Gofyn am gymorth ychwanegol ar gyfer Arholiadau

Mewn arholiadau allanol, bydd angen cymorth a ‘threfniadau mynediad’ ar nifer o blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae trefniadau mynediad yn caniatáu i ddysgwyr ag ADY, anableddau neu anafiadau dros dro gael mynediad at arholiadau heb newid gofynion yr asesiad.

Gallai trefniadau mynediad gynnwys:

Darllenwyr, copiwyr, papurau arholiad Braille, amser ychwanegol ag ati.

Drwy ddarparu’r trefniadau hyn, bydd y ‘Cyrff Dyfarnu’ cymwysterau yn cydymffurfio â’r ddyletswydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i wneud ‘addasiadau rhesymol’.

Dylech siarad â’r ysgol neu’r coleg. Dylen nhw gasglu’r dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi’r cais. Y dystiolaeth orau fydd y ffaith bod y plentyn neu’r person ifanc wedi derbyn y math yma o gymorth yn y gorffennol.

Dylech ysgrifennu at yr ysgol neu’r corff llywodraethu os oes yna broblem. Os yw plentyn neu berson ifanc wedi cael cymorth gydag arholiadau yn y gorffennol, mae’n bwysig gwneud hynny’n glir a bod dal angen y cymorth hwnnw ar y plentyn neu’r person ifanc os ydyn nhw i gyrraedd eu potensial.

Gellir cofnodi unrhyw drefniadau arbennig mewn CDU, ond os oes gan blentyn anabledd a dim CDU, mae dal dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb i wneud ‘addasiadau rhesymol’.

Bydd yr ysgol neu’r coleg yn gweud cais am drefniadau mynediad drwy ddefnyddio’r system Trefniadau Mynediad Ar-lein a ddefnyddir gan holl gyrff dyfarnu y Cyd-Gyngor Cymwysterau. Dylai’r rhan fwyaf o’r ceisiadau a gyflwynir gael eu cymeradwyo’n awtomatig Dylai’r ysgol neu’r coleg wneud hyn i sicrhau bod y trefniadau ar waith ar draws yr holl ofynion arholiadau ac nid yr arholiad terfynol yn unig.

Mewn achosion lle na chymeradwyir y cais, ceir proses adolygu. Mae dyddiadau cau allweddol i wneud cais am Drefniadau Mynediad, dylech ofyn i’r ysgol neu’r coleg wneud y ceisiadau hyn cyn gynted â phosibl.

Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau ac atebion:

Beth os oes angen ‘Addasiadau Rhesymol’ ar fy mhlentyn?’

Er mwyn i hyn fod yn berthnasol, yn gyffredinol byddai angen i’r plentyn neu’r person ifanc ddod o dan y diffiniad ‘anabledd’ o fewn y Ddeddf Cydraddoldeb – mae ganddyn nhw nam sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Gorff Dyfarnu wneud addasiadau rhesymol lle byddai person anabl o dan anfantais sylweddol wrth gynnal asesiad.

Gall addasiad rhesymol i berson penodol fod yn unigryw i’r unigolyn hwnnw ac efallai na fydd yn cael ei gynnwys ar y rhestr o Drefniadau Mynediad sydd ar gael.

Gall addasiad rhesymol i berson penodol fod yn unigryw i’r unigolyn hwnnw ac efallai na fydd yn cael ei gynnwys ar y rhestr o Drefniadau Mynediad sydd ar gael.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein tudalen Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Beth pe bai fy mhlentyn yn sâl neu wedi cael anaf a effeithiodd ar ei arholiad?

Mae Ystyriaeth Arbennig yn addasiad a wneir i radd neu farc dysgwr sy’n adlewyrchu anaf dros dro, salwch neu effaith negyddol arall adeg yr arholiad neu’r asesiad.

Siaradwch â’r ysgol neu’r coleg os yw hynny’n digwydd.

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch