Siopa Ar-lein 

Oeddech chi’n gwybod bod modd i chi godi arian i SNAP Cymru am ddim wrth siopa ar-lein?

Amazon Smile

Os ydych chi’n prynu oddi ar Amazon Prime, gallwch gofrestru ar gyfer Amazon Smile i roi 0.5% yn awtomataidd ar gyfer eich pryniannau cymwys heb unrhyw gost ychwanegol i chi?

Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer Amazon Smile i gefnogi SNAP Cymru?

Mae gan SNAP Cymru ddolen unigryw a fydd yn eich galluogi i’n dewis ni’n awtomataidd fel eich elusen ddewisol, cliciwch y botwm isod i greu cyfrif Amazon Smile am ddim:

Sut ydw i’n defnyddio Amazon Smile?

I ddefnyddio AmazonSmile, ewch i smile.amazon.co.uk ar eich porwr ar-lein neu gosodwch AmazonSmile yn yr ap Amazon Shopping ar eich ffôn iOS neu Android yn y ddewislen Gosodiadau neu Raglenni a Nodweddion. Ar eich porwr ar-lein, gallwch ychwanegu llyfrnod i smile.amazon.co.uk i’w gwneud hi hyd yn oed yn rhwyddach i ddychwelyd a dechrau siopa ar AmazonSmile.

Oes angen i mi adnewyddu AmazonSmile?

Bydd angen adnewyddu AmazonSmile ddwywaith y flwyddyn i’ch helpu i gadw AmazonSmile fel ap ar eich ffôn. Bydd AmazonSmile yn eich hysbysu o hyn ar eich ffôn ac ar yr ap.

Gallwch ddilyn ni ar ein cyfryngau cymdeithasol i gael eich atgoffa fod angen adnewyddu:

Easy Fundraising

Beth yw e?

Gwefan yw Easyfundraising sy’n troi eich siopa ar-lein bob dydd yn rhoddion at achos da, am ddim i chi. Sut? Ewch i’ch hoff fanwerthwyr ar ein gwefan a siopa fel y byddech chi fel arfer. Unwaith y byddwch wedi prynu, bydd y manwerthwr yn rhoi cyfraniad bychan at eich achos i ddweud “diolch”.

Sut ydw i’n cofrestru i gefnogi SNAP Cymru drwy Easyfundraising?

Dilynwch ein dolen i gofrestru:

Wrth siopa ar-lein, gwnewch hynny drwy wefan Easyfundraising i sicrhau ein bod yn cael y rhoddion!

A dyna ni! Cofiwch osod eich holl ddyfeisiau a dweud wrth eich teulu a’ch ffrindiau sut gallen nhw gefnogi SNAP am ddim hefyd!

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch