Cael cymorth yn y Blynyddoedd Cynnar

Mae darparwyr y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru yn cynnig cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar o ansawdd yn y gymuned leol.  Dylent i gyd fod wedi ymrwymo i’r egwyddor o gynhwysiant ac i roi’r gefnogaeth gywir yn gynnar i bob plentyn.

Mae cael cymorth i’ch plentyn gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu Anableddau mor gynnar â phosibl yn bwysig er mwyn gweld y canlyniadau gorau i’ch plentyn. Mae hyn yn helpu addysg a gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar blentyn o’r dechrau, i’w helpu i gael y gorau o’i addysg.

Mae’n arbennig o bwysig yn y blynyddoedd cynnar nad oes unrhyw oedi wrth roi’r gefnogaeth angenrheidiol. Gall oedi yn ystod y cyfnod hwn arwain at golli hunanhyder, rhwystredigaeth wrth ddysgu ac anawsterau ymddygiad.

Mae’n rhaid i ddarparwyr y blynyddoedd cynnar gael trefniadau ar waith i gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu Anableddau. Dylai’r trefniadau hyn gynnwys dull clir o nodi ac ymateb i ADY.

Os oes gan riant neu ofalwr bryder ynglŷn ag anghenion plentyn, bydd darparwr y blynyddoedd cynnar yn ystyried unrhyw wybodaeth a rannwyd gyda nhw wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chymorth y plentyn.

Mae gan rieni wybodaeth unigryw ac arbenigol am eu plant a dylen nhw chwarae rhan lawn o’r dechrau mewn unrhyw drafodaethau a phenderfyniadau ynglŷn ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) eu plentyn.

Plant anabl

Mae gan leoliadau’r blynyddoedd cynnar ddyletswydd hefyd i blant anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a rhaid iddo wneud ‘addasiadau rhesymol’ lle bo angen fel nad yw plentyn anabl o dan anfantais. Mae mwy o blant yn cael eu cwmpasu gan ddisgrifiad y Ddeddf Cydraddoldeb nag y mae nifer yn ei ddychmygu. 

Caiff plant anabl a’r rheini ag ADY eu cwmpasu gan ddwy gyfraith wahanol – Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond mae gorgyffwrdd sylweddol rhwng y ddwy.

Ni fydd ADY ar bob plentyn anabl, ond mae cynifer â ¾ o blant anabl ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd.

Mae plant sydd ag ystod o gyflyrau iechyd, er enghraifft: epilepsi, diabetes neu fathau mwy difrifol o asthma neu ecsema, yn fwy tebygol o gael eu cynnwys yn y diffiniad o anabledd ond efallai na fydd ganddyn nhw anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd Cynllun Iechyd Unigolganddyn nhw yn lle hynny.

Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau ac Atebion:

“Dwi wir yn poeni ac mae’r Feithrinfa yn poeni am gynnydd fy mhlentyn. Beth fydd yn digwydd nesaf?”

Mae pob plentyn yn wahanol. Y peth cyntaf i’w wneud yw trefnu cyfarfod gyda’r lleoliad Blynyddoedd Cynnar i drafod pryderon ac i ystyried y ffyrdd gorau o gefnogi’ch plentyn.

Mae nifer o blant yn gwneud cynnydd gyda’r cymorth sydd ar gael o fewn lleoliad y blynyddoedd cynnar ac ni fydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnyn nhw.

Os oes pryderon y gallai’r plentyn fod ag anghenion dysgu ychwanegol, dylid ‘rhoi gwybod i’r Awdurdod Lleol’ am y plentyn.

Mae gan yr Awdurdod Lleol ‘ddyletswydd i benderfynu’ a oes gan blentyn ADY ac i baratoi a chynnal Cynllun Datblygu Unigol (CDU) i unrhyw blentyn ag ADY.

Gall rhieni plant 0-5 oed nad ydynt yn mynychu meithrinfa neu ysgol ofyn i’r awdurdod lleol nawr asesu a oes gan y plentyn ADY a darparu CDU os oes angen.

Beth yw ADY a Beth yw CDU?

Pwy sy’n gallu tynnu sylw’r ALl at y plentyn?

Mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am Gynlluniau Datblygu Unigol plant o dan oedran ysgol gorfodol (o dan 5 oed) nad ydyn nhw mewn ysgolion a gynhelir.

Gellir ‘tynnu sylw’ awdurdod lleol at blant mewn sawl ffordd:

Er enghraifft gan:

  • rhiant/gofalwr plentyn
  • darparwr gofal plant neu addysg feithrin nas cynhelir
  • darparwr iechyd (gweler adran 64 o’r Ddeddf)

Gellir codi pryderon drwy leoliad blynyddoedd cynnar y plentyn (os yw’r plentyn yn mynychu) neu’n uniongyrchol gyda’r Awdurdod Lleol.

Rhieni yw’r cyntaf yn aml i gydnabod bod gan eu plentyn ADY. Dylai awdurdodau lleol a darparwyr meithrin nas cynhelir fod yn agored ac yn ymatebol i unrhyw bryderon a ddaw gan rieni ac ystyried unrhyw wybodaeth a ddarperir.

Bydd yr ysgol yn gwneud penderfyniadau am blant o dan 5 oed sy’n mynychu meithrinfa neu ddosbarth derbyn mewn ysgol a gynhelir.

Gallwch gysylltu â SNAP Cymru am wybodaeth a chyngor diduedd neu gallwch ddefnyddio’r llythyr enghreifftiol fan hyn gofyn i’r> ALl benderfynu ar ADY neu Beidio.

Sut rydw i’n tynnu sylw’r Awdurdod Lleol at fy mhlentyn?

Siaradwch â lleoliad eich plentyn – byddan nhw’n gallu cynnig cefnogaeth a chyngor. Mae gan y rhan fwyaf o leoliadau blynyddoedd cynnar berson sy’n gyfrifol am anghenion dysgu ychwanegol a fydd yn gallu eich helpu. Yn aml iawn gallan nhw drefnu’r cymorth cywir yn y lleoliad.  Er gwaethaf hyn, gallwch dynnu sylw’r ALl at eich plentyn i ofyn iddyn nhw benderfynu ar anghenion eich plentyn.

Gall rhieni plant 0-5 oed nad ydynt yn mynychu meithrinfa neu ysgol ofyn i’r awdurdod lleol nawr asesu a oes gan y plentyn ADY a darparu CDU os oes angen.

Does dim ots sut caiff pryderon eu codi gyda’r Awdurdod Lleol, efallai y bydd gan rai awdurdodau lleol e-bost neu ‘wefan’ lle cyflwynir pryderon, ond cynghorir rhieni i ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn gofyn yn ffurfiol iddyn nhw ‘benderfynu os oes gan eu plentyn ADY neu beidio. (A.13 (1) o’r Ddeddf)

Mae Pennod 11 o’r Cod ADY yng Nghymru 2021 yn rhoi gwybodaeth am ddyletswyddau Awdurdod Lleol mewn perthynas â phlant o dan oedran ysgol gorfodol (5 oed) nad ydyn nhw mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac mae pennod 11 yn rhoi gwybodaeth am y plant hynny o dan 5 oed mewn ysgol a gynhelir (yn y feithrinfa neu ddosbarth derbyn).

Mae gennym lythyr enghreifftiol y gallwch ei ddefnyddio, siaradwch â’n cynghorwyr ar 0808 801 0608 os oes angen help arnoch.

Pa mor hir y bydd yr Awdurdod Lleol yn ei gymryd i ystyried ac i ‘benderfynu’ a oes gan fy mhlentyn ADY?

Rhaid i’r Awdurdod Lleol gofnodi’r dyddiad y daw’r pryderon i’w sylw.

Rhaid i’r Awdurdod Lleol wneud penderfyniad ar ADY plentyn a hysbysu’r rhieni, lleoliad y blynyddoedd cynnar neu weithiwr iechyd proffesiynol ‘heb oedi’ neu cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos. (S13(3) o’r Ddeddf). (S13(3) Ddeddf)

RHAIDi’r Awdurdod Lleol anfon llythyr hysbysu at riant plentyn sy’n cynnwys y canlynol: (A.9 o’r Ddeddf)

  • manylion cyswllt yr Awdurdod Lleol
  • trefniadau’r Awdurdod Lleol am wybodaeth a chyngor am ADY a’r system ADY newydd
  • trefniadau i ddatrys anghydfodau ac eiriolaeth annibynnol
  • gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys os ydyn nhw’n anghytuno â phenderfyniad yr ALl.

Sut mae fy Awdurdod Lleol yn gwneud penderfyniadau ADY am blant y blynyddoedd cynnar?

Mae’r gyfraith yn dweud bod RHAID i Awdurdod Lleol gael swyddog sy’n cydlynu cyfrifoldebau’r Awdurdod Lleol i blant o dan oedran ysgol gorfodol (o dan 5 oed) nad ydyn nhw’n mynychu ysgolion a gynhelir. (Fel arfer y rhai dan 3 oed) (mae’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru yn mynychu dosbarthiadau meithrin a derbyn y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion a gynhelir rhwng 3 a 5 oed).

Gelwir y swyddog dynodedig yn:

‘Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar’ (A13(1)(2)o’r Ddeddf)

Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar sy’n gyfrifol am gydlynu holl ddyletswyddau Awdurdodau Lleol ar gyfer y grŵp oedran hwn, fel:

  • sicrhau bod digon o adnoddau ar gael
  • bod y bobl iawn yn ymwneud â pharatoi, cynnal ac adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol
  • bod hyfforddiant, arbenigedd a gwybodaeth ar gael i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol

RHAID i’r ALl benderfynu a oes gan y plentyn ADY oni bai bod un o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:

  • mae gan y plentyn Gynllun Datblygu Unigol yn barod
  • neu mae’r Awdurdod Lleol eisoes wedi gwneud y penderfyniad ar ADY y plentyn ac yn fodlon bod anghenion y plentyn heb newid ers y penderfyniad hwnnw ac nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n effeithio ar y penderfyniad hwnnw.

 

RHAID i’r Awdurdod Lleol ddweud wrth rieni neu ofalwyr ei fod yn penderfynu a oes gan blentyn ADY, gallan nhw gynnig cyfarfod i drafod y broses.

RHAID i’r Awdurdod Lleol ofyn am gyngor seicolegydd addysg pan fyddan nhw’n gwneud penderfyniadau ar ADY plentyn y blynyddoedd cynnar.

Gallai’r math o gyngor y bydd yr Awdurdod Lleol yn ei gasglu er mwyn gwneud penderfyniad gynnwys gwybodaeth am:

  • graddau neu natur yr ADY a all fod gan y plentyn
  • y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a allai fod yn briodol i’r plentyn

Fel arfer, bydd y cydlynydd dynodedig yn trefnu cyfarfod neu gyfarfodydd, lle bo’n briodol, gyda’r rhiant ac, os yw’n briodol, y plentyn, i drafod anghenion y plentyn, ac os oes angen, paratoi CDU ar eu cyfer. Bydd yr Awdurdod Lleol hefyd yn edrych a yw’r plentyn yn cael cymorth gan asiantaethau eraill.

Os yw’r awdurdodau lleol yn penderfynu bod gan blentyn ADY, mae’n RHAID iddo baratoi CDU ar gyfer y plentyn o fewn 12 wythnos.

Beth os yw’r Awdurdod Lleol yn penderfynu ‘nad oes gan fy mhlentyn ADY’ – beth alla i wneud?

Os yw eich ALl yn penderfynu nad oes gan eich plentyn ADY, mae’n RHAID iddo ysgrifennu atoch a nodi’r holl resymau dros eu penderfyniad. (A13(3) o’r Ddeddf) ac (A9).

Mae’n rhaid i’r llythyr hysbysu gynnwys y canlynol:

  • manylion cyswllt yr Awdurdod Lleol;
  • gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r Awdurdod Lleol i ddarparu gwybodaeth a chyngor i bobl am ADY a’r system ADY
  • manylion trefniadau’r Awdurdod Lleol i osgoi a datrys anghydfodau
  • gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad dylech siarad â’r Awdurdod Lleol cyn gynted â phosibl i drafod y penderfyniad ymhellach.

Dylai’r llythyr hysbysu hefyd gynnwys manylion unrhyw gamau y bydd yr Awdurdod Lleol yn eu cymryd i sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu, er nad oes ganddyn nhw ADY.

Gallwch gysylltu â SNAP Cymru ar 0808 801 0608 am gyngor a chefnogaeth ddiduedd neu i Ddatrys Anghydfod os ydych chi’n anghytuno.

Os na allwch ddatrys eich anghydfod gallwch wneud apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru a gofyn iddyn nhw ystyried y penderfyniad. (A.70 o’r Ddeddf)

Mae terfyn amser o 8 wythnos i wneud apêl, ond caiff hyn ei ymestyn 8 wythnos arall os ydych chi’n defnyddio proses o ddatrys anghydfodau.

Gweler Apelio

Mae gan fy mhlentyn ADY, sut mae’r CDU yn cael ei ddatblygu?

Os yw’r Awdurdod Lleol yn penderfynu bod gan eich plentyn ADY, mae’n rhaid iddo baratoi Cynllun Datblygu Unigol. (A14(1)(2) (A14(1)(2)

Os yw eich plentyn yn mynychu meithrinfa neu ddosbarth derbyn mewn ysgol prif ffrwd, gall yr Awdurdod Lleol fynnu bod yr ysgol yn paratoi ac yn cynnal y CDU (yn darparu’r gefnogaeth ac yn adolygu’r cynllun).

Mae gan yr Awdurdod Lleol 12 wythnos i benderfynu ac i baratoi’r CDU.

Dylai rhieni chwarae rhan lawn yn y broses o baratoi’r CDU. Mae’r gyfraith yn dweud bod ganddyn nhw yr hawl i:

  • o rannu eu barn am anghenion eu plentyn
  • o i ystyried eu barn lle bo’n bosibl

Ar ôl cwblhau’r CDU, dylai’r rhiant gael cyfle i wneud sylwadau ar y drafft ac i godi unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl. Dylai’r Awdurdod Lleol ystyried unrhyw bryderon a gweithredu arnyn nhw’n briodol, a allai fod i ddiweddaru’r CDU drafft neu i egluro penderfyniadau neu unrhyw fater arall ymhellach.

Ar ôl ei baratoi, RHAIDi’r Awdurdod Lleol roi copi o’r CDU i riant y plentyn. (A22.(1))

Unwaith mae’r Awdurdod Lleol yn paratoi CDU ar gyfer plentyn, maen nhw’n gyfrifol am ei gynnal (darparu’r cymorth y manylir arno yn y CDU ac ar gyfer adolygu’r CDU (A.14(10))

Os yw’r CDU yn nodi y dylid darparu Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn Gymraeg, RHAID i’r ALl neu gorff y GIG, lle bo’n berthnasol, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei bod yn cael ei darparu yn Gymraeg (A14(10)c) (S.29(5)c)(S.21(5)c) o’r Ddeddf.

 

Beth os na allwn gytuno?

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad yr Awdurdod Lleol, dylech siarad â nhw cyn gynted â phosibl. Cysylltwch â nhw a gofynnwch am gyfarfod i drafod y penderfyniad.

Beth allwch ei wneud i baratoi:

  1. Gwnewch nodyn o’r materion neu’r cwestiynau sydd gennych
  2. Rhestrwch eich pryderon a pham rydych chi’n anhapus â’r penderfyniad
  3. Meddyliwch am yr hyn yr hoffech ei weld yn cael ei newid
  4. Sicrhewch fod gennych wybodaeth neu dystiolaeth yn barod i gefnogi’ch barn
  5. Cysylltwch â SNAP Cymru am gyngor annibynnol i drafod opsiynau a’ch helpu i baratoi

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth datrys anghydfodau SNAP Cymru sydd ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Gall y gwasanaeth helpu rhieni a’r awdurdod addysg lleol lle bo anghydfod ynglŷn â phenderfyniadau ADY a darpariaeth ADY.

Nid yw eiriolwr SNAP Cymru yn cymryd ochrau ond bydd yn gwrando ac yn darganfod beth sydd wedi bod yn digwydd. Y nod yw dod o hyd i ateb y gall pawb gytuno ag ef.

Os ydych yn anhapus â’r CDU a ddatblygwyd, gallwch ofyn i’ch ALl ei newid.

Gallwch wneud hyn pan fydd y cynllun wedi’i baratoi, neu mewn cyfarfod adolygu.

Os bu newid sydyn neu annisgwyl mewn amgylchiadau (er enghraifft os yw anghenion plentyn wedi dod yn fwy difrifol o lawer), gallwch ofyn i’r ALl gynnal adolygiad cynnar o Gynllun Datblygu Unigol eich plentyn.

Os ydych chi’n dal yn anhapus gyda’r cynllun a baratowyd, neu os yw’r ALl yn gwrthod gwneud y newidiadau rydych eu heisiau, gallwch apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru. (A.70)

Gweler Apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru

Os ydych yn penderfynu apelio i’r Tribiwnlys Addysgdylech hefyd roi gwybod i’ch ALl cyn gynted â phosibl a pharhau i drafod eich pryderon. Gall SNAP Cymru hefyd eich helpu i barhau i ddatrys eich anghydfod.

I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, gallwch siarad â SNAP Cymru ar 0808 801 0608 neu e-bostiwch: DRS@snapcymru.orgneu ar gyfer atgyfeirio a mwy o wybodaeth ar: Gwasanaeth Datrys Anghydfodau

Beth sy’n digwydd i Gynllun Datblygu Unigol fy mhlentyn pan fyddan nhw’n symud i ysgol?

Unwaith y bydd y plentyn yn mynychu’r ysgol, gall yr Awdurdod Lleol gyfarwyddo (dweud) wrth yr ysgol i gynnal y CDU.

Dylai’r holl drefniadau pontio ar gyfer y plentyn gael eu cofnodi yn y CDU (adran 3C.)

Serch hynny, ni ddylen nhw wneud hynny os yw’r CDU yn cynnwys darpariaeth y dylai’r ALl ei darparu. . Er enghraifft, os yw’r CDU yn disgrifio:

  • lle mewn lleoliad penodol sy’n cynnwys bwyd a llety, gallai fod yn ysgol breswyl
  • os yw’r plentyn wedi’i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad
  • mae’r plentyn wedi derbyn gofal

Dylech drefnu ymweld â’r ysgol a fydd yn rhoi cyfle i chi gwrdd â’r staff dysgu ac ystyried sut y byddan nhw’n ymateb i anghenion dysgu a datblygu eich plentyn. Bydd gan yr ysgol hefyd ddarlun llawnach o anghenion eich plentyn cyn iddo/iddi ddechrau.

Mae fy mhlentyn yn anabl, beth alla i ddisgwyl o’r feithrinfa?

Mae eich plentyn wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r diffiniad o anabledd yn ehangach nag y bydd llawer yn ei feddwl, ac felly mae’n cynnwys nifer fwy o blant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Dylai’r lleoliad:

  • o wneud addasiadau rhesymol i blant anabl. Mae’r ddyletswydd hon yn rhagweladwy, sy’n golygu bod yn rhaid i leoliadau edrych ymlaen a rhagweld yr hyn y gallai fod ei angen ar blant anabl a pha addasiadau y gallai fod angen eu gwneud i atal unrhyw anfantais
  • o rhaid iddo hyrwyddo cyfle cyfartal i bob plentyn
  • o peidio ag aflonyddu, erlid neu wahaniaethu yn erbyn plant anabl
  • o peidio â gwahaniaethu’n uniongyrchol, yn anuniongyrchol, neu am reswm sy’n deillio o ganlyniad i anabledd

Os yw eich plentyn yn anabl, dylech siarad â’r lleoliad a rhannu eich holl wybodaeth a’ch pryderon. Gofynnwch iddyn nhw wneud addasiadau rhesymol i’ch plentyn.

Os ydych yn teimlo bod eich plentyn wedi’i drin yn annheg oherwydd eu hanabledd, neu oherwydd rhywbeth sy’n deillio o’u hanabledd, gall hyn fod yn wahaniaethu ar sail anabledd.

Gall y wybodaeth ganlynol fod yn ddefnyddiol (add link)

Os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â llinell gymorth gwahaniaethu SNAP Cymru. (os gofynnir i chi, gadewch neges a’ch manylion cyswllt a bydd cynghorydd yn dychwelyd eich galwad).

Discrimination Helpline: 0300 222 5711

e-bost: discrimination@snapcymru.org

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfranwch