Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Addysg os ydych yn anhapus ynglŷn â phenderfyniad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a wnaed gan Awdurdodau Lleol a Cholegau Addysg Bellach yng Nghymru.

Bydd y Tribiwnlys yn ‘gwrando’ apeliadau ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag ADY neu allai fod ag ADY. Mae gan y Tribiwnlys y pŵer i orchymyn ALlau a Cholegau Addysg Bellach i gynnal Cynlluniau Datblygu Unigol, a diwygio unrhyw Gynlluniau Datblygu Unigol sy’n bodoli’n barod. Mae’n rhaid i ALlau a Cholegau Addysg Bellach gydymffurfio â gorchmynion a wneir gan y Tribiwnlys.

Bydd yn gwneud penderfyniad sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n iawn i’r plentyn neu’r person ifanc ar ddyddiad y gwrandawiad.

Mae’r Tribiwnlys yn cynhyrchu gwybodaeth a chanllawiau y gellir cael mynediad atyn nhw ar eu gwefan.

Tribiwnlys Addysg Cymru

Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (SENTW) wedi newid ei enw i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae’r Tribiwnlys Addysg yn gwrando apeliadau ac yn gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud ag:

  • anghenion dysgu ychwanegol, ac
  • anghenion addysgol arbennig,yn ogystal â
  • honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Yn ystod y 3 blynedd nesaf, mae’r deddfau ynglŷn â’r addysg a ddarperir i blant a phobl ifanc gydag anawsterau neu anableddau dysgu yn newid.

Bydd Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn symud yn raddol at system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd, nes bod yr holl ddisgyblion ar y system newydd.

Mae gan y system ADY a’r hen system AAA ei reolau tribiwnlys ei hun.

Y ffordd hawsaf o wybod a yw rhywun wedi symud i’r system ADY newydd yw gwirio pagynllun anghenion dysgusydd gan blentyn neu berson ifanc.

  • Os oes ganddyn nhw ddatganiad AAA, maen nhw ar y system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).
  • Os oes ganddyn nhw Gynllun Datblygu Unigol (CDU), neu wedi’u hasesu am anghenion dysgu ychwanegol ar ôl 1 Medi 2021, maen nhw ar y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.

Er bod Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru wedi newid ei enw i Dribiwnlys Addysg Cymru, bydd yn dal i ymdrin â’r holl achosion.

Yn y gorffennol, gallai pobl ifanc sy’n mynychu’r ysgol ddod ag apêl i’r tribiwnlys, ond ni allai pobl ifanc a oedd wedi cofrestru mewn Addysg Bellach ar ôl 16 oed. Yn y system ADY newydd, bydd pobl sy’n mynd i Goleg Addysg Bellach ar ôl 16 hefyd yn gallu apelio.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau ac atebion

Beth yw Tribiwnlys Addysg?

Panel annibynnol o arbenigwyr ADY ac unigolion ag arbenigedd cyfreithiol yw’r Tribiwnlys Addysg sy’n gwrando apeliadau rhieni a phobl ifanc yn erbyn penderfyniadau Awdurdodau Lleol a sefydliadau Addysg Bellach ynglŷn ag anghenion addysgol arbennig ac anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae hefyd yn gwrando honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Bydd y Tribiwnlys yn ‘gwrando’ apeliadau ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sydd ag ADY neu allai fod ag ADY.

Rhaid i’r Tribiwnlys roi sylw i’r Cod ADY sy’n cynghori’r blynyddoedd cynnar, ysgolion, ALlau a sefydliadau Addysg Bellach ar nodi a gwneud darpariaeth ar gyfer plant ag ADY. Mae’r Tribiwnlys yn edrych ar y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo ac yn penderfynu a oedd penderfyniad yr ALl yn dilyn y gyfraith a’r Cod.

Gall plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc wneud apêl i’r Tribiwnlys os ydyn nhw’n anhapus gyda phenderfyniad mewn perthynas ag AAA/ADY a Chynlluniau Datblygu Unigol a wnaed gan:

  • Awdurdodau Lleol yng Nghymru
  • Corff Llywodraethu Coleg Addysg Bellach

Ni chyflwynir apeliadau yn erbyn cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir.

Er mwyn i blant, eu rhieni a phobl ifanc allu herio penderfyniadau a chynlluniau corff llywodraethol yr ysgol, mae’r gyfraith a’r canllawiau ADY newydd yn y Cod ADY yn cynnwys prosesau ar gyfer penderfyniadau a chynlluniau i’w ‘hailystyried gan yr Awdurdod Lleol’.

Mae hyn yn osgoi’r ysgol yn gorfod rheoli gweithdrefnau’r Tribiwnlys eu hunain ac yn caniatáu i anghydfodau gael eu datrys ar lefel fwy priodol.

 

Bydd y Tribiwnlys yn cael ei lywio gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Rheoliadau ADY a Chod ADY sy’n cynghori ysgolion ac Awdurdodau Lleol i nodi a chefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.

Mae’r Tribiwnlys yn edrych ar y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo ac yn penderfynu a oedd penderfyniad yr ALl yn dilyn y gyfraith a’r Cod. Bydd yn gwneud penderfyniad sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n iawn i’r plentyn neu’r person ifanc ar ddyddiad y gwrandawiad.

Mae hefyd yn gwrando honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Bydd y Tribiwnlys yn ‘gwrando’ apeliadau ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sydd ag ADY neu allai fod ag ADY.

Rhaid i’r Tribiwnlys roi sylw i’r Cod ADY sy’n cynghori’r blynyddoedd cynnar, ysgolion, ALlau a sefydliadau Addysg Bellach ar nodi a gwneud darpariaeth ar gyfer plant ag ADY. Mae’r Tribiwnlys yn edrych ar y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo ac yn penderfynu a oedd penderfyniad yr ALl yn dilyn y gyfraith a’r Cod.

Gall plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc wneud apêl i’r Tribiwnlys os ydyn nhw’n anhapus gyda phenderfyniad mewn perthynas ag AAA/ADY a Chynlluniau Datblygu Unigol a wnaed gan:

  • Awdurdodau Lleol yng Nghymru
  • Corff Llywodraethu Coleg Addysg Bellach

Ni chyflwynir apeliadau yn erbyn cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir.

Er mwyn i blant, eu rhieni a phobl ifanc allu herio penderfyniadau a chynlluniau corff llywodraethol yr ysgol, mae’r gyfraith a’r canllawiau ADY newydd yn y Cod ADY yn cynnwys prosesau ar gyfer penderfyniadau a chynlluniau i’w ‘hailystyried gan yr Awdurdod Lleol’.

Mae hyn yn osgoi’r ysgol yn gorfod rheoli gweithdrefnau’r Tribiwnlys eu hunain ac yn caniatáu i anghydfodau gael eu datrys ar lefel fwy priodol.

 

Bydd y Tribiwnlys yn cael ei lywio gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Rheoliadau ADY a Chod ADY sy’n cynghori ysgolion ac Awdurdodau Lleol i nodi a chefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.

Mae’r Tribiwnlys yn edrych ar y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo ac yn penderfynu a oedd penderfyniad yr ALl yn dilyn y gyfraith a’r Cod. Bydd yn gwneud penderfyniad sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n iawn i’r plentyn neu’r person ifanc ar ddyddiad y gwrandawiad.

Pwy sy’n gallu gwneud apêl?

Os yw’r apêl yn ymwneud â phlentyn o oedran ysgol gorfodol, neu o dan hynny, gall y bobl ganlynol apelio:

1) Y plentyn

2) Rhiant y plentyn

3) Cyfaill achos plentyn heb alluedd

4) Cynrychiolydd y plentyn neu’r rhiant

Os yw’r apêl yn ymwneud â pherson ifanc, dros oedran ysgol gorfodol, a hyd at 25 oed, gall y bobl ganlynol apelio:

1) Y person ifanc

2) Cynrychiolydd y person ifanc

Bydd y Tribiwnlys hefyd yn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â galluedd plentyn neu berson ifanc i ddeall materion sy’n ymwneud â’r system ADY, gan gynnwys beth mae’n ei olygu i ddod ag apêl gerbron y Tribiwnlys.

Os yw’r Tribiwnlys o’r farn fod y plentyn heb alluedd i ddeall materion penodol, bydd y Tribiwnlys yn gallu penodi ‘cyfaill achos’ ar gais ar gyfer y plentyn hwnnw.

Gall cyfeillion achos gefnogi plant heb alluedd a’u helpu i arfer eu hawliau neu weithredu ar eu rhan. Rhaid iddyn nhw gyflwyno ffurflen gais fel datganiad o addasrwydd ar gyfer sêl bendith y Tribiwnlys.

Gweler Plant Heb Alluedd a chyfeillion achos

Pa benderfyniadau y gellir apelio yn eu herbyn mewn Tribiwnlys Addysg?

Mae’r gyfraith ADY newydd yn rhoi hawliau apelio i blant, rhieni plant a phobl ifanc ynglŷn ag ADY. RHAID i apeliadau gael eu gwneud o fewn 8 wythnos i benderfyniad yr ALl. RHAID i apeliadau gael eu gwneud o fewn 8 wythnos i benderfyniad yr ALl.

Caniateir apeliadau o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Penderfyniad ynghylch a oes gan ddysgwr ADY ai peidio ac a oes ganddo hawl i Gynllun Datblygu Unigol
  • Penderfyniad gan awdurdod lleol o ran a ddylid paratoi a chynnal awdurdodau lleol (14(1)(c)(11) o’r Ddeddf)
  • Disgrifiad o ADY person mewn CDU (14(6) o’r Ddeddf)
  • Y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y cynllun – neu’r gefnogaeth sydd ddim yn y cynllun (19(4))
  • o Yr ysgol a enwir mewn CDU neu os nad oes ysgol wedi’i henwi (A.48 o’r Ddeddf); Act); o’r Ddeddf)
  • Os na enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddibenion adran 48,
  • o Penderfyniad i beidio â diwygio CDU (A.27 o’r Ddeddf) Ddeddf)
  • o Penderfyniad yr Awdurdod Lleol i beidio â chymryd cyfrifoldeb am y CDU (A.28 o’r Ddeddf) Act) Ddeddf)
  • ALl yn gwrthod asesu a oes angen CDU ar ddysgwyr (13.(2)(b) o’r Ddeddf)
  • Gwrthod penderfynu ar fater ar y sail nad oes unrhyw newid o bwys yn yr angen a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad (A18(2)(b)) ac (a29(2)(a) o’r Ddeddf)
  • Penderfyniad i ddod â CDU i ben (rhoi’r gorau i gynnal) (A31(5)(6) o’r Ddeddf)

RHAID i’r Tribiwnlys dderbyn cais am apêl a’r datganiad achos ategol (tystiolaeth) yn ysgrifenedig o fewn 8 wythnos ar ôl i’r rhiant dderbyn hysbysiad o benderfyniad yr ALl gan yr awdurdod lleol neu’r Sefydliad Addysg Bellach.

Nid oes rhaid cyflwyno’r cais apêl na’r dystiolaeth (datganiad achos) gyda’i gilydd.

Os yw plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc yn penderfynu defnyddio trefniant datrys anghydfod, caiff y cyfnod o 8 wythnos ei ymestyn am 8 wythnos pellach.

Gweler Beth yw Gwasanaeth Datrys Anghydfodau

Pa benderfyniadau y gall y Tribiwnlys eu gwneud?

Adeg yr apêl, gall y Tribiwnlys:

  • wrthod yr apêl
  • gorchymyn bod gan berson ADY neu beidio
  • gorchymyn Sefydliad Addysg Bellach neu Awdurdod Lleol i baratoi CDU
  • gorchymyn Sefydliad Addysg Bellach neu Awdurdod Lleol i ddiwygio CDU fel y nodir mewn gorchymyn
  • gorchymyn ysgol, Sefydliad Addysg Bellach neu Awdurdod Lleol i barhau i gynnal CDU (gyda

diwygiadau neu beidio);

  • gorchymyn Awdurdod Lleol i gymryd cyfrifoldeb am gynnal CDU;
  • gorchymyn (cylch gorchwyl) Sefydliad Addysg Bellach neu Awdurdod Lleol i adolygu CDU a gofyn iddyn nhw ailystyried, ar sail unrhyw arsylwadau a wnaed gan y Tribiwnlys efallai y bydd angen gwneud penderfyniad gwahanol.

Os yw’r Tribiwnlys yn gwneud gorchymyn e.e. ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Lleol ddiwygio CDU, RHAID i’r corff llywodraethu neu’r Awdurdod Lleol dan sylw gydymffurfio â’r gorchymyn cyn diwedd y cyfnod a nodir.

RHAIDi’r corff neu’r awdurdod dan sylw adrodd i’r Tribiwnlys o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â’r gorchymyn.

Ydw i’n gallu apelio i’r Tribiwnlys Addysg os ydw i’n anhapus â darpariaeth Iechyd fy mhlentyn?

Ni all y Tribiwnlys ystyried achosion lle mai dim ond elfen iechyd CDU sy’n destun anghydfod. Er y byddan nhw’n gwrando achosion am CDU lle ceir anghydfod hefyd am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol o fewn y CDU a ddarperir gan gorff iechyd (GIG).

Er na all y Tribiwnlys ‘orchymyn’ bod corff GIG yn cymryd camau penodol, bydd y tribiwnlys addysg yn:

  • Gwneud argymhelliad i gorff y GIG
  • Bydd corff y GIG yn gorfod adrodd nôl i’r tribiwnlys ar y camau a gymerwyd
  • Os na chyflawnwyd argymhelliad y tribiwnlys, bydd y tribiwnlys yn gallu hysbysu Llywodraeth Cymru.

Am gwynion sy’n ymwneud ag iechyd, gweler GIG Gweithio i Wella

Os yw fy mhlentyn yn cael ‘asesiad statudol’ neu â Datganiad AAA yn barod, ac nad ydw i’n hapus, a fyddai’n parhau gyda Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru neu’n symud i’r Tribiwnlys Addysg newydd?

Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed ynglŷn ag asesiad statudol neu ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA), defnyddiwch y canllawiau ar wefan SENTW.

Dyma’r canllawiau cywir i blant a phobl ifanc sydd â datganiadau AAA. Bydd y Tribiwnlys Addysg yn gwrando apeliadau ADY ac AAA.

Bydd y canlynol yn parhau i ddod gerbron y Tribiwnlys Addysg o dan hen ganllawiau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (SENTW):

  • Unrhyw blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig ac mae’r Awdurdod Lleol wrthi’n cynnal Asesiad Statudol
  • Lle bo Awdurdod Lleol yn penderfynu peidio â gwneud datganiad yn dilyn asesiad neu’n ysgrifennu Nodyn yn lle Datganiad neu’n cynnig CDU a bod y rhiant a’r person ifanc eisiau apelio yn erbyn y penderfyniad. (mae’r terfynau amser cyfredol yn berthnasol)
  • Lle bo Awdurdod Lleol wedi penderfynu ‘rhoi’r gorau i gynnal’ (stopio) datganiad a bod y plentyn neu’r rhiant yn anghytuno
  • Pan fydd apêl wedi dod gerbron y Tribiwnlys ond lle na cheir penderfyniad terfynol, bydd SENTW yn parhau
  • Lle bo’r tribiwnlys wedi gwrando apêl plentyn ac wedi gorchymyn i’r Awdurdod Lleol wneud a chynnal datganiad

 

Rhagwelir y bydd y newid o un system i’r llall yn cymryd tair blynedd. Erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, bydd Datganiadau AAA yn cael eu disodli gan Gynlluniau Datblygu Unigol a bydd pob plentyn a pherson ifanc yn y system newydd.

Ydw i’n gallu apelio a defnyddio dulliau datrys anghydfodau ar yr un pryd?

Mae rhieni a phobl ifanc yn rhydd i apelio at y Tribiwnlys Addysg (os ydyn nhw’n bodloni’r meini prawf) ar yr un pryd â cheisio datrys eu hanghydfod neu ar ôl ceisio datrys anghydfod.

Os yw plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc yn penderfynu defnyddio trefniadau datrys anghydfodau, caiff y cyfnod o 8 wythnos i wneud apêl ei ymestyn am 8 wythnos pellach.

Gwirfoddoli

Codi Arian