Hyfforddiant

Cydnabyddir ansawdd ein hyfforddiant yn eang ac mae’n seiliedig ar ganllawiau lleol a chenedlaethol a dros 35 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni a phobl broffesiynol.

 

Mae ein hyfforddiant:

  • Yn helpu rhieni a gofalwyr i ddod yn fwy hyderus wrth gefnogi eu plentyn ac wrth weithio gyda’r ymarferwyr y maent yn cwrdd â hwy
  • Yn helpu pobl broffesiynol i ddatblygu eu canolfannau a’u harferion er mwyn bod yn fwy cynhwysol ar gyfer unigolion a chanddynt anghenion ychwanegol
  • Yn annog pobl i gydweithredu ar ran plant a phobl ifanc
  • Yn helpu i ddatblygu gweithlu Cymreig medrus o safon uchel

Course Details

Prisiau

Mae ein cyrsiau presennol wedi eu cynllunio i ateb anghenion ystod eang o unigolion, cyfranogwyr a chyrff. Gellir eu cyflwyno mewn lleoliad o’ch dewis neu yn un o leoliadau hyfforddi SNAP Cymru. Gallwn hefyd ddatblygu neu addasu cwrs yn benodol ar gyfer eich anghenion chi.

Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â ni: ymholiadau@snapcymru.org 

Mae prisiau arferol pob cwrs yn amrywio o £60-£120 y person.

Mae gostyngiadau grwpiau a chonsesiynau ar gael i bartneriaid.

Hyfforddiant AM DDIM i fuddiolwyr SNAP Cymru.

Gyda nawdd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac ymddiriedolaethau eraill, gallwn gynnig hyfforddiant wedi’i sybsideiddio ac AM DDIM weithiau i grwpiau penodol o bobl ifanc mewn ardaloedd penodol. Cysylltwch â ni i weld a ydych chi’n gymwys.

Canslo

Gellir derbyn ceisiadau i ganslo neu ohirio yn ysgrifenedig yn unig.

Os bydd SNAP Cymru yn canslo digwyddiad, bydd yr arian yn cael ei ad-dalu’n llawn.

Os bydd unigolion yn canslo neu’n gohirio, byddai’r ffioedd canlynol yn berthnasol:

  • 22 diwrnod neu fwy cyn y digwyddiad – dim ffi
  • 15-21 diwrnod cyn y digwyddiad – 50% o ffi’r cwrs

14 diwrnod neu lai (neu ddiffyg presenoldeb) – 100% o ffi’r cwrs

Achredu

Achredu Agored Cymru – Credyd am ddysgu!

Mae llwyddiant nawr ac yn y dyfodol yn ddibynnol ar ddysgu. Drwy ennill credydau am ddysgu, dyna’n union yr ydych chi’n ei wneud. Cofrestrodd dros 800,000 ar gyrsiau Agored Cymru (Rhwydwaith y Coleg Agored gynt) y llynedd, felly rydych chi mewn cwmni da! Mae Agored yn cydnabod ac yn achredu cyrsiau sy’n ymdrin â phob agwedd ar addysg a hyfforddiant. Mae SNAP Cymru yn cydweithio ochr yn ochr ag Agored Cymru i ddyfarnu tystysgrifau cyflawni sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, gan ddefnyddio’u system gredydau.

Lefelau cyflawniad:

  • Mae Lefel Un yn gyfystyr ag NVQ1, GNVQ Sylfaen a graddau TGAU D-G. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eich bod wedi cwblhau cymaint ag un TGAU llawn, ond yn hytrach eich bod yn gweithio ar lefel gyflawni debyg. Mae hyn yn cynrychioli datblygiad sgiliau sylfaen ac ennill sgiliau dysgu sylfaenol.
  • Mae Lefel Dau yn gyfystyr ag NVQ2, GNVQ Canolradd a graddau TGAU A* – C. Unwaith eto, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eich bod wedi cwblhau cymaint ag un TGAU llawn, ond yn hytrach eich bod yn gweithio ar lefel gyflawni debyg.
  • Lefel Tri Mae hyn yn cynrychioli’r defnydd o sgiliau a chymwyseddau’n annibynnol ac yn ddadansoddol. Mae’n dangos eich bod chi’n gweithio ar lefel sy’n gyfystyr ag NVQ Tri neu Safon Uwch. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n gobeithio cael mynediad i Addysg Uwch yn ceisio ennill credydau lefel tri.

Gwerth Credydau:

Credyd- Uned mesur safonol a ddefnyddir gan Agored Cymru i ddangos maint a dyfnder dysgu. Mae’r holl gyflawniadau addysg yn cael eu disgrifio yn nhermau ‘credyd’. Mae nifer y credydau’n dangos maint y dysgu y caiff diffiniad Agored ei ddefnyddio ar ei gyfer. Mae 1 Credyd yn gyfystyr â 10 awr o ddysgu (gan gynnwys adeiladu eich portffolio neu unrhyw waith yr ydych yn ei wneud yn annibynnol).

Sut y caiff fy ngwaith ei asesu?

Yn ystod eich cwrs, bydd eich tiwtor yn eich helpu i ddogfennu eich cyflawniad drwy eich cefnogi i gynhyrchu darnau o waith (tasgau asesu). Mae’n bosib y byddant ar ffurf taflenni gwaith neu dasgau ymarferol. Caiff y rhain eu gosod ynghyd mewn ffolder, ynghyd â thystiolaeth gan y tiwtor a/neu ddysgwyr eraill yn nodi eich bod wedi cyflawni meini prawf asesu penodol. Byddwch bob amser yn ymwybodol o’r tasgau asesu a bydd eich tiwtor bob amser yn eich helpu i gyrraedd eich potensial. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Mynediad i Asesiad Teg.

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw un o’r asesiadau, neu os oes gennych chi ofynion neu rwystrau dysgu arbennig, peidiwch ag oedi cyn siarad â’ch tiwtor ynghylch hyn gan y byddwn yn ceisio ein gorau i addasu’r tasgau fel eu bod yn addas ar gyfer eich anghenion. (gweler ein polisïau Mynediad i Asesiad Teg a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth i gael rhagor o wybodaeth ynghylch trefniadau ac ystyriaethau arbennig).

Beth allaf fi ei wneud gyda fy nghredydau?

Caiff credydau Agored eu derbyn yn gyffredinol fel modd o gael mynediad i astudiaeth bellach gan ddarparwyr addysg bellach ac uwch, a chan nifer fawr o gyflogwyr a hyfforddwyr. Gallwch ddefnyddio eich credydau i arddangos eich cyflawniadau a phrofi bod gennych chi wybodaeth a sgiliau mewn ystod eang o bynciau. Yn dibynnu ar lefel y cwrs yr ydych chi’n ei ddilyn, gallwch ddefnyddio’r credydau i barhau i gyrsiau eraill. Cysylltwch â’ch colegau lleol a siaradwch â ni ynghylch pa gyfleoedd sydd ar agor i chi.

A fyddaf yn derbyn tystysgrif?

Byddwch, unwaith y bydd eich portffolio yn cael ei asesu gan eich tiwtor a’i wirio gan gymedrolwr mewnol, bydd SNAP Cymru yn argymell bod Agored yn dyfarnu tystysgrif. Ar ôl i ni dderbyn y dystysgrif byddwn yn ei throsglwyddo i chi, ond gall hyn gymryd ychydig wythnosau.

Mae SNAP Cymru yn ymroddedig i ddarparu’r cyfle i ddysgwyr gyflawni ac mae ein darpariaeth hyfforddiant yn deg ac yn gydradd, gan sicrhau y gall dysgwyr â’r sgiliau,  gwybodaeth a’r ddealltwriaeth perthnasol gael cydnabyddiaeth i’w cyflawniadau. Gobeithio y byddwch yn achub ar y cyfle hwn i gael cydnabyddiaeth i’ch cyflawniad.

Rydym yn croesawu adborth gan ein holl ddysgwyr. Fel arfer, caiff unrhyw bryderon eu datrys yn anffurfiol. Fodd bynnag, i gael rhagor o wybodaeth gweler ein Gweithdrefn Apeliadau Asesu a’n Polisi Cwynion.

 

Gweithdrefn Apeliadau Asesu a Pholisi Cwynion.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ein dysgwyr.  Efallai y byddwn yn casglu, yn storio ac yn defnyddio gwybodaeth a roddwch i ni at ddibenion cofrestru gydag AGORED Cymru ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall yr ydych yn dewis ei hanfon atom a all fod yn berthnasol i’ch dysgu, fel anghenion mynediad a chymwysterau blaenorol.   

 

Ni fyddwn yn casglu data neu ddeunydd arall na ellir dangos yn gyfreithlon eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â chofrestru dysgwyr.   Dim ond at y dibenion a bennir yn y datganiad hwn y caiff gwybodaeth bersonol a gyflwynir i ni ei defnyddio.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Bolisi Diogelu Data Hyfforddiant SNAP Cymru.

Dymunwn bob llwyddiant i chi!

 

Hyfforddiant SNAP Cymru

Eiriolaeth

Mae hwn yn gwrs byr sy’n cynnig cyflwyniad elfennol i egwyddorion eiriolaeth plant a phobl ifanc. Mae’r cwrs wedi ei ddylunio i roi dealltwriaeth i gyfranogwyr o’r:

  • modelau eiriolaeth gwahanol, a’r sefyllfaoedd pan fo eiriolaeth yn briodol
  • y rhinweddau angenrheidiol i fod yn eiriolwr, ac ychydig o ymarferion yn seiliedig ar ddatblygu’r sgiliau a’r strategaethau sydd eu hangen
  • fe fydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o roi grym, egwyddorion hawliau plant, a cyfranogi a’r sgiliau cy fathrebu  sydd eu hangen i gefnogi plant a phobl ifanc.

Mae’r uned hon wedi ei dylunio’n benodol, gan ystyried plant a phobl ifanc, yn enwedig y sawl a chanddynt anableddau, anghenion addysgol ychwanegol neu’r sawl sy’n cael eu neilltuo neu sydd dan anfantais.

Anghenion Addysgol Arbennig

Nod y cwrs hwn yw cynnig cyfle i gyfranogwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o’r hyn a olygir wrth ‘Anghenion Addysgol Arbennig’. Fe fydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp a rhannu profiadau sy’n berthnasol i gynnwys y cwrs.

Erbyn diwedd yr hyfforddiant, fe fydd cyfranogwyr wedi cryfhau eu dealltwriaeth o:

  • anghenion addysgol arbennig yn y fframwaith a’r ddeddfwriaeth bresennol
  • deall y broses sydd ynghlwm wrth asesu ac ateb gofynion sydd wedi cael eu hadnabod
  • byddant hefyd yn datblygu dealltwriaeth o berspectifau rhieni a chydnabod pwysigrwydd hyrwyddo partneriaethau sy’n adnabod cryfderau a sgiliau rhieni fel addysgwyr, gofalwyr ac eiriolwyr i’w plant a chydnabod a gwerthuso pobl sy’n cydweithio ar ran plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Hyd a lefel y cwrs

Mae’r cwrs undydd hwm wedi ei achredu gan Agored Cymru ac mae’n cynnig un credyd ar lefel 2.

Bod yn Ddoeth wrth Gymryd Risg

Mae Bod yn Ddoeth Wrth Gymryd Risg yn gwrs rhyngweithiol a fydd yn annog cyfranogion i gymryd rhan mewn ymarferion grŵp er mwyn datblygu eu dealltwriaeth.

Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd y cyfranogion yn:

  • Gwybod mwy am y Deddfau sy’n sail i risg
  • Gwybod mwy am risgiau gwirioneddol yn hytrach na risgiau tybiedig
  • Gallu ystyried sut i gydbwyso risg
  • Gallu ystyried senarios gwahanol yng nghyswllt plant ag anableddau sydd ar fin ymuno â’u grŵp
  • Teimlo’n fwy hyderus o ran gwybod eu bod yn gallu asesu risg a hyrwyddo bod yn ddoeth wrth gymryd risgiau

Hyd y cwrs – nid yw hyfforddiant ‘Bod yn Ddoeth wrth Gymryd Risg’ SNAP Cymru wedi’i achredu ac mae modd ei gyflwyno mewn sesiwn hanner diwrnod.

Hyfforddiant AAA a Phartneriaethau i Ofalwyr Maeth

Mae Hyfforddiant AAA a Phartneriaethau i Ofalwyr Maeth yn gwrs sydd wedi ei gynllunio i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth Gofalwyr Maeth ynghylch Anghenion Addysgol Arbennig a gweithio mewn partneriaethau. Mae’r cwrs yn edrych ar swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol y sawl sy’n gweithio â phlant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol a’r gefnogaeth y gall y plant a’r bobl ifanc hyn ei ddisgwyl.

Ymhlith amcanion yr hyfforddiant:

  • mae codi ymwybyddiaeth o’r materion a’r anawsterau y mae plant mewn gofal yn eu hwynebu, a’r anghenion ychwanegol a allay fod ganddynt.  Fe fydd gan ganran uchel iawn o’r plant a’r bobl ifanc hyn anhawster dysgu neu anabledd, a rhoddir sylw i ateb yr anghenion ychwanegol hyn yn y cwrs.
  • Fe fydd yr hyfforddiant hefyd yn helpu Gofalwyr Maeth i ddeall pwysigrwydd sefydlu system gadarn o gefnogi ac adolygu, ac o gyfathrebu da, ac mae pob un o’r rhain yn allweddol i blant mewn gofal er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial addysgiadol.
Hyfforddiant ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym i gyd yn fwy tebygol o ddysgu, gweithio a rhyngweithio gydag unigolion sy’n wahanol i ni’n hunain. Mae’r gallu i ymwneud yn dda gyda phob math o bobl yn sgil sy’n dod yn fwyfwy pwysig a gall deall, derbyn a pharchu amrywiaeth wella sgiliau rhyngbersonol pob unigolyn. Mae’r cwrs hwn yn cynnig i ddysgwyr y cyfle i:

  • Gynyddu eu hymwybyddiaeth o’r amryfal ddimensiynau o amrywiaet
  • Dod yn fwy ymwybodol o’u hagweddau, eu canfyddiadau a’u teimladau eu hunain ac adnabod cyfraniadau grwpiau amrywiol i gymdeithas.

Bydd pobl yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymarferion grŵp a rhannu profiadau sy’n berthnasol i gynnwys y cwrs. Mae modd addasu’r cwrs yn unol ag anghenion grwpiau unigol ac mae’n addas ar gyfer pobl ifanc.

Hyd a lefel y cwrs: Dyfernir 1 credyd am y cwrs ar lefel 1 neu 2.

Hyfforddiant Datrys Anghydfodau

Hyfforddiant Datrys Anghydfodauyn gwrs sydd wedi ei achredu, sy’n rhoi’r cyfle i gyfranogwyr i adnabod a datblygu’r sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i hwyluso sesiwn datrys anghydfodau effeithiol. Fe fydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymarferion grŵp a rhannu profiadau sy’n berthnasol i gynnwys y cwrs. Wrth gyflawni’r cwrs, fe fydd cyfranogwyr yn gallu:

  • agor sesiwn eirioli wyneb yn wyneb
  • gwahaniaethu rhwng materion y gellir eu rheoli a rhai nad oes modd eu rheoli
  • defnyddio ystod osgiliau  i hwylisio sesiwn eirioli wyneb yn wyneb
  • dirwyn yr anghdfod i ben
Hyfforddiant Deall Dulliau Cyfathrebu

Mae cyfathrebwyr da yn synhwyro ac yn sylweddoli anghenion pobl eraill, a gallant fynegi eu barn eu hunain mewn ffordd adeiladol. Mae cyfathrebwyr da yn deall pwysigrwydd y llais, tôn, iaith, a gallant addasu eu dull cyfathrebu yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Maent yn dod o hyd i dir cyffredin ag eraill, ac yn adeiladu perthnasau drwy wrando’n astud a gofyn cwestiynau effeithiol.

Fe fydd ein cwrs sgiliau cyfathrebu o fudd i unigolion ar bob lefel a chanddynt ystod o brofiadau. Mae’n cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer datblygiad personol pobl sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol, a phobl ifanc sy’n gobeithio gwella eu sgiliau. Mae’r cwrs yn cynnig y cyfle i ymarfer sgiliau cyfathrebu effeithiol drwy weithgareddau rhyngweithiol, a gellir ei addasu i ateb anghenion grwpiau unigol.

Hyd a lefel y cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi ei achredu gan Agored Cymru ac mae’n cynnig 1 credyd lefel 2

Hyfforddiant Eiriolaeth

Mae hwn yn gwrs byr sy’n cynnig cyflwyniad elfennol i egwyddorion eiriolaeth plant a phobl ifanc. Mae’r cwrs wedi ei ddylunio i roi dealltwriaeth i gyfranogwyr o’r:

  • modelau eiriolaeth gwahanol, a’r sefyllfaoedd pan fo eiriolaeth yn briodol
  • y rhinweddau angenrheidiol i fod yn eiriolwr, ac ychydig o ymarferion yn seiliedig ar ddatblygu’r sgiliau a’r strategaethau sydd eu hangen
  • fe fydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o roi grym, egwyddorion hawliau plant, a cyfranogi a’r sgiliau cy fathrebu  sydd eu hangen i gefnogi plant a phobl ifanc.

Mae’r uned hon wedi ei dylunio’n benodol, gan ystyried plant a phobl ifanc, yn enwedig y sawl a chanddynt anableddau, anghenion addysgol ychwanegol neu’r sawl sy’n cael eu neilltuo neu sydd dan anfantais.

 

Hyfforddiant Gwaharddiad

Er bod y niferoedd yn amrywio’n flynyddol, mae oddeutu 450 o blant yn cael eu gwahardd o’r ysgol yn barhaol, ac mae addysg miloedd yn rhagor o blant yn cael ei niweidio gan waharddiadau dros dro.

Nod y cwrs hwn yw cynnig cyfle i gyfranogwyr i  ddatblygu’r gwybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gefnogi teuluoedd yn ystod y broses o wahardd. Fe fydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp a rhannu profiadau sy’n berthnasol i gynnwys y cwrs.

Erbyn diwedd yr hyfforddiant, fe fydd cyfranogwyr yn deall:

  • y broses o wahardd gan cynnwys y deddfwriaeth perthnasol
  • sut i gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd drwy’r broses apeliadau
  • adnabod datrysiadau amgen ar wahân i waharddiadau.

Hyd a lefel y cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi ei achredu gan Agored Cymru ac mae’n cynnig un credyd lefel 2.

Hyfforddiant Llinell Gymorth

Mae Sgiliau Ffôn yn y Gweithle yn gwrs sydd wedi ei achredu, sy’n rhoi’r cyfle i gyfranogwyr i adnabod a datblygu’r sgiliau cyfathrebu angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol dros y ffôn.

Fe fydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp a rhannu profiadau sy’n berthnasol i gynnwys y cwrs.

Wrth gyflawni’r cwrs, fe fydd cyfranogwyr wedi:

  • datblygu dealldwriaeth o’r sgiliau llafar a gwrando sy’n hanfodol ar gyfer cyfathrebu effeithiol
  • bod yn ymwybodol o’r rhwystrau I gyfarthrebu effeithiol
  • cydnabod pwysigrwydd recordio a monitor gwybodaeth dros y ffôn.

Hyd a lefel y cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi ei achredu gan Agored Cymru ac mae’n cynning 1 credyd lefel 2.

Mae Pob Plentyn yn Gallu Chwarae

Cwrs rhyngweithiol iawn sy’n gallu cael ei gyflwyno mewn safleoedd pan mae’r plant a’r bobl ifanc yn bresennol yw Mae Pob Plentyn yn Gallu Chwarae.Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymarferion grŵp

Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd y cyfranogion yn:

  • Gwybod mwy am y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud i gynnwys plant anabl mewn gweithgareddau chwarae
  • Gwybod mwy am y ffyrdd rydym yn meddwl am anabledd a nam a sut mae hyn yn gallu lliwio’r penderfyniadau rydym yn eu gwneud
  • Gallu meddwl sut i addasu rheolau safle a chwarae er mwyn hwyluso cyfranogiad
  • Gallu ystyried senarios gwahanol yng nghyswllt plant ag anableddau sydd ar fin ymuno â’u grŵp
  • Teimlo’n fwy hyderus o ran eu gallu i ddarparu amrediad o weithgareddau ac addasu’r rhain i blant gwahanol gydag anghenion gwahanol

Hyd y cwrs – nid yw hyfforddiant ‘Mae Pob Plentyn yn Gallu Chwarae’ SNAP Cymru wedi’i achredu ac mae modd ei gyflwyno mewn sesiwn hanner diwrnod.

Parch Ymwybyddiaeth o Anabledd

Mae PARCH yn rhaglen hyfforddi sy’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth pobl o anabledd a pha mor bwysig yw cynhwysiant i bob plentyn a pherson ifanc sydd ag anabledd neu anghenion ychwanegol.  Mae’r hyfforddiant yn cynnig ffordd gyffrous o archwilio’r materion pwysig hyn drwy ymarferion grŵp sy’n rhyngweithiol ac yn gyfranogol.  Gallwn hefyd gyflwyno’r cwrs yn Gymraeg.Erbyn diwedd yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr yn gallu:

  • deall anabledd
  • deall effeithiau gwahaniaethu ar sail anabledd
  • deall ymarfer cynhwysol
  • gwybod sut i gynyddu cyfranogiad pobl ag anableddau yn y broses gwneud penderfyniadau

Hyd a lefel y cwrs Mae hwn yn gwrs undydd sydd wedi’i achredu gan Agored Cymru ac sy’n darparu un credyd ar Lefel 2.  Rydym hefyd yn cynnig cwrs ‘Sgiliau Hyfforddi i Hyfforddwyr Newydd’ ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn cyflwyno hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd PARCH eu hunain.

Sgiliau Hyfforddi i Hyfforddwyr Newydd

Datblygwyd yr hyfforddiant hwn er mwyn cefnogi pobl ifanc sydd wedi dewis cyflwyno neu gyd-gyflwyno hyfforddiant PARCH SNAP Cymru. Fodd bynnag, ceir nifer o sgiliau cyffredinol a throsglwyddadwy a gaiff sylw yn ystod yr hyfforddiant, sy’n werthfawr i bobl ifanc mewn sefyllfaoedd eraill, megis hyder wrth wneud cyflwyniadau, a chynllunio a gwerthuso gweithgareddau neu brosiectau yn gyffredinol.

Erbyn diwedd y cwrs fydd dysgwyr yn:

  • cynllunio gweithdy hyfforddi
  • deall ac ymarfer technegau hyfforddi
  • cyflwyno gweithdy hyfforddicydnabod yr angen i werthuso gweithdai a chynhyrchu’r gwaith papur priodol.

Hyd a lefel y cwrs

Cyflwynir yr hyfforddiant dros gyfnod o ddeuddydd, gydag amser yn y canol I’r bobl ifanc I gynllunio eu gweithdai eu hunain, a gyflwynir ar yr ail ddiwrnod. Yn ddelfrydol, ni ddylai un rhyw grwp gynnwys mwy nag 8 o bobl ifac.

Mae’r cwrs hwn wedi ei achredu gan Agored Cymru ac mae’n cynning 3 credyd lefel 2.

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch