Mae gwasanaeth eiriolaeth annibynnol  SNAP Cymru yn cynnig: gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth, cynrychiolaeth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc ag ADY. Mae eiriolaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eu dymuniadau a’u safbwyntiau wastad yn cael eu clywed a’u grymuso i godi llais drostyn nhw eu hunain.   

Mae SNAP Cymru wedi mabwysiadu’r egwyddorion craidd canlynol – 

  • Mae ein heiriolwyr yn gwerthfawrogi ac yn parchu plant a phobl ifanc fel unigolion 
  • Mae ein heiriolwyr yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu deall yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw, yn gallu gwneud eu barn yn hysbys a, lle bo’n bosib, arfer dewis wrth wneud penderfyniadau amdanyn nhw a’u dyfodol 
  • Mae ein heiriolwyr yn helpu plant a phobl ifanc i godi materion a phryderon am bethau maen nhw’n anhapus yn eu cylch 
  • Credwn y gall cyfranogiad gweithredol plant a phobl ifanc yn y broses o gasglu gwybodaeth, cynllunio a gwneud penderfyniadau helpu i osgoi anghydfodau a gwrthdaro. 

Pryd all person ifanc gael eiriolwr? 

  • Os yw person ifanc yn teimlo nad oes rhywun yn gwrando ar eu barn ac eisiau rhywun ar eich ochr chi 
  • Os ydyn nhw’n anhapus â’r ffordd maen nhw’n cael eu cefnogi 
  • Os ydyn nhw’n teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu trin yn deg 
  • Os nad oes unrhyw un yn dweud wrthyn nhw beth sy’n digwydd am eu sefyllfa 
  • Eu helpu i gymryd rhan mewn cyfarfodydd ac adolygiadau 
  • I helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau ar adegau o drosglwyddo o’r ysgol i’r coleg 
  • Os ydyn nhw am wneud cwyn, gwneud honiad o wahaniaethu neu apelio i’r tribiwnlys 
  • Os nad oes ganddyn nhw alluedd ac angen ‘Cyfaill Achos’ i’w cefnogi gydag apêl neu honiad 

Gall rhieni sydd heb alluedd hefyd gael eiriolwr gan SNAP Cymru. 

Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli gyda SNAP Cymru fel Gwirfoddolwr Eirioli Plant a Phobl Ifanc, gallwch wneud cais drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein:

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch