Ein Gwasanaethau

Mae SNAP Cymru yn cynnig cymorth diduedd i blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr ledled Cymru. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol ym meysydd Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Ysgolion, Darparwyr y Blynyddoedd Cynnar, darparwyr Gofal Cymdeithasol, Gyrfa Cymru a phartneriaid y Trydydd Sector.

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i deuluoedd fel sy’n cael eu hargymell yn y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gan gynnwys Gwybodaeth a Chyngor Diduedd, Datrys Anghydfodau ac Eiriolaeth.

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am ein gwasanaethau a sut gallwn helpu.

Gallwch ein ffonio neu anfon cwestiwn atom gan ddefnyddio ein Ffurflen Ymholiadau ADY. (ar ein tudalen gyswllt)  Mae cysylltu â ni fel hyn yn golygu y bydd gennych fynediad at gynghorydd a fydd yn rhoi cyngor a chymorth annibynnol, cywir a chyfrinachol i chi.

Fel arall, gallwch drefnu apwyntiad yma i siarad ag un o’n cynghorwyr hyfforddedig.

Llinell Gymorth

Gwasanaeth Datrys Anghydfod

Gwahaniaethu

Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor

Cymorth Cynnar Abertawe

Eiriolaeth

Hyfforddiant

Ymgynghori

Ein Taflenni