Mae’r System Anghenion Addysgol Arbennig yn Newid

Mae’r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau yng Nghymru yn newid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth a chanllawiau newydd o’r enw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a Chôd  Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru 2021, a fydd yn disodli’r ddeddfwriaeth a’r canllaw presennol sy’n ymwneud ag

anghenion addysgol arbennig.

Mae’r Ddeddf yn newid am sawl rheswm; y prif reswm yw er mwyn gwneud y broses yn symlach ac yn fwy cyfartal i bawb sy’n ymwneud â hi. Bydd y ddeddfwriaeth newydd ar gyfer ADY yn arwain at sawl newid gan gynnwys:

  • dod â’r holl systemau presennol at ei gilydd mewn un system newydd ar gyfer ADY
  • rhoi mwy o bwyslais ar y dysgwr
  • rhoi’r un hawliau i bob dysgwr beth bynnag eu hoedran neu eu lleoliad addysgol
  • gwella’r pontio rhwng lleoliadau
  • cynnig darpariaeth yn y Gymraeg lle bydd angen
  • bod yn system deg a thryloyw i bawb

Mae Llywodraeth Cymru’n credu y bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd plant, eu rhieni a phobl ifanc yn:

  • cael yr help sydd ei angen arnynt yn gynharach
  • cael eu cynnwys fwy mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’r cymorth sydd ei angen arnynt
  • gallu dod o hyd i wybodaeth yn haws nag o’r blaen
  • cael pob cefnogaeth os ydynt yn anghytuno â phenderfyniadau
  • gallu apelio yn erbyn penderfyniadau i’r tribiwnlys addysg

Yn ôl y gyfraith newydd mae ‘plentyn’ yn golygu unigolyn o dan 16 oed (oedran ysgol gorfodol) ac mae ‘person ifanc’ yn rhywun rhwng 16 a 25 oed (dros oedran ysgol gorfodol.)

Gall plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau gael cymorth nawr  yn hwy drwy ddefnyddio un system. Bydd rhai pobl ifanc yn gallu cael help nes byddant yn 25 oed.

Mae’r llywodraeth am i blant, rhieni a phobl ifanc gael mwy o lais o ran cael yr help sydd ei angen arnynt.

Yn achos pobl ifanc 16 oed neu hŷn, nhw fydd y prif berson a fydd yn gwneud penderfyniadau. Efallai y byddant yn dal eisiau gofyn i’w rhieni i’w helpu i wneud penderfyniadau. Gallant hefyd ofyn am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gan rywun amhleidiol.

Bydd y system newydd hon yn gwarchod hawliau pob plentyn, beth bynnag yw graddfa eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Beth sydd yn digwydd nawr?

Bydd anghenion dysgu’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael eu diwallu drwy ‘gymorth cyffredinol’ yn yr ystafell ddosbarth ac sy’n gallu cynnwys, ‘dal i fyny’, ‘gwaith grŵp bychan’ a mynediad at gynorthwyydd addysgu. Fodd bynnag, mae gan  blant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig gymorth ‘ychwanegol neu wahanol’ at yr hyn a ddarperir fel arfer, ac sy’n cael ei nodi yn un o’r canlynol:

  • Datganiad AAA
  • Cynllun Addysg Unigol
  • Cynllun Dysgu a Sgiliau

Mae’r system bresennol ar gyfer cefnogi anghenion addysgol arbennig yng Nghymru yn dilyn ymateb graddedig a amlinellir yng Nghod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002 (COP). 

Mae ganddi dair lefel; ‘Gweithredu gan yr Ysgol’, ‘Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy’ a Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig.  Bydd y cymorth yn amrywio yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen ar eich plentyn, ond gallai gynnwys grŵp bach strwythuredig rheolaidd, addysgu neu weithgareddau un i un, neu gymorth ychwanegol i ddilyn arferion rheolaidd, dyddiol.

Gallai hefyd gynnwys mynediad at gymorth therapiwtig neu synhwyraidd  neu addasiadau unigol i’r cwricwlwm a/neu ddeunyddiau dysgu. Bydd y cymorth yn ‘ychwanegol neu’n wahanol i’ yr hyn a ddarperir fel arfer mewn ysgolion prif ffrwd.

Bydd gan berson ifanc (nad yw mewn addysg orfodol) Gynllun Dysgu a Sgiliau sy’n nodi ei anghenion addysg a hyfforddiant ôl-16 a’r ddarpariaeth angenrheidiol i’w diwallu.

Beth sy’n newid?

O fis Medi 2021 ymlaen, bydd system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn dechrau cymryd lle’r hen system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).

Yn ogystal â newid yr enw, bydd cyfrifoldebau tuag at blant a phobl ifanc ag ADY hefyd yn newid.

Mae’r gyfraith bresennol yn gymwys yn achos plant a phobl ifanc hyd at 19 oed yn unig, a bydd y system newydd yn helpu plant a phobl ifanc o 0 i 25 oed mewn rhai achosion.

Bydd pob plentyn ag Anghenion Addysgol Ychwanegol yn cael Cynllun Datblygu Unigol a fydd yn cymryd lle (yn ystod y 3 blynedd nesaf) y Datganiad AAA, y Cynllun Addysg Unigol neu’r Cynllun Dysgu a Sgiliau cyfredol.

Bydd y categorïau presennol ‘Gweithredu gan yr Ysgol’ a ‘Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy’ a’r ‘ymateb graddedig’ yn diflannu pan ddaw’r system newydd i rym ym mis Medi 2021. Er y bydd pob ysgol neu ranbarth, mewn gwirionedd, yn parhau i ddilyn dull tebyg.

Bydd Dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) i gyd yn cael CDU sy’n nodi eu hanghenion cymorth.  Nid yw CDUau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth yn unig.  Bydd y system newydd hon yn gwarchod hawliau plant, beth bynnag fo graddfa eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Cewch ragor o wybodaeth am y rhaglen trawsnewid ADY a’r canllaw ar yr amserlen bontio yma, a’r Rhaglen trawsnewid ADY <https://llyw.cymru/rhaglen-trawsnewid-system-anghenion-dysgu-ychwanegol-cyflwyniad> 

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru), a’r Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). 

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo y bydd yn cyhoeddi arweiniad i rieni a gofalwyr ym mis Medi neu Hydref 2021.

powered by Advanced iFrame free. Get the Pro version on CodeCanyon.

powered by Advanced iFrame free. Get the Pro version on CodeCanyon.

Trosglwyddo i’r system newydd – Pa bryd fydd y newidiadau’n digwydd?

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno’r system newydd fesul cam o 1 Medi 2021.  Mae hyn yn golygu y bydd ‘dwy system’ yn weithredol ochr yn ochr â’i gilydd o Fedi 2021-2024, y system ADY newydd a’r system AAA wreiddiol.

  • Bydd plant sydd newydd eu canfod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn symud i’r system ADY newydd o 1 Medi 2021. 
  • Yn achos plant sy’n mynd i ysgol a gynhelir (gan gynnwys PRU) ac y penderfynwyd eisoes bod ganddynt AAA drwy ‘weithredu gan yr ysgol’ neu ‘weithredu gan yr ysgol a mwy’, bydd y system newydd yn weithredol o 1 Ionawr 2022 (Bydd hyn hefyd yn digwydd yn raddol a bydd rhai grwpiau blwyddyn yn symud o flaen eraill).
  • Bydd plant a phobl ifanc â Datganiadau neu Gynlluniau Dysgu a Sgiliau yn symud yn raddol i’r system newydd yn ystod y 3 blynedd
  • Nes bydd plentyn neu berson ifanc yn symud i’r system newydd, bydd y system a’r gyfraith AAA yn dal yn gymwys iddynt hwy

Cais i symud i’r system newydd

Yn ogystal â’r dyddiadau trosglwyddo gorfodol, gall plant a’u rhieni sy’n derbyn cymorth trwy’r ‘ymateb graddedig’, h.y. ‘gweithredu gan yr ysgol’ neu ‘gweithredu gan yr ysgol a mwy’  ofyn i’w hysgol neu’r awdurdod lleol eu symud i’r system newydd ar unrhyw adeg o Ionawr 1af  2022 ymlaen.

Yn yr un modd, gall plant (a’u rhieni) sydd â datganiad AAA ofyn i’w hawdurdod lleol eu trosglwyddo i’r system newydd o’r un dyddiad.

Yn y ddau achos, rhaid i’r awdurdod lleol neu’r ysgol gydymffurfio â’r cais ac mae’r trosglwyddiad yn effeithiol o’r dyddiad y gwneir y cais

Am dair blynedd, bydd pob Awdurdod Lleol, lleoliad Blynyddoedd Cynnar a Sefydliad Addysg Bellach yn gweithio’n galed â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod pawb yn deall y newidiadau hyn.

Bydd teuluoedd yn cael gwybodaeth, cyngor a help diduedd.  Mae hyn yn statudol, sy’n golygu bod yn gyfraith yn dweud bod yn rhaid ei ddarparu. Mae SNAP Cymru’n darparu’r help hwn  ledled Cymru.

RHAID i bob awdurdod lleol yng Nghymru gael trefniadau ar waith i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd, a gwybodaeth ar ddatrys anghydfodau ac eiriolaeth. 

Mae’r hyn a ddarperir wedi’i gynnwys yn y Cod ADY 2021 a Deddf ADY 2018 newydd

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2028

Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol 2021

Mae gan SNAP Cymru nifer o wasanaethau i sicrhau bod teuluoedd yn cael cyngor a chymorth diduedd a gwasanaeth datrys anghydfodau ac eiriolaeth annibynnol.  Mi all y system newydd fod braidd yn ddryslyd ac mae’r taflenni isod yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth y gallwn ei gynnig. 

Efallai y byddwch hefyd am gysylltu â’n llinell gymorth lle mae gwybodaeth a chyngor ar unrhyw fater yn ymwneud ag ADY ar gael.

0808 801 0608

Mae’r wybodaeth a’r llinell gyngor ar gael o ddydd Llun – dydd Gwener 9.30 am – 4.30 pm   

A fydd y ffordd mae plant yn cael eu hasesu hefyd yn newid?

O Fedi 2021, ni fydd ‘asesiadau statudol’ yn cael eu defnyddio yn achos plant a phobl ifanc newydd sydd newydd eu canfod fel rhaid ag ADY;  yn hytrach, bydd ar yr ysgol, neu awdurdod lleol ‘ddyletswydd i benderfynu’ a oes gan blentyn ‘ADY neu beidio’.

Mae asesiadau ar gyfer pobl ifanc sydd â Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac sy’n gadael ysgol i fynd i addysg bellach, yn cael eu hasesu ar hyn o bryd o dan adran 140 o’r Ddeddf Dysgu a Sgiliau, gyda’r asesiad o dan arweiniad Gyrfa Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn penderfynu a ddylent ariannu lleoliadau ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau dysgu mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Bydd yr asesiadau adran 140 yn parhau ar gyfer y bobl ifanc hyn am y ddwy flynedd nesaf tan 2023/24.   Bydd gwybodaeth ar ariannu a chyfrifoldeb am yr asesiadau hyn yn cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn nesaf.

Beth yw’r ‘Ddyletswydd Gwneud Penderfyniadau’ sydd ar Ysgolion?

Pan fydd ysgol neu goleg yn ‘ymwybodol’ y gall fod gan blentyn neu berson ifanc Anghenion Dysgu Ychwanegol [ADY] RHAID iddynt benderfynu a oes gan y plentyn neu berson ifanc hwnnw anghenion dysgu ychwanegol oni bai:

  •  bod Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar gael eisoes ar gyfer y plentyn neu berson ifanc
  • bod penderfyniad wedi’i wneud eisoes bod gan y plentyn neu berson ifanc ADY ne ubeidio ac nad yw sefyllfa neu anghenion y y plentyn neu berson ifanc wedi newid
  • neu, os nad yw’r person ifanc (16+) yn rhoi cydsyniad (yn cytuno) i’r penderfyniad gael ei wneud

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd penderfyniadau ynghylch ADY yn cael eu gwneud gan yr ysgol neu’r Sefydliad Addysg Bellach.    Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau canlynol, bydd yr awdurdod lleol (ALl) yn penderfynu:

  • Os yw plentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol (o dan 5 oed ac nad yw mewn ysgol a gynhelir) bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a oes gan y plentyn ADY.   Gall rhieni a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol neu unigolion proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda’r plentyn ddod â’r plentyn i sylw’r ALl a gofyn iddynt benderfynu ac, os oes angen, i baratoi CDU
  • Os yw plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal, bydd yr ALl yn gyfrifol am ‘benderfynu a pharatoi’ CDU os oes angen (A.17)
  • Os yw plentyn yn mynychu ysgol nas cynhelir (nad yw’n cael ei chefnogi’n ariannol gan yr ALl) a bod gan y rhieni bryderon y gallai fod gan eu plentyn ADY, yna bydd angen i’r rhieni gysylltu â’r awdurdod lleol am ‘benderfyniad’
  • Os yw plentyn yn cael ei addysgu heblaw yn yr ysgol (EOTAS) neu os yw wedi’i gofrestru’n ddeuol
  • Os yw plentyn ‘yn cael ei gadw’ (e.e. plant neu bobl ifanc sydd mewn sefydliadau troseddwyr ifanc neu gartref diogel i blant) bydd yr awdurdod lleol yn gyfrifol.
gweler isod am gwestiynau cyffredinol

Pan wneir y newidiadau, beth fydd yn digwydd i’r datganiadau AAA presennol?

Yn sgil cyflwyno’r ddeddfwriaeth ADY, bydd Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn cael eu disodli’n raddol gan Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU). 

Bydd y rhan fwyaf o Ddatganiadau’n cael eu trosglwyddo i fod yn Gynlluniau Datblygu Unigol yn ystod y 3 blynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio y bydd pob ALl wedi cwblhau’r broses hon ar gyfer plant â datganiadau sy’n byw yn eu hardal erbyn Medi 2024.

Bydd unrhyw ddatganiadau presennol yn parhau i fod yn ddogfennau cyfreithiol nes cânt eu disodli gan CDUau neu nes bydd yr awdurdod lleol yn dweud wrthych ei fod yn bwriadu terfynu datganiad. 

Os oes gennych ddatganiad a hyd nes bydd y broses bontio’n dechrau i chi, byddwch yn dal i gael eich gwarchod o dan yr hen gyfraith.  Bydd Datganiad eich plentyn yn parhau nes cânt eu trosglwyddo i CDU.  Rhaid i’r ALl barhau i gyflawni’r darpariaethau a geir yn y Datganiad, a rhaid iddo gael ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn.

Mae’r hawliau amrywiol isod yn gymwys o hyd.

  • Cynnal Datganiad
  • Adolygiad blynyddol
  • Newidiadau i Ddatganiadau
  • Ailasesu
  • Enwi ysgol
  • Hawliau apelio

Pwy fydd â hawl i gael CDU?

Unrhyw blentyn neu berson ifanc 0–16 oed sy’n cyd-fynd â’r disgrifiad o ADY.

Hefyd, unrhyw berson ifanc 16–25 oed sy’n cyd-fynd â’r diffiniad o ADY ac sydd neu’n dymuno mynd i goleg.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd gan yr un nifer o blant neu bobl ifanc ADY ag AAA ar hyn o bryd, ond y bydd y term newydd yn lleihau stigma ac yn nodi toriad clir o’r hen system.

Beth yw Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?

Gall anghenion dysgu ychwanegol (ADY) effeithio ar allu plentyn neu berson ifanc i ddysgu.   Er enghraifft, gall ADY rhywun effeithio ar eu:

  • darllen ac ysgrifennu
  • gallu i ddeall pethau
  • gallu i gymdeithasu neu gyfathrebu
  • lefelau canolbwyntio neu ymddygiad
  • gallu corfforol

Mae dau gwestiwn i’w gofyn wrth benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY a dylid edrych ar y rhain gyda’i gilydd

  1. A oes ganddynt anhawster neu anabledd dysgu?

Mae gan blentyn neu berson ifanc anhawster neu anabledd dysgu os:

  • yw’n cael anhawster sylweddol i ddysgu’n fwy na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran; neu
  • oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.
  • Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn isadran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud

(Adran2 (2)(a) o’r Ddeddf) (Pennod 2 Cod ADY)

  1. A yw’r anhawster neu’r anabledd dysgu hwnnw’n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)? (Adran 3(1) o’r Ddeddf) (Pennod 2 Côd ADY)

Mae Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ar gyfer rhai dros dair oed yn golygu darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy’n ychwanegol at, sy’n wahanol i, yr hyn sydd fel arfer ar gael i eraill o’r un oed. Mae hwn yn ddiffiniad eang, a gallai gynnwys ystod eang o bethau eraill, er enghraifft:

  • angen cymorth un i un yn rheolaidd
  • cymorth corfforol, cyfathrebu neu synhwyraidd
  • cyfathrebu drwy iaith arwyddion
  • angen dosbarthiadau llai gyda chymorth arbenigol
  • angen cymorth gan athro arbenigol

Disgrifir DDdY fel darpariaeth sy’n ‘ychwanegol at, neu’n wahanol i’, yr hyn sydd ar gael fel arall i rai o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir.

Mae hon yn gymhariaeth genedlaethol o DDdY sydd wedi’i hymestyn i Gymru gyfan ac nid yr ysgol neu’r ardal benodol yn unig.  Cafodd y meincnod hwn ei gynnwys fel na fydd ysgolion neu ALlau unigol yn gallu dibynnu ar ddarpariaeth neu bolisi lleol wrth benderfynu a oes gan blentyn ADY neu beidio.  Os oes gan blentyn ADY dylent gael CDU waeth ba ysgol, sir neu ranbarth o Gymru maent yn byw.

Os yw’r ateb i’r ddau gwestiwn yn gadarnhaol, yna mae gan y plentyn neu berson ifanc ADY.  

Mae gan blant a phobl ifanc ag ADY hawl i gael cymorth ychwanegol gyda dysgu mewn meithrinfa, ysgol neu goleg ac mae ganddynt hawl i gael Cynllun Datblygu Unigol (CDU)

Yn achos plant o dan dair oed, mae DDdY yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

Mae Llywodraeth Cymru’n rhagweld y bydd gan yr un nifer o blant ADY ag sydd ag AAA ar hyn o bryd, ond bydd y system newydd yn lleihau’r stigma ac yn cefnu’n llwyr ar yr hen system.

Mae pob plentyn a pherson ifanc yn wahanol a bydd angen ystyried pob plentyn neu berson ifanc yn unigol.

RHAID i’r ysgol neu’r Coleg ddynodi person i fod yn gyfrifol am gydlynu’r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud y penderfyniad hwnnw ac, os oes angen CDU, i fod yn gyfrifol am ei baratoi.   Gallai hyn fod yn Gydlynydd ADY.    Rhaid i bob ysgol brif ffrwd a gynhelir a sefydliad addysg bellach yng
Nghymru ddynodi person, neu fwy nag un person a fydd yn gyfrifol am
gydlynu darpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY. Gelwir y person hwnnw
(neu’r personau hynny) yn Gydlynydd ADY neu CADY.

Dylid cofnodi’r dyddiad y tynnir sylw’r ysgol at y dyddiad y daw ADY posibl y plentyn neu’r person ifanc i sylw’r ysgol ynghyd â chrynodeb o’r rhesymau.

Rhaid i’r ysgol neu’r sefydliad addysg bellach roi gwybod i chi a’ch plentyn ei fod yn penderfynu a oes ganddo ADY.   Dylent gynnwys manylion cyswllt yr ysgol a gwybodaeth am sut i gael gafael ar drefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl am ADY a’r system ADY.   Rhaid iddynt hefyd ystyried cynnig cyfarfod cychwynnol gyda rhieni i drafod y broses.   (Pennod 22 o’r Cod ADY i gael rhagor o fanylion am gyfarfodydd).

Beth yw Cynllun Datblygu Unigol (CDU)?

Bydd plant a phobl ifanc 0-25 oed ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael Cynllun Datblygu Unigol (CDU) 

Mae’r CDU yn ddogfen gyfreithiol sy’n disgrifio anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, y cymorth sydd ei angen arnynt a’r canlyniadau yr hoffent eu cyflawni.

Mae hwn yn “gynllun” am ei fod nid yn unig yn disgrifio’r ADY, ond hefyd y cynlluniau gweithredu mae’n rhaid eu paratoi ar gyfer y plentyn neu berson ifanc.  Mae hefyd yn gweithredu fel cofnodi i fonitro ac adolygu cynnydd plentyn neu berson ifanc.

Yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd cynlluniau datblygu unigol (CDUau) yn cymryd lle’r cynlluniau presennol gan gynnwys:

  • Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
  • Cynlluniau Addysg Unigol (IEP) ar gyfer dysgwyr sydd ar hyn o bryd yn cael eu helpu drwy Weithredu yn y Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy.
  • Cynlluniau Dysgu a Sgiliau (ar gyfer dysgwyr dros 16 oed)

Bwriadwyd i’r CDU fod yn ddogfen hyblyg.  Bydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod yn ddibynnol ar wahanol anghenion y plentyn neu berson ifanc.

Bydd y CDU yn cael ei adolygu bob 12 mis a bydd yn newid yn unol ag anghenion y plentyn neu berson ifanc wrth iddynt newid.

Beth sydd wedi’i gynnwys mewn CDU?

Bydd modd trosglwyddo’r cynllun datblygu unigol rhwng Awdurdodau Lleol a bydd yn hawdd i’w deall a bydd yn dryloyw.  RHAID i ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ddefnyddio’r ffurflen safonol yn Atodiad A o’r Cod ADY i baratoi neu gynnal CDU ar gyfer plentyn neu berson ifanc.

Rhaid i ysgol, sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol sy’n llunio neu’n diwygio CDU lenwi pob adran o’r ffurflen safonol, oni bai nad yw’r adran honno’n berthnasol i’r plentyn neu’r person ifanc o dan sylw, ac os felly dylid ei marcio felly.  e.e. gellid nodi “ddim yn berthnasol” ar adran.

Er bod adrannau safonol yn y cynllun, gall CDUau edrych yn wahanol ar yr olwg gyntaf rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion. (h.y. brand ysgol neu awdurdod lleol)

Bydd CDU yn cynnwys:

  • gwybodaeth fywgraffyddol a manylion cyswllt
  • disgrifiad eglur a chynhwysfawr o’r plentyn neu berson ifanc
  • disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) – penodedig a meintiol h.y. faint a pha mor aml a phwy sy’n gyfrifol am ddarparu – beth mae angen i’r plentyn neu berson ifanc allu ei ddysgu
  • beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau eu bod yn cael yr help angenrheidiol mewn ysgol neu goleg
  • a oes angen DDdY yn Gymraeg ar y plentyn neu berson ifanc
  • unrhyw ALP a ddarperir gan iechyd
  • unrhyw ganlyniadau pendant
  • enw’r lleoliad/ysgol neu goleg (lleoliad)
  • pontio a manylion teithio
  • barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn, rhieni’r plentyn neu berson ifanc
  • cofnod o drafodaethau, cyngor a thystiolaeth
  • y sawl sy’n gyfrifol am gynnal y CDU

Mae 10 adran benodol yn y CDU y gellir apelio yn eu herbyn i’r Tribiwnlys Addysg. Bydd y rhain wedi’u marcio mewn coch yn y ‘Côd’  mewn trefn i’w gwneud yn eglur i’r plentyn, eu rhiant neu’r person ifanc, pa adrannau sydd â ‘hawliau’ apelio ynghlwm wrthynt:

(a)       2 ;

(b)    2B.2;

(c)     2B.3

(d)     2B.5

(e)     2B.6

(f)      2C.2

(g)     2C.3

(h)     2C.5

(i)       2C.6

(j)       2D

Pwy all ofyn am CDU?

Gall rhiant, gweithiwr proffesiynol, neu’r dysgwyr eu hunain, wneud cais am CDU:

  • Yn achos plant 0 – 3, gwneir y cais i’r awdurdod lleol.
  • Yn achos plant oedran ysgol, gwneir y cais yn gyntaf i’r ysgol. (Gellir trosglwyddo’r cais hwn ymlaen i’r awdurdod lleol i’w ailystyried os oes angen)
  • Yn achos myfyrwyr coleg, gwneir y cais i’r coleg – oni bai y gofynnir am leoliad coleg arbenigol, os felly gwneir cais yn y dyfodol i’r awdurdod lleol – ni fydd CDUau mewn colegau yn ddogfennau cyfreithiol tan 2023 a 2024. Dylai pobl ifanc barhau i gael asesiad Addysg a Sgiliau Adran 140 tan 2023.
  • Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ADY Plant sy’n derbyn gofal (LAC) neu wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad neu a gedwir yn gaeth.

PWYSIG  – Yr unig geisiadau y gellir eu gwneud am CDU rhwng 1 Medi 2021 – 1 Ionawr 2022 yw rhai ar gyfer y plant hynny sydd newydd eu canfod ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Bydd pob plentyn arall yn parhau o dan yr hen system AAA a dylent barhau fel arfer.

Os yw popeth yn iawn gyda’ch plentyn – nid oes angen gwneud dim. Os oes gennych bryderon am gynnydd eich plentyn cysylltwch â’r ysgol i drafod eich pryderon.

Cysylltwch â SNAP Cymru am fwy o wybodaeth  0808 801 0608.

Pwy fydd yn gyfrifol am y CDU?

Yn achos y rhan fwyaf o blant, bydd yr ysgol yn gyfrifol am gydlynu CDU.

Fodd bynnag, yn achos rhai ag anghenion mwy cymhleth neu lai cyffredin, yr awdurdod lleol ddylai fod yn gyfrifol.

Dylai awdurdodau lleol hefyd fod yn gyfrifol am gydlynu CDUau ar gyfer y canlynol:

  • plant o dan 5 oed nad ydynt mewn ysgolion a gynhelir
  • plant a phobl ifanc sy’n mynychu ysgol neu goleg arbenigol
  • rhai sydd wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad neu EOTAS
  • ‘plant sy’n derbyn gofal’ (LAC)
  • Plant a gedwir yn gaeth (e.e. Plant sydd mewn sefydliadau troseddwyr ifanc neu gartrefi plant diogel)

Bydd colegau prif ffrwd yn gyfrifol am CDUau eu myfyrwyr.

A ellir ailystyried penderfyniadau ADY Ysgol?

GELLIR

Mae’r gyfraith yn caniatáu nifer o hawliau i blant, eu rhieni a phobl ifanc i ofyn am ailystyried penderfyniadau penodol.

Yn yr amgylchiadau canlynol, gall plant, eu rhieni a phobl ifanc ofyn i’r awdurdod lleol ble maent yn byw i ailystyried y penderfyniadau a’r cynlluniau canlynol:

  • penderfyniad ynglŷn ag os ‘oes gan blentyn ADY neu beidio’
  • ailystyried CDU ysgol gyda golwg ar ei ddiwygio
  • ailystyried penderfyniad ysgol i roi’r gorau i gynnal CDU

Gall rhiant hefyd ofyn bod yr awdurdod lleol yn:

  • cymryd cyfrifoldeb am gynnal CDU

Mae’r trefniadau hyn yn y gyfraith yn gyfrwng effeithiol i blant, eu rhieni a phobl ifanc, i herio penderfyniad corff llywodraethu unrhyw ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Mae’r system hon hefyd yn golygu nad oes yn rhaid i’r ysgolion reoli achos Tribiwnlys eu hunain ac mae’n caniatáu i anghydfodau na ellir eu rheoli’n gynnar i gael eu datrys ar lefel fwy priodol.

Beth yw’r amserlenni yn y system ADY newydd

Mae’r gyfraith ADY newydd yn disgrifio gofynion gwahanol amserlenni. Dywed fod yn rhaid i bethau gael eu gwneud yn ‘brydlon’ neu ‘o fewn’ neu ‘cyn diwedd cyfnod amser penodol’.

Mae llawer o’r amserlenni’n ddyletswyddau cyfreithiol ac maent yn cael eu gosod gan God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 ac mae rhai i’w canfod yn Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021.

Amserlen gwneud penderfyniadau ar gyfer Ysgolion a Cholegau

RHAID i’r ysgol wneud y penderfyniad ar ADY, paratoi CDU a rhoi copi i’r plentyn, y rhiant neu’r person ifanc

  • ‘yn brydlon’ neu o fewn 35 diwrnod ysgol

 Amserlen gwneud penderfyniadau ar gyfer Awdurdodau Lleol

Pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael eu ‘dwyn i sylw’ yr awdurdod lleol, RHAID iddynt wneud penderfyniad neu baratoi CDU a rhoi copi i’r plentyn, rhiant neu berson ifanc cyn diwedd

  • cyfnod o 12 wythnos

Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn ADY, rhaid iddo hysbysu’r rhiant o’r penderfyniad a’r rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

Pan fydd awdurdod lleol yn ailystyried penderfyniad ysgol (adran 26 o’r Ddeddf) rhaid iddynt gwblhau hynny

  • o fewn 7 wythnos

Rwyf wedi cael gwybod ‘bod gan fy mhlentyn ADY’ a bydd yn cael CDU, beth alla i ei ddisgwyl?

Y corff llywodraethu sy’n penderfynu bod gan y plentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, neu os yw wedi’i gyfarwyddo gan yr Awdurdod Lleol neu’r Tribiwnlys Addysg, rhaid iddo baratoi a chynnal cynllun datblygu unigol (CDU). Hefyd, rhaid iddo sicrhau a chyflawni’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a ddisgrifir yn y CDU.

Mae gan yr ysgol neu sefydliad addysg bellach 35 diwrnod i benderfynu ac i baratoi’r cynllun.

Pan fydd yr ysgol neu awdurdod lleol wedi rhoi gwybod i chi bod gan eich plentyn ADY dylech gael eich gwahodd i gyfarfod i baratoi’r cynllun. Dylai CDUau gael ei datblygu ar y cyd bob amser, dylai cyfarfodydd gynnwys y plentyn neu berson ifanc ac, yn achos plentyn, eu rhiant. Bydd hyn yn galluogi’r sawl fydd yn bresennol i rannu eu barn ar gynnwys y CDU.

Cyn i’r CDU gael ei gwblhau, dylai’r ysgol roi cyfle i chi a’ch plentyn gynnig sylwadau ar ddrafft a dylech gael eich annog i fynegi unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl. Dylai’r ysgol ystyried unrhyw bryderon sydd gennych a gweithredu’n briodol arnynt, ac mi allai hynny olygu diweddaru’r drafft o’r CDU, neu eglurhad pellach ar y penderfyniad neu faterion eraill.

Pan fydd y CDU wedi’i gwblhau, RHAID i’r ysgol roi copi i chi ac i’ch plentyn. Pan fyddwch yn cael CDU eich plentyn, RHAID i’r ysgol roi’r wybodaeth ganlynol i chi ac i’ch plentyn neu berson ifanc:

  • Manylion cyswllt yr ysgol
  • Gwybodaeth am sut i weld trefniadau’r awdurdod lleol i ddarparu gwybodaeth a chyngor i bobl am ADY a’r system CDU
  • Manylion am drefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau datrys anghydfodau ac eiriolaeth annibynnol
  • Gwybodaeth am yr hawliau i ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y cynllun ac iddo gymryd y cyfrifoldeb am ei gynnal (Adran 12.23. o’r Cod ALM)

Pan fydd angen i fath penodol o DDdY gael ei baratoi yn Gymraeg, RHAID i’r corff llywodraethu gymryd ‘pob cam rhesymol’ i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Rhaid i’r cynllun gael ei baratoi a’i gynnal oni bai bod person ifanc yn gwrthod rhoi cydsyniad.

Os yw’r corff llywodraethu o’r farn bod gan y plentyn neu berson ifanc DDdY lle byddai angen DDdY sy’n golygu:

‘na fyddai’n rhesymol i’r corff Llywodraethu i sicrhau, na graddfa na natur yr ADY ac ni all y corff llywodraethu wneud penderfyniad digonol ar yr DDdY, mi all gyfeirio’r achos at yr awdurdod lleol yn hytrach na pharatoi CDU’

Er enghraifft,

  • Gall plentyn fod â chyflwr prin sy’n gofyn am arbenigedd na all yr ysgol ei ddarparu neu ddiwallu anghenion y plentyn neu berson ifanc gan fod angen cyngor a chymorth rheolaidd gan asiantaethau allanol sydd yn fwy na’r hyn y byddai’n rhesymol i’r ysgol ei drefnu a chael gafael arno.
  • Mae ar y plentyn angen cyfarpar y gall un disgybl yn unig ei ddefnyddio neu na ellir ei ailddefnyddio neu sydd y tu hwnt i adnoddau’r ysgol.
  • Mae ar y plentyn angen cymorth dwys iawn yn ddyddiol na all cyllideb yr ysgol ei ariannu neu gael gafael arno.

Yn yr achos hwn gall y corff llywodraethu ofyn i’r Awdurdod Lleol benderfynu. Gall y corff llywodraethu gyfeirio hyn i’r awdurdod lleol o dan adran 12 (1)(2)(a) o’r Ddeddf).

Beth fydd yn digwydd os bydd ysgol yn penderfynu nad oes gan fy mhlentyn ADY?

Os gwneir penderfyniad ‘nad oes’ gan blentyn neu berson ifanc ADY, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n gwneud y penderfyniad roi gwybod i’r plentyn neu berson ifanc a’u rhieni am y penderfyniad a’r rhesymau amdano.

RHAID i’r ysgol neu goleg anfon llythyr hysbysu sy’n dweud nad oes gan y plentyn ADY ac nad oes angen CDU arno. RHAID i’r llythyr (neu e-bost) hysbysu sy’n nodi’r penderfyniad roi rhesymau am hynny a rhaid cynnwys y manylion canlynol:

  • Manylion cyswllt yr ysgol
  • Sut i gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth diduedd
  • Manylion am y gwasanaeth datrys anghydfodau ac eiriolaeth annibynnol sydd ar gael
  • Manylion am sut i ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad yr ysgol/coleg
  • Manylion cyswllt yr awdurdod lleol

Os ydych yn anhapus â phenderfyniad yr ysgol, dylech ofyn am gyfarfod â’r ysgol i drafod eich pryderon cyn gynted â phosibl.

Dylech ofyn iddynt ddisgrifio sut maent yn bwriadu diwallu anawsterau dysgu eich plentyn ‘nad ydynt yn ADY’. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw eich plentyn wedi cael cymorth anghenion addysgol arbennig yn y gorffennol a’ch bod yn teimlo nad yw anghenion eich plentyn wedi newid.

Dylai’r ysgol ddisgrifio sut mae’n bwriadu helpu eich plentyn drwy ‘ddarpariaeth gyffredinol’ h.y. y ddarpariaeth a gynigir i bob plentyn a pherson ifanc.

Os ydych yn dal yn anhapus â phenderfyniad yr ysgol, dylech ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y penderfyniad.

Gofyn i’r Awdurdod Lleol yw’r unig ffordd ffurfiol i herio penderfyniad ysgol a dyma’r cam cyntaf i apelio i dribiwnlys os byddwch yn dal yn anfodlon.

Os yw’r awdurdod lleol yn anghytuno â phenderfyniad yr ysgol ac yn teimlo bod gan eich plentyn ADY y gallant gyfarwyddo’r ysgol i ddatblygu cynllun neu ddatblygu’r cynllun ei hun a chyfarwyddo’r ysgol i’w gynnal.

Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor diduedd a gwasanaethau datrys anghydfodau ym mhob rhan o Gymru. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw bryderon os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ysgol.

Pa help sydd ar gael?

Mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i wneud trefniadau i ddarparu’r canlynol i bobl:

  • Gwybodaeth a chyngor diduedd am ADY a’r system ADY
  • Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Annibynnol
  • Gwasanaethau Eiriolaeth Annibynnol

Yn y rhan fwyaf o Gymru mae SNAP Cymru yn cynnig gwasanaethau gwybodaeth a chynghori, datrys anghydfodau diduedd ac eiriolaeth annibynnol di-dâl.

Mae SNAP Cymru hefyd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyngor arbenigol ar wahaniaethu mewn addysg.

Os hoffech gael gair ag un o’n cynghorwyr neu i ofyn am gymorth mwy arbenigol ffoniwch ein llinell gymorth ar 0808 801 0608.

Os oes angen cymorth mwy dwys neu waith achos arbenigol arnoch cewch eich atgyfeirio at weithiwr achos lleol.

“Beth os nad wyf yn fodlon â phenderfyniad yr Awdurdod Lleol?

Trefniadau i ddatrys anghytundebau

Os nad oedd modd atal anghytundebau rhag codi, neu gwaithygu dylai’r anghytundebau  gael eu datrys mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl.   Mae datrys anghytundebau yn gynnar yn fanteisiol iawn i’r plentyn neu’r person ifanc, gan osgoi straen diangen ar gyfer unigolion a’u teuluoedd, er enghraifft os oes angen datrys problem yn y Tribiwnlys yn y pen draw.

Mae’r trefniadau i ddatrys anghytundebau yn gallu helpu i ddatrys problemau cyn iddynt waethygu, a rhoi cyfle i adfer neu wella’r berthynas rhwng y plentyn, rhiant y plentyn neu’r person ifanc a’r ysgol, y sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol.

Mae SNAP Cymru yn darparu gwasanaethau datrys anghytundebau annibynnol ledled Cymru.   Gall rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a phobl ifanc ddefnyddio ein gwasanaethau arbenigol.  Mae’r gwasanaethau hyn am ddim ac maent yn annibynnol or  Awdurdod Lleol.

Mae staff a gwirfoddolwyr SNAP Cymru yn arbenigwyr mewn gwella sianelau cyfathrebu a dealltwriaeth rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ac mewn helpu i ganfod datrysiadau realistig ac ymarferol sy’n ateb anghenion pawb sy’n gysylltiedig â’r achos, yn enwedig y plentyn neu’r person ifanc.

Mi allwn eich helpu i fynd i’r afael ag achos sylfaenol unrhyw anghytundeb a helpu i atal yr anghytundeb rhag gwaethygu. Ein gobaith yw eich helpu chi a’r parti arall i gymryd camau positif i osgoi ac i ddatrys eich anghytundebau.

Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am wasanaeth datrys anghytundebau Datrys Anghytundebau – SNAP Cymru

Mae gan rieni a phobl ifanc bod hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru  (os ydynt yn bodloni’r meini prawf) ar yr un pryd â cheisio datrys eu hanghydfod neu ar ôl rhoi cynnig ar gyfryngu.

Materion y gellir eu hapelio i Tribiwnlys Addysg Cymru

Os nad oedd modd atal anghytundebau neu os na ellir datrys anghydfod gall plentyn rhiant neu berson ifanc apelio i’r Tribiwnlys ynghylch:

  • penderfyniad gan sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol
    ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY;
  • yn achos person ifanc, penderfyniad gan awdurdod lleol ynghylch a oes angen llunio a chynnal CDU;
  • disgrifiad o ADY y person mewn CDU;
  • y DDdY mewn CDU, neu’r ffaith bod DDdY wedi’i hepgor o CDU, yn
    cynnwys a yw cynllun yn nodi y dylid darparu’r DDdY yn Gymraeg;
  • y ddarpariaeth sydd wedi’i chynnwys mewn CDU gan awdurdod lleol o dan adrannau 14(6) neu 19(4) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan yr adrannau hynny mewn cynllun
  • yr ysgol a enwir mewn CDU at ddiben derbyn plentyn mewn sefydliad a enwir , neu os na enwir ysgol mewn CDU at ddiben derbyn;
  • penderfyniad gan yr awdurdod lleol i beidio ag adolygu CDU pan
    ofynnwyd i’r awdurdod lleol gan blentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc ailystyried CDU sy’n cael ei gynnal gan ysgol a gynhelir;
  • penderfyniad gan awdurdod lleol i beidio ag ysgwyddo cyfrifoldeb am
    CDU, a gynhelir gan ysgol, pan ofynnwyd iddo wneud hynny gan blentyn neu ei riant, gan berson ifanc neu gan gorff llywodraethu’r ysgol honno;
  •  penderfyniad i roi’r gorau i gynnal CDU;
  • os gwrthodir penderfynu ar fater ar y sail nad oes newid sylweddol mewn anghenion neu nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad

Mae’r Tribiwnlys Addysg hefyd yn gwrando ar hawliadau mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd; fodd bynnag, mae’r Cod hwn yn canolbwyntio’n llwyr ar Apeliadau sy’n ymwneud ag ADY.

Yn ogystal ag apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru, gall dysgwyr a’u teuluoedd ddefnyddio sawl dull arall o herio corff cyhoeddus os ydynt yn teimlo bod y corff wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau cyhoeddus, gan gynnwys y dyletswyddau o dan y Ddeddf.

  • Gallai’r rhain gynnwys defnyddio gweithdrefn gwyno ysgol, sefydliadau addysg bellach neu awdurdod lleol.
  • Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gallu ystyried cwynion gweithdrefnol am ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau lleol a chyrff y GIG.
  • Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru wasanaeth ymchwiliadau a chyngor
  • Mewn rhai amgylchiadau, gellir gwneud cais i’r Llys Gweinyddol am adolygiad barnwrol yn ymwneud â chyfreithlondeb penderfyniad neu weithred corff cyhoeddus, gan gynnwys y gweithdrefnau a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad. Mae cyfyngiadau amser llym ar waith ar gyfer cymryd camau o’r fath. Caiff y Llys Gweinyddol, er enghraifft, ystyried y modd y mae penderfyniadau awdurdodau lleol wedi cael eu gwneud.
  • Gall awdurdodau lleol hefyd ystyried ymyrryd yn achos ysgolion sy’n peri pryder yn eu hardal wrth arfer eu pwerau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Rhaid i ysgolion hefyd ddilyn Canllawiau Safonau Ysgolion.
  • Hefyd, mae gan Weinidogion Cymru bwerau gwneud cyfarwyddyd mewn cysylltiad â sefydliadau addysg bellach, er enghraifft os nad ydynt wedi cyflawni eu dyletswyddau neu wedi gweithredu’n afresymol

Have your say…