Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor

Mae ein gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn sicrhau bod gan rieni sydd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol (0 -25 oed) fynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol fel y gallan nhw wneud penderfyniadau gwybodus.

Ein nod yw rhoi’r canlynol i bobl: 

  • y sgiliau i rannu eu barn yn hyderus, archwilio’r holl opsiynau, gwneud penderfyniadau a datblygu perthnasoedd da gyda gweithwyr proffesiynol 
  • y wybodaeth i ddeall eu hawliau a chymryd pa gamau bynnag sydd eu hangen i ddatrys problemau er budd pennaf y plentyn neu’r person ifanc. 

Mae ein gwasanaeth yn: 

  • Ddiduedd – dydyn ni ddim yn cymryd ochrau, rydyn ni’n rhoi gwybodaeth sy’n seiliedig ar y gyfraith i’ch helpu i ddewis ac i wneud penderfyniadau 
  • Cyfrinachol – dydyn ni ddim yn rhannu eich gwybodaeth oni bai eich bod yn dweud y gallwn 
  • Am ddim – does dim costau 

Rydyn ni’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar bob mater ADY yn ystod pob cam o addysg plentyn ac am unrhyw fater. Os ydych chi’n meddwl bod gan eich plentyn ADY, ond heb gael diagnosis, rydyn ni yma i’ch cefnogi hefyd. 

    Mae’r gwasanaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:   

    • Hawliau eich plentyn/person ifanc 
    • Eich hawliau a’ch cyfleoedd i gymryd rhan 
    • Dyletswyddau ysgolion neu golegau tuag at blant/pobl ifanc a’u rhieni 
    • Dyletswyddau awdurdodau lleol tuag at blant/pobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig a/neu anabledd ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’u rhieni 
    • Lle gallwch ddod o hyd i help a chyngor ychwanegol 
    • Beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n anghytuno 

    Weithiau nid yw gwybodaeth yn unig yn ddigon. Efallai y byddwch chi eisiau cymorth gwaith achos. 

    Gallwn: 

    • Wrando a’ch helpu i leisio’ch barn a’ch pryderon 
    • Gweithio gyda chi i archwilio eich opsiynau 
    • Eich helpu i ddeall hawliau eich teulu mewn perthynas ag ADY 
    • Eich helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd, ac os yn bosib, mynychu cyfarfodydd gyda chi 
    • Deall adroddiadau, llythyrau, prosesau a’ch cefnogi i ysgrifennu llythyrau a mynegi eich safbwyntiau 
    • Eich cefnogi gydag asesiadau a Chynlluniau Datblygu Unigol 
    • Eich helpu i ddatrys problemau a dod o hyd i atebion 
    • Rhoi cyngor a chefnogaeth os na allwch gytuno 
    • Gwneud sylwadau ar eich rhan 

    Gallwch gael mynediad at ein gwasanaeth gwybodaeth a chyngor mewn sawl ffordd: 

    Mae ein llinell gymorth ar agor rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener  
    9.30 am – 4.30 pm ac yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar unrhyw fater addysgol o ganlyniad i ADY plentyn neu berson ifanc. Bydd cynghorwyr ein llinell gymorth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ADY, eich helpu i archwilio opsiynau ac yn nodi camau priodol. 

    Mae ein llinell gymorth ar gyfer rhieni, gofalwyr ac aelodau teulu plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac i bobl ifanc sydd eisiau cymorth ADY.   

    Bydd y person sy’n ateb eich galwad yn cymryd eich manylion ac yn trefnu i’ch ffonio chi’n ôl – mae hyn yn arbed arian i’r elusen er mwyn i ni allu cynnig gwasanaeth gwell. 

    Mae ein llinell gymorth yn brysur tu hwnt. Os na atebwyd eich galwad ar ôl 10 munud, daw’r alwad i ben, a gofynnwn i chi ffonio eto nes ymlaen yn y dydd. Nid oes cyngor na chefnogaeth ar gyfer atgyfeiriadau ar gael ar rifau eraill SNAP Cymru. 

    Apwyntiadau llinell gymorth ar y ffôn 

    Gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar gyfer galwad ffôn y llinell gymorth. Mae apwyntiadau ar gael gan ein cynghorwyr ar sail rota ac yn cael eu hychwanegu at y Calendr Apwyntiadau 1 mis ymlaen llaw. Os nad oes slotiau ar gael, edrychwch eto cyn gynted ag y bydd apwyntiadau’n cael eu rhyddhau’n rheolaidd. Gofynnir i chi lenwi ffurflen wybodaeth wrth drefnu’r apwyntiad. 

    Ffurflen ymholiadau ar-lein  

    Fel arall, gallwch lenwi ein ‘ffurflen ymholiadau ar-lein’ sy’n ffordd dda o gael atebion i gwestiynau syml neu fwy manwl drwy gyflwyno ymholiad gan ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau ADY ar ein gwefan

    I baratoi ar gyfer eich galwad, rydyn ni’n argymell eich bod yn:

      • Gwneud nodyn o’r materion allweddol rydych am eu trafod yn barod ar gyfer eich galwad 
      • Dod o hyd i le tawel lle gallwch siarad, os yn bosib. 
      • Cael papur a phin ysgrifennu wrth law i wneud nodiadau  
      • Neilltuo hyd at 30 munud ar gyfer eich galwad 
      • Yn ystod galwad gyda’r llinell gymorth, bydd ein cynghorydd yn gofyn i chi am eich gwybodaeth bersonol chi a’r plentyn/person ifanc y mae eich galwad yn ymwneud ag ef. Gellir dod o hyd i fanylion llawn am sut rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon yn ein polisi preifatrwydd.  

      Ar gyfer rhai materion, bydd angen cymorth parhaus ein tîm gwaith achos. Cewch wybod os oes rhestr aros ar gyfer y gwasanaeth hwn, fel arall rhoddir amcangyfrif i chi pryd y bydd cynghorydd hyfforddedig yn cysylltu â chi. Bydd hyn o fewn pum diwrnod gwaith. 

      Pan na allwn helpu byddwn yn gwneud ein gorau i ddweud wrthych am grwpiau neu sefydliadau eraill a allai helpu neu yn eich rhoi mewn cysylltiad â nhw. Rydyn ni’n galw hyn yn wasanaeth cyfeirio. 

      Gwirfoddoli

      Codi Arian

      Cyfrannwch