Beth os oes gen i Ddatganiad AAA o hyd neu os ydw i’n rhan o Asesiad Statudol?

Gyda chyflwyno’r ddeddfwriaeth ADY newydd, bydd Datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (“AAA”) yn cael eu disodli’n raddol gan Gynlluniau Datblygu Unigol. Bydd y rhan fwyaf o ddatganiadau yn cael eu trosglwyddo i fod yn Gynlluniau Datblygu Unigol yn ystod y 3 blynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd pob ALl wedi cwblhau’r broses hon i blant â datganiadau sy’n byw yn eu hardal erbyn Medi 2024.

Os oes gennych Ddatganiad ac nad yw’r broses bontio wedi cychwyn ar eich cyfer eto, byddwch yn dal i gael eich diogelu o dan yr hen gyfraith.

Bydd Datganiad eich plentyn yn parhau nes eu bod yn cael eu trosglwyddo i Gynllun Datblygu Unigol.

Rhaid i’r ALl barhau i wneud y ddarpariaeth yn y Datganiad, a rhaid ei hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn.

Bydd yr hawliau amrywiol isod dal yn berthnasol.

  • Cynnal Datganiad: Bydd dyletswydd yr awdurdod lleol (“ALl”) i drefnu’r ddarpariaeth yn y datganiad dal yn berthnasol. Mae’n rhaid i’r ALl barhau i gynnal y Datganiad a sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol arbennig a nodir yn cael ei derbyn gan y plentyn h.y. therapïau, cymorth unigol, addysg arbenigol etc.
  • Adolygiad blynyddol: Rhaid i’r Datganiad gael ei adolygu yn flynyddol o leiaf. Bydd proses yr ALl o wneud hynny yn dal i ddilyn yr hen system, er y dylid defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Diwygiadau i Ddatganiadau: Lle bo’r ALl yn penderfynu diwygio Datganiad ar ôl adolygiad blynyddol neu ar unrhyw adeg arall, bydd diwygiad o’r fath yn digwydd o dan yr hen system.
  • Ail-asesiad: Bydd rhieni plant sydd â Datganiadau yn dal i allu gofyn am ail-asesiad o’u plentyn o dan ddeddfwriaeth Deddf Addysg 1996. Serch hynny, o gofio bod angen trosglwyddo pob Datganiad erbyn 2024, gall fod yn fwy rhesymegol i rieni drosglwyddo’r datganiad i Gynllun Datblygu Unigol.
  • Enwi ysgol: Lle bo rhieni neu ALl eisiau newid yr ysgol a enwir mewn Datganiad, cyn trosglwyddo, mae deddfwriaeth Deddf Addysg 1996 dal yn berthnasol.
  • Hawliau apelio: lle bo plentyn neu riant eisiau apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, mae’r hawliau apelio a’r terfynau amser cyfredol yn dal i fod yn berthnasol. 

Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau ac atebion:

Beth os yw fy mhlentyn wrthi’n cael Asesiad Statudol ar hyn o bryd?

Bydd unrhyw blentyn sy’n cael Asesiad Statudol o’u hanghenion sy’n barhaus, yn parhau o dan yr hen system (gweler gwneud cais am Asesiad statudol).

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol barhau i’ch hysbysu’n ffurfiol o unrhyw benderfyniadau. Er enghraifft, os ydyn nhw wedi penderfynu peidio â chynnal Asesiad Statudol neu i beidio â chynhyrchu Datganiad.

Bydd yr hysbysiad yn dweud wrthych fod yr un hawliau yn berthnasol i chi a’ch plentyn.

e.e. os ydych yn anhapus â phenderfyniadau penodol, gallwch ofyn i ddefnyddio proses datrys anghydfodau ac rydych hefyd yn parhau i fod â hawl i apelio at Dribiwnlys AAA Cymru.

Mae angen bod yn bragmatig, o 1afIonawr 2022, gellir gwneud cais i symud i’r ‘system newydd’ lle gellir paratoi CDU ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc yn hytrach na datganiad.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a SNAP Cymru ar 0808 801 0608.

Ydy’r ALl yn gallu ‘rhoi’r gorau i gynnal’ (gorffen) Datganiad fy mhlentyn yn gynharach na’r disgwyl?

Pan fydd awdurdod lleol (“ALl”) yn penderfynu dod â datganiad i ben neu ei orffen, gelwir hyn yn ‘rhoi’r gorau i gynnal’ y Datganiad. Mae hynny’n golygu y daw’r datganiad i ben ac ni fydd gan yr ALl ddyletswydd gyfreithiol bellach i sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol a nodir yn y datganiad yn cael ei derbyn gan y plentyn neu’r person ifanc.

Efallai y bydd ALl yn penderfynu rhoi’r gorau i gynnal Datganiad unrhyw bryd, ond dim ond am rai rhesymau y gallan nhw wneud hynny:

  • os nad yw’r ALl bellach yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc; neu
  • os nad oes angen ei gynnal mwyach oherwydd bod anghenion plentyn wedi newid ac nad oes angen y ddarpariaeth arnyn nhw bellach mewn datganiad.

Os yw ALl yn penderfynu rhoi’r gorau i gynnal datganiad, rhaid iddyn nhw hysbysu’r plentyn a’r rhiant o’r rhesymau ac o’u hawl i apelio i’r tribiwnlys.

Mae gennych ddau fis i apelio i’r Tribiwnlys AAA (Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru)

Ydw i’n gallu gofyn i drosglwyddo i Gynllun Datblygu Unigol o ddatganiad yn gynt na’r disgwyl?

Os oes gan eich plentyn AAA neu ddatganiad yn barod bydd Llywodraeth Cymru yn amlinellu dull gweithredu graddol, a fydd yn dechrau ar Ionawr 1af 2022. Ni fydd datganiadau yn cael eu trosglwyddo i Gynlluniau Datblygu Unigol tan y flwyddyn ysgol 2022/2023.

Gall ysgol neu ALl benderfynu ar bwynt adolygu naturiol y dylid trosglwyddo eich plentyn i’r system newydd yn gynt na’r disgwyl, ond gall plant, pobl ifanc sydd â datganiad ofyn ‘i drosglwyddo i’r gyfraith newydd’ o Ionawr 1af 2022. Dylech ysgrifennu at yr awdurdod lleol yn gofyn i gael eich trosglwyddo. Rhaid cydymffurfio â’r cais ac mae’n weithredol o’r dyddiad y gofynnwyd amdano.

Fodd bynnag, os yw anghenion plentyn neu berson ifanc yn cael eu diwallu’n effeithiol, nid oes angen gwneud unrhyw beth nes bod y datganiad yn cael ei drosglwyddo rywbryd yn ystod y tair blynedd nesaf.

Beth os ydw i’n apelio yn erbyn Datganiad fy mhlentyn ar hyn o bryd?

Gallwch dal ddewis gofyn am ddatrys anghydfod i helpu i ddatrys unrhyw wahaniaethau. Gweler y ddolen Datrys Anghydfodau

Gallwch barhau i apelio yn erbyn penderfyniad i SENTW. Mae’r gyfraith AAA a’r terfynau amser yn dal i fod yn berthnasol.

Pan fydd apêl i’r Tribiwnlys wedi’i gwneud, ond heb ei phenderfynu’n derfynol, rhaid iddo fynd ymlaen i’r penderfyniad terfynol o hyd.

Lle bo tribiwnlys wedi ‘gorchymyn’ bod yr awdurdod lleol yn gwneud ac yn cynnal datganiad, mae’n RHAID iddyn nhw wneud hynny.

Llythyron Enghreifftiol

Bydd hwn yn gyfnod cymhleth lle mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn gweithredu dwy system ar yr un pryd. Bydd angen i bawb sy’n cymryd rhan gymryd agwedd bragmatig.

Efallai y bydd angen i chi ysgrifennu at eich Ysgol neu Awdurdod Lleol gyda’i gilydd ac efallai y bydd y llythyrau enghreifftiol hyn yn ddefnyddiol.

Lawrlwythwch y llythyr sydd fwyaf addas i’ch sefyllfa chi. Os nad ydych yn siŵr pa lythyr i’w ddefnyddio, cysylltwch â’r Llinell Gymorth ar 0808 801 0608 a gallwn eich cynghori ar ba lythyr y dylech ystyried ei ddefnyddio a sut i’w addasu ar gyfer eich amgylchiadau eich hun.

 

Llythyron Enghreifftiol

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch