Beth alla i ei ddisgwyl o’r gwasanaethau Iechyd?

Os oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion gofal iechyd, dylid eu cefnogi’n iawn fel bod ganddyn nhw fynediad llawn at addysg, gan gynnwys teithiau ac addysg gorfforol.

Mae’r ysgol neu’r coleg ynghyd â’r awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd y GIG yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod gan blentyn neu berson ifanc y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn yr ysgol neu’r coleg.

Mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar Gefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd yn cynnwys y trefniadau y mae’n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol eu darparu ar gyfer pob dysgwr ag anghenion gofal iechyd.

RHAID i awdurdodau lleol a byrddau’r GIG gydweithredu a chynllunio ymlaen llaw a chydweithio i wneud yn siŵr bod trefniadau ar waith i ddiwallu anghenion gofal iechyd y plant y maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw.

Yn dibynnu ar anghenion eich plentyn neu berson ifanc, gall y gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn gynnwys help wrth dîm Bwrdd Iechyd y GIG, a dylen nhw weithio gyda’r ysgol i gefnogi anghenion gofal iechyd y plentyn neu’r person ifanc, a chynnig cyngor ac arweiniad i athrawon.

 

Os na allai plentyn neu berson ifanc dderbyn addysg addas unrhyw bryd oherwydd eu hiechyd, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i wneud trefniadau i ddarparu addysg addas. (mae hyn yn cael ei nodi yn adran 19 o Ddeddf Addysg 1996). Yn ogystal, rhaid iddyn nhw beidio â gwrthod na lleihau darpariaeth o’r fath ar sail cost.

Ni ddylai plant a phobl ifanc â chyflyrau meddygol gael eu hanfon gartref yn aml am resymau sy’n gysylltiedig â’u cyflwr meddygol neu eu hatal rhag aros ar gyfer gweithgareddau arferol yr ysgol, gan gynnwys cinio (oni nodir hyn yn eu cynlluniau gofal iechyd unigol.)

Os oes angen cymorth gan wasanaeth iechyd ar blentyn neu berson ifanc, gan gynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), mae’r man cychwyn yn debygol o fod yn atgyfeiriad gan eich meddyg teulu neu o’r ysgol neu’r coleg. Serch hynny, mae gan nifer o ysgolion a cholegau gymorth ar gyfer llesiant plant a phobl ifanc, ac mewn nifer o achosion, mae gwasanaethau cwnsela ar gael. Gall ysgolion wneud atgyfeiriadau ar gyfer asesiadau fel anhwylderau yn y sbectrwm awtistig.

Dylai’r ysgol neu’r coleg ystyried anghenion gofal iechyd pob plentyn neu berson ifanc yn ofalus, a dylid rhoi pob cyfle i safbwyntiau’r disgybl neu ei rieni gael eu hystyried. Nid yw polisïau cyffredinol ar iechyd yn arfer derbyniol.

Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

Cwestiynau Cyffredin

Beth ddylwn i ei wneud os oes gan fy mhlentyn anghenion meddygol yn yr ysgol neu’r coleg?

Os ydych chi’n credu bod angen cymorth ar eich plentyn gyda’i anghenion gofal iechyd, dylech godi unrhyw bryderon gyda’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol neu’r Pennaeth yn y lle cyntaf.

Yn dibynnu ar broblemau iechyd eich plentyn, gallai’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw’n yr ysgol gynnwys:

  • help i gymryd meddyginiaeth
  • help i reoli cyflwr cronig
  • lle tawel i orffwys yn ystod y diwrnod ysgol
  • amser ychwanegol i gwblhau tasgau
  • help i ddefnyddio’r toiled neu roi triniaeth feddygol.
  • cymorth i osgoi argyfyngau (fel adwaith alergaidd) neu i ymateb yn gyflym ac yn addas os oes un yn digwydd.

Os yw’r plentyn neu’r person ifanc eisoes yn mynychu’r ysgol neu goleg ac wedi cael diagnosis diweddar o gyflwr iechyd, dylech ofyn am gyfarfod gyda lleoliad eich plentyn neu berson ifanc cyn gynted â phosibl i drafod y cymorth y bydd ei angen arnyn nhw.

Gallwch gysylltu â Nyrs yr Ysgol, Pennaeth, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu yn y coleg, gall y person ifanc siarad â’r Tîm Llesiant neu Gymorth i Fyfyrwyr. Efallai y bydd ganddyn nhw hefyd Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol os oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Yn dibynnu ar angen yr unigolyn, gallai fod yn ddefnyddiol gofyn i’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n cefnogi’ch plentyn neu berson ifanc fynychu neu ddarparu gwybodaeth. Pan fyddwch chi’n mynychu’r cyfarfod, ewch ag unrhyw wybodaeth sydd gennych a fydd yn helpu’r lleoliad i ddeall anghenion eich plentyn. Gall hyn gynnwys llythyrau asesu neu daflenni am gyflwr eich plentyn.

Dylai’r Ysgol/Coleg:

  • benderfynu sut bydd anghenion y plentyn neu’r person ifanc yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd
  • cael gweithdrefnau os bydd argyfwng yn codi neu os bydd y plentyn neu’r person ifanc yn mynd yn anhwylus yn yr ysgol/coleg
  • cynllunio sut gall holl aelodau staff yr ysgol/coleg fod yn ymwybodol o anghenion eich plentyn neu berson ifanc a sut dylen nhw ymateb mewn argyfwng

Beth yw cynllun gofal iechyd unigol?

Mae’r cynllun gofal iechyd unigol yn nodi pa gymorth sydd ei angen ar eich plentyn. Does dim angen iddyn nhw fod yn hir ac yn gymhleth. Mae cynllun gofal iechyd unigol yn hanfodol os yw anghenion eich plentyn yn gymhleth, yn anwadal, yn rhai hirdymor neu os oes risg uchel y bydd angen ymyrraeth frys. Serch hynny, nid oes angen cynllun gofal iechyd unigol ar bob dysgwr sydd ag anghenion gofal iechyd.

Mae gan fy mhlentyn anghenion meddygol, oes ganddyn nhw Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) hefyd?

Efallai y bydd gan rai plant a phobl ifanc gyflyrau meddygol sy’n cael effaith sylweddol ar y ffordd maen nhw’n gweithredu yn yr ysgol neu addysg bellach. Gallai eu hanghenion meddygol effeithio ar eu haddysg ac efallai y bydd angen gwybodaeth a sgiliau arbenigol arnyn nhw neu gymorth a darpariaeth ychwanegol i’w helpu i ddysgu. Os felly, maen nhw’n debygol o fod ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Os ydych yn poeni bod anghenion iechyd y plentyn neu’r person ifanc yn effeithio ar eu haddysg, dylech siarad â’r ysgol neu’r coleg a gofyn iddyn nhw ystyried p’un a oes gan eich plentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Yna bydd gan yr ysgol neu’r coleg ‘ddyletswydd i benderfynu’. A bydd angen cofnodi’r dyddiad y daethpwyd â’r pryder i’w sylw.

Dim ond plant a phobl ifanc sydd ag ADY fydd yn cael Cynllun Datblygu unigol (CDU).

Nodir diffiniad cyfreithiol ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol fan hyn. Beth yw ADY?

Mae Cod ADY 2021 yn dweud y gallai angen meddygol gael:

  • effaith uniongyrchol ar allu gwybyddol, gallu corfforol, ymddygiad neu gyflwr emosiynol plentyn neu berson ifanc
  • neu’n tarfu ar eu mynediad at addysg drwy effeithiau diangen triniaeth neu drwy’r effeithiau seicolegol y gall salwch neu anabledd difrifol neu gronig eu cael ar blentyn neu berson ifanc.

Dylai anghenion gofal iechyd pob plentyn neu berson ifanc a’r posibilrwydd o gael anghenion dysgu ychwanegol gael eu hystyried yn ofalus.

Efallai y bydd gan blentyn neu berson ifanc anghenion meddygol, ond nid oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol,yn hytrach, dylid cael cynllun iechyd unigol a fyddai’n nodi sut dylid eu cefnogi.

Mae gen fy mhlentyn anghenion meddygol ac ADY, beth alla i ei ddisgwyl wrth y Bwrdd Iechyd?

Os oes gan blentyn neu berson ifanc mewn ysgol neu goleg prif ffrwd ADY, ac o bosib, anghenion iechyd cysylltiedig, gall awdurdod lleol ofyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, os oes:

‘unrhyw driniaeth neu wasanaeth sy’n debygol o fod o fudd wrth fynd i’r afael ag ADY plentyn neu berson ifanc.’ (Adran 20 o’r ADY)

Os yw’r Awdurdod Lleol yn paratoi neu’n cynnal CDU i berson ifanc, gallan nhw atgyfeirio’r plentyn i’r gwasanaethau iechyd.

Gall corff llywodraethu sefydliad Addysg Bellach hefyd gyfeirio person ifanc i’r gwasanaethau iechyd.

Cyn gwneud atgyfeiriad, RHAIDi’r ALl drafod y mater gyda’r plentyn, rhiant y plentyn neu’r person ifanc a bod yn fodlon bod yr atgyfeiriad er budd pennaf y plentyn neu’r person ifanc.

Os yw’r bwrdd iechyd yn nodi triniaeth neu wasanaeth sy’n briodol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, mae’n rhaid iddo ddisgrifio’r driniaeth neu’r gwasanaeth yng nghynllun datblygu unigol (CDU) y plentyn ac os yw’r bwrdd iechyd yn nodi ‘triniaeth neu wasanaeth’ a fyddai o fudd i’r plentyn neu’r person ifanc, mae’n rhaid iddo ei ddarparu.. (A20(5) ac A21(5) o’r Ddeddf)

Bydd yn amlwg iawn mewn CDU pa asiantaeth sy’n gyfrifol am ddarparu’r gefnogaeth unigol. RHAID i’r bwrdd iechyd ddarparu unrhyw Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol iechyd oddi fewn i’r CDU y maen nhw wedi cytuno i’w darparu.

Bydd yn rhaid i’r Bwrdd Iechyd gytuno ar unrhyw ddarpariaeth gofal iechyd cyn y gellir ei nodi mewn cynllun. Ar ôl nodi’r ddarpariaeth mewn cynllun, rhaid ei darparu.

Beth os oes gan fy mhlentyn anghenion meddygol ond ddim ADY?

Os oes gan eich plentyn gyflwr meddygol, ond ddim anghenion dysgu ychwanegol, dylai eu hanghenion meddygol gael eu hamlinellu mewn Cynllun Gofal Iechyd Unigol (CGIU) (Gweler Adran 3 o ganllawiau LlC i gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd)

Gofynnwyd i fi fynychu'r ysgol i roi meddyginiaeth i’m plentyn, a ddylai hynny gael ei nodi yn y cynllun?

Ni ddisgwylir i rieni neu aelodau eraill o’r teulu ddarparu gofal iechyd i gefnogi eu plentyn yn yr ysgol, neu i deimlo gorfodaeth i fynd i’r ysgol i roi meddyginiaeth neu gymorth meddygol i’w plentyn. Mae hyn yn cynnwys mynd â’r plentyn i’r toiled os yw’n anabl.

Gofynnwch am gyfarfod gyda’r ysgol i drafod hyn. Dylech ofyn i’r ysgol ddatblygu cynllun gofal iechyd unigol neu i benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY.

Os nad yw’r ysgol yn diwallu anghenion gofal iechyd y plentyn neu’r person ifanc, er i chi ofyn iddyn nhw wneud hynny, gallwch ddefnyddio gweithdrefn gwynion yr ysgol.

Os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd y mae’r ysgol wedi delio â’ch pryderon, neu drefniadau gofal iechyd eich plentyn, gallwch wneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig at y Pennaeth a chysylltu â SNAP Cymru am gymorth.

Beth os yw’r ddarpariaeth iechyd yng Nghynllun Datblygu Unigol fy mhlentyn yn anghywir neu’n annigonol?

Os ydych yn anhapus neu’n anghytuno â’r ddarpariaeth gofal iechyd yng Nghynllun Datblygu Unigol eich plentyn neu berson ifanc, dylech godi eich pryderon gyda’r staff sy’n ymwneud â’r gofal neu’r driniaeth, fel y gallan nhw edrych ar yr hyn a allai fod wedi mynd o’i le a cheisio’i wella.

Os nad yw hynny’n helpu, gallwch gysylltu â thîm pryderon y Bwrdd neu’r Ymddiriedolaeth Iechyd. Yn GIG Cymru, caiff cwynion am y ddarpariaeth Iechyd eu gwneud drwy broses o’r enw ‘Gweithio i Wella’.

Yn ogystal, bydd gan bob Awdurdod Lleol Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (“SACDA”).

Bydd rôl SACDA yn cynnwys goruchwylio unrhyw gŵyn neu anghydfod sy’n ymwneud â chyfrifoldebau Iechyd yn y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg .

Os oes gan eich plentyn ADY ac angen meddygol, gallai’r SACDA fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol i ddatrys y cwyn neu’r anghydfod, neu sicrhau bod system gadarn ar waith i ddod â phobl at ei gilydd i geisio cael penderfyniad cynnar.

Ydw i’n gallu gwneud apêl i’r Tribiwnlys Addysg ynglŷn â’r ddarpariaeth Iechyd yng Nghynllun Datblygu Unigol fy mhlentyn?

Ni allwch apelio i’r Tribiwnlys ynglŷn â’r ddarpariaeth Iechyd mewn CDU yn unig.

Serch hynny, gall y Tribiwnlys Addysg, wrth ystyried apêl ADY:

  • fynnu bod corff GIG yn darparu tystiolaeth ynghylch agweddau iechyd cysylltiedig yr apêl a wnaed
  • gwneud argymhellion i gorff GIG ynglŷn â’i ddyletswyddau o dan y Ddeddf.

Os yw’r Tribiwnlys yn gwneud argymhelliad i gorff GIG, rhaid iddyn nhw adrodd yn ôl i’r Tribiwnlys i ddweud:

  • pa gamau y mae wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i argymhelliad y Tribiwnlys
  • neu pam nad yw wedi cymryd unrhyw gamauac nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i argymhelliad y Tribiwnlys.

Serch hynny, lle bo’r Tribiwnlys yn gorchymyn diwygiad i’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol o fewn y CDU, nid yw’n ofynnol i gorff y GIG sicrhau’r ddarpariaeth ddiwygiedig oni bai ei fod yn cytuno gwneud hynny.

Mae fy mhlentyn yn anabl, a fydd ganddyn nhw Gynllun Datblygu Unigol, Cynllun Gofal Iechyd Unigol neu a fydd ‘Addasiadau Rhesymol’ yn cael eu gwneud?

Ni ddylai plant a phobl ifanc anabl gael eu heithrio rhag cael addysg oherwydd eu hanabledd, mae ganddyn nhw hawl i dderbyn y cymorth sydd ei angen i’w helpu i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd ysgol neu goleg.

Os yw cyflwr meddygol eich plentyn yn cyfateb i anabledd, mae gan leoliadau Blynyddoedd Cynnar, ysgolion a sefydliadau Addysg Bellach ddyletswydd i blant anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a rhaid iddyn nhw wneud ‘addasiadau rhesymol’ lle bo angen, fel nad yw plentyn anabl yn cael ei roi o dan anfantais sylweddol.

Yn aml mae gorgyffwrdd sylweddol rhwng anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol. Felly, gellir diffinio plentyn fel bod yn anabl neu ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r ddau.

Mae mwy o blant yn dod o dan ddisgrifiad y Ddeddf Cydraddoldeb nag y mae nifer yn ei ddychmygu.

Gall plant anabl a’r rheini ag anghenion meddygol ddod o dan ddwy ddeddf wahanol – Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 a Deddf Cydraddoldeb 2010, a cheir gorgyffwrdd sylweddol rhwng y ddau.

Er na fydd ADY ar bob plentyn anabl, mae ymchwil wedi dangos bod cynifer â ¾ o blant anabl ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd.

Mae plant sydd ag ystod o gyflyrau iechyd, er enghraifft: epilepsi, diabetes neu fathau mwy difrifol o asthma neu ecsema, yn fwy tebygol o gael eu cynnwys yn y diffiniad o anabledd ond efallai na fydd ganddyn nhw anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd Cynllun Gofal Iechyd Unigol ganddyn nhw yn lle hynny.

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfranwch