Mae SNAP Cymru’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor a Dinas Abertawe i gynnig cefnogaeth i deuluoedd ym mhob rhan o Abertawe. Mae’r gwasanaeth cyffrous hwn, sy’n gwneud gwaith allweddol gyda theuluoedd ledled y sir, yn helpu plant a phobl ifanc i gyflawni’r deilliannau gorau posibl.

Sut gallwn ni helpu?

Mae SNAP Cymru yn ceisio cynnig y Gefnogaeth Iawn ar yr Adeg Iawn. Mae’r dull yma’n canolbwyntio ar weithio gyda phobl, mewn partneriaeth er mwyn atal anghenion rhag uwchgyfeirio.

Byddwn yn helpu 

  • pobl gyda phlant ag anghenion arbennig i fod yn fwy hyderus i wneud dewisiadau call a deall a chefnogi ADY neu anabledd eu plentyn
  • plant a phobl ifanc i wella’u cyfle i gyflawni eu deilliannau personol
  • adeiladu ar gryfderau teuluoedd i helpu eu hunain
  • bodloni anghenion plant a theuluoedd i osgoi problemau’n dod yn fwy difrifol, a lleihau’r lefelau bregusrwydd yn y teulu
  • sicrhau bod llais ac ymlyniad y plentyn a’r teulu’n cael eu hannog a’u gwerthfawrogi.

Rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc a theuluoedd yn rhan o ddull Continwwm Angen Abertawe:

Ychwanegol

Plant a Phobl Ifanc sydd ag anghenion ychwanegol – cynnig ymyrraeth dargedig pan nad oes modd bodloni anghenion y plentyn neu’r person ifanc yn eu lleoliad a thrwy wasanaethau cyffredinol sydd ar gael i bob teulu

Bregus

Plant a Phobl Ifanc sydd ag anghenion amrywiol 

Cymhleth

Plant a Phobl Ifanc sydd ag anghenion cymhleth sy’n gyson ac yn ailadroddus

Efallai y bydd teuluoedd eisiau:

  • Cefnogaeth a chyngor ar rianta, gan gynnwys gosod trefn a ffiniau.
  • Cefnogaeth i sicrhau bod y plentyn neu berson ifanc yn mynd i’r ysgol.
  • Cefnogaeth i blant sydd wedi’u hallgau, gyda symudiadau dan reolaeth neu yng nghanol y broses bontio.
  • Cefnogaeth i deuluoedd gymryd rhan, rhannu eu barn yn hyderus a gwneud penderfyniadau call
  • Help i ddeall a myfyrio ar eu sefyllfa a chymryd camau priodol i ddatrys materion a dod o hyd i ddatrysiadau
  • Gwybodaeth glir a dibynadwy am ADY mewn sefydliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion ac ôl-16
  • Cefnogaeth i gyfathrebu a datrys anghydfodau.
  • Help i ddeall cyflwr eu plentyn a rhoi strategaethau cefnogi ar waith.
  • Cefnogaeth gwaith allweddol i deuluoedd gyda phlant ag anghenion cymhleth.
  • Cyfeirio cefnogaeth ac uwchgyfeirio neu isgyfeirio at gymorth priodol.

Sut rydym yn helpu

Fel arfer, mae tîm Cymorth Cynnar SNAP yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth wedi’u teilwra i amgylchiadau ac anghenion unigol. Dyma rai gwasanaethau cyffredin:

  • Cyngor ac eiriolaeth.
  • Dangos y ffordd at wasanaethau cyffredinol neu arbenigol.
  • Cefnogaeth ymarferol ac emosiynol un-i-un i blant, pobl ifanc neu rieni.
  • Cymorth rhiantu.
  • Cymorth i ddeall hawliau

Mae’r model Cymorth Cynnar yn annog cydweithredu rhwng y rhai sy’n darparu’r gwasanaeth a’r bobl sy’n ei ddefnyddio. Rydym yn rhoi cymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd i chwarae rhan allweddol yn blaenoriaethu newid cadarnhaol ac yn siapio eu cynllun eu hunain gyda’r nod o wella canlyniadau ac osgoi argyfyngau.

 

Sut mae gofyn am Gymorth Cynnar i blentyn neu deulu?

Mae’r gwasanaeth ar gael i deuluoedd yn Abertawe sydd â phlant 0 – 19 oed sydd anghenion dysgu ychwanegol neu sy’n dod i’r amlwg, neu rwystrau eraill rhag dysgu, datblygu neu gynhwysiant.

Er bod y rhan fwyaf o atgyfeiriadau’n cael eu gwneud gan weithwyr proffesiynol, gall teuluoedd sydd ag anghenion cymhleth eu hatgyfeirio eu hunain. Mae modd lawrlwytho ffurflen atgyfeirio o www.snapcymru.org/contact 

Dylid anfon y ffurflen atgyfeirio hon at early.help@snapcymru.org

Neu, gallwch gyflwyno ffurflen atgyfeirio electronig oddi ar wefan SNAP Cymru www.snapcymru.org/contact 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi hyn fel Cymorth Cynnar.

Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich atgyfeiriad a chysylltir â’ch teulu cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfranwch