Mae SNAP Cymru yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar haelioni Gwirfoddolwyr sy’n helpu i gyflenwi ein gwasanaethau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. 

Gweledigaeth SNAP Cymru yw y bydd gan bob cymuned fach yng Nghymru fynediad wyneb yn wyneb at Wirfoddolwr hyfforddedig, sy’n wybodus am bob agwedd ar anghenion dysgu ychwanegol, darpariaeth a phartneriaethau lleol. Bydd cynyddu cyfranogiad a hybu gweithio mewn partneriaeth yn gwella darpariaeth gwasanaethau a chydraddoldeb mynediad. Gall gwirfoddoli helpu i ddileu’r loteri cod post i ddarpariaeth gwasanaethau amlasiantaethol a gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc yng Nghymru.  I gael rhagor o wybodaeth am ein Rolau Gwirfoddoli, sgroliwch i lawr.

I wneud cais i fod yn Wirfoddolwr dros SNAP Cymru, cliciwch ar y botwm ffurflen gais isod:

Fel arall, am ragor o wybodaeth cysylltwch â ymholiadau@snapcymru.org 

Straeon Gwirfoddolwyr

Codi Arian

Amdanom Ni

Rolau Gwirfoddoli – SNAP Cymru

Gwirfoddolwr Cymorth Busnes

Nod y rôl wirfoddoli yw i helpu SNAP Cymru i adeiladu gwell busnes drwy roi amser i gefnogi cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, TG, cyllid, nawdd a chodi arian. Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu cefnogaeth ymarferol, a chymorth i drefnu digwyddiadau, ymgyrchoedd. Helpu yn y broses o ddatblygu wyneb gyhoeddus y sefydliad. Cymorth mewn swyddfa ar gyfer y timau datblygu.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Cymryd rhan mewn tasgluoedd.
  • Trefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd.
  • Helpu timau yn eu gweithrediadau o ddydd i ddydd.
  • Helpu yn y broses o ysgrifennu ceisiadau am nawdd.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio gyda ni ag y dymunant. Fodd bynnag, er mwyn gwneud defnydd effeithiol o’ch rhodd chi o amser, dylid cynllunio gwaith gwirfoddol ymlaen llaw gyda’r person priodol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man gwaith:
Mae gan SNAP Cymru brif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol ledled Cymru.

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu wyneb yn wyneb a dros y ffôn.
  • Gallu canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Sgiliau rhifau (cyllid).
  • TG (nawdd).
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth.
  • Cymraeg/ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.  Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir yr holl ddeunyddiau.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Telir costau teithio a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: Helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu potensial llawn. Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol a gwneud ffrindiau, a dysgu sgiliau newydd drwy brofiad gwaith.

Ymgynghorydd Grantiau a Budd-daliadau Plant a Gofalwyr

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Ymgynghorydd Grantiau a Budd-daliadau Plant a Gofalwyr.

Nod y rôl wirfoddoli:
I helpu teuluoedd a phobl ifanc i dderbyn eu hawl i grantiau a budd-daliadau drwy gynnig cefnogaeth.

Amcan y rôl wirfoddoli yw darparu:
Cefnogaeth a chyngor cyfrinachol – cymorth ac arweiniad ymarferol gyda llenwi ffurflenni, a chymorth mewn cyfarfodydd os yw’n ofynnol.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Helpu teuluoedd i ddeall eu hawliau ac ymchwilio i gymorth grant, cyfeirio fel bo’n briodol.
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i deuluoedd a phobl ifanc, gan gynnig cymorth ymarferol os yw’n ofynnol.
  • Cynnig ‘clust i wrando’, a chyfle i deuluoedd drafod y cyfan.
  • Cynnig cefnogaeth wrthrychol gyfeillgar
  • Mynd gyda rhieni i gyfarfodydd os yw’n briodol.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio gyda ni ag y dymunant, ond i wneud y gorau o’ch rhodd o amser dylid cynllunio’r gwirfoddoli ymlaen llaw gyda’r person priodol. Bydd rhoi o leiaf un diwrnod y mis yn ddymunol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man gwaith:
Mae gan SNAP Cymru brif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol / lloeren ledled Cymru. 
Mae’n bosib y bydd rhaid ymweld â chartrefi / lleoliadau eraill.

Manylion cyswllt yr Uned Wirfoddoli
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig i’ch cefnogi yn eich rôl.

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu â rhieni, pobl ifanc a phobl broffesiynol.
  • Gallu canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Gallu dangos empathi.
  • Gallu cymodi.
  • Partnership working.
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir pob deunydd.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo’n angenrheidiol.
  • Cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Telir costau a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: Helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu potensial llawn. Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol a gwnewch ffrindiau o’r newydd, a dysgu sgiliau newydd trwy brofiad gwaith.

Gwirfoddolwr Eiriolaeth / Gwybodaeth Plant a Phobl Ifanc

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Mae gwasanaeth eiriolaeth ‘Amdanaf Fi’ SNAP Cymru yn hybu cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau ynghylch eu dyfodol.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Darparu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r broses Anghenion Addysgol Arbennig gan weithio’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc, naill ai drwy gyflwyno cymorth eiriolaeth un-i-un neu drwy ddarparu gwybodaeth i grwpiau bychain sydd wedi eu lleoli mewn canolfannau addysg.

Nod y rôl wirfoddoli:
Cynyddu ymrwymiad plant a phobl ifanc yn y broses o gynllunio a gwneud penderfyniadau.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw:

  • Bod yn “glust i wrando” ar gyfer plant a phobl ifanc.
  • Darparu eiriolaeth yn uniongyrchol i blant a phobl ifanc gan sicrhau bod llwyfan i’w llais.
  • Darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc.
  • Hyrwyddo hunan-eiriolaeth i blant a phobl ifanc.

Tasgau enghreifftiol:

  • Darparu gwybodaeth yn uniongyrchol i blant a phobl ifanc.
  • Datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brosesau addysg.
  • Casglu gwybodaeth / deunydd gwaelodol (beth maent yn ei wybod) i fonitro cynnydd (beth maent yn ei wybod nawr).
  • Cwblhau gwerthusiadau defnyddwyr.
  • Cynnal digwyddiadau ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc yn gweithio mewn grwpiau a chanolfannau.
  • Datblygu cysylltiadau / rhwydweithiau o bobl broffesiynol arbenigol.
  • Cefnogi’r broses o gyflwyno hyfforddiant eiriolaeth / gwrando ar blant.
  • Cynhyrchu gwybodaeth hygyrch i blant.
  • Cofnodi safbwyntiau plant a phobl ifanc, a’u cyflwyno i’r bobl berthnasol.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio gyda ni ag y dymunant, ond i wneud y gorau o’ch rhodd o amser dylid cynllunio’r gwirfoddoli ymlaen llaw gyda’r person priodol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man gwaith:
Mae gan SNAP Cymru brif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol/lloeren ledled Cymru.
Canolfannau addysg.

Manylion Cyswllt yr Uned Wirfoddoli
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org
Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig lle bo’n briodol.

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu gyda phlant a phobl ifanc.
  • Gallu canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Gweithio mewn partneriaeth.
  • Cymraeg/ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon::
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir yr holl ddeunyddiau.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifiwyd.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Telir costau teithio a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.
Cefnogi gwaith timau datblygu sirol

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Cefnogi gwaith timau datblygu sirol SNAP Cymru.

Nod y rôl wirfoddol:
Mabwysiadu persbectif y person ifanc a’r rhiant mewn fforymau aml-asiantaeth, partneriaethau a digwyddiadau.

Amcanion y rôl wirfoddol yw darparu:
Cymorth ymarferol wrth drefnu, mynychu a gwerthuso digwyddiadau, cynorthwyo o ran wyneb cyhoeddus y sefydliad, a chynorthwyo SNAP Cymru ac asiantaethau eraill i ddatblygu gwasanaethau teg o ansawdd ar gyfer plant a theuluoedd.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Trefnu digwyddiadau.
  • Aelodaeth o grwpiau ymgynghori sirol.
  • Cynrychiolaeth mewn fforymau a phartneriaethau aml-asiantaeth.
  • Cynrychiolaeth mewn panel cymedroli.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio gyda ni ag y dymunant, ond i wneud y gorau o’ch rhodd o amser dylid cynllunio’r gwirfoddoli ymlaen llaw gyda’r person priodol. Bydd rhoi o leiaf un diwrnod y mis yn ddymunol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man gwaith:
Mae gan SNAP Cymru brif swyddfa yng Nghaerdydd, a swyddfeydd rhanbarthol/lloeren ledled Cymru.
Gall fod yn y gymuned.

Manylion Cyswllt yr Uned Gwirfoddol
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig lle bo’n briodol.

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Sgiliau hanfodol:

  • Gallu cyfathrebu â rhieni a phobl broffesiynol.
  • Gallu canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth.
  • Cymraeg / ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir yr holl ddeunyddiau.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Telir costau teithio a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: Helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu potensial llawn. Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol a gwneud ffrindiau, a dysgu sgiliau newydd drwy brofiad gwaith.

Cefnogwr Annibynnol i Rieni - Lefel 1

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Cefnogwr Annibynnol i Rieni – Lefel 1.

Nod y rôl wirfoddoli:
Helpu SNAP Cymru i ddarparu gwasanaeth cefnogi annibynnol i rieni ar gyfer pob teulu sydd ei angen.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu:
Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gywir, gyfrinachol a diduedd ynghylch unrhyw bryderon a allai effeithio ar addysg a datblygiad plant a phobl ifanc.

Tasgau Enghreifftiol: 

  • Darparu cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth ddiduedd, gywir a lleol i deuluoedd, plant a phobl ifanc.
  • Cynnig ‘clust wrando’ i deuluoedd allu siarad.
  • Gwrando ar bryderon.
  • Cynnig cefnogaeth wrthrychol, gyfeillgar.
  • Helpu teuluoedd i adnabod y materion.
  • Mynd gyda rhieni i gyfarfodydd os yn briodol.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio gyda ni, ond i wneud y gorau o’ch rhodd o amser dylid cynllunio’r gwirfoddoli o flaen llaw gyda’r person priodol.  Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man Gweithio:
Mae gan SNAP Cymru brif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol/ lloeren ar draws Cymru.
Mae’n bosib y bydd rhaid ymweld â chartrefi / lleoliadau eraill weithiau.

Manylion Cyswllt yr Uned Gwirfoddol
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig lle bo’n briodol.

Cludiant:
Ddim yn hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Cyfathrebu; wyneb yn wyneb a dros y ffôn.
  • Canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Empathi.
  • Cymodi.
  • Cydweithio.
  • Cymraeg / ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon:
Deunyddiau gofynnol.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir yr holl ddeunyddiau.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cyflawnir rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Cymwysterau a Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
  • Telir costau teithio a lwfans bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasols.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu llawn botensial.  Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol, gwnewch ffrindiau a dysgwch sgiliau newydd drwy brofiad gwaith.

Cefnogwr Annibynnol i Rieni - Lefel 2

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Cefnogwr Annibynnol i Rieni – Lefel 2.

Nod y rôl wirfoddoli:
Helpu SNAP Cymru i ddarparu gweithiwr achos i’r holl deuluoedd sydd ei angen.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu:
Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol, gywir a diduedd ynghylch pryderon a allai effeithio ar addysg a datblygiad plant a phobl ifanc.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn lleol, yn gywir ac yn ddiduedd ar gyfer teuluoedd, plant a phobl ifanc.
  • Cynnig ‘clust i wrando’ i deuluoedd allu siarad
  • Helpu i gael mynediad at ystod o wasanaethau cymorth a chyngor arbenigol.
  • Rhoi cymorth ymarferol wrth ymdrin â llythyrau, llenwi ffurflenni a deall adroddiadau proffesiynol.
  • Chwilio am ddatrysiadau a meithrin partneriaethau.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio â ni ag y dymunant. Fodd bynnag, er mwyn gwneud defnyddio effeithiol o’ch rhodd o amser, dylid cynllunio gwaith gwirfoddol ymlaen llaw â’r person priodol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man gwaith:
Mae gan SNAP Cymru brif swyddfa sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, a swyddfeydd rhanbarthol/lloeren ledled Cymru.
Mae’n bosib y bydd gofyn ymweld â’r cartref neu leoliad arall.

Manylion Cyswllt yr Uned Gwirfoddoli
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig lle bo’n briodol.

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu â rhieni a phobl broffesiynol.
  • Gallu canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Empathi.
  • Cymodi.
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth.
  • Cymraeg/ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir pob deunydd.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Cymwysterau a CDP.
  • Telir costau teithio a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: Helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu potensial llawn. Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol a gwnewch ffrindiau, a dysgwch sgiliau newydd trwy brofiad gwaith.

Gwirfoddolwr Dosbarthu Taflenni

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Dosbarthu ystod o lenyddiaeth SNAP Cymru mewn digwyddiadau ac i amryw o ganolfannau cymunedol.

Nod y rôl wirfoddoli:
Helpu SNAP Cymru i wella mynediad at wasanaethau drwy sicrhau y cyflwynir gwybodaeth mewn ystod o ganolfannau cymunedol, h.y. meddygfeydd, canolfannau iechyd, llyfrgelloedd, archfarchnadoedd a siopau lleol.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu:
Cynyddu argaeledd deunyddiau SNAP Cymru mewn canolfannau cymunedol lleol.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Mynychu digwyddiadau cymunedol a staffio mannau gwybodaeth.
  • Holi am ganiatâd i arddangos deunyddiau.
  • Casglu deunyddiau perthnasol a newydd o swyddfeydd lleol.
  • Cyflwyno deunyddiau SNAP Cymru yn rheolaidd.
  • Cynnal mannau gwybodaeth SNAP Cymru yn ôl y galw..

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio gyda ni ag y dymunant, cyhyd â’i fod wedi’i gytuno â’r Rheolwr Gwirfoddoli / Person Penodedig. Bydd rhoi o leiaf un diwrnod y mis yn ddymunol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man gwaith:
Casglu o’r swyddfa leol.
Yn y gymuned.

Manylion Cyswllt yr Uned Gwirfoddoli
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig lle bo’n briodol.

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu ag aelodau’r cyhoedd.
  • Gallu canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth.
  • Cymraeg / ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir pob deunydd.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Telir costau teithio a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu potensial llawn. Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol a gwneud ffrindiau, a dysgu sgiliau newydd drwy brofiad gwaith.

Aelod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Aelod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.

Nod y rôl wirfoddoli:
Helpu SNAP Cymru i reoli’r elusen fel Ymddiriedolwr Gwirfoddoli.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu:
Cyfraniad gweithredol at y broses o ddarparu llywodraethu da, cyfeiriad strategol, diffinio nodau a gosod targedau ar gyfer gwerthuso perfformiad.

Dyletswyddau Ymddiriedolwr SNAP Cymru yw:

  • sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’i ddogfen lywodraethu.
  • sicrhau bod y sefydliad yn dilyn ei amcanion fel y nodir yn ei ddogfen lywodraethu.
  • sicrhau bod y sefydliad yn defnyddio’i adnoddau er mwyn dilyn ei amcanion yn unig.
  • amddiffyn enw da SNAP Cymru.
  • sicrhau bod y sefydliad yn cael ei weinyddu mewn modd effeithiol.
  • helpu i sicrhau diogelwch ariannol SNAP Cymru.
  • amddiffyn a rheoli eiddo’r sefydliad.
  • penodi’r Prif Weithredwr a monitro ei berfformiad.

Amser:
Cynhelir cyfarfodydd Ymddiriedolwyr Gwirfoddol bob chwarter.
Gwahoddir ymddiriedolwyr i ddigwyddiadau hefyd a gallant ddewis cyfrannu at weithgareddau SNAP Cymru drwy gydol y flwyddyn.

Man gwaith:
Ar y cyfan, cynhelir cyfarfodydd ymddiriedolwyr yng nghanolbarth Cymru.

Manylion Cyswllt yr Uned Gwirfoddoli
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Manyleb Person yr Ymddiriedolwr:

  • Ymrwymiad i’r sefydliad.
  • Parodrwydd i roi’r amser ac i wneud yr ymdrech sy’n angenrheidiol.
  • Gweledigaeth strategol.
  • Sgiliau barnu annibynnol da.
  • Y gallu i feddwl yn greadigol.
  • Parodrwydd i leisio eu barn.
  • Dealltwriaeth o ddyletswyddau cyfreithiol a chyfrifoldebau ac atebolrwydd ymddiriedolwyr.
  • Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm.
  • Saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan: anhunanoldeb, didwylledd, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweiniad.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.
Cytuno i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Ymddiriedolwyr SNAP Cymru.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir yr holl ddeunyddiau.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Telir costau teithio a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.
Gwirfoddolwr Cyfranogi ac Ymgynghori

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Gwirfoddolwr Cyfranogi ac Ymgynghori.

Nod y rôl wirfoddoli: 
Gwirfoddoli gyda SNAP Cymru a phobl broffesiynol eraill i ddatblygu polisïau, arferion a gwasanaethau i wella addysg a sicrhau cynhwysiant yng Nghymru. Darllen ac ymateb o’ch cartref eich hun neu fynychu grŵp ar gyfer trafodaethau a chyfranogi yn y broses o ddatblygu polisïau.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu:
Cymorth i SNAP Cymru – helpu i sicrhau cynhwysiant yng Nghymru.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Darllen ac ymateb i ddogfennau ymgynghori (copïau caled / arlein).
  • Mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ôl y gofyn.

Amser:
Wrth i ymgynghoriadau godi.

Man gwaith:

  • Mae gan SNAP Cymru brif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol/lloeren ledled Cymru.
  • Cyfarfodydd / digwyddiadau achlysurol.

Manylion Cyswllt yr Uned Gwirfoddoli

Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig lle bo’n briodol.

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu â rhieni a phobl broffesiynol.
  • Gallu darllen ac ymateb i ddogfennau proffesiynol.
  • Gallu canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir pob deunydd.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Telir costau teithio a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu potensial llawn. Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol a gwnewch ffrindiau, a dysgu sgiliau newydd drwy brofiad gwaith.

Gwirfoddolwr Cefnogi Prosiect

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Gwirfoddolwr Cefnogi Prosiect.

Nod y rôl wirfoddoli:
Helpu SNAP Cymru i ddarparu amryw o wasanaethau i deuluoedd.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu:
Cefnogaeth yn y swyddfa i staff a gwirfoddolwyr, neu i gynorthwyo gyda hyfforddiant, codi arian a dosbarthu deunyddiau.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Darparu gwasanaethau ysgrifenyddol a gweinyddu swyddfa.
  • Ateb ymholiadau ffôn.
  • Sicrhau bod y safonau cyfrinachedd a diogelwch priodol yn cael eu cynnal o fewn y swyddfa.
  • Defnyddio offer TG.
  • Bod yn aelod annatod o dîm y swyddfa.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio â ni ag y dymunant. Fodd bynnag, er mwyn gwneud defnyddio effeithiol o’ch rhodd o amser, dylid cynllunio gwaith gwirfoddol ymlaen llaw â’r person priodol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man Gweithio:
Mae gan SNAP Cymru ganolfan prif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol / lloeren ar draws Cymru.

Manylion Cyswllt yr Uned Gwirfoddoli
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig lle bo’n briodol.

Cludiant:
Ddim yn hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu gyda rhieni a gweithwyr proffesiynol.
  • Canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Cydweithio.
  • Sgiliau swyddfa.
  • Gallu gweithio ar eich liwt eich hun.
  • Cymraeg / ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir pob deunydd.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cyflawni’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Telir costau teithio a lwfans bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu llawn botensial.  Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol, gwnewch ffrindiau a dysgwch sgiliau newydd drwy brofiad gwaith.

Gwirfoddolwr Cyswllt Ysgol a’r Gymuned

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Gwirfoddolwr Cyswllt Ysgol a’r Gymuned.

Nod y rôl wirfoddoli:
Helpu SNAP Cymru i ddatblygu a darparu amryw o wasanaethau i deuluoedd.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu:
Darparu pwynt cyswllt yn y gymuned ar gyfer teuluoedd, ac i ddarparu a chynnal pwyntiau gwybodaeth.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Darparu gwybodaeth leol i deuluoedd, plant a phobl ifanc.
  • Cynnal pwyntiau gwybodaeth gyda deunyddiau gan SNAP Cymru ac asiantaethau eraill.
  • Derbyn ymholiadau / cyfeiriadau cychwynnol.
  • Arwyddbost i asiantaethau allanol.
  • Cyfeirio teuluoedd at wasanaeth gwaith achos SNAP Cymru pan fo’n briodol.
  • Cynorthwyo datblygiad lleol.
  • Cynorthwyo grwpiau rhieni.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio â ni ag y dymunant. Fodd bynnag, er mwyn gwneud defnyddio effeithiol o’ch rhodd o amser, dylid cynllunio gwaith gwirfoddol ymlaen llaw â’r person priodol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man Gweithio:
Mae gan SNAP Cymru brif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol/ lloeren ar draws Cymru.

Manylion Cyswllt yr Uned Gwirfoddoli
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig lle bo’n briodol.

Cludiant:
Ddim yn hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu gyda rhieni a gweithwyr proffesiynol.
  • Canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Cydweithio.
  • Cymraeg / ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir pob deunydd.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cyflawni’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo angen.
  • Telir costau teithio a lwfans bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu llawn botensial.  Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol, gwnewch ffrindiau a dysgwch sgiliau newydd drwy brofiad gwaith.

Gwirfoddolwr Llinell Gymorth

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Gwirfoddolwr Llinell Gymorth.

Nod y rôl wirfoddoli:
Helpu SNAP Cymru i ddarparu ystod o wasanaethau i deuluoedd.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu:
‘Clust i wrando’ ar blant, teuluoedd a gofalwyr.
Darparu gwybodaeth i deuluoedd, trosglwyddo achosion i’r gwasanaeth gwaith achosion fel bo’n briodol.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Rhoi gwybodaeth i deuluoedd dros y ffôn un-tro/gyda chefnogaeth.
  • Gweithio mewn canolfan llinell gymorth benodedig fel rhan o dîm.
  • Trosglwyddo achosion i’r gwasanaeth gwaith achosion yn ôl y gofyn.
  • Helpu plant a theuluoedd i gael mynediad i ystod o wasanaethau cymorth a chyngor arbenigol.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleieid o amser yn gweithio â ni ag y dymunant. Fodd bynnag, er mwyn gwneud defnyddio effeithiol o’ch rhodd o amser, dylid cynllunio gwaith gwirfoddol ymlaen llaw drwy gytundeb â’r Rheolwr Gwirfoddoli / Person Penodedig. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man gwaith:
Ein canolfan ni yw: Swyddfa Llinell Gymorth Genedlaethol SNAP Cymru, 250 Heol Gaerfyrddin, Abertawe SA1 1HG.
Gall gwirfoddolwyr llinell gymorth hefyd wirfoddoli o fewn swyddfeydd lleol.

Manylion Cyswllt yr Uned Wirfoddoli
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: ymholiadau@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi person penodedig lle bo’n briodol.

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu â rhieni a phobl broffesiynol dros y ffôn.
  • Gallu canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth.
  • Cymraeg / ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir pob deunydd.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifir
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo’n angenrheidiol.
  • Telir costau a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu llawn botensial.  Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol, gwnewch ffrindiau a dysgwch sgiliau newydd drwy brofiad gwaith.

Gwirfoddolwr Cymorth Hyfforddiant

Mae SNAP Cymru yn elusen Cymru gyfan i blant, sy’n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Disgrifiad o Rôl Wirfoddoli SNAP Cymru:
Cefnogi’r broses o weinyddu a chyflwyno hyfforddiant SNAP Cymru.

Nod y rôl wirfoddoli:
Helpu staff SNAP Cymru yn y broses o gyflwyno ystod o fodiwlau hyfforddiant i staff, gwirfoddolwyr, rhieni, gofalwyr, pobl broffesiynol a phobl ifanc.

Amcanion y rôl wirfoddoli yw darparu:
Cefnogaeth i staff yn y broses o weinyddu a chyflwyno modiwlau hyfforddiant SNAP Cymru.

Tasgau Enghreifftiol:

  • Cefnogi’r broses o baratoi deunyddiau hyfforddiant..
  • Helpu i sicrhau lleoliadau hyfforddiant a threfniadau arlwyo addas.
  • Helpu i roi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau hyfforddiant.
  • Derbyn a chadarnhau archebion.
  • Helpu yn y broses o gyflwyno modiwlau hyfforddiant.
  • Helpu dysgwyr yn y broses achredu.

Amser:
Mae croeso i wirfoddolwyr dreulio cymaint neu gyn lleied o amser yn gweithio â ni ag y dymunant. Fodd bynnag, er mwyn gwneud defnyddio effeithiol o’ch rhodd o amser, dylid cynllunio gwaith gwirfoddol ymlaen llaw drwy gytundeb â’r Rheolwr Gwirfoddoli / Person Penodedig. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr.

Man gwaith:
Swyddfeydd SNAP Cymru a chanolfannau hyfforddi yn y gymuned.

Manylion Cyswllt yr Uned Wirfoddoli
Ffôn: 02920 384868 – Ebost: volunteering@snapcymru.org

Bydd eich swyddfa leol yn penodi aelod staff penodol lle bo’n briodol.

Cludiant:
Nid yw’n hanfodol.

Sgiliau gofynnol:

  • Gallu cyfathrebu â rhieni a phobl broffesiynol a dysgwyr eraill.
  • Gallu cyflwyno ystod o fodiwlau hyfforddi.
  • Gallu trefnu lleoliadau hyfforddi a gwaith gweinyddol.
  • Gallu canolbwyntio ar ddatrysiadau.
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth.
  • Cymraeg / ieithoedd eraill yn fanteisiol.

Geirdaon:
Rhaid cael dau eirda.
Rhaid cael gwiriad troseddol CRB.

Deunyddiau gofynnol:
Darperir pob deunydd.

Buddion a gynigir:

  • Hyfforddiant llawn er mwyn cwblhau’r rôl a ddisgrifir.
  • Hyfforddiant mewn swydd lle bo’n angenrheidiol.
  • Telir costau teithio a lwfansau bwyd.
  • Yswiriant llawn.
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Bydd SNAP Cymru yn rhoi’r cyfle i chi: helpu plant a phobl ifanc yn eich cymuned i gyrraedd eu llawn botensial.  Dewch yn aelod gwerthfawr o dîm lleol, gwnewch ffrindiau a dysgwch sgiliau newydd drwy brofiad gwaith.

Cynllun Interniaeth Gwirfoddol - Marchnata ac Incwm

Lleoliad: Prif Swyddfa, Caerdydd
Cyflog a Buddion: Costau teithio a bwyd

Rydym yn chwilio am unigolion deallus a brwdfrydig i ymuno â thîm ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd.

Mae pob diwrnod yn wahanol yng nghanol bwrlwm ein Prif Swyddfa. Byddwch yn cael cyfrifoldeb gwirionedd o’r cychwyn cyntaf, gan arwain a datblygu prosiectau hen a newydd. Byddwch yn cydweithio’n agos â’n Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol yn ddyddiol i sicrhau bod amcanion masnachol yr elusen yn cael eu cyflawni. Mae hwn yn gyfle gwych a byddai’n ddelfrydol ar gyfer graddedigion neu israddedigion sy’n chwilio am brofiad mewn marchnata, cyllid, adnoddau dynol, cysylltiadau cyhoeddus neu’r Trydydd Sector.

Mae interniaeth yn para 3 – 12 mis, am 3 neu 4 diwrnod yr wythnos, sy’n golygu y bydd modd i chi ddal swydd rhan amser gydol yr amser y byddwch gyda ni.

Am beth ydym yn chwilio?
Sgiliau Cyfathrebu Llafar ac Ysgrifenedig Gwych
Gweithio’n Dda mewn Tîm – bod ag agwedd o ‘Fedru Gwneud’
Sgiliau Trefniadaethol a Chynllunio Da
Profiad o ddefnyddio  Microsoft Office, Adobe Photoshop a’r Cyfryngau Cymdeithasol
Yn angerddol am farchnata, cysylltiadau cyhoeddus neu’r sector elusennol
Yn ddelfrydol yn meddu ar radd neu fyfyriwr/fyfyrwraig israddedig sy’n chwilio am gyfle i wneud ei l/ lleoliad

Cyfrifoldeb allweddol:

  • Cynorthwyo  i ddatblygu gwaith Marchnata SNAP Cymru yn ei gyfanrwydd ac ar gyfer digwyddiadau a chynnyrch penodol
  • Cynorthwyo  i ddatblygu a gweithredu’r strategaeth marchnata a chyhoeddusrwydd
  • Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu strategaeth Creu Incwm SNAP Cymru
  • Cynorthwyo i godi arian
  • Cynorthwyo i recriwtio a hyfforddi tîm o wirfoddolwyr
  • Cefnogi gwaith datblygu marchnata SNAP Cymru trwy weithio’n fewnol gyda staff a gwirfoddolwyr ac yn allanol trwy godi proffil y mudiad
  • Cysylltu gyda’r Uned Hyfforddi i ddatblygu mwy ar adnoddau hyfforddi marchnata
  • Cysylltu gyda chanolfannau gwirfoddol lleol, cyrff eraill y trydydd sector a mynd i ddigwyddiadau perthnasol fel bo’r gofyn
  • Cyfrannu at weithgareddau codi arian a hyrwyddo SNAP Cymru fel Elusen Genedlaethol
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a ofynnir gan eich Rheolwr Llinell ac i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd corfforaethol yn ôl y gofyn.

Amdanom Ni

Codi Arian

Cyfrannwch