‘Nid wyf yn fodlon â’r help mae fy mhlentyn yn ei gael yn yr ysgol’

‘Nid wyf yn fodlon â’r help mae fy mhlentyn yn ei gael yn yr ysgol’

Y cam cyntaf yw siarad â’r ysgol a gofyn am gyfarfod. Fel arfer mae gan ysgolion weithdrefnau ar gyfer cysylltu neu drefnu cyfarfod ag aelod o’r staff.   

Os ydych yn poeni ynglŷn â sut mae eich plentyn yn dysgu siaradwch â’i athro/athrawes.  Mae gan bob ysgol hefyd athro/athrawes sydd â chyfrifoldeb arbennig am blant ag anghenion dysgu ychwanegol.  Gelwir y person hwn yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY).  Bydd yn cymryd eich problem o ddifri ac yn ceisio eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau cyn gynted ag y gall.  Dylech bob amser wneud apwyntiad – mae gennych fwy o gyfle i gael eich clywed nag wrth geisio dal athro/athrawes brysur yn ystod amser ysgol.  

Os yw hyn yn anodd, rhowch y cais ar bapur.  

Cyn gofyn am gyfarfod gyda’r ysgol mae’n werth meddwl beth sy’n mynd o’i le a beth rydych eisiau i’r ysgol ei wneud am hynny. 

Beth allwch chi ei wneud i baratoi   

  1. Gwneud nodyn o’r materion neu’r cwestiynau sydd gennych
  2. Meddwl beth fyddai’n gwneud pethau’n well neu’n eich gwneud chi’n hapusach
  3. Cael gwybodaeth yn barod am eich problem neu gwestiwn. 

Gall mynd i gyfarfodydd am addysg eich plentyn fod yn brofiad cadarnhaol iawn, ond gall hefyd fod yn deimlad anodd neu rwystredig. I gael help edrychwch ar ein gwybodaeth am ‘Baratoi ar gyfer cyfarfod ysgol 

Os oes gan eich plentyn Gynllun Addysg Unigol (CAU), Cynllun datblygu unigol (CDU) neu ddatganiad yn barod gallwch hefyd godi eich pryderon mewn cyfarfodydd adolygu a ddylai gael eu cynnal sawl gwaith y flwyddyn neu gofynnwch am adolygiad cynnar.    

Os nad oes gan eich plentyn gynllun, a’ch bod yn meddwl y byddai’n elwa o gael un, gallwch ofyn am gyfarfod gyda’r ysgol i drafod hyn.  

Dylai’r ysgol: 

  • Gymryd eich problem o ddifri 
  • Eich cynnwys chi a’ch plentyn ac ystyried eich barn  
  • Archwilio pob mater a phryder  
  • Casglu gwybodaeth ac egluro’r sefyllfa  
  • Archwilio opsiynau  
  • Adolygu cynnydd eich plentyn 
  • Rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i chi os oes angen, i’ch helpu i gymryd rhan yn unrhyw rai o’r prosesau gwneud penderfyniadau neu gwynion 
  • Rhoi manylion y gwasanaethau gwybodaeth a chyngor lleol neu ddatrys anghydfodau 
  • Os oes angen, paratoi a datblygu Cynllun Datblygu Unigol a gwneud y paratoadau ar gyfer eich plentyn os oes arno angen darpariaeth ddysgu ychwanegol 

Cofiwch –  

  • Os oes modd, gwnewch awgrymiadau ar gyfer trafodaeth ynglŷn â beth allai helpu. 
  • Os oes gennych unrhyw bryderon nad yw’r ysgol wedi rhoi sylw iddynt – dywedwch wrthynt.   
  • Os nad yw’r camau y cytunwyd arnynt wedi digwydd ewch ar ôl pethau gyda’r ysgol. 

Os ydych wedi trio cyfarfod yr ysgol, ond eich bod yn dal yn anfodlon, rhowch eich pryderon ar bapur.  Canolbwyntiwch ar anghenion eich plentyn ac effaith y sefyllfa bresennol ar ei ddysgu a’i les.  Nodwch yn glir bod arnoch eisiau dal i weithio gyda’ch gilydd, ond bod rhai pethau rydych yn dal i boeni amdanynt.  Eglurwch beth yw’r pethau hyn a beth y byddech yn hoffi i’r ysgol ei wneud amdanynt. 

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch