Straeon Gwirfoddolwyr

Rydym yn mwynhau clywed gan ein gwirfoddolwyr. Dyma rai straeon ynglŷn â’r ffordd y mae gwirfoddoli i SNAP Cymru wedi cael dylanwad ar ein haelodau gwerthfawr o’n tîm. Darllenwch eu straeon isod:

Stori Janice

Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gyda SNAP Cymru am dair mlynedd.

 Y rheswm dros ddechrau gwirfoddoli oedd fy mod wedi ymddeol ar ôl bod yn athrawes am 38 mlynedd, ac yn chwilio am fudiad lle y byddwn yn gallu defnyddio’r sgiliau a’r profiad a oedd gen i.

Roeddwn yn swyddog amddiffyn plant, a oedd yn golygu cymryd rhan mewn gwaith amlasiantaethol a helpu pobl ifanc a’u teuluoedd. Roeddwn am barhau mewn rôl debyg lle y gallwn rannu fy mhrofiad a’m sgiliau er mwyn helpu teuluoedd.

Stori Jack

Fe ddes i ar draws SNAP Cymru am y tro cyntaf pan oedd angen cymorth arna i fel plentyn yn ystod fy addysg.

Fe wnaeth SNAP yn siŵr bod fy nheulu a finnau yn cael yr addasiadau roeddwn eu hangen i gwblhau fy nghymwysterau yn llwyddiannus. 

Tuag at ddiwedd fy siwrnai addysgol, fe wnes i wirfoddoli gyda SNAP i ddysgu mwy am y system, cael profiad mewn amgylchedd swyddfa, ond hefyd i barhau i gefnogi’r gwaith gwych y mae SNAP Cymru yn ei wneud. 

Stori Nia

Dechreuais wirfoddoli gyda SNAP yn 2009.

Mae gwirfoddoli i SNAP Cymru wedi sbarduno fy niddordeb mewn cyfiawnder a chydraddoldeb. Rwyf bellach yn gweithio fel Bargyfreithiwr yn yr Uchel Lys, Llys Sirol a Llys Teulu ledled Cymru a Lloegr.  Rwyf wedi ymrwymo i weithio i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y broses gyfreithiol beth bynnag eu hanghenion neu eu hamgylchiadau unigol.  Fe fyddwn i’n annog unrhyw berson ifanc sydd ag amser i’w sbario, parodrwydd i ddysgu, ac awydd i weithio gyda thîm o unigolion ymroddedig i ystyried gwirfoddoli yma hefyd.

Stori Pat

Bûm yn dysgu yn Abertawe am 34 mlynedd a phan wnes i ymddeol yn 2015 roeddwn i eisiau parhau i gymryd rhan weithredol.  

Rydw i wedi mwynhau fy amser yn gwirfoddoli gyda SNAP, maer tim cyfan yn hyfryd, ofalgar a gwybodus.

Rwy’n gweithio gyda theuluoedd ar draws ardal Abertawe, gan eu cefnogi i mynegi eu barn ac i gael gafael ar y gefnogaeth gywir i’w plant. 

Stori Ann

Rwyf wrth fy modd â’m rôl yn SNAP Cymru – mae’n cyd-fynd â’m mywyd prysur ac yn cadw fy ymennydd yn weithgar!  Rwy’n gweithio ar y Llinell Gymorth sy’n darparu gwasanaeth annibynnol a chyfrinachol i deuluoedd sy’n ein ffonio am gyngor a chefnogaeth.   

Mae rhieni yn aml yn ofidus a rhan mawr o’r galwadau bob amser yw i wrando ar eu profiad a’u helpu i ganolbwyntio ar anghenion y plentyn a’u dymuniadau y teulu a phlentyn.

Stori Pat 

Rwy’n berson prysur iawn yn fy nghymuned, fy nheulu a’m côr, ac yn credu bod gwirfoddoli i SNAP Cymru yn bwysig iawn.

Rwy’n gwirfoddoli un neu ddau ddiwrnod bob wythnos yn cefnogi gwaith cyllid a gweinyddiaeth ledled Cymru. 

Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn cyd-fynd â’m blaenoriaethau eraill – byddwn yn ei argymell i unrhyw un!

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfranwch