Rhoi wrth Ddathlu
Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld pobl yn codi arian mewn llawer o ffyrdd gwahanol a chreadigol! Rydym yn ddiolchgar iawn i’r rhai sy’n ddigon hael i godi arian i ni yn eu digwyddiadau arbennig.
Oes gennych chi ddigwyddiad cyffrous ar y gweill? Hoffech chi gael gwybod mwy am sut gallech chi gefnogi SNAP Cymru yn eich dathliadau?
Priodasau a Phenblwyddi Priodas
Ym mis Ionawr eleni, roeddem wrth ein bodd pan gawsom e-bost gan Richard ac Athina, pâr ar fin priodi a oedd wedi ein dewis fel un o ddwy elusen yr oeddent am godi arian iddynt yn eu priodas.
Gofynnodd Richard ac Athina yn garedig i ffrindiau a theulu beidio ag anfon anrhegion priodas traddodiadol, ac yn lle hynny, gofynnwyd am roddion ar gyfer SNAP a’r elusen cymorth i’r digartref, CHESS.
Er gwaethaf anawsterau eleni, clymodd Richard ac Athina y cwlwm yr hydref hwn, yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. A gyda chefnogaeth eu ffrindiau a’u teulu, mae’r pâr wedi rhoi cannoedd o bunnoedd i ni yn SNAP. Hefyd anfonodd Richard ac Athina y llun hardd hwn atom o’u diwrnod mawr!
Diolch i Richard, Athina a phawb a gyfrannodd at y rhodd wych hon, rydym yn anfon ein dymuniadau gorau ar gyfer eich dyfodol!
Os hoffech gyfrannu at SNAP, cliciwch y botwm isod.
Os hoffech gefnogi SNAP Cymru ar ddydd eich priodas, cysylltwch â Harriet dros e-bost harriet.boughey@snapcymru.org, hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am eich haelioni!
Fel arall, gallwch gyfeirio eich gwesteion at ein tudalennau PayPal neu JustGiving.
Penblwyddi
Os oes gennych ben-blwydd ar y gweill ac yn awyddus i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol, beth am ofyn i ffrindiau neu’r teulu i ystyried rhoi i ni yn hytach na rhoi anrheg?
Wrth wneud hynny, byddwch yn ein helpu i barhau â’r gwaith hanfodol rydym yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd!
Gallwch gyfeirio’r rhai sydd eisiau rhoi at ein tudalennau rhoi ar-lein:
Os ydych wedi dewis cefnogi SNAP Cymru ar gyfer eich pen-blwydd, cysylltwch (e-bost harriet.boughey@outlook.com) oherwydd byddem yn falch iawn o ddiolch yn bersonol i chi am eich caredigrwydd a’ch haelioni!
Digwyddiadau Eraill
Waeth os yw’n ddigwyddiad graddio, pen-blwydd priodas neu rywbeth arall cyffrous, mae dathliadau’n ffordd wych o godi arian i gefnogi ein gwaith, rydym bob amser yn falch iawn o glywed am eich buddugoliaethau a bod yn rhan o’r dathliad!
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi SNAP Cymru yn rhan o’ch dathliad, gallwch roi i ni ar sawl platfform gwahanol:
Rydym hefyd yn derbyn taliadau drwy drosglwyddiad banc:
Banc: Co-operative Bank
Enw deiliad y cyfrif: SNAP Cymru
Côd Didoli: 08-90-03
Rhif y Cyfrif: 65370364
Os ydych wedi anfon rhodd, cysylltwch â ni dros e-bost (finance@snapcymru.org) fel bod modd inni roi gwybod i chi ein bod wedi derbyn, diolch i chi’n bersonol, a gwneud nodyn ar ein cofnodion ariannol hefyd.