Gwirfoddoli
Mae SNAP Cymru yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar haelioni Gwirfoddolwyr, rhoddwyr, busnesau lleol ac ymddiriedolaethau sy’n helpu i gyflenwi ac ariannu ein gwasanaethau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Eleni, gyda’ch help chi, rydym wedi darparu gwasanaethau i dros 3000 o deuluoedd. Mae eich ‘Rhodd Amser’ yn cael ei werthfawrogi gan SNAP Cymru, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, plant, pobl ifanc a theuluoedd. Gweledigaeth SNAP Cymru yw y bydd gan bob cymuned fach yng Nghymru fynediad wyneb yn wyneb at Wirfoddolwr hyfforddedig, sy’n wybodus am bob agwedd ar anghenion dysgu ychwanegol, darpariaeth a phartneriaethau lleol. Bydd cynyddu cyfranogiad a hybu gweithio mewn partneriaeth yn gwella darpariaeth gwasanaethau a chydraddoldeb mynediad. Gall gwirfoddoli helpu i ddileu’r loteri cod post i ddarpariaeth gwasanaethau amlasiantaethol a gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc yng Nghymru. Beth bynnag yw eich Rôl fel Gwirfoddolwr, mae ‘Rhodd Amser’ yn helpu i wneud gwahaniaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru.
(Mae gennym nam dros dro ar y ffurflen gais isod, a fydd, gobeithio, yn cael ei hatgyweirio ym mis Medi 2019)
I wneud cais i fod yn Wirfoddolwr dros SNAP Cymru:
- Cliciwch ar y botwm ffurflen gais isod
- Argraffwch y ffurflen a’i llenwi
- hanfonwch drwy’r post i:
SNAP Cymru, 250 Ffordd Caerfyrddin, Abertawe, SA1 1HG
Fel arall, am ragor o wybodaeth. cysylltwch â:
ymholiadau@snapcymru.org
Mae gwirfoddoli i SNAP Cymru yn unigryw ac yn rhoi boddhad mawr – ac mae gennym wobrau i brofi hynny! Yn ddiweddar, cyhoeddwyd y byddai SNAP Cymru yn cael Gwobr Gwirfoddoli 2012 Jiwbilî Diemwnt y Frenhines. Ni yw’r unig fudiad sy’n gweithio’n gyfan gwbl yng Nghymru i gael y wobr i gydnabod ein rôl unigryw, ar raddfa genedlaethol, i hybu addysg pobl Cymru ac i hybu eu cynhwysiant. Y llynedd, roeddem yn hynod falch o gael y Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr am yr eildro, i gydnabod cyflawni safonau ansawdd yn ein gwaith â gwirfoddolwyr. Mae adnewyddu ein dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi ein helpu i weld sut y gallwn barhau i ddatblygu a gwella ein trefniadau recriwtio, a hyfforddiant a chymorth i’n tîm o wirfoddolwyr.
Anfonwch Siec neu Archeb Bost atom yn: RHADBOST SWC4557, SNAP Cymru Caerdydd CF10 5GZ
Cofiwch gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad.
Y cyfan sydd angen i chi wneud yw dweud “Ie” i Gymorth Rhodd, a byddwn ni’n cael hawlio 25c ychwanegol gan y dyn treth ar bob £1 rydych chi’n ei chyfrannu.
Mae hi wir mor syml â hynny!
Rhoddion Siop SNAP
Rydyn ni’n chwilio am eitemau o safon i’w gwerthu yn ein siop bwtîc gyffrous newydd. Gall eitemau gynnwys:
- Dillad ail law o safon, yn enwedig dillad vintage neu ffasiwn y gorffennol i ferched
- Ategolion ffasiwn fel gemwaith, ffwr, hetiau, esgidiau a bagiau
- Bric-a-brac gan gynnwys addurniadau, lluniau, ffiolau, llestri a chyllyll a ffyrc
- Llyfrau newydd neu ail law, recordiau, CDs a DVDs
- Dodrefn o safon (sydd â’r nod Barcut BSC ar y label)
- Cofiwch – os na fyddech chi’n debygol o’i brynu, mae’n debygol na allwn ni ei werthu. Bydd ein cwsmeriaid yn chwilio am eitemau o safon
Mae cymryd rhan yn anrhegu eitemau ar gyfer ein siop yn ffordd grêt i gefnogi SNAP Cymru, gall pob bag codi £20! Gofynnwch eich teulu a ffrindiau i roi yn hael. Gallwch ddod ag eitemau i:
Siop SNAP Stordy – 1 South Road, Ystad Ddiwydiannol Penallta, Hengoed CF82 7ST
Siop SNAP Llandrindod – Elizabeth House, Stryd Middleton, Llandrindod, LD1 5DG
neu ffoniwch ni i gasglu ar 07913 661053 – Michael Inger
Blychau Rhoddion
Casglwch eich newid mân yn un o’n blychau rhoddion ac yna thalu’r arian i mewn yn eich banc lleol.
Gellir wedyn trosglwyddo’r arian i’r cyfrif isod:
SNAP Cymru The Co-operative Bank Cod Didoli: 08 90 03 Rhif y Cyfrif: 65370364
Casglwch eich newid mân a chodi arian i SNAP Cymru yn un o’n Blychau Rhoddion
Rydym yn gyd yn gwybod sut y gall ceiniogau a darnau 5c gynyddu yn ein pocedi ac mae llai a llai o bethau y gallwn eu prynu â hwy erbyn hyn!
Casglu Arian Tramor
Ydych chi erioed wedi meddwl beth i’w wneud gyda’r holl newid sydd yn gorwedd o gwmpas ar ôl mwynhau eich gwyliau? Nawr gallwch roi’r pres i ddefnydd da drwy roi eich arian tramor ddiangen i helpu i godi arian ar gyfer SNAP Cymru.
Ffoniwch ein swyddfa ar 02920 348990 am becyn rhôdd y gellir ei ddefnyddio mewn siopao, llyfrgelloedd, caffis ac ati.

Rhoddion Parhaol
Trwy gofio SNAP Cymru yn eich Ewyllys gallwch roi rhodd o’r naill genhedlaeth i’r llall. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth (dogfen ynghlwm)
Bydd eich cymorth yn ein helpu i sicrhau y bydd mwy o blant ag anghenion addysgol arbennig / anableddau’n cael y gefnogaeth addysgol briodol
50 Ffordd o Godi Pumpunt
Dyma enw’r pecyn codi arian gwych sydd yn eich dwylo (neu ar eich sgrîn). Ewch trwyddo ac efallai y byddwch yn canfod eich gyrfa berffaith, neu efallai ddim, ond o leiaf cewch hanner can ffordd o’n helpu ni a chael hwyl wrth wneud hynny.
Pwy a ŵyr? Efallai y bydd mellten yn eich trawo ac y byddwch yn gweld ffordd i wella ar ein syniadau (mae’n bosibl) neu efallai y byddwch yn meddwl am rywbeth hollol wahanol – ewch amdani.
Naill ffordd neu’r llall, byddwch yn codi arian i ni helpu teuluoedd yng Nghymru ac allwn ni ddim diolch digon i chi.

Cynllun Cefnogwyr Corfforaethol
Hoffem weithio â phob cefnogwr corfforaethol yn unigol i greu partneriaeth sy’n gweithio i chi ac i ni. Gallwch roi cymorth ar nifer o lefelau gwahanol a phecynnau amrywiol o fuddiannau, fel y gallwn feithrin perthynas sy’n fanteisiol i chi ac i ninnau a fydd yn gysylltiedig â’n harbenigedd mewn hyfforddi a gweithio mewn partneriaeth, gan eich helpu chi i gyflawni eich nodau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.
Rhoi drwy’r Gyflogres
Mae gan lawer o sefydliadau gynllun rhoi drwy’r gyflogres erbyn hyn sy’n galluogi staff i wneud rhoddion di-dreth i elusen o’u dewis. Y cyflogeion eu hunain sydd yn penderfynu faint o arian yr hoffent ei roi a gellir newid neu ganslo’r rhodd ar unrhyw adeg. Cewch ragor o wybodaeth am sefydlu cynllun rhoi drwy’r gyflogres drwy fynd i wefan y Sefydliad Cymorth i Elusennau (CAF).
Cyfleoedd i Noddi
Bob blwyddyn, mae SNAP Cymru yn trefnu rhaglen o gynadleddau, ymgyrchoedd a digwyddiadau eraill ledled Cymru. Mae noddi un o’n digwyddiadau’n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’ch sefydliad, drwy godi ei broffil cyhoeddus ym mhob rhan o Gymru.
Rhoi Defnydd o Gyfleusterau
Mae ein gwaith yn mynd â ni i bob cwr o Gymru ac rydym yn ddiolchgar bob amser am gael cynnig defnydd o ystafelloedd ar gyfer hyfforddiant, digwyddiadau lansio, cyfarfodydd neu leoliadau ar gyfer cynadleddau.
Byddem yn hapus i gael sgwrs â chi am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael. Mae croeso i chi gysylltu â’n Swyddog Ymgyrchoedd Caroline Rawson.