Gwaharddiadau Swyddogol neu Answyddogol

Weithiau mae ysgolion yn defnyddio rhesymau gwahanol am dynnu plentyn o ysgol. Weithiau, cyfeirir at y rhain fel “gwaharddiadau anffurfiol” a gallant gynnwys:  

  • anfon plentyn adref yn gynnar
  • awgrymu “cyfnod cnoi cil”
  • dweud na all y plentyn ymdopi gyda diwrnod llawn yn yr ysgol.

Mae rhai mathau o waharddiadau anghyfreithlon na ddylai ddigwydd.

Os nad yw’r ysgol wedi dilyn y gweithdrefnau cywir, neu os na allant roi eich plentyn yn barhaus ar amserlen lai, neu ofyn yn gyson i chi gasglu eich plentyn, gall fod yn arwydd fod ganddynt anghenion sydd heb eu bodloni. Gallwch ofyn i’r gweithdrefnau priodol gael eu dilyn. Dylech ofyn i gwrdd â’r ysgol er mwyn:

  • trafod strategaethau eraill y gellid eu rhoi ar waith i gefnogi eich plentyn
  • y posibilrwydd o asesu eich plentyn i weld os oes ganddynt ADY
  • gofyn am gymorth gan dîm cymorth ymddygiad yn yr awdurdod lleol

Noda’r canllawiau statudol bod gwaharddiadau ‘anffurfiol’ neu ‘answyddogol’, megis anfon disgyblion adref i ‘gallio’, yn anghyfreithlon, waeth os yw hynny’n digwydd gyda chytundeb y rhieni neu ofalwyr.

Rhaid i’r penderfyniad i wahardd disgybl fod yn gyfreithlon, yn rhesymol ac yn deg.

Mae gwaharddiadau anffurfiol neu anghyfreithlon yn gwadu hawliau statudol y plentyn a’r rhieni i addysg, a’r hawl i’r broses apeliadau.

Os yw pennaeth yn fodlon, wrth bwyso a mesur tebygolrwydd, bod y dysgwr wedi cyflawni trosedd ddisgyblu ac angen ei dynnu oddi ar safle’r ysgol, gwahardd yn ffurfiol yw’r unig ddull gwaredu cyfreithlon.

Weithiau, gall dysgwyr sy’n cael eu hanfon adref am gyfnodau byr o amser neu am gyfnodau hirach amhenodol arwain at y dysgwr yn peidio â dychwelyd i’r ysgol o gwbl neu’n parhau â’r ymddygiad wnaeth arwain at gael ei anfon adref.

Os bydd dysgwr yn cael ei anfon adref, hyd yn oed am gyfnodau byr o amser, mae’n rhaid cofnodi hyn yn ffurfiol fel gwaharddiad.

Amserlenni rhan amser

Fel rheol, mae’r gyfraith yn dweud na all ysgolion leoli plant oed ysgol gorfodol ar amserlen rhan amser, oni bai mewn amgylchiadau eithriadol i fodloni anghenion unigol disgybl.

Ni ddylid trin amserlen rhan amser fel datrysiad hirdymor. Dylid ei drin yn rhan o becyn ail-integreiddio, a dylai fod yn gyfyngedig o ran amser.

 

Tynnu nôl yn wirfoddol

Nid yw dylanwadu neu annog rhieni/gofalwyr i dynnu nôl eu plentyn yn ‘wirfoddol’ o’r ysgol fel ffordd o ddelio ag ymddygiad anodd neu heriol yn ymateb priodol.

Mae tynnu nôl yn wirfoddol yn gwadu’r dysgwr a’r rhieni/gofalwyr y diogelwch o fynediad i’r gweithdrefnau gwahardd ac apeliadau y mae ganddynt hawl iddo.

 

Gwahardd dros amser cinio    

Weithiau wrth drafod a chytuno gyda’r rhiant/gofalwr, bydd ysgolion yn trefnu i blentyn fynd adref dros ginio.  

Gall ysgol wahardd dros amser cinio, gan roi’r cyfrifoldeb cyfreithiol dros y dysgwr yn ôl i’r rhiant/gofalwr.  

Fodd bynnag, dim ond mesur dros dro yw hyn, a bydd angen adolygu’n gyson a yw’n ddull priodol.

Mae gwahardd dros amser cinio am gyfnod amhenodol yn anghyfreithlon.

Dylid gwneud trefniadau i blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, a allai olygu y dylai’r ysgol ddarparu bocs bwyd am y diwrnod penodol hwnnw.

Dylid trin gwahardd dros amser cinio fel rhywbeth sydd gyfwerth â chwarter y diwrnod ysgol.

Os yw’r chwarter diwrnodau hyn yn cynrychioli dros bum diwrnod ysgol mewn tymor ysgol, gan gynnwys os ydynt yn cael eu hychwanegu at waharddiadau eraill am gyfnodau penodol, bydd hyn yn rhoi hawl i’r plentyn neu riant/gofalwr gyflwyno sylwadau i’r corff llywodraethu. 

Os yw dysgwr yn cael ei gadw yn yr ysgol dros amser cinio, ond ar wahân i’r dysgwyr eraill, ni fydd hyn yn cyfrif fel gwaharddiad ffurfiol, ond yn hytrach yn ‘waharddiad mewnol’.

Dylid gwneud trefniadau i ddysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim. Gallai hyn olygu darparu bocs bwyd.

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfranwch