  • Darganfod manylion am y digwyddiad trwy ofyn cwestiynau sut?, ble?, pryd?, a phwy?.
  • Gofyn i’r ysgol am gopi o’i pholisi ymddygiad.
  • Edrych ar achosion posib ac a roddwyd lefel ddigonol o gefnogaeth.
  • Cymharu stori eich plentyn gyda fersiynau pobl eraill.
  • Rhestru unrhyw gwestiynau neu y0mholiadau sydd gennych ynghylch y gwaharddiad.

Yr hyn y bydd yr ysgol yn ei wneud

  • Rhoi’r cyfle i’r disgybl roi ei fersiwn ei hun o’r hyn a ddigwyddodd.
  • Cyfweld â thystion eraill gan gynnwys disgyblion eraill ac aelodau staff.
  • Ysgrifennu cofnod o’r rheswm am y gwaharddiad yn barod ar gyfer y PDD.
  • Casglu gwybodaeth am unrhyw gefnogaeth y gallai’r disgybl fod wedi ei chael, gan gynnwys pwy roddodd y gefnogaeth ac am ba hyd.
  • Dosbarthu unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig (gan gynnwys datganiadau tystion) i’r holl bobl sydd ynghlwm wrth y cyfarfod 5 niwrnod cyn y cyfarfod, yn ogystal â rhestr o bobl a fydd yn bresennol yn y cyfarfod.

Mae hwn yn waharddiad lle penderfynwyd na all plentyn fynychu’r ysgol am nifer benodol o ddiwrnodau oherwydd digwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau difrifol a digwyddodd sy’n groes i bolisi ymddygiad yr ysgol.

Gall gwaharddiad tymor sefydlog fod yn unrhyw beth o hanner diwrnod hyd at uchafswm o 45 niwrnod mewn blwyddyn ysgol. Y prifathro/awes neu’r athro/awes uchaf ei statws ar y safle all wahardd.

Sut dylid hysbysu rhieni/gofalwyr?

Dylai’r ysgol hysbysu rhieni/gofalwyr ar unwaith drwy eu ffonio pan fo hynny’n bosibl. Dylai llythyr ddilyn o fewn un diwrnod ysgol a rhaid iddo esbonio:

  • hyd y gwaharddiad e.e. dau ddiwrnod ysgol
  • y rheswm am y gwaharddiad
  • hawl y rhiant/gofalwyr a’r disgyblion i wneud sylwadau gerbron Pwyllgor Disgyblu. Nid oes gofyn i’r Pwyllgor gwrdd bob amser ond rhaid iddynt ystyried unrhyw gyflwyniadau gan rieni/ gofalwyr a disgyblion. Mae Pwyllgorau rhan fwyaf o ysgolion yn cwrdd ac yn gwahodd sylwadau.
  • y dyddiad a’r amser pan ddylai’r disgybl ddychwelyd i’r ysgol. (Yn aml bydd yr ysgol yn gofyn am gael gweld y rhiant cyn i’r disgybl ddychwelyd i’r ysgol).
  • y trefniadau er mwyn i’r disgybl dderbyn gwaith a osodwyd gan yr ysgol ac i’r gwaith gael ei farcio
  • hawl rhieni i weld cofnodion ysgol eu plentyn a/neu gael gafael arnynt yn dilyn cais ysgrifenedig yn unol â Rheoliadau Addysg Cymru (Cofnodion Disgyblion) 2004
  • manylion cyswllt rhywun yn yr Awdurdod Lleol (ALl) a all roi cyngor am y broses o wahardd

Mae rhai ALlau yn rhoi rhif ffôn eu Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni lleol. Yng Nghymru, SNAP Cymru yw’r gwasanaeth hwn fel arfer.

Yr hyn y bydd yr ysgol yn ei wneud

  • Caniatáu i’r disgybl gael y cyfle i roi ei fersiwn ef/hi o’r hyn a ddigwyddodd.
  • Cyfweld â thystion eraill gan gynnwys disgyblion eraill a staff.
  • Ysgrifennu cofnod o’r rhesymau am y gwaharddiad yn barod ar gyfer cyfarfod Pwyllgor Disgyblu’r Disgybl os cynhelir y fath gyfarfod.
  • Casglu gwybodaeth am unrhyw gefnogaeth y gallai’r disgybl fod wedi ei derbyn, gan gynnwys enw’r person a ddarparodd y gefnogaeth ac am ba hyd.
  • Os cynhelir Pwyllgor Disgyblu, dylai’r holl wybodaeth ac adroddiadau gael eu dosbarthu ymhlith pob parti o fewn 5 niwrnod ysgol i’r cyfarfod, ynghyd â rhestr o’r sawl sy’n mynychu.

Gwybodaeth ychwanegol

Dylai gwaharddiad bob amser fod yn ateb terfynol. Dylid fod wedi archwilio strategaethau a chynlluniau unigol i ateb anghenion ymlaen llaw. Ni ddylid gwahardd ym merw’r ddadl oni bai bod yna fygythiad ar unwaith i ddiogelwch unigolion. Ym mhob achos lle mae’r gwaharddiad yn fwy nag un diwrnod, dylai’r ysgol osod a marcio gwaith, y mae angen i rieni/gofalwyr drefnu ei gasglu a’i ddychwelyd.

Os caiff disgybl ei wahardd am fwy na 15 niwrnod, dylai’r Awdurdod Lleol sicrhau bod darpariaeth lawn-amser briodol ar gael i’r plentyn mewn ysgol arall (neu Uned Gyfeirio Disgyblion neu ganolfan arall os oes angen) o’r 16eg niwrnod ar ôl i waharddiad gael ei ategu gan y Pwyllgor Disgyblu (panel o 3 neu 5 o lywodraethwyr ysgol).

Ystyr gwaharddiad gwirfoddol yw bod ysgolion yn gofyn i rieni/gofalwyr gadw eu plentyn gartref fel ffordd o ymdrin ag anawsterau ymddygiad. Nid yw hyn yn arfer da ac mae’n amddifadu’r disgyblion o’u hawl i gael addysg ac mae’n amddifadu rhieni a disgyblion o’r hawl i apelio yn erbyn y math hwn o waharddiad. Bydd awdurdodau lleol (ALl) yn ystyried camau priodol pan fyddant yn darganfod bod ysgolion yn defnyddio gwaharddiad gwirfoddol.

Os ydych yn gofidio am waharddiadau neu os hoffech chi dderbyn gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth annibynnol yn rhad ac am ddim, cysylltwch â’r:

Llinell Gymorth 0845 120 3730

Beth all rhieni/gofalwyr ei wneud?

  • Mae rhieni/gofalwyr weithiau’n teimlo dan bwysau i dynnu eu plentyn allan o’r ysgol.
  • Os gofynnir i rieni gadw disgybl gartref, dylent ofyn i’r ysgol ei wneud yn swyddogol, h.y. gofyn i’r pennaeth ei nodi’n ysgrifenedig.
  • Gofyn i’r ysgol am gyfarfod i drafod y problemau er mwyn gweld os gellir gwneud rhywbeth e.e. newid dosbarth, cymorth ychwanegol. Rhaid i rieni a gofalwyr gofio bod methu â sicrhau bod plentyn yn mynd i’r ysgol yn gyson yn drosedd, ac y gallai rhieni wynebu’r risg o gael eu herlyn.

Gwaharddiad Amser Cinio

Dylai gwaharddiad amser cinio fod yn opsiwn tymor byr yn unig.

Dylid cofnodi gwaharddiad amser cinio fel chwarter diwrnod ysgol. Os yw cyfanswm yr holl waharddiadau amser cinio’n fwy na 5 niwrnod cyfan, bydd gan rieni/gofalwyr yr hawl i gyflwyno achos gerbron Pwyllgor Disgyblu’r Disgyblion (PDD).

Os yw disgybl yn derbyn cinio am ddim yn yr ysgol, rhaid eu bod yn derbyn y cinio hwnnw cyn iddynt adael safle’r ysgol, neu dderbyn pecyn bwyd y gellir ei fwyta oddi ar y safle. Gall fod gan ddisgybl broblemau yn ystod amser egwyl a chinio oherwydd angen addysgol arbennig neu anabledd. Mae trefnu cyfarfod gyda’r ysgol i drafod opsiynau yn aml yn fuddiol.

Gwaharddiad o deithiau’r ysgol

Weithiau, ni chaiff plant fynd ar deithiau’r ysgol, cymryd rhan mewn gweithgareddau oddi ar safle’r ysgol neu weithgareddau yn yr ysgol.

Mae’r Fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig yn bodoli er mwyn nodi a bodloni anghenion ychwanegol. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cryfhau’r fframwaith ac yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn disgyblion ag anableddau ac mae’n hyrwyddo cyfle cyfartal.

Mae’r diffiniad o ddisgybl ag anabledd yn eang a gallai gynnwys ystod eang o namau. Os yw ysgol yn trin disgybl ag anabledd yn llai ffafriol oherwydd yr anabledd heb fod cyfiawnhad dros wneud hynny, neu am reswm sy’n faterol a sylweddol, mae’n bosib eu bod yn torri’r gyfraith.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi creu arweiniad ar gyfer ysgolion ar y Ddeddf Cydraddoldeb a ddaeth i rym ar Hydref 1, 2010. Gallwch ei lwytho i lawr o wefan y Comisiwn.