Mae’r System Anghenion Addysgol Arbennig yn Newid

Mi fydd sut yr ydym yn helpu plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu yn newid.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth a chanllawiau newydd o’r enw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru 2021, a fydd yn disodli’r ddeddfwriaeth a’r canllaw presennol sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig.  

Mae’r Ddeddf yn newid am sawl rheswm; y prif reswm yw er mwyn gwneud y broses yn symlach ac yn fwy cyfartal i bawb sy’n ymwneud â hi. 

Bydd y ddeddfwriaeth newydd ar gyfer ADY yn arwain at sawl newid gan gynnwys: 

  • dod â’r holl systemau presennol at ei gilydd mewn un system newydd ar gyfer ADY 
  • rhoi mwy o bwyslais ar y dysgwr 
  • rhoi’r un hawliau i bob dysgwr beth bynnag eu hoedran neu eu lleoliad addysgol 
  • gwella’r pontio rhwng lleoliadau 
  • cynnig darpariaeth yn y Gymraeg lle bydd angen 
  • bod yn system deg a thryloyw i bawb  

    Mae Llywodraeth Cymru’n credu y bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd plant, eu rhieni a phobl ifanc yn: 

    • cael yr help sydd ei angen arnynt yn gynharach 
    • cael eu cynnwys fwy mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’r cymorth sydd ei angen arnynt 
    • gallu dod o hyd i wybodaeth yn haws nag o’r blaen 
    • cael pob cefnogaeth os ydynt yn anghytuno â phenderfyniadau  
    • gallu apelio yn erbyn penderfyniadau i’r tribiwnlys addysg  

      Yn ôl y gyfraith newydd mae ‘plentyn’ yn golygu unigolyn o dan 16 oed (oedran ysgol gorfodol) ac mae ‘person ifanc’ yn rhywun rhwng 16 a 25 oed (dros oedran ysgol gorfodol).

      Gall plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau’n awr gael cymorth yn hwy drwy ddefnyddio un system. Bydd rhai pobl ifanc yn gallu cael help nes byddant yn 25 oed.  

      Mae’r llywodraeth am i blant, rhieni a phobl ifanc gael mwy o lais o ran cael yr help sydd ei angen arnynt.  

      Yn achos pobl ifanc 16 oed neu hŷn, hwy fydd y prif berson a fydd yn gwneud penderfyniadau. Efallai y byddant yn dal eisiau gofyn i’w rhieni i’w helpu i wneud penderfyniadau. Gallant hefyd ofyn am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gan rywun amhleidiol.  

      Bydd y system newydd hon yn gwarchod hawliau pob plentyn, beth bynnag yw graddfa eu hanghenion dysgu ychwanegol.   

      Beth fydd yn digwydd yn awr? 

      Bydd anghenion dysgu’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael eu diwallu drwy ‘gymorth cyffredinol’ yn yr ystafell ddosbarth ac sy’n gallu cynnwys, ‘dal i fyny’, ‘gwaith grŵp bychan’ a mynediad at gynorthwyydd addysgu. Fodd bynnag, mae gan blant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig gymorth ‘ychwanegol neu wahanol’ at yr hyn a ddarperir fel arfer, ac sy’n cael ei nodi yn un o’r canlynol: 

      • Datganiad AAA  
      • Cynllun Addysg Unigol 
      • Cynllun Dysgu a Sgiliau   

        Beth sy’n newid? 

        O fis Medi 2021 ymlaen, bydd system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn dechrau cymryd lle’r hen system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). 

        Yn ogystal â newid yr enw, bydd cyfrifoldebau tuag at blant a phobl ifanc ag ADY hefyd yn newid. Bydd pob plentyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael Cynllun Datblygu Unigol a fydd yn cymryd lle’r Datganiad AAA, y Cynllun Addysg Unigol neu’r Cynllun Dysgu a Sgiliau presennol.   

        Bydd gan ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) hawl i CDU yn amlinellu’r gefnogaeth y mae arnynt ei hangen. 

        Bydd y system newydd hon yn gwarchod hawliau pob plentyn, faint bynnag o anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddynt.  

         

        Pan wneir y newidiadau, beth fydd yn digwydd i’r datganiadau AAA presennol

        Bydd unrhyw ddatganiadau sydd wedi’u gwneud yn barod yn parhau i fod yn ddogfennau cyfreithiol nes cânt eu disodli gan CDU neu nes bydd yr awdurdod lleol yn dweud wrthych ei fod yn bwriadu dod â datganiad i ben. 

         

        Dyletswydd newydd Ysgolion, Colegau ac Awdurdodau Lleol i Benderfynu 

        Pan fydd ysgol neu goleg neu ALl yn ‘dod i wybod’ y gallai plentyn neu berson ifanc fod ag anghenion dysgu ychwanegol [ADY] RHAID iddo benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc hwnnw anghenion dysgu ychwanegol oni bai:  

        • fod cynllun datblygu unigol (CDU) wedi’i wneud yn barod ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc 
        • fod penderfyniad eisoes wedi’i wneud ar y mater ac mae’r ysgol neu ALl yn fodlon nad yw anghenion y plentyn wedi newid yn sylweddol ers y penderfyniad hwnnw, ac nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n cael effaith sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;
        • nad yw’r person ifanc (16+) yn cydsynio (cytuno) i’r penderfyniad gael ei wneud  

          Pa rôl sydd gan blant, eu rhieni, a phobl ifanc yn y broses?

          Dylai ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc i baratoi CDU ar gyfer disgyblion ADY. 

          Mae’r system newydd yn rhoi’r dysgwr yn ganolog i bopeth sy’n digwydd ac mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc a’u cefnogi. 

          Yn ôl Deddf ADY 2018 rhaid ystyried barn, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni a phobl ifanc ym mhob cam o broses y CDU.  

          Gall rhieni wneud cais am ystyriaeth o anghenion eu plentyn gan ysgol a gwneud cais am benderfyniad am ADU a CDUau.  Gweler ein llythyr templed neu cysylltwch â ni am gyngor ar 0808 801 0608  

          Bydd y templed CDU gorfodol arfaethedig yn cynnwys proffil un dudalen er mwyn sicrhau bod CDUau yn adlewyrchu anghenion a phersonoliaeth y plentyn neu’r person ifanc, gan gynnwys beth sy’n bwysig iddo. 

          Dylech hefyd dderbyn drafft o’r CDU i’w adolygu a rhoi adborth am unrhyw bryderon sydd gennych.  Gallwch ofyn i’r ysgol wneud newidiadau i’r CDU a gobeithio y bydd modd datrys pryderon cyn iddynt fynd yn waeth.  Fodd bynnag, yr unig ffordd ffurfiol o herio CDU ysgol yw drwy wneud cais am ‘ailystyriaeth gan yr Awdurdod Lleol’.  

          Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

          Cwestiynau Cyffredin:

          A oes trothwyon yn seiliedig ar lefel yr angen am gymhwysedd CDU?

          Mae CDUau ar gyfer dysgwyr sydd â phob lefel o ADY – o anghenion ysgafnach i anghenion cymhleth.

          Mae cymhwysedd am CDU bob amser yn dibynnu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc unigol anhawster dysgu neu anabledd sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY).

          Os yw’n ymddangos bod angen cymorth ychwanegol ar blentyn oherwydd anhawster dysgu neu anabledd, rhaid i’r ysgol a gynhelir neu’r awdurdod lleol fel arfer benderfynu a oes gan y plentyn ADY.

          Os penderfynir bod ganddynt ADY, bydd ganddynt hawl i CDU sy’n cofnodi’r DDdY i’w wneud iddynt ddiwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol. Mae’r sefyllfa’n debyg iawn i bobl ifanc, er mai sefydliad addysg bellach fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad o bosibl.

          Beth yw'r gwahaniaeth rhwng CDU a gynhelir gan awdurdod lleol a CDU a gynhelir gan ysgol/uned cyfeirio disgyblion/sefydliad addysg bellach?

          Mae gan CDU a gynhelir gan ysgol, uned cyfeirio disgyblion neu sefydliad addysg bellach a CDU a gynhelir gan awdurdod lleol yr un statws gyfreithiol yn union. Bydd yn rhaid i ba gorff bynnag sy’n llunio a chynnal y CDU sicrhau bod y CDU yn disgrifio ADY y plentyn neu’r person ifanc, a’r DDdY y mae ei ADY yn galw amdani, a RHAID iddo wedyn fynd ati i sicrhau’r DDdY honno.

          Awdurdodau lleol, yn hytrach nag ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion neu sefydliadau addysg uwch, sy’n gyfrifol am gynnal CDUau i blant a phobl ifanc ag ADY:

          • nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir, uned cyfeirio disgyblion neu sefydliad addysg bellach
          • wedi cofrestru mewn mwy nag un lleoliad ac un o’r rheini’n ysgol a gynhelir neu’n uned cyfeirio disgyblion
          • ag ADY sy’n galw am CDU na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau

          Nid yw awdurdodau lleol yn gyfrifol os na fydd y person ifanc wedi rhoi ei gydsyniad.

          Mae Pennod 12 o’r Cod ADY yn rhoi eglurder ynglŷn â phryd y dylai ysgol neu uned cyfeirio disgyblion gyfeirio disgybl i awdurdod lleol er mwyn iddo benderfynu a oes gan ddisgybl ADY a phenderfynu ai’r awdurdod lleol, yr ysgol neu’r uned cyfeirio disgyblion ddylai fod yn gyfrifol am gynnal CDU. Mae’n darparu arweiniad i awdurdodau lleol ynglŷn â sut dylent benderfynu a yw’n rhesymol i ysgol, uned cyfeirio disgyblion neu’r awdurdod lleol sicrhau’r CDU sydd ei angen ar blentyn neu berson ifanc.

          Pa gymorth gan wasanaethau arbenigol yw DDdY?

          Mae’r prawf ar gyfer cael ADY wedi’i nodi yn y Ddeddf (a.2) ac mae i’w gymhwyso i bob plentyn neu berson ifanc yn unigol – rhaid cymhwyso’r prawf bob amser yng ngoleuni’r amgylchiadau dan sylw.

          Mae ADY yn dibynnu ar y person sydd ag anhawster dysgu neu anabledd sy’n galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY), sef darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy’n wahanol i’r hyn a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir, sefydliadau addysg bellach prif ffrwd a mannau lle darperir addysg feithrin.

          Y DDdY y mae anhawster dysgu neu anabledd plentyn neu berson ifanc yn galw amdani y mae’n rhaid ei nodi yn y CDU (gweler adran 10(b) o’r Ddeddf). Mae’r DDdY y mae plentyn neu berson ifanc ag ADY ei hangen yn benodol iddynt hwy ac yn dibynnu ar eu hanghenion a’u hamgylchiadau unigol.

           Bydd pa un a yw’n DDdY mewn unrhyw achos penodol yn dibynnu a elwir amdano yn sgil anhawster neu anabledd dysgu’r plentyn neu’r person ifanc ac a yw’n ddarpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy’n ychwanegol at neu’n wahanol i’r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer pob dysgwr o oedran y plentyn neu’r person ifanc (gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt yr anabledd neu’r cyflwr dan sylw).

           Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen mathau anuniongyrchol o gymorth, megis hyfforddi’r person sydd i ddarparu’r DDdY, er mwyn i unrhyw DDdY a nodwyd gael ei ddarparu. Mae’r Cod yn rhagweld y gellir nodi’r manylion hyn yn adran DDdY y CDU (paragraff 23.37):

           Bydd yr wybodaeth a gofnodir am y DDdY yn fwy defnyddiol os yw’n cael ei chyflwyno mewn ffordd glir. Dylai’r wybodaeth fod yn fanwl, yn benodol ac yn fesuradwy. Gallai’r eglurder hwn ddeillio o ddisgrifio’r tasgau neu’r camau penodol a fydd yn cael eu cyflawni; gallai hefyd fanylu ar yr hyfforddiant neu’r cymwysterau y bydd eu hangen ar unrhyw aelodau staff. Ni fydd datgan yn unig y bydd cymorth yn cael ei ddarparu yn bodloni’r angen i fod yn eglur; mae’n bwysig disgrifio’r tasgau y bydd unrhyw staff yn eu gwneud neu’n eu hwyluso, yr hyn y byddant yn gyfrifol amdano, ac, os oes angen, y cymwysterau neu’r hyfforddiant y bydd eu hangen arnynt.

           Felly, gallai hyfforddiant arbenigol ar gyfer staff addysgu, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, fod yn rhan o’r disgrifiad o DDdY mewn CDU plentyn neu berson ifanc unigol. Fodd bynnag, nid yw pob mewnbwn gan wasanaethau arbenigol o reidrwydd yn DDdY. Gellir darparu rhywfaint o gymorth gan wasanaethau arbenigol, gan gynnwys rhai mathau o hyfforddiant staff, at ddibenion eraill, megis helpu staff i nodi anghenion neu i godi ymwybyddiaeth am amodau penodol yn gyffredinol.

          Mae gan fy mhlentyn AAA ac mae'n cael cymorth drwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy. A fydd gan fy mhlentyn ADY ac a fydd yn cael CDU?

          Mae ystyr AAA ac ADY yr un fath.

          Mae’n debygol y bydd gan blant ag AAA ADY. Bydd gan bob plentyn sydd ag ADY CDU.

          Ar adegau, ni fydd gan blentyn ag AAA ADY gan fod ei anghenion wedi newid ac nad oes angen cymorth ychwanegol arno mwyach i’w helpu i ddysgu.

          Bydd y plentyn yn cael hysbysiad dim CDU. Os nad yw’r plentyn neu ei riant yn cytuno â’r hysbysiad dim CDU, gall siarad â’r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol, yr uned cyfeirio disgyblion neu’r awdurdod lleol am y mater.

          Gall plant, neu eu rhieni, ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu UCD. Os ydynt yn anhapus gyda penerfyniad yr awdurdod lleol, gallant apelio i’r Tribiwnlys i wneud penderfyniad.

          Gwirfoddoli

          Codi Arian

          Cyfrannwch