Mae gan SNAP Cymru brofiad o hyrwyddo digwyddiadau ymgynghori gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol. Rydym wedi dod â phlant a phobl ifanc ynghyd ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Ymddygiad a Phresenoldeb, newidiadau Deddfwriaethol mewn Cludiant, datblygiadau Polisi Lleol a Chenedlaethol ac ymgynghoriadau penodol eraill. 

Gall SNAP Cymru ddarparu hwyluswr, helpu i lunio cwestiynau perthnasol ac agored, denu cyfranogwyr o blith ein rhwydwaith helaeth o gysylltiadau ar draws Cymru.  Gallwn gasglu a dosbarthu canlyniadau i roi’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen.  Mae’r rhan fwyaf o ymgynghoriadau’n cynnwys llunio adroddiad llawn a chrynodeb sy’n hawdd ei ddeall i bobl ifanc.

 

Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol 

Rydyn ni’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o bob math i wella gwasanaethau cenedlaethol a lleol i blant a phobl ifanc ag ADY. Bydd ein tîm yn ceisio ateb eich cwestiynau a’ch cyfeirio at wasanaethau, deunydd gwybodaeth, taflenni. Gallwn gynnig help i weithwyr proffesiynol sy’n chwilio am gyngor mwy cyffredinol i helpu i wella’r gefnogaeth a roddir i rieni a phobl ifanc. 

Rydyn ni hefyd yn darparu sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol. Darperir ein hyfforddiant a’n gwasanaethau ymgynghori gan aelodau o’r uwch dîm arwain a bydd y ffi am y gwasanaeth hwn yn cael ei chyfrifo yn ôl faint o amser sydd ei angen i gyflawni’r gwaith. Os hoffech wybod mwy, neu os hoffech neilltuo amser i ni ddod i gyflwyno sesiwn wybodaeth, cysylltwch ag ymholiadau@snapcymru.org  

 

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch