Ailystyried penderfyniadau ADY

Mae’r gyfraith Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd yn darparu sawl hawl ar gyfer plant, eu rhieni a phobl ifanc i gael ailystyried rhai penderfyniadau.

Yn yr amgylchiadau canlynol, gall plant, eu rhieni a phobl ifanc ofyn i’r awdurdod lleol lle maen nhw’n byw i ailystyried y penderfyniadau a’r cynlluniau canlynol:

  • penderfyniad ysgol a oes gan blentyn ADY ai peidio
  • ailystyried Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ysgol, gyda golwg ar ei ddiwygio
  • ailystyried penderfyniad ysgol i beidio â chynnal (diweddu) CDU

Gall rhiant hefyd ofyn i’r awdurdod lleol:

  • ‘gymryd’ y cyfrifoldeb am gynnal CDU

Mae’r cyfreithiau hyn yn rhoi ffordd effeithiol i blant a’u rhieni, a phobl ifanc i herio penderfyniad corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Mae hyn yn arbed ysgolion rhag ymdrin â thrafodion Tribiwnlys eu hunain ac mae’n caniatáu i anghydfodau gael eu datrys ar lefel fwy priodol.

Os yw anghytundeb yn parhau, mae’r gyfraith hefyd yn rhoi ‘hawliau apêl’ i blant, eu rhieni a phobl ifanc mewn perthynas â materion ADY penodol. (gweler A. 70 a 72).

Gellir gwneud apeliadau i’r tribiwnlys yn unig yn erbyn awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu Sefydliadau Addysg Bellach (SABau), ond nid yn erbyn cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir.

Gofyn am ailystyried penderfyniad ysgol ynghylch a oes gan blentyn ADY ai peidio.

Os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu nad oes gan blentyn neu unigolyn ifanc ‘ADY’, mae’n RHAID iddo amlinellu ei benderfyniad a’r rhesymau drosto, mewn hysbysiad i’r plentyn a rhiant y plentyn neu’r unigolyn ifanc.

Mae’n RHAID i’r hysbysiad gynnwys y canlynol:

  • manylion cyswllt yr ysgol neu’r sefydliad addysg bellach;
  • gwybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad at wybodaeth a chyngor amhleidiol ynglŷn ag ADY a’r system ADY
  • manylion ar gyfer y gwasanaeth datrys anghytundebau
  • manylion y gwasanaethau eirioli annibynnol
  • gwybodaeth ynglŷn â’r hawl i ofyn bod yr awdurdod lleol yn ailystyried y mater
  • manylion cyswllt ynglŷn â’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol amdano (A.13(3) y Ddeddf)

Os ydych chi’n anhapus neu’n anghytuno â’r penderfyniad, y peth gorau i’w wneud yw trafod hyn gyda’r ysgol cyn gynted ag yr ydych chi’n derbyn yr hysbysiad.

  • gofyn am gynnal cyfarfod i drafod eich pryderon.
  • bydd yr ysgol yn egluro beth yw ei phenderfyniad a rhoi gwybod i chi sut mae’n bwriadu cwrdd ag anghenion eich plentyn drwy ‘ddarpariaeth gyffredinol’ a thrwy addysg wahaniaethol yr ysgol
  • gallwch chi gysylltu â SNAP Cymru i gael cefnogaeth a chyngor.

Gellir datrys y rhan fwyaf o anghytundebau yn ystod y cyfnod cynnar hwn a gellir eu hatal rhag dwysáu.

Fodd bynnag, mae Adran 26 o’r Ddeddf yn rhoi hawl i blentyn neu’i riant, neu unigolyn ifanc i:

  • ofyn bod yr awdurdod lleol yn ailystyried penderfyniad yr ysgol a gynhelir a oes gan blentyn neu unigolyn ifanc ADY, neu nad oes ganddo ADY.

Mae’r adran hon yn darparu ffordd effeithiol i blant a’u rhieni, a phobl ifanc, o herio penderfyniad corff llywodraethu’r ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Os gofynnir iddo, mae’n RHAID i awdurdod lleol wneud ei benderfyniad ei hun ynglŷn â’r mater; bydd y penderfyniad hwnnw wedyn yn disodli penderfyniad yr ysgol.

Cyn gwneud penderfyniad, mae’n RHAID i’r awdurdod lleol hysbysu’r corff llywodraethu o’r cais a’i wahodd i gyflwyno sylwadau.

Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r unigolyn ifanc ADY, mae’n RHAID iddo

  • Hysbysu’r plentyn, y rhiant a’r unigolyn ifanc
  • darparu’r penderfyniad, a’r rhesymau dros y penderfyniad
  • manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod lleol
  • gwybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad at drefniadau ar gyfer gwybodaeth a chyngor ynglŷn ag ADY a’r system ADY
  • manylion y trefniadau ar gyfer datrys yr anghytundeb a’r gwasanaethau eirioli
  • gwybodaeth ynglŷn â’r hawl i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

Mae gan yr ALl saith wythnos i ailystyried y penderfyniad.

Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y plentyn neu’r unigolyn ifanc ADY a’u bod yn gwyrdroi penderfyniad yr ysgol, mae’n RHAID iddo un ai:

  • baratoi a chynnal CDU ar gyfer y plentyn neu’r unigolyn ifanc hwnnw, neu
  • baratoi CDU a chyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun, neu
  • gyfarwyddo’r ysgol i baratoi a chynnal CDU.

Os yw ysgol yn gwrthod gwneud penderfyniad a oes gan blentyn neu unigolyn ifanc ADY, gellir ailystyried y penderfyniad hwn hefyd gan yr ALl

Awdurdod Lleol yn ailystyried CDU ysgol

Os ydych chi’n anhapus â CDU ysgol, gallwch chi ofyn i’ch awdurdod lleol ailystyried y CDU, gyda golwg ar ei ddiwygio (Adran 27 o’r DDEDDF).

Cyn penderfynu diwygio’r cynllun ai peidio, mae’n RHAID i’r awdurdod lleol hysbysu’r corff llywodraethu o’r cais a’i wahodd i gyflwyno ei safbwyntiau a’i sylwadau.

Pan mae’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes angen diwygio’r CDU, mae’n RHAID iddo:

  • hysbysu’r plentyn a’i riant, neu’r unigolyn ifanc ynglŷn â’r penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw
  • rhoi copi o’r hysbysiad hwnnw i’r corff llywodraethu

Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu diwygio’r CDU, mae’n RHAID iddo:

  • rhoi copi o’r cynllun diwygiedig i’r corff llywodraethu
  • rhoi copi i’r plentyn, ei riant, neu’r unigolyn ifanc.

Mae’r adran hon yn darparu plant, eu rhieni, a phobl ifanc gyda ffordd effeithiol o herio cynnwys y CDU sydd wedi cael ei lunio ar eu cyfer gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, yn abensoldeb hawl i apelio yn erbyn y cyrff hyn (gweler adran 70 sy’n rhoi hawliau apêl yn gysylltiedig â chamau gweithredu awdurdodau lleol).

Gofyn i ALl ailystyried penderfyniad i ‘roi terfyn ar CDU’

Os yw ysgol yn penderfynu peidio â chynnal CDU (diweddu CDU) oherwydd ei bod yn credu nad oes gan y plentyn neu’r unigolyn ifanc ADY, mae’n RHAID i’r ysgol:

  • hysbysu’r plentyn, ei riant neu’r unigolyn ifanc o’r penderfyniad arfaethedig ac ynglŷn ag unrhyw benderfyniad a wnaed
  • Mae’n rhaid i’r ysgol hefyd eu hysbysu o’u hawl i ofyn i awdurdod lleol ailystyried y penderfyniad.

Os yw plentyn, rhiant neu unigolyn ifanc yn anhapus â’r penderfyniad hwn gan yr ysgol, mae’r gyfraith yn caniatáu iddyn nhw ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad yr ysgol i beidio â chynnal (diweddu) CDU.

Mae’n RHAID i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai’r CDU ddod i ben (diweddu).

Mae’n RHAID i’r awdurdod lleol ddweud wrthych chi a’r corff llywodraethu beth yw ei benderfyniad.

Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai’r CDU gael ei gynnal, mae’n RHAID i’r corff llywodraethu barhau i’w gynnal.

Pan mae’r awdurdod lleol yn cytuno y dylai’r CDU ‘beidio â chael ei gynnal’, gellir apelio ei benderfyniad drwy’r tribiwnlys.  Mae’n RHAID i’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn, ei riant a’r unigolyn ifanc o’r penderfyniad, a’r rhesymau drosto.  Mae’n rhaid i’r hysbysiad gynnwys

  • manylion cyswllt yr awdurdod lleol;
  • gwybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad at wybodaeth a chyngor ynglŷn ag ADY a’r system ADY
  • manylion y trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau ynghyd ag eirioli annibynnol
  • gwybodaeth ynglŷn â’r hawl i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

Mae’n rhaid i’r amser i gyflwyno apêl ddod i ben cyn y gall ysgol beidio â chynnal y CDU.  Ni all ysgol atal cefnogaeth i’r plentyn neu’r unigolyn ifanc cyn y dyddiad hwn.

Gofyn i awdurdod lleol ‘gymryd cyfrifoldeb am gynnal’ CDU ysgol

Gellir gwneud cais o dan adran 28 Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ADYTA) drwy:

  • gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach – er enghraifft, pan nad yw’r corff llywodraethu yn credu mwyach bod cynnal y cynllun a chyflwyno’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) o fewn ei allu
  • Gall plentyn, rhiant y plentyn neu’r unigolyn ifanc hefyd ofyn i awdurdod lleol – er enghraifft, pan nad ydyn nhw’n credu bod y corff llywodraethu yn gallu cyflwyno’r DDdY y mae’r plentyn neu’r unigolyn ifanc ei angen.

Pan mae’r awdurdod lleol yn penderfynu cymryd cyfrifoldeb am y CDU, mae’r CDU yn cael ei drin fel un sy’n cael ei gynnal gan yr awdurdod.

  • Pan ddaw’r cais gan gorff llywodraethu, mae’n RHAID i’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn, ei riant, neu’r unigolyn ifanc, a gwahodd sylwadau.
  • Pan ddaw’r cais gan blentyn, ei riant neu unigolyn ifanc, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r corff llywodraethu a gwahodd sylwadau.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r corff llywodraethu, a’r plentyn, ei riant, neu’r unigolyn ifanc, ynglŷn â’r penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chymryd cyfrifoldeb am CDU, gellir herio’r penderfyniad hwn drwy apelio i’r Tribiwnlys (adran 70).

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch