Stori Janice

Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gyda SNAP Cymru am dair mlynedd. Y rheswm dros ddechrau gwirfoddoli oedd fy mod wedi ymddeol ar ôl bod yn athrawes am 38 mlynedd, ac yn chwilio am fudiad lle y byddwn yn gallu defnyddio’r sgiliau a’r profiad a oedd gen i. Roeddwn yn swyddog amddiffyn plant, a oedd yn golygu cymryd rhan mewn gwaith amlasiantaethol a helpu pobl ifanc a’u teuluoedd. Roeddwn am barhau mewn rôl debyg lle y gallwn rannu fy mhrofiad a’m sgiliau er mwyn helpu teuluoedd.

Rwyf yn gweithio drod Gaerfyrddin o’r swyddfa yn Llanelli yn gwneud gwaith achosion, yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd ysgol a chyfarfodydd amlasiantaethol, yn gweithio ar y llinell gymorth, ac yn gwneud gwaith gweinyddol. Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau hyfforddi darparwyr y Blynyddoedd Cynnar.

Rwyf yn teimlo fy mod wedi ennill llawer yn bersonol. Mae wedi creu trefn yn fy mywyd. Rwyf yn un sy’n hoffi cadw at yr un drefn o ddydd i ddydd, felly mae’n dod â mi allan o’r tŷ ac yn fy rhoi mewn cysylltiad â phobl a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae gen i amser i’w roi ar ôl ymddeol, ac rwyf yn teimlo y gallaf roi rhywbeth yn ôl. Rwyf yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi ac y gallaf wneud cyfraniad gwerthfawr. Dyna’r gair sy’n disgrifio fy mhrofiad o weithio gyda SNAP Cymru, cael fy ngwerthfawrogi.

Gwirfoddolwch gyda ni

Stori Gwirfoddoli

Codi Arian