Pontio

Gadael yr ysgol

Mae’r cyfnod pontio’n gyfnod o newid. Rhwng 14 a 25 oed, rhaid i bobl ifanc wneud penderfyniadau pwysig, fel arfer, am eu haddysg, gadael cartref, cael swydd a meithrin perthnasau. Gall y penderfyniadau a’r newidiadau hyn fod yn gyffrous ac yn heriol. Gall fod yn gyfnod pryderus i rai teuluoedd. Mae’n bosib y bydd pobl ifanc yn bryderus am y cyfleoedd a’r gwasanaethau y gallant eu disgwyl fel oedolyn, ac a fydd eu hanghenion yn cael eu bodloni’n llawn.

Bydd proses gynllunio lwyddiannus ar gyfer pontio yn helpu i roi dealltwriaeth eglur o’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ar ôl yr ysgol, ac ar ôl 18 oed. Gall pobl ifanc adael yr ysgol yn gyfreithlon ar ddiwedd mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol ar ôl iddynt gael eu pen-blwydd yn 16 oed. O hynny ymlaen, gallant fel arfer wneud penderfyniadau ynghylch yr hyn y maent am ei wneud. Fodd bynnag, bydd angen cefnogaeth ar rai wrth wneud cynlluniau. Y prif opsiynau ar ôl 16 oed yw:

  • Aros yn yr ysgol – gall gynnig nifer o gyfleoedd a gall fod yn ddewis positif. Gall rhai pobl ifanc aros yn yr ysgol hyd nes eu bod yn 19 oed. Gall cynghorydd Gyrfa Cymru roi gwybodaeth fanwl i chi am y cyrsiau a’r cymwysterau sydd ar gael yn lleol.
  • Yn aml iawn, mynychu coleg addysg bellach tra byddwch yn byw gartref yw’r cam nesaf. Gall colegau gynnig ystod a lefelau eang iawn o ran cyrsiau academaidd a galwedigaethol, yn rhan-amser neu’n llawn amser. Cynlluniwyd nifer o gyrsiau i baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd fel oedolyn drwy gynnig ystod o gyrsiau galwedigaethol rhagflas, a’r cyfle i ennill cymwysterau a gwella sgiliau mewn Mathemateg, Saesneg/Cymraeg a chyfathrebu. Mae rhai myfyrwyr yn aros yn eu coleg lleol hyd nes eu bod yn 25 oed.
  • Colegau preswyl arbenigol – Gall bron bob person ifanc gydag anawsterau dysgu a/neu anableddau fynd i’w coleg lleol ond mae gan nifer fach iawn anghenion nad yw eu coleg lleol yn gallu eu bodloni. Fodd bynnag, os yw’r dysgwyr rhwng 16 a 25 oed, gallai Llywodraeth Cymru dalu iddynt fynychu coleg arbenigol, a chynnig cyrsiau preswyl, lle bo’n briodol. Pan nad yw’r un coleg lleol yn gallu bodloni anghenion person ifanc, bydd gan y cynghorydd gyrfa wybodaeth am sut i wneud cais am le mewn coleg arbenigol a sut i gael nawdd.
  • Bydd addysg uwch yn opsiwn ar gyfer rhai pobl ifanc y mae eu gallu academaidd yn eu galluogi i gael mynediad at y cyrsiau sydd ar gael. Gallai hyn fod yn y brifysgol, yn y coleg neu drwy ddysgu o bell.
  • Gwaith a hyfforddiant wedi’i gefnogi – Gall person ifanc fentro i’r byd gwaith drwy gyflogaeth neu raglen hyfforddiant wedi’i gefnogi. Mae yna nifer o sefydliadau sy’n gallu helpu i ddod o hyd i gyfleoedd mewn lleoliadau gwaith go iawn. Gall nifer o’r rhaglenni hyn arwain at gymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.
  • Cyflogaeth – Cyfran isel yn unig o bobl ifanc sy’n mentro’n syth i fyd gwaith o’r ysgol. Os mai hyn yw’r opsiwn fwyaf priodol, gall cynghorydd Gyrfa Cymru helpu gyda sgiliau chwilio am swyddi.
  • Gallai cyfleoedd gwasanaethau undydd fod yr opsiwn gorau ar gyfer rhai pobl ifanc. Caiff y rhain eu trefnu, fel arfer, mewn lleoedd lle gall pobl ifanc gydag anabledd dysgu gwblhau pob math o weithgareddau dydd diddorol (yn aml allan o’r ganolfan ddydd ac yn y gymuned leol). Yma, gallant wneud ffrindiau newydd, cael annibyniaeth a dod yn aelod gwerthfawr o’r gymuned. Darperir gwasanaethau dydd, fel arfer, gan wasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol neu sefydliadau gwirfoddol.
Mae SNAP Cymru wedi cynhyrchu’r canllawiau isod sy’n esbonio beth yw pontio a beth i’w ddisgwyl. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â ni.

“Pontio” yw’r broses pan fo person ifanc yn dechrau meddwl am adael yr ysgol er mwyn mynd i’r coleg, i’r byd gwaith, i hyfforddiant neu i weithgareddau eraill. Yn y cyfnod hwn, bydd rhaid i’r person ifanc a’i deulu wneud penderfyniadau ynghylch ei ddyfodol.

Gall fod yn arbennig o gymhleth i berson ifanc gydag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Mae’n bwysig bod pawb sydd ynghlwm wrth gynllunio ar gyfer pontio yn ymwybodol o egwyddorion Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002.

Mae’r rheoliadau’n nodi bod rhaid creu cynllun pontio ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd â datganiad o AAA yn ystod arolwg blynyddol Blwyddyn 9. Nod cynllun pontio yw helpu’r person ifanc i baratoi ar gyfer bywyd llwyddiannus y tu allan i’r ysgol.

Mae’r Cod Ymarfer AAA yn dweud bod “rhaid i’r Arolwg Blynyddol ym mlwyddyn 9 ac unrhyw adolygiadau blynyddol dilynol hyd nes bod y person ifanc yn gadael yr ysgol gynnwys y broses o lunio ac adolygu’r cynllun pontio.”

Dylai’r cynllun pontio dynnu ynghyd yr holl wybodaeth gan amryw bobl o fewn yr ysgol a’r tu allan iddi, sy’n gysylltiedig â’r person ifanc. Ceir Arolwg Blynyddol (Pontio) arbennig ym mlwyddyn 9.

SNAP Cymru: Pontio - I Rieni a Gofalwyr

Gyrfa Cymru

Gall gwneud cynlluniau fod yn hawdd i rai pobl ifanc, tra bod eraill yn ei chael yn haws siarad am eu dyfodol gyda rhywun nad ydynt yn ei adnabod, ond sy’n gwybod am gynlluniau pontio. Mae cynghorwyr o Gyrfa Cymru yn helpu pob person ifanc gydag AAA i baratoi ar gyfer y broses bontio. Dylai’r ysgol sicrhau bod Gyrfa Cymru ynghlwm wrth y broses bontio.

Hunan-eiriolaeth

Gall rhai pobl ifanc siarad drostynt eu hunain, tra bod eraill yn hapusach yn siarad â chi, eu ffrindiau neu aelodau eu teulu. Yn eithaf aml, mae pobl ifanc yn ei chael yn ddefnyddiol siarad â rhywun arall sydd wedi ei hyfforddi i’w cefnogi neu sy’n gallu siarad ar eu rhan nhw.

Weithiau, gelwir y person hwn yn “Eiriolwr”. Mewn rhai llefydd, gall pobl ifanc ymuno â grŵp hunan-eiriolaeth a fydd yn eu helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth siarad drostynt eu hunain. Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, eich gweithiwr cymdeithasol, yr ysgol neu SNAP Cymru eich helpu i ddarganfod mwy.

Pwy fydd yn y cyfarfod pontio?

Bydd yr ysgol yn trefnu’r cyfarfod pontio gyda’r person ifanc a chi. Hefyd, mae yna nifer o bobl y mae’n rhaid iddynt gael eu gwahodd i fynychu’r cyfarfod. Weithiau, mae adroddiad ysgrifenedig gan y bobl hyn yn dderbyniol os nad oes modd iddynt fynychu’r cyfarfod.

  • Rhiant neu ofalwr y person ifanc
  • Cynghorydd personol o Gyrfa Cymru
  • Athro/awes perthnasol
  • Cydlynydd AAA
  • Cynrychiolydd o’r Awdurdod Lleol (ALl)
  • Unrhyw berson a nodir gan yr ALl
  • Y person ifanc
  • Seicolegydd addysg yr ALl
  • Cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Iechyd
  • Gweithwyr proffesiynol eraill sydd yn agos i’r achos

Y Cynllun Pontio

Cyfrifoldeb yr ysgol yw llunio a chynnal y cynllun. Yna, caiff ei adolygu’n rheolaidd, o leiaf bob blwyddyn, a’i ddiweddaru wrth i safbwyntiau ac anghenion y person ifanc newid. Bydd staff yr ysgol a’r cynghorydd o Gyrfa Cymru yn gweithio gyda’r person ifanc i ddatblygu syniadau. Weithiau, bydd gan yr ysgol berson penodedig i helpu pobl ifanc pan fydd newidiadau mawr yn digwydd yn eu bywydau. Bydd staff yr ysgol bob amser ar gael i helpu, ac fe fyddant yn gweithio gyda phobl ifanc a phawb sydd ynghlwm wrth y broses er mwyn sicrhau bod popeth wedi ei gynllunio ar gyfer yr amser pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Mae pontio yn golygu newid. Bydd pobl yn siarad â chi am bontio pan fyddwch chi ym mlwyddyn 9 neu’n 14 oed. Byddant yn siarad â chi am y dewisiadau sydd gennych a’r newidiadau a allai ddigwydd o ran eich dyfodol. Mae’n ymwneud â gwneud cynlluniau.

Eich Cyfarfod

Eich cyfarfod chi yw hwn. Bosib y bydd rhai o’r bobl ganlynol yno i siarad â chi am wneud cynlluniau:

  • Chi, os ydych yn dymuno
  • Eich rhieni neu ofalwr
  • Eich athro/awes
  • Cynghorydd Gyrfa Cymru
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Eiriolwr – os ydych yn dymuno
  • SNAP CYMRU – os ydych yn dymuno

Cofiwch!

Eich cyfnod pontio chi yw hwn. Dyma eich cyfle i wneud penderfyniadau am eich dyfodol neu am eich cam nesaf. Gall gwneud penderfyniadau fod yn anodd i bawb, hyd yn oed i oedolion. Weithiau, mae angen iddyn nhw ofyn am help hyd yn oed.

Pwy all eich helpu chi?

Mae’n haws i chi wneud cynlluniau os oes gennych chi bobl o’ch cwmpas rydych yn ymddiried ynddynt i’ch helpu chi. Gallwch hefyd gael cefnogaeth gan gynghorydd personol sy’n gweithio i sefydliad o’r enw ‘Gyrfa Cymru’, neu fe allech chi siarad drosoch chi eich hun.

Dewisiadau ar ôl Blwyddyn 11

Gallwch ddewis:

  • Aros yn yr ysgol
  • Mynd i’r coleg
  • Cael swydd
  • Meddwl am ddod yn annibynnol
  • Gwneud ychydig o hyfforddiant
  • Gwneud pethau eraill yn ystod y dydd

Hunan-eiriolaeth

Mae hunan-eiriolaeth yn golygu dysgu sut mae siarad drosoch chi eich hun. Gall eich teulu a’ch ffrindiau eich helpu i wneud hyn. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn teimlo’n hapusach i siarad â rhywun arall – gelwir y person hwn yn eiriolwr. Gallech chi hyd yn oed ymuno â grŵp hunan-eiriolaeth. Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, gweithiwr cymdeithasol, yr ysgol a SNAP Cymru eich helpu i ddarganfod mwy am y gwasanaethau hyn.