O fis Ebrill, bydd gennych fwy o lais yn y ffordd y mae eich gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu rhedeg.
Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym ar 6 Ebrill.
Dyma’r gyfraith newydd ar gyfer gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth.
Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu a’r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Bydd gan bobl mwy o lais yn y math o ofal a chymorth y byddant yn eu cael.
Mae’n hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael yn y gymuned i leihau’r angen am gymorth ffurfiol, wedi’i gynllunio.
- Bydd gwasanaethau ar gael i roi’r cymorth iawn, ar yr amser iawn
- Bydd mwy o wybodaeth a chyngor ar gael
- Bydd yr asesu yn symlach ac yn fwy cymesur
- Bydd gan ofalwyr yr un hawliau i gael eu hasesu am gymorth â rheini y byddant yn rhoi gofal iddynt
- Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso.
Asesiad Gofalwyr
Mae’r Deddf yn gosod dyletswyddau ar cynghorau lleol yng Nghymru i asesi anghenion gofalwyr sydd yn darpary gofal i blant anabl.
Bydd gan ofalwyr yr un hawliau â’r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran cael asesiadau am gymorth, a bydd gan fwy o bobl yr hawl i gael Taliadau Uniongyrchol.
Bydd proses asesu gofal a chymorth newydd yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi fel unigolyn. Bydd yn ystyried eich cryfderau personol a’r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, eich ffrindiau ac eraill yn y gymuned.
Bydd yr asesiad yn fwy syml a bydd modd i unigolyn ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau.
Bydd mwy o wasanaethau er mwyn rhwystro problemau rhag gwaethygu, er mwyn i’r cymorth cywir fod ar gael pan mae ei angen arnoch chi.
Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeulustod hefyd yn cael eu cyflwyno.
Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Byddwch yn dilyn y broses newydd yn eich asesiad nesaf.
Nid oes uchafswm nac isafswm oedran i gael cydnabyddiaeth fel gofalwr.
Cewch eich cydnabod fel gofalwr heb orfod profi eich fod yn darparu swm sylweddol o ofal yn rheolaidd.
Os yw’r asesiad yn cadarnhau bod gan ofalwr ‘anghenion cymwys’, mae ganddynt hawl i gael cynllun cymorth personol sy’n nodi beth fydd yr awdurdod lleol yn ei wneud i ddiwallu’r anghenion.
Plant ag anghenion gofal a chymorth
Maer Deddf yn effeithio ar y ffordd bydd plant anabl yn cael ei asesi. O fewn y deddf bydd pob plentyn Mewn Angen (anabl) yn gymwys i gael asesiad gofal cymdeithasol ac bydd rhagdybiaeth bod angen cymorth a gofal ir plant yma.
Fe fydd yr asesiad yn gofyn am beth sydd yn bwysig ir plentyn wrth benderfynu beth sydd angen arnynt i sicrhau ei llesiant.
Os ywr plenty mewn addysg neu hyfforddiant byddent yn cael cymorth i aros nes byddent yn 25 oed
Bydd Cynghorau Lleol yn gallu cyfuno asesiad i blant ag asesiad gofalwr os ydy’n fuddiol i wneud hynny.
Am wybodaeth pellach:
http://gov.wales/topics/health/socialcare/act/?skip=1&lang=cy