Beth yw anghenion dysgu ychwanegol? (ADY) a beth yw darpariaeth ddysgu ychwanegol? (ALP)

Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu ‘ADY’ fel y cyfeirir ato’n aml, yw’r term newydd a ddefnyddir i ddisgrifio anawsterau neu anableddau dysgu sy’n ei gwneud hi’n anoddach i blentyn ddysgu o’i gymharu â phlant o’r un oedran. Mae tua un ym mhob pump dysgwr yng Nghymru ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Efallai y bydd pob plentyn yn profi heriau gyda’u dysgu ar ryw adeg ac i’r rhan fwyaf o blant, caiff yr anawsterau hyn eu goresgyn gyda chefnogaeth athrawon ac yn y cartref.

Serch hynny, mae’n debygol y bydd plant ag ADY angen cymorth ychwanegol neu wahanol er mwyn gallu dysgu. Efallai y bydd gan rai plant ADY oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd, efallai y bydd gan blant eraill ADY heb ddiagnosis neu anabledd. Ni ystyrir bod gan blant ADY oherwydd nad Saesneg neu Gymraeg yw eu hiaith gyntaf.

Mae’r diffiniad o ‘anghenion dysgu ychwanegol’ (ADY) yn debyg iawn i’r diffiniad cyfredol o anghenion addysgol arbennig. Y prif wahaniaeth yw y gellir ei ddefnyddio ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Rhan 2, Pennod 1) (Pennod 2 o’r Cod ADY) yn dweud:

Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo/ganddi anableddau neu anawsterau dysgu (p’un a yw’r anableddau ac anawsterau dysgu yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae’n bwysig nodi bod y diffiniad o ADY yn cwmpasu dysgwyr y mae eu hanableddau neu anawsterau dysgu yn deillio o gyflwr meddygol.

Ni fyddai gan blentyn neu berson ifanc ADY os gellir mynd i’r afael â’u diffyg cynnydd neu anawsterau dysgu drwy addysgu gwahaniaethol o’r math sydd fel arfer ar gael mewn ysgolion neu golegau.

Gall anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) effeithio ar allu plentyn neu berson ifanc i ddysgu. Er enghraifft, gall ADY gael effaith ar eu:

  • darllen ac ysgrifennu
  • y gallu i ddeall pethau
  • ymddygiad neu allu i gymdeithasu a chyfathrebu
  • lefelau canolbwyntio
  • gallu corfforol

Penderfynu ar ADY neu beidio?

Mae dau gwestiwn i’w gofyn wrth benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY, a dylid eu hystyried gyda’i gilydd.

1. Oes ganddyn nhw anabledd neu anhawster dysgu?

Mae gan berson ifanc anabledd neu anhawster dysgu os:

  • maen nhw’n cael cryn dipyn yn fwy o anhawster dysgu na’r rhan fwyaf o bobl eraill o’r un oed, neu
  • mae ganddyn nhw anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n eu hatal neu’n eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer pobl eraill o’r un oed mewn ysgolion prif ffrwd, neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach
  • o Mae gan blentyn o dan oed ysgol gorfodol anabledd neu anhawster dysgu os yw ef neu hi, neu a fyddai ef neu hi pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud

(A2 (2) (a) o’r Ddeddf) (Pennod 2 Cod ADY)

 

2. A yw’r anabledd neu’r anhawster dysgu hwnnw’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol?

(A3(1) o’r Ddeddf) (Pennod 2 o’r Cod ADY)

Mae Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ar gyfer plant dros dair oed yn golygu darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol i’r hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer eraill o’r un oed. Mae hwn yn ddiffiniad eang, a gallai gwmpasu ystod eang o bethau, er enghraifft:

  • angen cymorth un-i-un rheolaidd
  • cymorth corfforol, cyfathrebu neu synhwyraidd
  • cyfathrebu drwy iaith arwyddion
  • angen dosbarthiadau bach gyda chymorth arbenigol
  • angen cefnogaeth gan athro arbenigol

Disgrifir Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol fel darpariaeth sy’n ‘ychwanegol at, neu’n wahanol’ i’r hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer eraill o’r un oed mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir.

Cymhariaeth genedlaethol yw hon o Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol sydd wedi’i hymestyn i Gymru gyfan ac nid yr ysgol neu’r ardal benodol yn unig. Mae’r meincnod hwn wedi’i gynnwys fel nad yw ysgolion unigol ac ALl yn gallu dibynnu ar ddarpariaeth neu bolisi lleol wrth benderfynu a oes gan blentyn ADY ai peidio. Os oes gan blentyn ADY, dylai fod ganddo/ganddi Gynllun Datblygu Unigol waeth pa ysgol, sir neu ranbarth yng Nghymru y mae’n byw ynddo.

Os yw’r ateb i’r ddau gwestiwn hyn yn oes ac ydy, yna mae gan y plentyn neu’r person ifanc ADY.

Mae gan blant a phobl ifanc ag ADY hawl i gymorth ychwanegol gyda’u dysgu yn y feithrinfa, yr ysgol neu’r coleg ac mae ganddyn nhw hawl i Gynllun Datblygu Unigol (CDU).

I blentyn o dan dair oed, mae’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd gan yr un nifer o blant neu bobl ifanc ADY ag AAA ar hyn o bryd, ond y bydd y term newydd yn lleihau stigma ac yn nodi toriad clir o’r hen system.

Mae pob plentyn a pherson ifanc yn wahanol a bydd anghenion pob plentyn neu berson ifanc yn cael eu hystyried yn unigol.

Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau ac Atebion:

Rydw i wedi cael gwybod bod ‘gan fy mhlentyn ADY’ ac yn cael CDU, beth alla i ei ddisgwyl?

Os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu bod gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, neu lle mae’r ALl neu’r Tribiwnlys Addysg wedi cyfeirio ato, rhaid iddo baratoi a chynnal a cynllun datblygu unigol (CDU). At hynny, rhaid iddo sicrhau a darparu’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol a ddisgrifir yn y CDU.

Mae gan yr Ysgol neu’r Sefydliad Addysg Bellach 35 diwrnod i benderfynu ac i baratoi cynllun.

Am fwy o wybodaeth > Gweler Beth yw CDU?

Lle bo math penodol o Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol i’w gwneud yn Gymraeg, RHAID i’r corff llywodraethu gymryd ‘pob cam rhesymol’ i sicrhau hynny.

Rhaid paratoi a chynnal y cynllun oni bai bod person ifanc ddim yn cydsynio.

Rhaid i’r ysgol neu’r coleg:

Ddynodi person i fod yn gyfrifol am gydlynu’r camau sy’n ofynnol i wneud y penderfyniad hwnnw ac, os oes angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol, i fod yn gyfrifol am ei baratoi. Gallai hyn fod y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol;

Dylid cofnodi’r dyddiad y mae ADY posib y plentyn neu’r person ifanc yn cael ei grybwyll wrth yr ysgol ynghyd â chrynodeb o’r rhesymau.

Rhaid i’r ysgol neu’r sefydliad Addysg Bellach hysbysu’r plentyn a rhiant y plentyn ei fod yn penderfynu a oes gan y plentyn ADY a chynnwys manylion cyswllt ar gyfer yr ysgol a gwybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i bobl am ADY a’r system ADY. Rhaid iddyn nhw hefyd ystyried cynnig cyfarfod cychwynnol gyda rhieni i drafod y broses (Pennod 22 o’r Cod ADY i gael mwy o fanylion am gyfarfodydd).

Os yw’r corff llywodraethu yn ystyried bod gan y plentyn neu’r person ifanc ADY a allai olygu Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol:

‘ni fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau, neu os na all y corff llywodraethu benderfynu’n ddigonol ar raddfa a natur yr ADY a’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol, gall gyfeirio’r achos at yr awdurdod lleol yn hytrach na pharatoi CDU’

Er enghraifft,

Efallai y bydd gan blentyn gyflwr prin sy’n gofyn am arbenigedd na all yr ysgol ei ddarparu neu i ddiwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc, mae angen cyngor a chymorth rheolaidd arnyn nhw gan asiantaethau allanol sy’n ychwanegol at yr hyn y gall yr ysgol ei drefnu’n rhesymol neu gael mynediad ato.

Mae angen offer ar y plentyn sydd dim ond yn gallu cael ei ddefnyddio gan un disgybl neu na ellir ei ailddefnyddio neu sydd y tu hwnt i adnoddau’r ysgol. Mae angen cymorth dyddiol dwys iawn ar y plentyn na ellir ei ariannu na’i sicrhau gan gyllideb yr ysgol.

Yn yr achos hwn, gall y corff llywodraethu ofyn i’r Awdurdod Lleol benderfynu. Gall y corff llywodraethu gyfeirio’r mater at yr ALl o dan adran 12 (1)(2)(a) o’r Ddeddf).

Bydd gan yr ALl 12 wythnos i ystyried ac ymateb.

Beth sy’n digwydd os yw ysgol neu goleg yn penderfynu nad oes gan fy mhlentyn ADY?

Os gwneir penderfyniad ‘nad oes’ gan y plentyn neu’r person ifanc ADY, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n gwneud y penderfyniad hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc a’u rhieni o’r penderfyniad hwnnw a’r rhesymau.

RHAID i’r ysgol neu’r coleg anfon llythyr hysbysu yn dweud nad oes gan y plentyn ADY ac nad oes angen CDU.  RHAID i’r llythyr hysbysu (neu’r e-bost) nodi’r penderfyniad a’r rhesymau a chynnwys y manylion canlynol:

  • Manylion cyswllt yr ysgol
  • Sut i gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddiduedd
  • Manylion y gwasanaeth datrys anghydfodau ac eiriolaeth annibynnol sydd ar gael
  • Manylion ar sut i ofyn i’r ALl ailystyried penderfyniad yr ysgol/coleg
  • Manylion cyswllt yr awdurdod lleol

Os ydych yn anhapus â phenderfyniad yr ysgol, dylech ofyn am gyfarfod i drafod eich pryderon gyda’r ysgol cyn gynted â phosibl.

Dylech ofyn iddyn nhw ddisgrifio sut maen nhw’n bwriadu diwallu anghenion anawsterau dysgu eich plentyn ‘nad ydyn nhw’n ADY.’ Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw eich plentyn wedi derbyn cymorth anghenion addysgol arbennig yn y gorffennol ac yn teimlo nad yw anghenion y plentyn wedi newid.

Dylai’r ysgol ddisgrifio sut maen nhw’n bwriadu cefnogi eich plentyn drwy ‘ddarpariaeth gyffredinol’ h.y. y ddarpariaeth a gynigir i bob plentyn a pherson ifanc.

Os ydych chi’n dal yn anhapus gyda phenderfyniad yr ysgol, dylech ofyn i’r ALl ei ailystyried.

Gofyn i’r Awdurdod Lleol yw’r unig ffordd ffurfiol o herio penderfyniad ysgol a dyma’r cam cyntaf i apelio i dribiwnlys os ydych chi’n parhau i fod yn anfodlon.

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth a chyngor diduedd a gwasanaethau datrys anghydfodau ym mhob rhan o Gymru. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw bryderon os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ysgol.

 

Gweler:

Beth os ydw i’n anghytuno?

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfranwch