Profiad Bethan gyda SNAP Cymru

Ers 18 mis, ro’n i wedi ceisio cael lle i David, fy mab, yn y lleoliad cywir a fyddai’n gallu bodloni ei restr hir o anghenion. Roedd y berthynas gydag ysgol David wedi chwalu. Ro’n i’n teimlo fod yr ALl yn cefnogi’r ysgol, a ddim yn ‘clywed’ fy mhryderon a’m cwestiynau. Ar y pwynt yma, ro’n i wedi cyrraedd pen tennyn. Cysylltais â SNAP Cymru a threfnu cyfarfod ar Teams gyda’r AALl, yr ysgol, SNAP, a minnau. Ar fore’r cyfarfod, ro’n i’n cwblhau fy rhestr o bwyntiau i baratoi, pan ddechreuodd y ffôn ganu. Clywais acen gyfeillgar ac anghyfarwydd o’r Cymoedd pan atebais, Donna oedd ar y ffôn. Ar y pwynt yma, ro’n i’n teimlo’n bryderus ac yn nerfus iawn, gan fod achos David yn hynod gymhleth, hir a manwl.

Cefais fy synnu gan wybodaeth gynhwysfawr Donna. Roedd hi’n llawn gwybodaeth, yn gyfeillgar ac yn fodlon helpu. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, newidiodd fy mywyd er gwell. Am unwaith, ro’n i’n teimlo fod gen i gyfle i gael y ddarpariaeth angenrheidiol i David. Dros yr wythnosau nesaf, bues i ar daith llawn gwybodaeth a fydd byth yn mynd yn angof.

Gweithiodd Donna’n galed iawn ar yr achos, yn rhoi addysg i mi, yn rhoi gwybod i mi am gynnwys datganiadau, paneli, prosesau a gweithdrefnau pontio. Roedd Donna’n fy nghefnogi i drwy bopeth.

Roedd angerdd, penderfynolrwydd a gwybodaeth Donna, ei sgiliau pobl anhygoel, ei phroffesiynoldeb llwyr a’i ffordd gyfeillgar yn amlwg iawn ym mhob trafodaeth, cyfarfod ac e-bost.

Diolch i Donna:

  • Mae gen i ddealltwriaeth well o’r broses ddatganiadau.
  • Mae angerdd dros fynd ar ôl swydd ym maes eiriolaeth wedi dod i’r amlwg i mi, er mwyn gallu helpu rhieni fel fi rhyw ddiwrnod.
  • Mae David wedi cael y ddarpariaeth briodol.

Rwy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r geiriau sy’n mynegi fy niolchgarwch llwyr i Donna Morgan a SNAP Cymru. Heb eich gwasanaeth, byddai llawer iawn o deuluoedd mewn sefyllfaoedd ofnadwy. Diolch SNAP Cymru, a diolch Donna Morgan.

Gwirfoddolwch gyda ni

Stori Gwirfoddoli

Codi Arian