Mae’r amcan a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gael “system addysg gynhwysol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn seiliedig ar system sy’n hyblyg ac yn ymateb i anghenion cyfnewidiol dysgwyr. Budd yn cael ei chefnogi gan weithlu sydd â’r sgiliau a’r profiad a’r hyder i ddarparu’r system honno’n wirioneddol effeithiol; ac sydd â dealltwriaeth dda o ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lywio eu gwaith i sicrhau bod y strategaethau a’r ymyriadau sy’n cael eu gweithredu ar gyfer dysgwyr wedi eu teilwra i ddiwallu’r anghenion unigol hynny.” Mae’r amcanion yn cynnwys:
- Ymgorffori Egwyddorion cynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion
- Dyletswyddau’r iaith Gymraeg
- CDU statudol ar gyfer pob dysgwr ag ADY
- Awdurdodau lleol i fod yn gyfrifol am leoliadau arbenigol ôl-16
- Canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar
- Cydgysylltwyr ADY statudol
- Cryfhau’r rôl ar gyfer y gwasanaeth iechyd
- Osgoi anghytundebau a’u datrys yn gynnar
Y bwriad yw darparu dull sy’n canolbwyntio mwy ar unigolion felly byddwch yn clywed llawer am ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolion ac mae mwy o ALl drwy Gymru eisoes wedi cael hyfforddiant yn y maes hwn ac wedi dechrau defnyddio proffiliau un dudalen ac adolygiadau mewn arddull sy’n Canolbwyntio ar Unigolion. Mae Snap Cymru’n teimlo y dylai rhieni a phobl ifanc hefyd gael yr hyfforddiant hwn os ydynt am gymryd rhan yn effeithiol.
Mae Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru’n gonglfaen i’r newid. Mae newid y ddeddfwriaeth yn rhan ganolog o’r hyn y mae LlC yn ei wneud ond ni fydd newid y gyfraith ynddi’i hun yn effeithio ar yr ymarfer a’r newid mewn diwylliant y maent yn gobeithio ei sicrhau.
Mae gan ‘raglen trawsnewid’ LlC sy’n cynnwys cefnogi’r gwaith o weithredu’r newidiadau deddfwriaeth bum elfen:
- Deddfwriaeth LlC a chanllawiau statudol
- Datblygu gweithlu
- Gweithredu/cymorth pontio
- Codi ymwybyddiaeth
- Polisi cefnogi
Rhan o hyn yw creu Cod ADY newydd yn lle’r Cod Ymarfer a Rheoliadau AAA presennol y wybodaeth fanwl i helpu i weithredu’r Bil. Bydd gan y Cod newydd ofynion mandadol sydd â’r un grym mewn cyfraith â rheoliadau, yn ogystal ag ymarfer da a chanllawiau y mae’n rhaid i Ysgolion ac ALl ayb eu hystyried. Cyflwynir y Cod newydd a’r rheoliad ar ffurf drafft i ymgynghori arnynt y flwyddyn nesaf. Cadwch lygad amdanynt a manteisiwch ar bob cyfle i ymateb.
Rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru’n paratoi rhaglen datblygu gweithlu gyda thair haen:
- Datblygu sgiliau craidd – sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â chefnogi dysgwyr ag ADY fynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth am y ffordd orau i gefnogi dysgwyr ag ADY.
- Datblygu sgiliau arbenigol – targedu gwasanaethau cefnogi arbenigol a ddarperir gan awdurdodau lleol, h.y. athrawon ymgynghorol ar gyfer nam ar y clyw, nam ar y golwg neu nam amlsynhwyraidd, seicolegwyr addysg.
- Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol – bydd yn cymryd lle’r Cydlynydd AAA presennol a bydd yn swydd statudol. Rhaglen datblygiad proffesiynol ddwys.
Codi ymwybyddiaeth
Mae LlC yn bwriadu ymgysylltu â rhanddeiliaid ynglŷn â beth fydd eu dyletswyddau a’u pwerau newydd o dan y system newydd, ond mae’r ffordd yr ydych yn rhannau’r newidiadau hyn gyda phlant a phobl a theuluoedd yr un mor bwysig er mwyn i chi allu deall y system newydd a sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r newidiadau. Roedd y digwyddiadau ymgysylltu gwreiddiol yn anodd i bawb ond roedd nifer fach o rieni’n bresennol. Nid oedd yr amseru na’r lleoliad yn hwylus i rieni, p’un ai yr oedden nhw’n gofalu am blant neu’n gweithio yn rhywle arall pan gynhaliwyd y sesiynau.
Ble’r ydym nawr….
Cam 1- Ymgynghorodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ddechrau, gan ystyried tystiolaeth ynglŷn â’r Bil fel y’i cyflwynwyd, a chraffu ar y manylion. Roedd 69 o argymhellion gan y pwyllgorau
Yn gyffredinol roedd y rhain yn seiliedig ar
- Rôl y GIG yn y system newydd.
- Cael Cynllun Datblygu Unigol mandadol –pan fydd y Cod yn dod i rym bydd yn cynnwys templed safonol y bydd yn rhaid i bob ymarferydd ei ddefnyddio (gweler y ddolen gyswllt â CDU Gwynedd fel enghraifft ar ddiwedd y diweddariad hwn.)
- Blynyddoedd Cynnar – bydd yn rhaid i ddarparwyr lleoliadau na chynhelir ystyried y Cod newydd a bod gan ALl ‘Swyddog Arweiniol Blynyddoedd Cynnar ADY’.
Cam 2 – ystyriaeth fanwl gan Bwyllgor y Cynulliad o’r Bil linell wrth linell – cwblhawyd gweler yr adroddiad isod.
Cam 3 – Trafodir y dyddiad cau ar gyfer datblygu a sicrhau cytundeb Gweinidogol a chefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer newidiadau gan fwrw pleidlais ar ddydd Mawrth 21 Tachwedd 2017.
Cydsyniad Brenhinol – yn fwy na thebyg Ionawr 2018
Ymgynghoriad ffurfiol ar y Cod a’r Rheoliadau 2018
Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth Gwanwyn 2019
Gweithredu (yn fwy na thebyg) Medi 2019.
Penodi Arweinwyr ADY
Penodwyd tîm bach o arweinwyr trawsnewid ADY a byddant yn cefnogi awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, sefydliadau addysg bellach a phartneriaid darparu eraill i baratoi ar gyfer a rheoli’r broses o newid i’r system ADY newydd. Hefyd byddant yn gyfrifol am ragasesu parodrwydd yr ALl, hyfforddiant a sicrhau ei fod yn cael ei weithredu yn ardal eu consortia (4 x arweinydd consortia ac 1 arweinydd Addysg Bellach)
Gweithredu
Daeth yr ymgynghoriad ar sut i weithredu’r Bil i ben ddechrau haf 2017. Bydd crynodeb o ymatebion a fydd yn rhoi dadansoddiad o’r sylwadau a gafwyd yn cyfrannu at y ffordd y bydd y Llywodraeth yn penderfynu ar ei ddull gweithredu (heb ei gyhoeddi eto)
Bydd LlC yn rhannu canllaw trawsnewid manwl i gyrff statudol unwaith y bydd Bil wedi cael Cydsyniad Brenhinol.
Yr opsiynau a ystyriwyd :
- Y dysgwyr sydd eisoes ar ddatganiad fydd y garfan gyntaf o ddysgwyr i symud i Gynllun Datblygu Unigol.
- Dysgwyr ar gyfnod pwysig o drawsnewid, felly’r rhai sy’n symud rhwng lleoliadau, rhai sy’n symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd, neu o ysgol uwchradd i Addysg Bellach, y dysgwyr ar y mathau hyn o gyfnodau trawsnewid allweddol fydd yn mynd gyntaf
Dolenni cyswllt defnyddiol.
- Cytunwyd ar 116 o newidiadau hyd yma, a wnaed i’r Bil. Mae fersiwn ddiwygiedig o’r Bil ar gael ar wefan y Cynulliad lle gallwch weld gwybodaeth arall a dilyn cynnydd y Bil:
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16496
- Crynodeb o newidiadau yng Nghrynodeb Cam 2 o newidiadau cam 2 i’r Bil
- Rhaglen Drawsnewid ALNET LlC
- Mae’r wybodaeth am ddatblygu gweithlu ar wefan LlC ar http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/additional-learning-special-educational-needs/transformation-programme/workforce-development/?skip=1&lang=cy
- Dolen gyswllt i enghraifft o CDU ar wefan Gwynedd https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Cydlynwyr-ADY-a-CH-Gwynedd-ac-Ynys-M%c3%b4n.aspx
- Seicolegwyr Addysg – Rôl y Seicolegydd Addysg yng Nghymru. Mae’n datgan ar ddiwedd y ddogfen hon “Bydd y seicolegwyr addysg yn parhau i gyflawni swyddogaeth allweddol o dan y system newydd arfaethedig ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Fel rhan o Raglen Trawsnewid ADY mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn darparu fframwaith cyfreithiol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc 0–25 oed ag ADY. Bydd y system newydd yn helpu i sicrhau bod sgiliau a phrofiad seicolegwyr addysg yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion a dysgwyr, gan ganiatáu i anghenion gael eu pennu’n gynnar ac ymyriadau priodol gael eu darparu.”
http://gov.wales/docs/dcells/publications/161221-educational-psychologists-wales-guidance-cy.pdf
Cysylltwch ag amanada.daniels@snapcymru i gael mwy o wybodaeth neu ddefnyddio’r ffurflen gyfeirio ar ein tudalen gysylltu i gael cymorth uniongyrchol.