Beth os ydw i’n anghytuno?

Weithiau mae’n bosibl y byddwch yn anghytuno â phobl eraill sy’n cefnogi anghenion eich plentyn, neu y byddwch yn anfodlon â rhywbeth maen nhw’n ei wneud neu’n ei ddweudGallech ambell waith fod yn anghytuno â phenderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud am anghenion eich plentyn a’r ffordd y cânt eu cefnogi 

Gallai hyn gynnwys pethau fel: 

  • ‘Rydw i’n credu bod gan fy mhlentyn ADY – mae’r ysgol yn anghytuno.’ 
  • ‘Mae’r cymorth y mae’r ysgol yn ei roi yn annigonol, neu ‘nid dyma’r gefnogaeth iawn i anghenion dysgu ychwanegol fy mhlentyn.’ 
  • ‘Nid yw’r ysgol yn deall anghenion fy mhlentyn.’ 
  • ‘Nid wyf yn fodlon â CDU fy mhlentyn.’ 
  • ‘Nid wyf yn cytuno â phenderfyniad yr awdurdod lleol ynglŷn â pha ysgol y dylai fy mhlentyn fynd iddi.’ 
  • ‘Nid wyf yn teimlo bod gan yr ysgol yr arian na’r arbenigedd i asesu a diwallu anghenion fy mhlentyn.’ 
  • ‘Rwyf wedi cwyno fwy nag unwaith am benderfyniadau a wnaethpwyd gan fy ysgol ac rwy’n dal yn anfodlon. 
  • ‘Mae’r ysgol yn dal i ofyn i mi ddod i nôl fy mhlentyn ac erbyn hyn mae wedi cael ei wahardd nifer o weithiau.’ 
  • ‘Nid yw fy mhlentyn yn cael yr help a nodwyd yn ei gynllun neu ddatganiad’. 
  • ‘Rwy’n teimlo bod fy mhlentyn yn cael ei wahaniaethu.’ 

Mae’r system ADY newydd a’r broses CDU yn cynnwys dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ystyried barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn, rhieni neu berson ifanc, ac fe’i bwriadwyd er mwyn helpu i oresgyn y rhan fwyaf o anghytundebau.    

Os oes gennych bryderon, neu os ydych yn anfodlon â phenderfyniad, mae’n bwysig bod problemau’n cael sylw’n gyflym.  Dylech siarad â’ch ysgol neu goleg a cheisio datrys y rhain yn fuan.   

Dylech: 

  • egluro’r broblem wrth yr athro/athrawes 
  • gofyn beth all ef/hi ei wneud i helpu a phryd 
  • gofyn pryd y gwnân nhw roi diweddariad i chi
  • gofyn am gyfarfod
  • gofyn am ailystyried y penderfyniadau a wnaed 

 

Os byddwch yn anfon e-bost neu lythyr at yr athro/athrawes, cadwch gopi ohono.  Os byddwch yn ffonio neu’n siarad wyneb yn wyneb, gwnewch nodyn o’r dyddiad a gwnewch nodiadau o’r hyn y mae’r ddau/ddwy ohonoch yn ei ddweud – ar y pryd neu’n syth ar ôl hynny. Gallai eich nodiadau helpu os bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r ysgol eto ynglŷn â’r broblem. 

Cwynion

Mae gan bob ysgol a choleg weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion gan rieni/gofalwyr a disgyblion. Y cam cyntaf yw dilyn trefn gwynion yr ysgol ei hun.

Gwasanaeth Datrys Anghydfod

Gall ein gwasanaethau datrys anghydfodau gael eu defnyddio gan rieni a gofalwyr plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Gwahaniaethu

Os oes rhywun yn cael ei drin yn annheg oherwydd eu hanabledd, neu oherwydd rhywbeth sy’n codi oherwydd eu hanabledd, gall hyn fod yn wahaniaethu ar sail anabledd. 

Gwneud Apêl

Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Addysg os ydych yn anhapus ynglŷn â phenderfyniad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a wnaed gan Awdurdodau Lleol a Cholegau Addysg Bellach yng Nghymru.

Ailystyried penderfyniadau ADY

Mae’r gyfraith Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd yn darparu sawl hawl ar gyfer plant, eu rhieni a phobl ifanc i gael ailystyried rhai penderfyniadau a wneud gan yr ysgol.

Nid wyf yn fodlon â’r help mae fy mhlentyn yn ei gael yn yr ysgol?

Y cam cyntaf yw siarad â’r ysgol a gofyn am gyfarfod. Fel arfer mae gan ysgolion weithdrefnau ar gyfer cysylltu neu drefnu cyfarfod ag aelod o’r staff.   

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch