Gwaharddiadau Tymor Penodol

Golyga hyn fod eich plentyn wedi cael ei wahardd am gyfnod penodol ac ni fydd ef neu hi’n gallu dychwelyd i’r ysgol yn ystod cyfnod y gwaharddiad.

Gall hyd y gwaharddiad tymor penodol fod rhwng hanner diwrnod a 45 diwrnod mewn blwyddyn academaidd. Ni ddylai gwaharddiadau tymor penodol fod yn fwy na 45 diwrnod mewn blwyddyn ysgol.

Ni ddylai gwaharddiadau tymor penodol fod ar gyfer cyfnod amhenodol. Mae gennych hawl i gael gwybod y dyddiad a’r amser pan ddylai eich plentyn ddychwelyd i’r ysgol.

Dylech dderbyn llythyr gan yr ysgol yn egluro’r rhesymau dros y gwaharddiad, beth yw hyd y gwaharddiad, pryd y dylent ddychwelyd i’r ysgol a’ch hawl i apelio’r penderfyniad.

Dim ond pennaeth yr ysgol all wahardd o’r ysgol. Os nad yw’r pennaeth yn yr ysgol, dylai’r dirprwy bennaeth wneud y penderfyniad.

Dylai’r gwaharddiadau tymor penodol fod ar gyfer y cyfnod byrraf sydd ei angen

Dylai gwaharddiadau unigol fod ar gyfer y cyfnod amser byrraf posibl, gan gadw mewn cof bod gwaharddiadau hirach na rhyw ddiwrnod neu ddau yn ei gwneud hi’n anos i’r dysgwr ail-integreiddio i’r ysgol.

 

Gwaharddiad hyd at 5 diwrnod

Mae nifer o bethau y mae angen i’r ysgol eu gwneud yn gyfreithiol pan fydd disgybl yn cael ei wahardd ar gyfer hyd at 5 diwrnod.

  • Rhaid i’r Pennaeth ysgrifennu ar unwaith gan nodi hyd a rheswm y gwaharddiad.
  • Rhaid i’r Pennaeth roi gwybod i’r Llywodraethwyr a’r ALl pan fydd arholiad allanol neu brawf Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael ei golli os bydd hyd y gwaharddiad yn y tymor hwnnw’n fwy na 5 diwrnod.
  • Dylai’r Llywodraethwyr ond gwrdd os bydd arholiad allanol neu brawf Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael ei golli neu os bydd cyfanswm y diwrnodau yn y gwaharddiad yn y tymor hwnnw’n fwy na 5 diwrnod ac os yw’r rhieni’n gofyn i gwrdd. Os bydd cyfarfod, mae gan rieni hawl i fynychu.
  • Mae’n rhaid i rieni gyflwyno ‘sylwadau ysgrifenedig’ y mae’n rhaid i’r llywodraethwyr eu hystyried, hyd yn oed os does dim angen cyfarfod (gweler ein cyngor ar baratoi sylwadau ysgrifenedig er gwybodaeth).

Gwaharddiad tymor penodol ar gyfer cyfnod o leiaf 15 diwrnod

Mae nifer o bethau y mae angen i’r ysgol eu gwneud yn gyfreithiol pan fydd disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol, neu am gyfnod o leiaf 15 diwrnod.  

  • Yn ogystal â’r cyfrifoldebau o ran rhoi gwybod i rieni, pan fydd gwaharddiad dros 15 diwrnod rhaid i’r Llywodraethwyr gwrdd o fewn 15 diwrnod o gael gwybod am y gwaharddiad (ON os bydd y gwaharddiad yn arwain at y disgybl yn colli arholiad allanol neu arholiad y Cwricwlwm Cenedlaethol, mae’n rhaid iddynt gymryd camau rhesymol i gwrdd cyn yr arholiad).
  • Os yw cyfarfod o’r pwyllgor disgyblu wedi cael ei gynnull yn flaenorol, ac yna rhagor o waharddiadau’n digwydd yn yr un tymor, mae angen i’r pwyllgor disgyblu gwrdd ar gyfer pob gwaharddiad i asesu effeithiolrwydd y cynlluniau cymorth sydd ar waith ar gyfer y dysgwr hwnnw.

 Gosod a marcio gwaith yn ystod gwaharddiadau

Mae gan yr ysgol gyfrifoldeb i sicrhau bod addysg yn parhau tra bod y dysgwr yn dal i fod ar y gofrestr. Ym mhob achos o waharddiad yn fwy na diwrnod, dylid gosod a marcio gwaith.

  • Rhaid i benaethiaid drefnu i gwaith gael ei ddarparu cyn gynted ag y bydd dysgwr wedi’i wahardd ar gyfer tymor penodol.
  • Dylai rhieni/gofalwyr drefnu i’r gwaith gael ei gasglu a’i ddychwelyd.
  • Dylai’r ysgol sicrhau ei fod yn cael ei farcio a bod rhagor o waith yn cael ei osod nes bydd y dysgwr yn ôl yn yr ysgol.

Rhaid i lythyrau at y rhieni/gofalwyr a/neu’r dysgwyr yn rhoi gwybod iddynt am y gwaharddiad gynnwys y trefniadau ar gyfer gosod a marcio gwaith.  

  • Mae’r corff llywodraethu yn gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â’r gofynion hyn. Dylai’r penaethiaid gael polisi ysgrifenedig ar drefniadau ar gyfer derbyn dysgwyr yn ôl i’r ysgol ar ôl gwaharddiad tymor penodol, a ddylai gynnwys derbyn gwaith a gwblheir yn ystod y gwaharddiad.

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfranwch