Cwrdd â’r Ymddiriedolwyr

Llywodraethu

Caiff SNAP Cymru ei lywodraethu gan fwrdd o Ymddiriedolwyr o fuddiolwyr, rhwydweithiau a phartneriaid SNAP.  Mae ein hymddiriedolwyr yn goruchwylio cyfeiriad strategol y sefydliadau, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros weledigaeth, atebolrwydd cyllid SNAP Cymru, ac i ddiogelu enw da’r sefydliad.

Mae ein haelodau bwrdd yn wirfoddolwyr sydd ag ystod ardderchog o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad gwahanol, sy’n cael ei defnyddio ar y cyd i lywio’r sefydliad yn effeithiol.

Beth yw Ymddiriedolwr?

  • Pobl yw ymddiriedolwyr sy’n gofalu am nodau’r sefydliad
  • Mae ymddiriedolwyr yn dod â sgìl neu safbwynt i’r sefydliad er mwyn llywio ei waith
  • Mae ganddynt ddiddordeb yng ngwaith yr elusen
  • Maent yn dweud wrth yr uwch arweinwyr sut gall y gwaith wella, ac awgrymu ffyrdd newydd o weithio
  • Maent yn helpu’r elusen i ymgysylltu â’r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu
  • Maent yn gyfrifol am gadw’r elusen yn iach yn ariannol

Cwrdd â’r Ymddiriedolwyr

Mae’r Ymddiriedolwyr yn aelodau gwerthfawr o’n tîm Gwirfoddoli, rydym yn ddiolchgar iawn am yr amser maen nhw’n ei roi i ni; maent yn dod â llawer o sgiliau gwahanol, mathau gwahanol o brofiadau ac yn ein helpu i wneud penderfyniadau pwysig. Maent yn gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol SNAP Cymru. Gallwch ddarllen mwy am ein tîm o ymddiriedolwyr isod:

Amdanaf i: Rwyf wedi treulio fy ngyrfa gyfan yn gweithio ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roeddwn yn gyfrifol am uned mewn ysgol Uwchradd, mewn rôl ymgynghorol ar gyfer plant gydag anghenion corfforol a meddygol mewn awdurdod addysg, yn uwch ddarlithydd prifysgol ac yn Swyddog Cynhwysiant i Lywodraeth Cymru. Cefais hefyd gyfle i ganolbwyntio ar ddatblygu adnoddau a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.

Bod yn Ymddiriedolwr: Fe welais fod SNAP yn ffordd glir i ddarparu llais i rhieni, plant a phobl ifanc rhai ohonynt heb eu cynrychioli’n effeithiol o fewn cymhlethdod deddfwriaeth. Mae hi wedi bod yn fraint bod yn aelod a chadeirydd SNAP am nifer o flynyddoedd. Gwelais yr elusen yn tyfu i gael ei chydnabod yn uchel drwy Gymru ac yn gweithio gyda phersonau proffesiynol yn cynnwys y llywodraeth i fod yn llais i rhieni mewn datblygiadau pwysig. Rwy’n falch o fod yn rhan o dîm o weithwyr ac ymddiriedolwyr effeithiol  SNAP ac yn croesawu personau proffesiynol a rhieni i ddatblygu ein harbenigedd ymhellach i fod yn aelodau  o’n Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.

Lindsay Brewis Is-Gadeirydd

Amdanaf fi a pham wnes i ddewis cefnogi SNAP Cymru:

Rwyf wedi cefnogi SNAP Cymru ers 1986, ac wedi bod yn wirfoddolwr ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ers 1996. Pan oeddwn yn athrawes, byddai SNAP yn ategu fy nghyngor i rieni felly byddwn yn annog pob rhiant i gysylltu â nhw. Drwy wneud hynny, roedd y cyngor i rieni’n cael ei ddilysu ac roedd hyn yn eu galluogi i ymddiried yn neges yr Awdurdod Lleol.

SNAP Cymru yw fy mywyd. Yr eiliad yr wyf yn fwyaf balch ohoni oedd pan ddaeth SNAP yn elusen annibynnol. Mencap a Scope a oedd wedi sefydlu’r elusen ac roeddent wedi cadw dau le ar y bwrdd. Roeddwn yn gynghorwr addysg i Scope ar y pryd, ac roedden nhw wedi fy mhenodi i’r bwrdd. Pan ddaeth SNAP yn annibynnol, roedd Scope a Mencap wedi ildio eu seddi. Ymddiswyddais, ond o fewn 10 munud cefais fy ailethol yn wirfoddolwr annibynnol ac rwyf wedi bod ar y bwrdd ers hynny. Rwyf hefyd yn falch o’r pethau sy’n digwydd o ddydd i ddydd, fel y troeon y bydd rhiant yn dod atoch ac yn dweud, “Mae fy mhlentyn yn dal i wneud yn dda oherwydd SNAP Cymru.”

Janice Sharpe Ymddiriedolwr

Amdanaf fi a pham wnes i ddewis cefnogi SNAP Cymru:

Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gyda SNAP Cymru am 6 mlynedd.  Y rheswm dros ddechrau gwirfoddoli oedd fy mod wedi ymddeol ar ôl bod yn athrawes am 38 mlynedd, ac yn chwilio am fudiad lle y byddwn yn gallu defnyddio’r sgiliau a’r profiad a oedd gen i. Roeddwn yn swyddog amddiffyn plant, a oedd yn golygu cymryd rhan mewn gwaith amlasiantaethol a helpu pobl ifanc a’u teuluoedd. Roeddwn am barhau mewn rôl debyg lle y gallwn rannu fy mhrofiad a’m sgiliau er mwyn helpu teuluoedd.

Rwyf yn teimlo fy mod wedi ennill llawer yn bersonol. Mae wedi creu trefn yn fy mywyd. Rwyf yn un sy’n hoffi cadw at yr un drefn o ddydd i ddydd, felly mae’n dod â mi allan o’r tŷ ac yn fy rhoi mewn cysylltiad â phobl a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae gen i amser i’w roi ar ôl ymddeol, ac rwyf yn teimlo y gallaf roi rhywbeth yn ôl. Rwyf yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi ac y gallaf wneud cyfraniad gwerthfawr. Dyna’r gair sy’n disgrifio fy mhrofiad o weithio gyda SNAP Cymru, cael fy ngwerthfawrogi.

 

George Rogers Trysorydd

Amdanaf fi:  Ar hyn o bryd, rwy’n Ddadansoddwr Gwybodaeth yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn gyn-Reolwr Cymorth Busnes yn SNAP Cymru.

Dechreuais wirfoddoli i’r Elusen yn 2014, a dechreuais gefnogi’r gyflogres a’r pensiynau. Rhoddodd hyn ddechrau i mi o ran rheoli arian a phrosesu data, ac roedd hyn yn sylfaen i’m gweithgareddau proffesiynol dilynol.

Bod yn Ymddiriedolwr: Fel person Awtistig sydd wedi cael trafferth yn y system addysg, mae gwasanaeth SNAP Cymru’n rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon a fy mhrofiad bywyd. Mae bod yn ymddiriedolwr wedi fy ngalluogi i barhau i gynnig fy arbenigedd a’m safbwynt y tu hwnt i fy nghyflogaeth gyda’r elusen, ac mae wedi talu ar ei ganfed. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld yr elusen a’i staff yn perfformio y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau i barhau i gynnig y gwasanaeth hanfodol hwn i rieni a phobl ifanc ym mhob rhan o Gymru.

Katy Stevenson Ymddiriedolwr

Amdanaf fi a pham wnes i ddewis cefnogi SNAP Cymru:

Rwy’n angerddol am gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, cenedlaethau’r dyfodol, datblygu sgiliau a gwella cyfleoedd pobl drwy ddatblygu cynaliadwy.

Fel Arweinydd profiadol a Phrif Weithredwr Groundwork Wales, a chyn-aelod o staff SNAP Cymru, rwy’n falch iawn o fod wedi cael gwahoddiad i fod yn rhan o’r bwrdd ymddiriedolwyr.

Rwy’n falch iawn o gael rhannu fy mhrofiadau a’m sgiliau gyda SNAP Cymru fel ymddiriedolwr. Mae SNAP Cymru’n debyg iawn i Groundwork oherwydd mae’r ddau yn cefnogi cymunedau mewn angen ac yn gweithio gyda phartneriaid i helpu i wella ansawdd bywydau a photensial pobl.

Fel Ymddiriedolwr, rwy’n gobeithio rhannu fy sgiliau a’m profiadau gyda’r Prif Swyddog Gweithredol a’r sefydliad i lywio ei waith ac i gefnogi’r cyfeiriad i’r dyfodol.  

Jack Boughey Ymddiriedolwr

Ychydig amdanaf fi: Fwy na thebyg, byddwch yn dod o hyd i mi yn beicio, yn gwylio’r Gweilch neu yn mynd am dro gyda fy ffrindiau neu Kevin y ci (sy’n rheoli fy mywyd!) Gartref, rwy’n treulio rhan fwyaf o fy amser yn gwneud DIY(ac yn llwyddo, weithiau)!

O safbwynt proffesiynol, mae gen i gefndir mewn bancio, gwaith gofal, anableddau a thechnoleg gynorthwyol. Ar nodyn personol, mae dod yn ymddiriedolwr wedi rhoi sgiliau a phrofiadau newydd i mi, sydd wedi bod yn ddefnyddiol wrth fy ngwaith.

 

Bod yn Ymddiriedolwr: Drwy gydol fy mywyd, rwyf wedi cael perthynas agos gyda SNAP. Fel plentyn, ro’n i’n ddefnyddiwr gwasanaeth, a sicrhaodd SNAP fod gen i’r cymorth a’r gefnogaeth oedd ei angen i lwyddo yn yr ysgol. Pan adawais yr ysgol, dechreuais wirfoddoli gyda SNAP. Ymhlith fy rolau oedd recriwtio gwirfoddolwyr, helpu i ddatblygu deunyddiau hyfforddiant, gweithio fel eiriolwr yn uniongyrchol gyda phobl ifanc a mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio i hyrwyddo SNAP. Mae’r NEC yn gyfrifol am sicrhau bod SNAP yn glynu at ei ddatganiad cenhadaeth, ei amcanion a’i nodau. Ro’n i eisiau rhoi nôl i SNAP am bopeth y maent wedi’i roi i mi dros y blynyddoedd, ac mae hyn i weld yn ffordd wych o wneud hynny.

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfranwch