Pwy ydym ni
Mae SNAP Cymru yn Elusen Genedlaethol, sy’n unigryw i Gymru, a sefydlwyd ym 1986. Ei phrif nod yw datblygu addysg pobl yng Nghymru a chefnogi’r broses o sicrhau cynhwysiant. Mae staff a gwirfoddolwyr profiadol sydd wedi derbyn hyfforddiant yn cydweithio â theuluoedd, plant a phobl ifanc, eu rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Maent yn gweithio â’r sawl a chanddynt neu a allai fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, sy’n cynnwys AAA, anabledd a rhwystrau eraill, e.e. neilltuaeth, anfodlonrwydd, tlodi, amddifadedd, a Saesneg neu’r Gymraeg fel ail iaith.
Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth gywir, cyngor a chefnogaeth wrthrychol ynghylch ystod o achosion gan gynnwys asesiadau, datganiadau anghenion addysgol arbennig, bwlio, presenoldeb yn yr ysgol, gwaharddiadau, darpariaeth gofal iechyd a chymdeithasol, a neilltuaeth. Mae’r gwasanaethau eraill a gynigir gennym yn cynnwys eiriolaeth, datrys anghydfodau a hyfforddiant i bobl ifanc, rhieni a phobl broffesiynol.
Mae SNAP Cymru wedi gweithio ers 30 mlynedd tuag at hwyluso partneriaethau, ac mae gennym gyfoeth o ymwybyddiaeth a phrofiad. Mae gan SNAP Cymru Farc Ansawdd Arbenigwyr mewn Gwasanaethau Cyfreithiol , Marc Ansawdd Buddsoddwyr mewn Pobl, a Marc Ansawdd Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr.
Ni yw prif ddarparwyr Gwasanaethau Partneriaethau â Rhieni a Datrys Anghydfodau yng Nghymru, ac rydym wedi datblygu gwasanaethau cynrychioli ac eirioli i blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr. Mae SNAP Cymru yn cydweithio â’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Rydym yn cydweithio’n agos â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, Awdurdodau Addysg Lleol, Ysgolion, darparwyr Gofal Cymdeithasol, Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a phartneriaid o’r Trydydd Sector.
Pwy allwn ni eu helpu?
Yr holl Deuluoedd, Plant a Phobl ifanc a chanddynt neu a allai fod ganddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan gynnwys Anghenion Addysgol Arbennig neu Anableddau, a rhwystrau eraill, e.e. plant mewn angen, anfodlonrwydd, tlodi, amddifadedd, a phlant sy’n byw yng Nghymru sydd â’r Saesneg neu’r Gymraeg fel ail iaith. Gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ac eraill sy’n cefnogi Plant a Phobl ifanc, gan gynnwys Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Addysg Gymunedol eraill.
Rydym hefyd yn cydnabod y bydd yna adegau pan fydd gwneud cais yn y Llys Sirol y dewisiad gorau. Os yw hyn yn wir i chi, dylech geisio cael cymorth cyfreithiwr cymwysedig a gweld os gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol – drwy glicio ar y ddolen ganlynol https://www.gov.uk/check-legal-aid.
Mae SNAP Cymru yn gallu darparu cyngor a gwybodaeth am ddim ar y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r Ddeddf Addysg 1996. Gallwn eich cynghori ar nodi’r nodweddion gwarchodedig cywir, y sector a’r ymddygiad gwaharddedig sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau.
Mae SNAP Cymru yn gallu cynnig cynllun gweithredu gyda’r bwriad o ddatrys eich problem yn anffurfiol heb y straen o fynd i’r llys neu dribiwnlys neu gymorth i baratoi a cynrychioli chi os bydd angen. Os ydych yn teimlo’n hyderus, yna byddwn yn eich gadael iddo a gallwch weithio drwy hyn eich hun; mae croeso i chi gysylltu â ni os oes angen cymorth pellach.
Os ydych yn teimlo eich bod angen ein cefnogaeth i ddatrys mater, yna rhowch wybod i ni ac efallai byddwn yn cysylltu y sefydliad sydd wedi eich trin yn annheg ar eich rhan. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi fel eich bod yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen.
Rydym yn rhoi cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol a’u teuluoedd a hefyd yn gweithio’r tu ôl i’r llenni ar faterion polisi, ymateb i ymgynghoriadau’r llywodraeth, gweithio gydag ysgolion, colegau, awdurdod lleol a sefydliadau arweiniol i ddatblygu a hyrwyddo arfer effeithiol wrth groesi’r bont. darganfod mwy
Nodau ac amcanion
Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol SNAP Cymru sy’n gosod ac yn cynnal ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd; ac mae’n credu bod dull o ddarparu gwasanaethau wedi’i seilio ar wirfoddoli’n sicrhau gwerth ychwanegol a pharhad gwasanaethau ar ben gwaith ein gweithwyr proffesiynol cyflogedig.
Mae datganiad cenhadaeth SNAP Cymru a’i amcanion elusennol yn allweddol ar gyfer penderfynu gweithgareddau’r mudiad. Yr amcanion elusennol yw:
Darparu neu helpu i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i alluogi plant a phobl ifanc a’u rhieni neu warcheidwaid i gymryd rhan yn llawn a chyfartal mewn cymdeithas.
Helpu rhieni a gwarcheidwaid i ddeall deddfwriaeth berthnasol a thrwy hynny hwyluso cyfraniad a chyfranogiad eu plant mewn dewisiadau bywyd.
Hwyluso partneriaeth rhwng pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag addysg a chynhwysiant.
Datganiad Cenhadaeth
“Bydd SNAP Cymru yn grymuso teuluoedd (plant a phobl ifanc, eu rhieni a’u gwarcheidwaid) fel y clywir eu lleisiau ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anabledd ac yn eu helpu i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer wrth gynllunio a darparu gwasanaethau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol”
Llywodraethu SNAP Cymru
Mae SNAP Cymru yn cael ei lywodraethu gan fwrdd o Ymddiriedolwyr (Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol) y mae ei aelodau wedi codi o blith buddiolwyr, fforymau, cynghorau, rhwydweithiau a phartneriaid SNAP. Mae ein hymddiriedolwyr yn goruchwylio’r mudiad ac yn arfer cyfrifoldeb cyffredinol dros weledigaeth SNAP Cymru, ac atebolrwydd drosto, a thros ddiogelu enw da SNAP Cymru.
Mae aelodau ein bwrdd yn wirfoddolwyr sydd â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad rhagorol o wahanol fathau sy’n cael eu defnyddio gyda’i gilydd i lywio’r mudiad yn effeithiol.
Mae’r bwrdd yn atebol i’r Comisiwn Elusennau ac yn atebol ar lefel foesol i’r bobl a wasanaethwn, y bobl sy’n ariannu ein gwaith ac i staff a gwirfoddolwyr SNAP Cymru.
Mae’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn gyfrifol hefyd am sefydlu a monitro polisïau, gweithdrefnau cyflogaeth, am sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddogfen lywodraethu, am sicrhau atebolrwydd a chydymffurfiaeth â’r gyfraith, gan arfer goruchwyliaeth ariannol briodol a dewis a chynorthwyo’r Prif Gyfarwyddwr Gweithredol Denise Inger.
Ariannu SNAP Cymru
Fel elusen gofrestredig, rydym yn dibynnu ar roddion hael o wahanol ffynonellau i barhau â’n gwaith. Ymhlith y rhoddion hyn y mae cyfraniadau gan ymddiriedolaethau sy’n rhoi grantiau, cyrff cyhoeddus, mudiadau cymunedol ac unigolion, gan gynnwys cymynroddion.
Mae ein Gwasanaethau Partneriaeth Rhieni yn cael eu hariannu drwy Gytundebau Lefel Gwasanaeth ym mhob Awdurdod Lleol. Mae rhwymedigaeth statudol ar Awdurdodau Lleol i sicrhau bod Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni ar gael. Fodd bynnag, mae’r ariannu hwn yn amrywio rhwng y naill ALl a’r llall, felly gall pob tîm SNAP Cymru weithio o dan gontract gwahanol.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n ein hariannu, nid yn unig am eu haelioni, ond hefyd am eu brwdfrydedd a’u ffydd yn ein gwaith. Heb eu cefnogaeth, mae’n sicr na fyddem wedi cyflawni cymaint.
Gallwch ddarllen ein hadroddiad blynyddol a’n datganiadau ariannol diweddaraf yma ac mae mwy o wybodaeth ariannol amdanom yn y cofnod ar gofrestr y Comisiwn Elusennau (dolen i wefan allanol).
Adroddiad blynyddol 2018/2019 > cliciwch yma
Adroddiad Blynyddol 2019 – 2020 > cliciwch yma
Mwy o wybodaeth am ariannu > cliciwch yma
























Recriwtio
SNAP Cymru yw’r prif wasanaeth partneriaeth rhieni yng Nghymru. Mae ein staff wedi’u hyfforddi ac mae ganddynt brofiad helaeth mewn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol a chywir i deuluoedd plant sydd ag, neu a all fod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi staff mewn swyddi llawn amser a rhan amser megis Swyddogion Teuluoedd a Phobl Ifanc, sy’n gweithio yn ein swyddfeydd sirol, Cynorthwywyd Prosiect, sy’n cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Teulu a Phobl Ifanc ac i weinyddu ein Gwasanaeth.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn swydd â SNAP Cymru a hyd yn oes os nad oes swydd wag ar hyn o bryd, daliwch ati i ymweld â’n gwefan gan y bydd swyddi’n cael eu cyhoeddi arni cyn gynted ag y byddant yn wag.
Pam na ymunwch chi â’n tîm fel gwirfoddolwr. Gallwn ddarparu hyfforddiant achrededig ac mae gennym dîm cyfeillgar a fydd yn gweithio â chi.
Lleoliadau i Fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol
Mae SNAP Cymru hefyd yn cynnig profiad gwaith i hyfforddeion a myfyrwyr mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys: Rheoli busnes, cyllid, adnoddau dynol, marchnata, TG, codi arian, gofal cymdeithasol, addysg, gwaith ieuenctid a chymunedol. Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth.
Mae SNAP Cymru wedi cynnig lleoliadau blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn i fyfyrwyr sy’n astudio am radd mewn Gwaith Cymdeithasol o Brifysgolion Bangor, Abertawe, Caerdydd a Phrifysgol Cymru. Mae’r myfyrwyr wedi ennill profiad gwerthfawr yn y meysydd Anghenion Dysgu Ychwanegol / Anabledd a Gweithio mewn Partneriaeth.
Cynllun Interniaeth Gwirfoddol
Rydym yn chwilio am unigolion deallus a brwdfrydig i ymuno â thîm ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd.
Mae pob diwrnod yn wahanol yng nghanol bwrlwm ein Prif Swyddfa. Byddwch yn cael cyfrifoldeb gwirionedd o’r cychwyn cyntaf, gan arwain a datblygu prosiectau hen a newydd. Byddwch yn cydweithio’n agos â’n Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol yn ddyddiol i sicrhau bod amcanion masnachol yr elusen yn cael eu cyflawni. Mae hwn yn gyfle gwych a byddai’n ddelfrydol ar gyfer graddedigion neu israddedigion sy’n chwilio am brofiad mewn marchnata, cyllid, adnoddau dynol, cysylltiadau cyhoeddus neu’r Trydydd Sector.
Mae interniaeth yn para 3 – 12 mis, am 3 neu 4 diwrnod yr wythnos, sy’n golygu y bydd modd i chi ddal swydd rhan amser gydol yr amser y byddwch gyda ni.