Gall ein gwasanaethau datrys anghydfodau gael eu defnyddio gan rieni a gofalwyr plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’r gwasanaethau hyn am ddim ac yn annibynnol ar yr Awdurdod Lleol, ac yn helpu i ddatrys anghydfodau rhwng: 

  • rhieni a’r blynyddoedd cynnar/ysgolion/colegau/ neu’r Awdurdod Lleol neu  
  • rhwng pobl ifanc ac ysgol/coleg neu awdurdod lleol 

Gall ein cyfryngwyr sydd wedi’u hyfforddi helpu i:  

  • ddod â’r bobl berthnasol at ei gilydd 
  • helpu i sicrhau bod anghydfodau yn cael eu datrys yn gynnar ac yn anffurfiol drwy drafodaeth a chytundeb 
  • gwneud yn siŵr bod pawb yn canolbwyntio ar fudd pennaf y plentyn a’r person ifanc a helpu i ddod o hyd i atebion effeithiol cyn gynted â phosibl 
  • archwilio hawliau ac opsiynau 
  • egluro gwybodaeth i ddatrys camddealltwriaeth 
  • helpu i ddatrys anghydfodau a chytuno ar gamau gweithredu yn y dyfodol 
  • atal anghydfodau rhag gwaethygu 

Gall cyfryngu nid yn unig ddatrys y materion hyn ond hefyd helpu i adfer neu wella’r berthynas rhwng rhieni a’r awdurdod lleol neu’r ysgol.  Mae ein cyfryngwyr yn arbenigwyr mewn ADY ac wedi derbyn hyfforddiant sydd wedi’i achredu.  

I wneud atgyfeiriad, cwblhewch y ffurflen Gwasanaeth Datrys Anghydfodau a’i chyflwyno:

Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

Helpu i Osgoi Anghytundebau

Sut all SNAP Cymru fy helpu i osgoi anghytundebau ynglŷn ag angen dysgu ychwanegol fy mhlentyn?

Mae SNAP Cymru yn cael ei ariannu gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru i ddarparu Gwasanaeth Partneriaeth â Rhieni (PPS). Mae PPS yn cynnig gwybodaeth a chymorth diduedd, cywir a dibynadwy ar bob agwedd ar anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn darparu gwybodaeth hawdd ei deall ar bob agwedd ar addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i’ch helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Mae ein gwybodaeth yn seiliedig ar y polisïau a’r deddfwriaethau lleol a chenedlaethol diweddaraf er mwyn eich helpu i ddeall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau. Byddwn yn hapus i drafod eich pryderon ac i edrych ar ba opsiynau sydd ar gael.

Mae gennym amrywiaeth o daflenni, taflenni ffeithiau, cyhoeddiadau a dolenni defnyddiol eraill sydd i’w cael ar ein tudalen gynghori. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, yna cofiwch gysylltu â ni.

Pa fathau o anghyundebau allwch chi helpu efo?

Gallwn helpu i ddatrys sawl math o anghytundeb neu eu hatal rhag gwaethygu: h.y.

Anghytundebau rhwng Rhieni neu Bobl Ifanc a’r Awdurdod Lleol, Ysgol, Cyrff llywodraethu a Meithrinfeydd a Gynhelir, darparwyr Blynyddoedd Cynnar, Addysg Bellach

Anghytundebau ynghyn â darparu asesiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), paratoi cynlluniau, apeliadau tribiwnlys ar leoliad mewn ysgolion a chwynion.

A allaf gael cyngor dros y ffôn neu e-bost i helpu i osgoi anghytundeb neu i’w atal rhag gwaethygu?

Gallwch, mi allwch gael help arbenigol gan ein cynghorwyr hyfforddedig ar ein llinell gymorth, 0808 801 608, dydd Llun – dydd Gwener, 9.30-4.30 neu drwy ein ffurflen ymholiad ar ein tudalen cysylltu â ni   Mae ein gwasanaeth ffôn yn cynnig gwybodaeth a chyngor dwyieithog yn ogystal ag atgyfeiriadau at ein gwasanaeth gwaith achos os bydd angen.

A allaf i gael cefnogaeth neu help wyneb yn wyneb mewn cyfarfodydd i helpu i osgoi anghytundebau?

Yn y rhan fwyaf o Gymru mi all gwasanaeth SNAP Cymru eich helpu â’ch canlynol:

  • Paratoi ar gyfer a bod yn bresennol mewn cyfarfodydd ag ysgolion, awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol eraill
  • Helpu i ysgrifennu llythyrau swyddogol a llenwi ffurflenni
  • Egluro ystyr dogfennau swyddogol, prosesau neu ddeddfwriaeth
  • Help â’r broses asesiadau statudol neu CDU
  • Help â’r broses asesu ac adolygu i’ch helpu i ddeall sut y gwnaed y penderfyniadau ac edrych a oes unrhyw dystiolaeth ar goll neu heb ei hystyried
  • Atgyfeirio neu gyfeirio at y sefydliad neu’r cyswllt cywir
  • Helpu mewn apeliadau
  • Cymorth parhaus os oes anhawster datrys

Beth allaf ei wneud yn gyntaf gyda fy ysgol neu awdurdod lleol os byddaf yn anghytuno?

Yn  aml gellir datrys problemau drwy drafod a defnyddio dulliau anffurfiol i ddatrys anghydfodau. Fodd bynnag, ni fydd y problemau’n diflannu bob tro ac efallai y bydd yn rhaid i rieni plant ag AAA a phobl ifanc gymryd camau pellach.

 Y cam cyntaf i ddatrys anghytundeb yw siarad â’r parti arall. Os ydych chi’n anhapus â’r help mae eich plentyn yn ei gael yn yr ysgol, siaradwch â’u hathro, y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCo)/Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) neu’r Pennaeth.

 Os ydych chi’n teimlo bod yr ysgol yn gwneud popeth posibl, ond bod angen mwy fyth o help ar eich plentyn neu os hoffech i’r awdurdod lleol ailystyried y mater, mi allwch ofyn i’r awdurdodau lleol gynnal asesiad arall o’u hanghenion.

 Gall SNAP Cymru eich helpu i baratoi ar gyfer cyfarfod ac i fod yn bresennol gyda chi, eich helpu i ysgrifennu llythyr neu lenwi ffurflenni sy’n ymwneud â’ch pryderon, a siarad â chi am eich camau nesaf.  Dylech ffonio ein llinell gymorth am gyngor ar:

0808 801 0608 neu e-bostio Caroline.Rawson@snapcymru.org 

Beth allaf ei wneud os oes gennyf bryderon o hyd?

Gellir datrys y rhan fwyaf o anghytundebau drwy siarad â’r ochr arall.

Fodd bynnag, os nad yw eich pryderon wedi’u datrys ar hyn o bryd neu os yw cyfathrebiadau wedi chwalu, mae ffyrdd eraill ymlaen y gallwch eu hystyried.

Mae defnyddio gwasanaeth datrys anghytundeb yn caniatáu i bryderon a materion gael eu codi a gallwch fod yn hyderus bod eich barn a’ch dymuniadau’n cael eu clywed – mae hyn fel arfer yn lleihau’r angen i fynd ag anghydfod i’r tribiwnlys.

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu mynediad at ddatrys anghytundeb annibynnol i helpu pan na all rhieni neu bobl ifanc gytuno â’r awdurdod lleol neu ddarparwyr eraill ynghylch y ddarpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plentyn neu berson ifanc. Mae darparwyr eraill yn cynnwys lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion, colegau a darpariaeth ôl-16 arall.

Y nod yw archwilio barn pob ochr a dod i gytundeb sydd er lles gorau’r plentyn neu’r person ifanc.

“O ganlyniad i’r sesiwn datrys anghytundeb, cawsom ddrafft diwygiedig fel yr addawyd. Erbyn hyn, mae gan fy mhlentyn ddatganiad gwell yn cydnabod ei anghenion cymhleth. Roedd y gwasanaeth yn effeithiol ac yn ddiduedd.” – Rhiant

“Diolch yn fawr i’n cyfryngwr; a hwylusodd yn deg ac yn annibynnol!” – Swyddog ALl

Datrys Anghydfod

Beth yw datrys anghytundebau?

Mae datrys anghytundebau yn ddull a ddefnyddir gan berson neu wasanaeth annibynnol gyda phlant, pobl ifanc a rhieni plant ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)/Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Ei ddiben yw osgoi a datrys anghytundebau rhwng:

  • Rhieni/plant/pobl ifanc ac ysgolion
  • Rhieni/plant/pobl ifanc a’u hawdurdod lleol

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyfle positif i gyfathrebu sy’n wirfoddol, cyfrinachol ac am ddim.

 

“Ar ôl misoedd o rwystredigaeth rwyf yn dechrau teimlo o’r diwedd ein bod ni’n mynd i rywle. Mae’r berthynas rhyngom ni a’r ysgol wedi gwella’n bendant o ganlyniad uniongyrchol i’r sesiwn ar yr anghytundeb.” Rhiant

A oes yn rhaid imi ddefnyddio Gwasanaeth Datrys Anghytundebau?

Nac oes. Mae’r dewis i ddefnyddio’r gwasanaeth yn un cwbl wirfoddol a rhaid i bob parti gytuno i gymryd rhan; nid oes yn rhaid i neb ei ddefnyddio os byddai’n well ganddynt beidio.

Mi allwch, wrth gwrs, ddilyn trefn gwyno eich ysgol neu awdurdod lleol ac os nad yw’r trywydd hwnnw wedi helpu efallai y bydd yn rhaid i chi gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mewn rhai amgylchiadau mi allwch hefyd apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru

Beth all osgoi a datrys anghytundeb ei gyflawni?

Gellir defnyddio datrys anghytundebau i ddatrys amrywiaeth eang o anghytundebau, fel:

  • Pan fydd awdurdod lleol yn gwrthod cynnal asesiad statudol;
  • Pan fydd awdurdod lleol yn gwrthod ailystyried penderfyniad gan ysgol ynglŷn ag IDP
  • Gwrthod cais i gyhoeddi Datganiad, neu Gynllun Addysg Unigol (IDP)
  • Rhoi’r gorau i gynnal Datganiad neu IDP
  • Cynnwys Datganiad neu IDP eich plentyn
  • Y math o ysgol neu leoliad addysgol sy’n cael ei gynnig gan yr awdurdod lleol
  • Yr ysgol a enwir yn y Datganiad neu IDP;
  • Cyn/ochr yn ochr ag apêl i’r Tribiwnlys AAA/ADY
  • Os na ellir datrys mater yn ymwneud â’r ysgol drwy brosesau’r ysgol
  • Mae modd cyfryngu hefyd yn achos pryderon ynglŷn â gwahaniaethu a methiant i wneud addasiadau rhesymol
  • Methiant i ddarparu asesiadau a gwasanaethau o fewn yr awdurdod lleol

Nid yn unig y gall cyfryngu ddatrys y materion hyn, gall hefyd fod yn gyfle i adfer neu wella’r berthynas rhwng rhieni a’r awdurdod lleol neu ysgol

Y nod bob amser yw ystyried anghenion y plentyn neu’r person ifanc o flaen popeth arall, a rhoi pwyslais ar ddatrys y materion pwysig drwy ddefnyddio dull grŵp cynhwysol.

 

“O ganlyniad i’r sesiwn datrys anghytundebau, mi gawsom ddrafft wedi’i ddiwygio, fel roeddent wedi’i addo. Mae gan fy mhlentyn yn awr ddatganiad gwell sy’n cydnabod ei anghenion cymhleth. Roedd y gwasanaeth yn effeithiol a diduedd.” Rhiant

“Llawer o ddiolch i’n cyfryngwr, a fu’n hwyluso mewn ffordd deg ac annibynnol!” Swyddog Awdurdod Lleol 

Datrys anghytundebau – beth ddylwn i ei ddisgwyl?

Gellir gwneud atgyfeiriadau’n uniongyrchol at y gwasanaeth gan riant/plentyn/person ifanc, ysgol neu awdurdod lleol.

Defnyddiwch y ffurflen  cais neu cysylltwch drwy ffonio 0808 801 0608

neu e-bostio: caroline.rawson@snapcymru.org neu DRS@snapcymru.org

 

Ar ôl i chi gysylltu â ni:

  • Byddwn yn egluro’r broses gyfryngu’n fwy manwl i chi. Yna, ar ôl i chi gytuno, byddwn yn cysylltu â’r partïon eraill
  • Byddwn yn casglu ac yn cofnodi gwybodaeth gefndir – gwybodaeth gyffredinol yn ymwneud ag enwau’r partïon, y plentyn neu berson ifanc dan sylw a phwy all fod yn bresennol
  • Byddwn yn cofnodi cefndir eich achos yn gryno gan gynnwys rhestr o faterion a/neu’r digwyddiadau allweddol yn nhrefn amser – ac unrhyw gytundebau sydd wedi’u cynnig eisoes
  • Byddwn yn egluro’r broses wrthych, y canlyniadau posibl a chamau eraill y gallwch eu hystyried os na fydd cyfryngu’n addas – a chadarnhau bod y ddau barti’n barod i gymryd rhan yn y broses
  • Byddwn yn gofyn beth hoffech ei gyflawni drwy’r broses ac yn egluro beth sy’n digwydd mewn cyfarfod cyfryngu
  • Byddwn yn gofyn i chi gytuno i ganiatáu i ni drefnu cyfarfod ar y cyd â’r rhai sy’n gysylltiedig â’r achos ac yn trafod â chi pwy ddylai fod yn bresennol yn y cyfarfod
  • Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi ynglŷn â chynnydd yr achos ac yn sicrhau bod dyddiad ac amser y cyfarfod yn gyfleus i chi. Byddwn yn trefnu lleoliad niwtral sydd mor gyfleus â phosibl i’r ddau barti.

Beth sy’n digwydd mewn cyfarfod datrys anghytundebau?

Mae datrys anghytundebau’n fwy na thrafodaeth anffurfiol. Mae’n defnyddio dull wedi’i strwythuro sy’n dechrau gyda gwaith cychwynnol. Bydd yr hwylusydd yn siarad â chi i drafod y broses cyn y cyfarfod a byddant yn siarad â’r parti arall hefyd.

Bydd sesiwn datrys anghytundebau’n cychwyn gyda’r cyfryngwr yn rhoi dehongliad pob parti o’r materion dan sylw i weld beth hoffent ei gyflawni drwy gyfryngu. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar bob mater ac ar ddatrysiadau posibl.

Fel arfer bydd y cyfarfod yn cymryd 2-4 awr a bydd hynny’n dibynnu pa mor gymhleth yw’r materion sy’n cael eu trafod.

Yn y cyfarfod, bydd y cyfryngwr yn helpu pawb i:

  • Egluro a deall y materion dan sylw
  • Canfod meysydd lle mae cytundeb ac anghytundeb
  • Gwrando ar bryderon y parti arall
  • Mynegi eu teimladau a’u pryderon am y sefyllfa ac awgrymu eu datrysiad delfrydol
  • Awgrymu datrysiadau ymarferol eraill ac edrych pa mor ymarferol yw’r rhain
  • Dod i gytundeb y gall pawb ei dderbyn
  • Llunio a llofnodi cytundeb cyfryngu

 “Dwi’n difaru na faswn i wedi dod yn gynt! Mi fuaswn wedi osgoi’r holl straen a byddai’r anghytundeb wedi’i ddatrys yn llawer cynharach. Roedd popeth wedi’i drefnu a’i hwyluso mor arbennig o dda” Rhiant

A oes gan wasanaeth datrys anghytundebau SNAP Cymru sicrwydd ansawdd?

Mae SNAP yn darparu gwasanaeth sydd â sicrwydd ansawdd ac sy’n seiliedig ar brofiad. Mae hyn yn golygu y gallwch fod yn siŵr bod ein gwasanaeth yn cyrraedd safonau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol a’i fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae gan SNAP Cymru Nod Ansawdd Arbenigol yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol ar gyfer Cyngor Addysg.

Mae SNAP Cymru wedi ymrwymo i hybu datrys anghytundebau a chyfryngu fel dewis ymarferol i osgoi cost bersonol ormodol o ran straen, amser ac arian drwy gymryd camau cyfreithiol diangen, diffyg cyfathrebu effeithiol a gwrthdaro heb ei ddatrys.

  • Wedi’i sefydlu yn 1986, mae ein cyfryngwyr arbenigol yn weithio o fewn fframwaith cyfreithiol AAA/ADY ac mae’n deall cymhlethdod y materion dan sylw o safbwynt rhieni, yr awdurdod lleol a’r ysgol
  • Meddu ar brofiad uniongyrchol o weithio â rhieni, ysgolion, a gweithwyr proffesiynol
  • Yn meddu ar brofiad uniongyrchol o ymddangos gerbron Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ac mae gennym felly’r wybodaeth a’r arbenigedd gofynnol i ddelio’n effeithiol â gwahanol faterion, anghenion a safbwyntiau
  • Wedi cwblhau Hyfforddiant mewn Cyfryngu, hyfforddiant mewn Cyfraith Addysg, Gweithio Allweddol a Chyfweliadau sy’n Canolbwyntio ar Ddatrysiadau
  • Mae ein cyfryngwyr wedi cael hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac yn cefnogi gwasanaeth Cynghori ar Wahaniaethu Rheng Flaen a ariennir gan Lywodraeth Cymru
  • Mae ein cyfryngwyr yn weithwyr proffesiynol annibynnol, medrus a phrofiadol gyda thoreth o wybodaeth ac arbenigedd mewn Anghenion Addysgol Arbennig
  • Rhaid i bawb sy’n dal swydd â ni gael Datgeliad Uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chael hyfforddiant rheolaidd mewn Diogelu ac Eiriolaeth

Mae dull SNAP Cymru o weithio’n cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad Ewropeaidd ar gyfer Cyfryngwyr. Rydym wedi ymrwymo i safonau mewnol uchel a datblygiad personol parhaus i’n cyfryngwyr.

Beth yw buddiannau defnyddio dull datrys anghytundebau?

Gall cyfryngu fod yn gyflymach, yn llai o straen ac yn rhatach na mynd i dribiwnlys, y llysoedd neu’r Ombwdsmon.

Gall apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru neu i lys fod yn broses gostus a maith, a gall niweidio’r berthynas rhwng y ddwy ochr ac nid yw bob amser er lles gorau’r plentyn.

Mae cyfryngu’n llai tebygol o fod yn niweidiol i’r berthynas dymor hir rhyngoch chi â’ch ysgol neu awdurdod lleol

Gellir rhoi cymorth priodol i’r plentyn ar waith yn gyflymach yn dilyn cyfryngu a gellir cytuno ar becynnau cymorth mwy creadigol neu hyblyg.

Gall canlyniad cyfryngu’n aml gynnwys ymddiheuriad, eglurhad neu rywbeth nad oes gan Dribiwnlys y pŵer i’w orchymyn. Ar ôl cytuno ar setliad, gellir llunio cytundeb cyfryngu.

A allaf i setlo fy anghydfod AAA/ADY heb apelio?

Gall y broses datrys anghytundebau helpu. Os ydych chi eisoes wedi dechrau apelio, neu’n ystyried gwneud hawliad, gall eich helpu i setlo eich anghydfod yn gynt.

Pa bryd fydd y cyfarfod datrys anghytundebau’n cael ei gynnal?

Os ydych chi wedi cytuno, gellir trefnu cyfarfod â’r holl bartïon cyn gynted â phosibl.

Beth yw rôl cyfryngwr?

Rôl y cyfryngwr yw helpu pob parti i ddatrys eu problem ac i gael canlyniad y bydd pob parti’n hapus i’w dderbyn.

Bydd y cyfryngwr yn niwtral ac yn gwbl ddiduedd drwy gydol y broses. Mae cyfryngu’n rhoi pwyslais ar gael setliad sy’n dderbyniol i bob parti mewn achos. Gall hyn olygu efallai y bydd yn rhaid cyfaddawdu.

Mae gan SNAP Cymru 30 mlynedd o brofiad o ddeall fframwaith cyfreithiol AAA a’r materion cymhleth sydd ynghlwm wrtho. Mae pob un o’n cyfryngwyr wedi eu hyfforddi ac mae ganddynt brofiad uniongyrchol o weithio mewn partneriaeth â rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol.

 

A yw cyfryngwyr SNAP Cymru wedi’u hyfforddi?

Mae cyfryngwyr SNAP Cymru wedi’u hyfforddi ac maent yn cael hyfforddiant lefel 4 mewn cyfryngu sydd wedi’i gydnabod a’i achredu’n genedlaethol.

 

Maent hefyd yn cael hyfforddiant mewn:

  • apeliadau a hawliadau
  • gwahaniaethu
  • cyfweld cymhellol
  • technegau sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau
  • eiriolaeth arbenigol
  • diogelu
  • cyfraith addysg

Mae SNAP Cymru yn ddeiliaid Nod Ansawdd Arbenigol yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol ar gyfer Cyngor Addysg sy’n golygu bod ein staff yn cael isafswm o 10 awr o hyfforddiant cyfreithiol bob blwyddyn.

Rydym yn credu’n gryf ei bod yn bwysig cael lefel uchel o arbenigedd a gwybodaeth arbenigol am Anghenion Addysgol Arbennig/Anghenion Dysgu Ychwanegol os am fod yn effeithiol fel cyfryngwr yn y maes hwn.

 

A fydd yn rhaid imi wneud rhywbeth nad wyf eisiau ei wneud?

Na fydd – mae’r broses yn gwbl wirfoddol. Nid oes yn rhaid i chi gytuno i gymryd rhan.

 

A yw sesiynau datrys anghytundeb yn costio?

Nac ydynt – nid oes cost i’r teulu na’r person ifanc.

 

Pwy sy’n penderfynu canlyniad proses datrys anghytundebau?

Byddwch chi a’r awdurdod lleol neu’r ysgol yn penderfynu beth yw canlyniad y sesiwn datrys anghytundeb. Rôl y cyfryngwr yw eich helpu i ddatrys eich problem ac i gyrraedd canlyniad y bydd y ddwy ochr yn hapus i’w dderbyn.

A allaf i orfodi’r parti arall i gymryd rhan?

Na fedrwch. Mae datrys anghytundebau yn broses wirfoddol ac felly ni ellir gorfodi parti i gymryd rhan.

Fodd bynnag, gall y Tribiwnlys cadw penderfyniad afresymol awdurdod lleol i wrthod cyfryngu mewn cof. Gallwch naill ai wneud cais am sesiwn datrys anghydfod gan yr awdurdod lleol neu gallwch gysylltu â ni i wneud cais a byddwn ni’n cysylltu â’r parti arall.

Pa mor llwyddiannus yw sesiynau datrys anghytundebau o ran sicrhau canlyniadau boddhaol?

Ni ellir gwarantu llwyddiant, ond mae canran llwyddiant y broses yn uchel.

Hyd yn oed os na cheir cytundeb, mae llawer yn teimlo ei bod yn broses fuddiol – maent yn dysgu mwy am y parti arall ac weithiau mi allant setlo’r anghydfod wedyn cyn mynd i dribiwnlys.

Gellir hefyd cael cytundebau rhannol.

 

A allaf i adael sesiwn datrys anghytundebau?

Gallwch, ar unrhyw adeg – er y bydd y rhan fwyaf o gyfryngwyr yn gofyn i chi aros am ychydig funudau cyn mynd.

Gallwch hefyd gymryd egwyl a chael sesiynau ar wahân â’r cyfryngwr cyn dod yn ôl i’r cyfarfod wyneb yn wyneb.

Beth fydd yn digwydd os na cheir cytundeb ar ddiwedd sesiwn?

Nid yw datrys anghytundebau yn ddull sy’n addas ar gyfer pob achos, ond gall helpu i setlo rhai o elfennau anghydfod. Byddwch o leiaf wedi lleihau nifer yr elfennau sy’n rhan o’r anghydfod. Gall cyfryngu roi eglurhad fel y bydd llai o amser yn cael ei wastraffu os bydd yn rhaid i chi fynd i dribiwnlys neu lys yn y diwedd. Gall sesiwn datrys anghytundebau hefyd arwain at gytundebau rhannol.

Mae’r holl drafodaethau a geir yn ystod y broses ‘heb ymrwymiad’ – mewn geiriau eraill, ni ellir defnyddio unrhyw beth a ddywedir mewn sesiwn datrys anghydfodau yn ddiweddarach mewn llys neu achos cyfreithiol arall.

Beth yw agwedd Tribiwnlysoedd tuag at ddatrys anghytundebau?

Mae’r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (SENTW) a Dribiwnlys Addysg Cymru yn annog defnyddio osgoi a datrys anghytundebau pan fydd hynny’n briodol.

Ni allaf fod yn yr un ystafell â’r parti arall, a fyddwn ni’n dal i allu cyfryngu

Byddwch, mae modd trefnu cyfarfod heb i’r partïon gwrdd â’i gilydd wyneb yn wyneb.

Dylech roi gwybod i’r cyfryngwr cyn y sesiwn datrys anghytundeb nad ydych chi’n dymuno bod yn yr un ystafell â’r parti arall. Weithiau, os mai dyna yw’r achos, gall cyfryngu dros y ffôn fod yn fwy priodol. Gallwch hefyd ddefnyddio math o gyfryngu gwennol, lle mae’r ddau barti yn yr un lleoliad ond yn defnyddio ystafelloedd gwahanol gyda’r cyfryngwr yn symud yn ôl a blaen rhwng y partïon.

Beth fydd yn digwydd os bydd un parti yn y broses datrys anghytundeb yn torri’n hyn y cytunwyd arno?

Os bydd y ddau barti’n dod i gytundeb yna bydd y cytundeb a lofnodwyd yn rhwym yn foesol.

Os na fydd un parti’n cadw at y cytundeb, bydd y cyfryngwr fel arfer yn ailgysylltu i geisio datrys unrhyw broblemau. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych achos i ddilyn y broses gwyno neu Dribiwnlys AAA/ADY Cymru, yr Ombwdsmon neu gymryd camau cyfreithiol.

Drwy gymryd rhan mewn sesiwn datrys anghytundebau a fyddaf yn ildio fy hawl i fanteisio ar gyfleoedd eraill i ddatrys fy anghydfod?

Mae gan rieni a phobl ifanc bod hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg  Cymru (os ydynt yn bodloni’r meini prawf) ar yr un pryd â cheisio datrys eu hanghydfod neu ar ôl rhoi cynnig ar gyfryngu.

Fodd bynnag, maent yn gyfrifol am bob gohebiaeth â’r Tribiwnlys ac am gydymffurfio ag unrhyw ddyddiadau cau a dylent fod yn ofalus nad ydynt yn methu unrhyw ddyddiad cau (gall y Tribiwnlys eich cynghori ynglŷn â’r terfynau amser). Pe bai’r anghydfod yn cael ei ddatrys drwy gyfryngu, bydd angen i’r partïon hysbysu’r Tribiwnlys ar unwaith er mwyn cau’r achos.

Bydd modd i chi ddilyn unrhyw brosesau cwyno sydd ar gael i chi fel proses gwyno’r Awdurdod Lleol, cwyno i’r Ombwdsmon neu Adolygiad Barnwrol, sydd i gyd â’u terfynau amser eu hunain).

Gwirfoddoli

Codi Arian