Ar hyn o bryd mae SNAP Cymru yn gweithredu fel arfer.
Er hynny, er mwyn cynnal gweithlu iach a chadarn bydd nifer o ymweliadau cartref yn cael ei dorri ac o heddiw ymlaen, fydd sawl o’n swyddfeydd ar gau i ymwelwyr.
Peidiwch â phoeni – byddwn ni dal yma i’ch cefnogi! Bydd Tîm SNAP Cymru yn gweithio o gartref, bydd eich galwadau’n cael eu dargyfeirio a fyddwn yn derbyn e-byst.
Byddwn yn cadw cysylltiad â theuluoedd dros y ffôn neu ddulliau electronig eraill fel y cytunwyd gyda theuluoedd unigol.
Byddwn yn gweithio gyda theuluoedd unigol a phartneriaid i drefnu cyfarfodydd a gwasanaethau cefnogol pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cysylltwch â snap cymru are ein llinell gymorth os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach. 0808 801 0608
Byddwn yn ymdrechu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb trwy ein gwefan Facebook.
Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei adolygu wrth i gyngor newid.
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a gwerthfawr ac os gallwn wneud unrhyw beth i’ch helpu yn ystod y cyfnod heriol yma, rhowch wybod i ni a chadwch lygad allan am y wybodaeth diweddaraf.
Dymuniadau gorau,
SNAP Cymru