Mae SNAP Cymru yn dibynnu ar roddion a grantiau er mwyn darparu ein gwasanaethau.  Rydym yn ddiolchgar iawn am bob un rhodd a gawn; o’r rhoddion rheolaidd o £5 y mis, i’r rhoddion a’r grantiau mwy gan gyllidwyr mawr.

Bydd eich rhodd yn golygu y gallwn barhau i ddarparu cyngor a chymorth y mae mawr eu hangen i deuluoedd a gofalwyr, yn enwedig drwy ein gwasanaeth Llinell Gymorth a Gwaith Achos.

Mae sawl ffordd y gallwch roi rhodd i SNAP Cymru:

Anfonwch Siec neu Archeb Bost atom yn: RHADBOST SWC4557, SNAP Cymru Caerdydd CF10 5GZ

Cofiwch gynnwys eich enw a’ch manylion cyfeiriad.

Rhoddion ar-lein

Mae sawl ffordd y gallwch roi rhodd i SNAP Cymru:

PayPal

Rydyn ni’n chwilio am eitemau o safon i’w gwerthu yn ein siop bwtîc gyffrous newydd.  Gall eitemau gynnwys:

  • Dillad ail law o safon, yn enwedig dillad vintage neu ffasiwn y gorffennol i ferched

  • Ategolion ffasiwn fel gemwaith, ffwr, hetiau, esgidiau a bagiau

  • Bric-a-brac gan gynnwys addurniadau, lluniau, ffiolau, llestri a chyllyll a ffyrc

  • Llyfrau newydd neu ail law, recordiau, CDs a DVDs

  • Dodrefn o safon (sydd â’r nod Barcut BSC ar y label)

  • Cofiwch – os na fyddech chi’n debygol o’i brynu, mae’n debygol na allwn ni ei werthu. Bydd ein cwsmeriaid yn chwilio am eitemau o safon

Mae cymryd rhan yn anrhegu eitemau ar gyfer ein siop yn ffordd grêt i gefnogi SNAP Cymru, gall pob bag codi £20!

Gofynnwch eich teulu a ffrindiau i roi yn hael. Gallwch ddod ag eitemau i:

Siop SNAP Stordy – 1 South Road, Ystad Ddiwydiannol Penallta, Hengoed CF82 7ST

 

Gwirfoddoli

Codi Arian

Amdanom Ni