Archebu apwyntiad â chynghorydd Llinell Gymorth.

Gallwch archebu apwyntiad â chynghorydd Llinell Gymorth. Mae apwyntiadau galw’n ôl yn cael eu rhyddhau hyd at fis ymlaen llaw.

Drwy glicio ar y dyddiad o’ch dewis gallwch weld pob slot sydd ar gael ar gyfer ein llinell gymorth ar y diwrnod hwnnw. Bydd pob slot gyda chynghorydd yn para am 45 munud. Os nad ydych yn gallu gweld yr amser rydych chi ei eisiau, bydd angen i chi glicio ar ddyddiad arall. Os hoffech gael sgwrs â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg dylech nodi hyn wrth gyflwyno eich gwybodaeth.

 

Os nad oes slotiau ar gael gallwch:

  • Ffoniwch ein llinell gymorth yn y ffordd arferol ar 0808 801 0608. (Gall ein cynghorwyr llinell gymorth hefyd eich helpu i drefnu apwyntiad i gael galwad yn ôl)
  • Gallwch hefyd gyflwyno ffurflen ymholiad ADY o dudalen gyswllt ein gwefan.  Ar ôl ei chyflwyno byddwch yn derbyn ateb electronig gan gynghorydd o fewn 72 awr.

 

Pan fyddwch yn archebu apwyntiad gofynnir i chi lenwi Ffurflen Gwybodaeth gan Riant. Caiff y ffurflen ei rhannu gyda’r cynghorydd cyn eich apwyntiad.

Bydd yr wybodaeth a roddir gennych yn cael ei chadw’n gyfrinachol, ac ni fyddwn yn rhannu eich enw na gwybodaeth bersonol amdanoch gyda neb arall.

Drwy ddefnyddio system archebu Llinell Gymorth SNAP Cymru, rydych yn derbyn telerau ein Polisi preifatrwydd

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch