Amdanom Ni

Mae SNAP Cymru yn Elusen Genedlaethol, sy’n unigryw i Gymru, a sefydlwyd ym 1986. Ei phrif nod yw datblygu addysg pobl yng Nghymru a chefnogi’r broses o sicrhau cynhwysiant. Mae staff a gwirfoddolwyr profiadol sydd wedi derbyn hyfforddiant yn cydweithio â theuluoedd, plant a phobl ifanc, eu rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Maent yn gweithio â’r sawl a chanddynt neu a allai fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, sy’n cynnwys AAA, anabledd a rhwystrau eraill, e.e. neilltuaeth, anfodlonrwydd, tlodi, amddifadedd, a Saesneg neu’r Gymraeg fel ail iaith.
Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth gywir, cyngor a chefnogaeth wrthrychol ynghylch ystod o achosion gan gynnwys asesiadau, datganiadau anghenion addysgol arbennig, bwlio, presenoldeb yn yr ysgol, gwaharddiadau, darpariaeth gofal iechyd a chymdeithasol, a neilltuaeth. Mae’r gwasanaethau eraill a gynigir gennym yn cynnwys eiriolaeth, datrys anghydfodau a hyfforddiant i bobl ifanc, rhieni a phobl broffesiynol.
Mae SNAP Cymru wedi gweithio ers dros dri deg pum mlynedd tuag at hwyluso partneriaethau, ac mae gennym gyfoeth o ymwybyddiaeth a phrofiad. Mae gan SNAP Cymru Farc Ansawdd Arbenigwyr mewn Gwasanaethau Cyfreithiol, Marc Ansawdd Buddsoddwyr mewn Pobl, a Marc Ansawdd Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr.
Ni yw prif ddarparwyr Gwasanaethau Partneriaethau â Rhieni a Datrys Anghydfodau yng Nghymru, ac rydym wedi datblygu gwasanaethau cynrychioli ac eirioli i blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr. Mae SNAP Cymru yn cydweithio â’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Rydym yn cydweithio’n agos â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, Awdurdodau Addysg Lleol, Ysgolion, darparwyr Gofal Cymdeithasol, Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a phartneriaid o’r Trydydd Sector.

Pwy allwn ni eu helpu?

Yr holl Deuluoedd, Plant a Phobl Ifanc sydd â, neu a allai fod ag, Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan gynnwys Anghenion Addysgol Arbennig neu Anableddau, a rhwystrau eraill.

E.e. plant mewn angen, anfodlonrwydd, tlodi, amddifadedd, a phlant sy’n byw yng Nghymru sydd â’r Saesneg neu’r Gymraeg fel ail iaith. Gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ac eraill sy’n cefnogi Plant a Phobl ifanc, gan gynnwys Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Addysg Gymunedol eraill.

Ein Tîm

Cwrdd â’r Ymddiriedolwyr

Gweledigaeth ac Effaith

Gwobrau

Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol

Mae’r Marc Ansawdd Arbenigol yn safon sefydliadol sy’n berthnasol i unrhyw sefydliad sy’n darparu gwasanaeth cynghori a gwasanaeth cyfreithiol drwy ‘wasanaeth arbenigol’. 

Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol

Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn wobr flynyddol sy’n cydnabod ac yn tynnu sylw at ragoriaeth mewn gweithgareddau gwirfoddol sy’n cael eu cynnal gan grwpiau yn y gymuned.

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr

Mae’r wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn dangos ein bod wedi cyflawni’r gofynion ymestynnol ar gyfer y safon genedlaethol hon. 

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch