Ffyrdd eraill o godi arian

Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld llawer o ffyrdd gwahanol a chreadigol o godi arian. Os oes gennych syniad codi arian cyffrous, gallwch gysylltu â Harriet ar (harriet.boughey@snapcymru.org). 

Dyma rai ffyrdd hwyliog o godi arian i gefnogi’r gwaith a wnawn yn SNAP Cymru:

Gwerthu Cacennau

Waeth os chi yw’r Mary Berry nesaf ai peidio, neu os ydych chi wrth eich bodd yn pobi danteithion melys, mae gwerthu cacennau’n ffordd ffantastig o godi arian i ni! Mae’r gacen sy’n weddill yn ychwanegol!

Bore Coffi

Mae boreau coffi’n ffordd wych o ddal i fyny gyda ffrindiau, mwynhau diod gynnes, ac efallai darn o gacen hefyd – wrth godi arian i ni ar yr un pryd.

Dosbarth Yoga

Os oes gennych grŵp o ffrindiau sy’n caru yoga, beth am gynnal bore yoga a chodi arian i ni wrth i chi ymlacio?

Gwerthiant Bric a Brac

Os hoffech adnewyddu’r pethau yn eich cwpwrdd dillad heb wario gormod, beth am drefnu gwerthiant hen ddillad gyda ffrindiau?

Noson Gwis

Ydych chi’n diflasu eich teulu gyda’ch ffeithiau di-ri? Gallech drefnu noson gwis, ysgrifennu cwestiynau rhagorol a chodi arian i ni!

Rhoi i Siop SNAP

Clirio eich hen bethau? Mae ein siopau elusen SNAP Cymru’n chwilio am roddion o safon bob amser! Rydym hefyd yn derbyn rhoddion eitemau mwy (a gallwn eu casglu nhw hefyd!)

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch