Os ydych yn wirioneddol bryderus ynghylch pethau sy’n digwydd yn yr ysgol ac yr hoffech i rywun o SNAP Cymru eich galw am sgwrs, anfonwch eich rhif ffôn atom trwy’r ffurflen e-bost ar ap/gwefan Wmff a gwnawn eich ffonio’n ôl. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom neu ein ffonio’n uniongyrchol ar:
Gallwn eich helpu:
- os ydych wedi eich gwahardd o’r ysgol
- os ydych yn cael eich bwlio
- os ydych yn symud rhwng ysgol a choleg ac yn dymuno cyngor ar ddewisiadau
- i roi gwybod i chi am eich hawliau ac os oes arnoch eisiau cefnogaeth i gael clust i’ch barn
- i wneud penderfyniadau a sicrhau bod pobl yn deall eich dymuniadau a’ch teimladau
- i ddatrys anghytundeb neu gŵyn gyda’ch ysgol
- trwy ddarparu cyfaill achos i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed yn eich cylch.
Gallwch ddisgwyl cyngor cyfrinachol, annibynnol a chywir ac os na allwn eich helpu rydym, fwy na thebyg, yn gwybod am rywun arall fydd yn gallu.
Siaradwch â ni
Os ydych am gysylltu â ni ynghylch rhyw bryder penodol sydd gennych am eich addysg, defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau ‘Cael Cymorth’. (Darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd cyn ei gwblhau)
Rydym yn gweld pob ymholiad o fewn 48 awr ac yn ymateb cyn gynted â phosibl neu o fewn 5 ddiwrnod.
Cwynion
Os ydych yn anhapus erioed gyda rhywbeth rydym wedi ei wneud rydym am wrando. I wneud yn siŵr ein bod yn gweithio fel tîm a, rydym am wrando yn ofalus ar unrhyw ganmoliaeth neu cwynion sydd gennych am ein gwaith.
Byddwn yn delio â’ch cwyn mewn modd agored ac onest. Gweler ein Taflen Gŵyn i Bobl Ifanc am rhagor o rhagor o wybodaeth.
Taflenni Gwybodaeth ar gyfer Pobl Ifanc
Eich Hawliau
Cyn i chi gael eich ystyried yn oedolyn nid oes gennych hawliau ac mae eich rhieni neu eich gwarcheidwaid yn gwneud yr holl benderfyniadau ar eich rhan, cywir? Anghywir! Mae gennych hawliau waeth beth yw eich oedran ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth ydynt. Wyddech chi fod gennych yr hawl i siarad drosoch eich hun pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan? Er enghraifft, os ydych yn newid ysgolion neu’n meddwl mynd i’r coleg, yna mae hawl gennych i leisio eich barn ynghylch yr hyn y dymunech ei wneud. Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn neu eich trin yn annheg neu’n wahanol oherwydd pethau fel lliw eich croen, bod ag anabledd, eich rhywioldeb neu eich crefydd, felly os yw hyn yn digwydd i chi, dywedwch rywbeth. Dyma ychydig o ffyrdd y gallwch ddefnyddio’ch hawliau ac os ydych wedi’ch ysbrydoli i ganfod mwy, mae gennym lawer o ffyrdd i’ch helpu.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC)
Yn 1989, cydnabu arweinyddion y byd yn swyddogol hawliau dynol pob plentyn neu berson ifanc dan 18 trwy lofnodi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Dyma grynodeb o’r hyn y bu iddynt gytuno arno.
Saith Nod Craidd i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r UNCRC yn sail i’w holl waith i blant a phobl ifanc. Mynegir hyn mewn saith nod craidd bod holl blant a phobl ifanc yng Nghymru:
- yn cael dechrau teg mewn bywyd
- yn cael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysgu
- yn cael yr iechyd gorau posib a’u bod yn rhydd o gamdriniaeth, o erledigaeth ac o gael eu hecsbloetio
- yn cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol
- yn cael clust, yn cael eu trin â pharch ac yn cael cydnabod hunaniaeth eu hil a’u diwylliant
- â chartref diogel a chymuned sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol
- ddim dan anfantais oherwydd tlodi.
Beth yw Wmff!?
Mae SNAP Cymru yn cynnig cyfle unigryw a hwyliog i bobl ifanc o bob rhan o Gymru i fod yn gysylltiedig â phrosiect Wmff! yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn ei ddatblygiad a’i brifiant.
Mae Wmff! yn ap dwyieithog ar gyfer ffonau clyfar a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2012, ac sydd wedi’i ddatblygu’n bwrpasol ar gyfer pobl ifanc gan SNAP Cymru, prif bartneriaeth rhieni Cymru. Mae Wmff! yn gobeithio annog pobl ifanc i chwilio am gymorth a chyngor drostynt eu hunain ac mae’n ymdrin â nifer o feysydd allweddol sydd wedi’u nodi fel rhai pwysig yn eu bywydau. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys bwlio, gwaharddiadau, mynd yn ôl i addysg, dod o hyd i waith a hawliau pobl ifanc.
Cafodd yr ap ei ddatblygu a’i adeiladu gan Galactig, asiantaeth greadigol ddigidol o’r Gogledd. Mae pobl ifanc wedi bod yn gysylltiedig â’i ddyluniad a’i ddatblygiad o’r cychwyn cyntaf. Bu Gwirforce, panel o wirfoddolwyr rhwng 14 a 25 oed yn helpu i ddewis y cyflenwr llwyddiannus a phenderfynwyd ar yr enw Wmff! yn y diwedd yn dilyn ymgynghoriadau â phobl ifanc yn y Gogledd.
Beth ydym ni’n chwilio amdano?
Rydym yn chwilio am unigolion deallus a brwd, sydd am wneud gwahaniaeth positif yn eu hysgol a’u cymuned. Yn ddelfrydol, byddwch yn 14 – 25 oed, ac mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr hyderus, sydd â’r gallu i ysbrydoli a chysylltu â phobl ifanc eraill.
Beth fydd fy nghyfrifoldebau?
Fel Llysgennad Ifanc, byddwch yn gyfrifol am ledaenu’r gair am Wmff! i bobl eraill ledled Cymru. O bryd i’w gilydd, bydd angen i chi fod yn bresennol mewn digwyddiadau i gynrychioli a hyrwyddo brand Wmff!.
Sut bydda i’n elwa?
Fel llysgennad ifanc byddwch yn:
• Rhan o brosiect cyffrous sy’n tyfu.
• Cael cyfle i ddylanwadu ar bolisi lleol a chenedlaethol sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc.
• Cwrdd a chymdeithasu â phobl ifanc eraill yn y Rhwydwaith Llysgenhadon Ifanc.
• Cael rhywbeth gwerth chweil i’w ychwanegu at eich CV – gwych pan fyddwch yn gwneud cais i goleg neu brifysgol.
• Os hoffech chi fod yn Llysgennad Ifanc, anfonwch e-bost i Business.suppport@snapcymru.org a gofynnwch am ffurflen gais.