Mae plant sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn ei chael yn fwy anodd dysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oedran, neu gallent fod ag anabledd sy’n eu hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio’r cyfleusterau addysgol sydd wedi’u darparu ar gyfer plant eraill. Gall oddeutu 1 o bob 5 o blant a phobl ifanc fod ag anghenion addysgol arbennig ar ryw adeg. Bydd ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn gallu helpu’r rhan fwyaf o blant i drechu’r anawsterau; bydd anghenion addysgol arbennig gan blant eraill drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol neu’r coleg. Bydd gan rai plant anghenion addysgol arbennig mewn meysydd dysgu penodol tra bydd angen cymorth ar eraill ar gyfer y cyfan neu’r rhan fwyaf o’r agweddau ar eu haddysg.

Beth yw “anghenion addysgol arbennig”? (Deddf Addysg 1996 a. 312)

  • Mae “AAA” gan blentyn os oes ganddo anhawster dysgu sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar ei gyfer

Beth yw “anhawster dysgu”? (Deddf Addysg 1996 a. 321)

  • Bod y plentyn yn cael anhawster wrth ddysgu sy’n fwy o lawer na’r rhan fwyaf o blant o’i oedran
  • Bod anabledd gan y plentyn sy’n ei atal neu ei rwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysgol o fath sy’n cael ei ddarparu’n gyffredinol ar gyfer plant o’i oedran yn ysgolion yr Awdurdod Addysg Lleol, neu
  • Bod plentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol a’i bod yn debygol, neu y byddai’n debygol pe na byddai darpariaeth addysgol arbennig yn cael ei gwneud ar ei gyfer, y bydd yn dod o fewn y diffiniadau uchod

Mae’n bosibl y bydd plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig yn profi anawsterau mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol:

  • Cyfathrebu a rhyngweithio (ei fynegi ei hun neu ddeall beth y mae pobl eraill yn ei ddweud)
  • Gwybyddiaeth a dysgu (darllen, ysgrifennu neu waith rhifau, neu ddeall gwybodaeth)
  • Ymddygiad, datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
  • Synhwyraidd a/neu gorfforol
  • Angen meddygol

Ni fydd anhawster dysgu gan blentyn dim ond am nad yw’r Gymraeg neu’r Saesneg yn iaith gyntaf iddo. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd anawsterau dysgu gan rai o’r plant hyn hefyd.

Mae rhai anawsterau dysgu yn glir o oedran cynnar, ond mewn rhai achosion mae’n bosibl na sylwir ar yr anawsterau nes bydd y plentyn yn yr ysgol.

Beth yw darpariaeth addysgol arbennig?

Darpariaeth addysgol arbennig yw’r help ychwanegol neu wahanol a roddir yn yr ysgol i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig. Yn achos plentyn o dan ddwy flwydd oed, mae unrhyw ddarpariaeth addysgol yn ddarpariaeth addysgol arbennig.

Mae llawer o fathau o ddarpariaeth addysgol arbennig. Yn achos y rhan fwyaf o blant sydd ag anawsterau dysgu ac anghenion addysgol arbennig, bydd yn cael ei darparu yn eu dosbarth neu grŵp prif ffrwd. Gall gynnwys gwaith grŵp neu gymorth unigol y tu mewn neu’r tu allan i’r ystafell ddosbarth brif ffrwd. Gallai hefyd olygu bod mewn dosbarth neu le dysgu arbenigol neu mewn ysgol arbennig. Yn achos plant a phobl ifanc eraill, mae’n bosibl y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu’n fwy priodol mewn cyfleuster addysgu arbenigol, uned cyfeirio disgyblion, ysgol arbennig neu goleg arbenigol.

Y Cod Ymarfer

Mae’r Cod Ymarfer AAA i Gymru’n rhoi canllawiau ymarferol i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgol, a sefydliadau sy’n derbyn arian gan lywodraeth i ddarparu addysg gynnar. Mae hefyd yn gymwys i’r rheini sy’n eu helpu, gan gynnwys gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r Cod Ymarfer AAA yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch sut i helpu disgyblion sydd ag AAA. Ni fydd anghenion arbennig pob plentyn yr un fath, felly mae’r Cod Ymarfer yn dweud y dylid ymateb yn raddedig wrth gwrdd â’u hanghenion. Rhaid i bob ysgol ac awdurdod lleol ddal sylw ar y Cod Ymarfer: mae hyn yn golygu nad ydynt yn cael ei anwybyddu.

SENCOP Cymru

Newidiadau arfaethedig yn y system AAA bresennol

Mae’r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch AAA yn Rhan IV o Ddeddf Addysg 1996. Er bod y diffiniad o AAA yn gymwys i blant a phobl ifanc sydd ag amrywiaeth eang o anghenion, mae’r ddeddfwriaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar y plant a phobl ifanc hynny ag anghenion mwy cymhleth sydd â hawl i gael datganiad AAA gan yr awdurdod lleol.  Yng Nghymru, mae anghenion addysgol arbennig gan oddeutu 22 y cant o’r holl ddisgyblion ac mae tua 3 y cant wedi cael datganiad am eu hanghenion addysgol arbennig.

Mae’r ddeddfwriaeth am ddysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach sydd ag anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 (‘Deddf 2000’). Mae’r ddeddfwriaeth ar AAD yn ymwneud â’r asesiad statudol (gan Weinidogion Cymru) o’r plant a phobl ifanc hynny sydd ag anghenion mwy cymhleth sy’n gadael ysgol ac yn bwriadu dilyn addysg bellach neu hyfforddiant.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud newidiadau yn y system hon; mae’n credu bod y derminoleg bresennol yn difrïo plant a phobl ifanc a’i bod ynghlwm wrth system y mae angen ei diwygio’n sylfaenol.  Mae hefyd yn credu bod diffyg eglurder yn y meini prawf ynghylch pa bryd ac ar gyfer pwy y dylid gwneud datganiad yn arwain at ddiffyg cysondeb rhwng awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu:

  • Cyflwyno’r termau ‘anghenion dysgu ychwanegol’ a ‘darpariaeth dysgu ychwanegol’ yn lle’r termau presennol ‘anghenion addysgol arbennig’ a ‘darpariaeth addysgol arbennig’.
  • A chyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol yn lle datganiadau AAA ac asesiadau ôl-16.

Cyflwynir Cod Ymarfer newydd i gyd-fynd â’r ddeddfwriaeth newydd a fydd yn cynnwys gofynion mandadol a chanllawiau y bydd y cyrff hynny ac eraill sy’n darparu addysg a hyfforddiant yn gorfod rhoi sylw dyladwy iddynt, h.y. rhaid iddynt beidio â’u hanwybyddu.  Bydd yr awdurdod lleol yn parhau’n gyfrifol am sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Unigol yn cael eu llunio ar gyfer y plant a phobl ifanc sydd â’u hangen ac am sicrhau bod y ddarpariaeth sydd wedi’i hargymell yn cael ei gweithredu.

I weld cynigion Llywodraeth Cymru > cliciwch yma