Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae ein tîm wedi bod yn paratoi pecynnau gweithgareddau i blant gyda chefnogaeth hael y canlynol a welodd yr angen i helpu plant yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau diweddar.
- Cronfa argyfwng Covid 19 Sefydliad Steve Morgan sy’n cefnogi prosiectau sy’n helpu plant a theuluoedd, pobl ag anableddau corfforol neu ddysgu, neu rai sydd o dan anfantais gymdeithasol yn y Gogledd
- Cronfa Argyfwng Covid 19 Merthyr Tudful
- Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd sy’n dosbarthu arian mewn argyfwng i ddarparu gwasanaethau cymunedol ychwanegol a newydd i ddiwallu anghenion brys cymunedau yng Nghymoedd Nedd Uchaf ac Afan Uchaf
Rydym wedi anfon rhestr wirio ar gyfer rhieni i ofyn beth yr hoffent i ni ei anfon atynt – a gwelwyd nad oedd llawer o deuluoedd yn gallu argraffu deunyddiau gartref, neu nad oedd ganddynt liniaduron ac ati… felly roeddent i gyd yn gofyn am weithgareddau wedi’u hargraffu’n barod ar gyfer eu plant. Rydym hefyd wedi anfon ffyn glud, creonau, sisyrnau, pinnau ffelt ac ati…….
Cawsom 150 o ymatebion ar gyfer 350 o blant hyd yma ac mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr yn mynd drwy’r rhestr ac yn casglu gwybodaeth am anghenion a dymuniadau penodol ac yn prynu rhai o’r eitemau sydd eu hangen arnynt.
Mae un o’n gwirfoddolwyr Valdis wedi paratoi pecynnau o ddeunyddiau cyffredinol sy’n addas ar gyfer gwahanol oedrannau a all apelio at y grwpiau hyn ac mae’n barod i gefnogi rhagor drwy greu deunyddiau pwrpasol.
Mae Jessica yn wirfoddolwr newydd gyda SNAP Cymru ac mae’n llawn gwybodaeth am y cwricwlwm ac mae’n gallu dod o hyd i ddeunyddiau’n gyflym iawn ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Rydym wedi anfon pecynnau at tua 100 o blant hyd yma ac rydym wrth ein bodd yn creu pecynnau ar gyfer Cymunedau ym Merthyr, Pen y Cymoedd ac yn y Gogledd.

Yn anffodus, roedd y rhieni i gyd bron yn gofyn am gyngor a gweithgareddau llesiant emosiynol a hunan reoleiddio – felly rydym yn ychwanegu’r rhain at y pecynnau.
Mae’r pecynnau gweithgareddau wedi bod yn hynod lwyddiannus ac rydym wedi cael adborth positif dros ben gan y plant eu hunain. Mae cymaint o alw amdanynt nes ein bod wedi rhoi’r gorau i gymryd ceisiadau’r wythnos hon tan inni ateb y galw presennol!
Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau eraill ar gyfer plant, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau, ewch i weld ein rhestr lawn o wybodaeth a gweithgareddau sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd.
