Os oes rhywun yn cael ei drin yn annheg oherwydd eu hanabledd, neu oherwydd rhywbeth sy’n codi oherwydd eu hanabledd, gall hyn fod yn wahaniaethu ar sail anabledd. 

Mae ein Gwasanaeth Cynghori ar Wahaniaethu yn wasanaeth annibynnol i blant ag ADY a’u rhieni a phobl ifanc sydd wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r gwasanaeth am ddim ac ar gael i bobl ledled Cymru. Am fwy o wybodaeth, edrychwch am help ar ein tudalen Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Gallwn eich helpu gyda’r canlynol: 

  • Darparu gwybodaeth gywir ynglŷn â’ch hawliau chi a’ch plentyn 
  • Paratoi ar gyfer cyfarfodydd gydag ysgolion, awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol eraill i drafod eich pryderon a mynychu’r cyfarfodydd hynny  
  • Eich cefnogi i ofyn am ‘addasiadau rhesymol’ ar gyfer eich plentyn 
  • Eich helpu i ysgrifennu llythyron swyddogol ac i gwblhau ffurflenni 
  • Egluro ystyr dogfennau, prosesau neu ddeddfwriaeth 
  • Gwneud atgyfeiriadau neu gyfeirio at y sefydliad neu’r cyswllt cywir 
  • Eich helpu i wneud cwyn lle nad oes ‘addasiadau rhesymol’ yn cael eu gwneud 
  • Datrys anghydfodau 
  • Cefnogi Honiadau o Wahaniaethu i Dribiwnlys AAA Cymru (SENTW) a’r Tribiwnlys Addysg Cymru newydd 
  • Cymorth parhaus os yw’n anodd datrys materion 
  • Darparu hyfforddiant gwahaniaethu ar sail anabledd 

Am gyngor a chefnogaeth, cysylltwch â ni ar: 

Llinell gymorth gwahaniaethu: 0300 222 5711 

e-bost: discrimination@snapcymru.org 

Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau ac Atebion:

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud ynglŷn â gwahaniaethu?

Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r ffynhonnell unigol o gyfraith wahaniaethu ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod unigolion rhag gwahaniaethu gan:

  • gyflogwyr
  • busnesau a sefydliadau sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau fel banciau, siopau a chwmnïau cyfleustodau
  • darparwyr iechyd a gofal fel ysbytai a chartrefi gofal
  • rhywun yr ydych chi’n rhentu neu brynu eiddo ganddyn nhw, fel cymdeithasau tai a gwerthwyr tai
  •  ysgolion, colegau a darparwyr addysg eraill
  •  gwasanaethau cludiant fel bysiau, trenau a thacsis 
  •  cyrff cyhoeddus fel adrannau’r llywodraeth ac awdurdodau lleol.

Ceir naw o nodweddion gwarchodedig yn y Ddeddf Cydraddoldeb, ac mae Anabledd yn un o’r nodweddion gwarchodedig. Mae gwahaniaethu sy’n digwydd oherwydd un neu fwy o’r nodweddion hyn yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf.
Mae plentyn neu unigolyn ifanc yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (adran 6) os oes ganddyn nhw:

“nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Prawf isel i’w gyrraedd yw hwn mewn gwirionedd gan mai ystyr “sylweddol” yw ei fod yn fwy na bach neu ddibwys ac ystyr “hirdymor” yw ei fod yn para mwy na blwyddyn neu’n debygol o bara mwy na blwyddyn”

Ni fydd pob plentyn nac unigolyn ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig yn anabl ac ni fydd pob plentyn nac unigolyn ifanc ag anghenion addysg arbennig. Fodd bynnag, bydd y mwyafrif helaeth yn gymwys ar gyfer y ddau ddiffiniad cyfreithiol. Mae’r diffiniad yn eang a gall gynnwys problemau corfforol neu broblemau iechyd meddwl, yn ogystal â chyflyrau fel dyslecsia neu awtistiaeth.

Pwy sy’n gyfrifol am warchod fy mhlentyn yn erbyn gwahaniaethu?

Y ‘corff cyfrifol’ yw’r Awdurdod Lleol, neu Gorff Llywodraethu’r Ysgol neu’r Coleg lle mae eich plentyn yn ddisgybl.  Mae gan leoliadau’r blynyddoedd cynnar, ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol (“ALlau”) ddyletswyddau cyfreithiol eglur i weithredu er mwyn atal gwahaniaethu anghyfreithlon, un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydyn nhw’n trin plant a phobl ifanc sydd ag anableddau yn ‘llai ffafriol’ nag eraill.

Mae dyletswydd ysgol tuag at ei disgyblion yn mynd y tu hwnt i addysg ffurfiol yn unig; mae’n darparu ac yn cynnwys holl weithgareddau’r ysgol, fel gweithgareddau allgwricwlaidd a hamdden.

Nid yw o bwys a oedd ysgol yn gwybod am y gweithredoedd hynny neu yn eu cymeradwyo. Mae gweithiwr mewn ysgol yn bersonol gyfrifol am ei weithredoedd gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth ei hun, p’un ai yw’r cyflogwr yn atebol ai peidio. Fodd bynnag, ni all gweithiwr fod yn bersonol atebol mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.
Mae’n rhaid i gorff cyfrifol ysgol beidio â gwahaniaethu yn erbyn disgybl:

  • wrth ei dderbyn i’r ysgol
  •  yn y modd y mae’n darparu addysg ar gyfer y disgybl;
  •  yn y modd y mae’n darparu budd, cyfleuster neu wasanaeth neu nad yw’n darparu budd, cyfleuster na gwasanaeth;
  •  drwy beidio â darparu addysg ar gyfer y disgybl;
  •  drwy wahardd y disgybl o’r ysgol; 

Mae’r gyfraith yn berthnasol i beth sy’n digwydd yn ystod amseroedd egwyl ac amseroedd cinio yn ogystal â beth sy’n digwydd yn ystod gwersi ac mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r ysgol, fel clybiau ysgol, clybiau ar ôl ysgol, gweithgareddau chwaraeon a thripiau ysgol.

Beth yw ‘Addasiadau Rhesymol’?

Mae gan y corff cyfrifol ddyletswydd i wneud ‘addasiadau rhesymol’ – newid beth y maen nhw’n ei wneud neu’n bwriadu ei wneud – er mwyn sicrhau nad yw plentyn neu unigolyn ifanc anabl o dan anfantais.

Mae hyn yn cynnwys darparu ‘cymhorthion a gwasanaethau’ er mwyn cefnogi plentyn neu unigolyn ifanc.  Mae gwneud addasiadau rhesymol yn cynnwys darparu cymhorthion arbennig fel cyfarpar a dehonglwyr iaith arwyddion.

Os yw ysgol wedi methu â gwneud addasiad rhesymol a fyddai wedi atal neu leihau triniaeth anffafriol, bydd yn anodd iawn iddyn nhw ddangos yn wrthrychol bod eu dull neu eu cefnogaeth yn gyfiawn.

Templedi ar gyfer Llythyrau

Gofyn am wneud addasiadau rhesymol ar gyfer eich plentyn

Gellir newid y llythyr er mwyn iddo weddu i amgylchiadau unigol eich plentyn. Dylech chi ychwanegu manylion eich plentyn a’ch pryderon a’i anfon at y Pennaeth.

A allaf gael cefnogaeth neu help wyneb yn wyneb mewn cyfarfodydd gan SNAP Cymru?

Ym mhob ardal o Gymru, mae SNAP Cymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer teuluoedd sy’n meddwl bod gwahaniaethu yn digwydd mewn addysg i’w plentyn nhw. Gallwn ni eich helpu chi gyda’r canlynol:

  • Paratoi a mynychu cyfarfodydd gydag ysgolion, awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol eraill
  • Eich cefnogi chi i ofyn am ‘addasiadau rhesymol’ ar gyfer eich plentyn
  • Eich helpu chi i ysgrifennu llythyrau swyddogol a chwblhau ffurflenni
  • Egluro ystyr dogfennau swyddogol, prosesau neu ddeddfwriaeth 
  • Gwneud atgyfeiriadau neu arwain y ffordd at y sefydliad neu’r cyswllt cywir 
  • Darparu datrysiad i anghydfod
  • Cefnogi Hawliadau o Wahaniaethu ar gyfer Tribiwnlys AAA Cymru
  • Cefnogaeth barhaus os yw problemau yn anodd i’w datrys

Er mwyn cael cyngor a chefnogaeth, cysylltwch â ni:

llinell gymorth gwahaniaethu: 0300 222 5711
e-bost: gwahaniaethu@snapcymru.org

Sut allaf i ddatrys fy mhryderon yn anffurfiol?

Yn aml, mae’n well ceisio datrys eich problem yn anffurfiol yn y lle cyntaf. Gall hyn atal y broblem rhag gwaethygu ac osgoi’r gost a’r straen o weithredu yn ffurfiol neu’n gyfreithiol. Fodd bynnag, dylech chi fod yn ymwybodol bod cyfyngiadau amser caeth ar gyfer gweithredu. Felly, mae’n well i chi weithredu mor gynnar ag sy’n bosibl os ydych chi’n teimlo bod eich plentyn yn dioddef gwahaniaethu.
Gallwch chi wneud y pethau canlynol os yw eich plentyn chi wedi cael profiad o wahaniaethu:

• cwyno
• ceisio cyfryngu neu ddatrys yr anghydfod
• dod â hawliad o wahaniaethu i Dribiwnlys Haen Gyntaf/gweithredu yn gyfreithiol.

Sut allaf i gwyno os nad yw addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer fy mhlentyn?

Os ydych chi’n cwyno, gallai hyn fod y ffordd gyflymaf i gael ymddiheuriad neu rwymedi anffurfiol. Os ydych chi’n credu bod eich plentyn yn anabl a bod angen gwneud addasiadau rhesymol ar ei gyfer, dylech chi ofyn i’r ysgol wneud hyn.   Gallwch chi gwrdd â nhw er mwyn trafod hyn, neu os yw’n angenrheidiol, nodwch hyn yn ysgrifenedig. Os nad yw addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud, gallech chi nodi hyn yn ysgrifenedig drwy ddefnyddio’r templed.

> Cwyn ffurfiol ynglŷn â methiant i wneud addasiad rhesymol

Os ydych chi’n teimlo bod eich plentyn chi wedi cael profiad o wahaniaethu er gwaethaf y ffaith eich bod wedi gofyn am addasiadau rhesymol, y cam cyntaf fyddai cwyno yn ffurfiol drwy ddefnyddio gweithdrefn gwynion yr ysgol ei hun.

Yn eich cwyn, dylech chi egluro pa fath o wahaniaethu ar sail anabledd yr ydych chi’n credu sydd wedi digwydd, a pha gam gweithredu yr ydych chi’n feddwl y dylai’r ysgol ei gymryd i’w gywiro. Dylid anfon y gŵyn at y Pennaeth ac at Gorff Llywodraethu’r Ysgol. Bydd eich ysgol yn cyhoeddi manylion ynglŷn â’i gweithdrefn gwynion.

Os nad yw’r gŵyn yn datrys y mater, gallech chi ddewis dod â hawliad i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru) (y “TAAAC”).

Fodd bynnag, mae’n werth ystyried ai hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd yw’r llwybr gweithredu gorau yn eich amgylchiadau unigol chi.
Mae hawliadau gwahaniaethu yn ‘edrych yn ôl’, oherwydd eu bod yn canolbwyntio ar ddigwyddiad gwahaniaethu yn y gorffennol, yn hytrach nag edrych ymlaen at ba gefnogaeth sydd ei hangen.  Efallai y bydd yn well gennych chi ddefnyddio fframwaith AAA i dderbyn y gefnogaeth briodol ar gyfer eich plentyn chi.

Sut ydw i’n cyflwyno hawliad gwahaniaethu?

Os ydych chi’n parhau i fod yn anfodlon er gwaethaf eich bod chi wedi cwyno wrth yr ysgol a’ch bod yn teimlo bod eich plentyn yn dioddef gwahaniaethu, gellir cyflwyno hawliad o wahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn lleoliad y blynyddoedd cynnar, ysgol, coleg neu eich awdurdod lleol. Os oedd yr hawliad yn erbyn ysgol yn llwyddiannus, gall dderbyn gorchymyn i:

  • Drefnu hyfforddiant ar gyfer staff yr ysgol
  •  Newid polisïau neu ganllawiau’r ysgol
  •  Darparu tiwtora ychwanegol, er mwyn gwneud yn iawn am ddysgu a gollwyd
  •  Darparu ymddiheuriad ysgrifenedig
  •  Darparu teithiau neu gyfleoedd eraill i wneud yn iawn am weithgareddau y gall y plentyn neu’r unigolyn ifanc fod wedi’u colli
  •  Gwneud addasiadau rhesymol i ymdrin ag anabledd y disgybl
  •  Newid lleoliad y gwersi neu’r gweithgareddau o fewn yr ysgol
  •  Pan mae ysgol annibynnol wedi gwrthod mynediad mewn modd gwahaniaethol, gellid gorchymyn yr ysgol i roi mynediad i’r plentyn neu’r unigolyn ifanc
  •  Os oes plentyn wedi cael ei wahardd yn barhaol a bod hyn wedi cael ei weld yn wahaniaethol, gellid gorchymyn i’r ysgol aildderbyn y plentyn neu’r unigolyn ifanc.

Ni ellir gorchymyn y pethau canlynol:

• Iawndal ariannol
• Newidiadau ffisegol i adeiladau ysgol
• Diswyddo aelod arbennig o’r staff

Am fwy o wybodaeth gwelwch  TAC06 – Canllawiau hawlio (llyw.cymru) 

Nod y canllaw hwn yw eich helpu drwy’r broses hawlio gyda Thribiwnlys Addysg Cymru (y Tribiwnlys). Mae’n disgrifio pob un o’r camau yn y broses, a pha gymorth sydd ar gael. Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i wneud hawliad, ond ni all ddweud wrthych a oes gennych siawns
dda o lwyddo

Yn erbyn pwy mae’r hawliad?

Gellir gwneud hawliad o wahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn ysgol o unrhyw fath (p’un ai yw’n cael ei chyllido gan y wladwriaeth neu’n ysgol annibynnol), neu yn erbyn ysgol feithrin a gynhelir i Dribiwnlys Haen Gyntaf (Tribiwnlys  Addysg) . Gallwch chi weld gwybodaeth ynglŷn ag apeliadau gwahaniaethu ar wefan y tribiwnlys.
Byddai angen i hawliad yn erbyn ysgol feithrin breifat, coleg addysg bellach neu awdurdod lleol fynd i’r Llys Sirol.

Nid ydych chi angen cyfreithiwr i fynd i’r tribiwnlys  ac nid oes gan y mwyafrif helaeth o rieni unrhyw gynrychiolydd yn eu hapeliadau.
Mae help a chefnogaeth a chyngor gyda gwaith achos ar gael gan SNAP Cymru, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar:

 Llinell gymorth gwahaniaethu 0300 222 5711
• neu e-bost: gwahaniaethu@snapcymru.org

Gall cynghorwyr SNAP eich helpu chi i gyfathrebu â’r ysgol er mwyn gofyn am addasiadau rhesymol, ac os yw hyn yn methu, gallwn ni eich helpu chi i baratoi apêl. 

“Pa bethau ddylwn i feddwl amdanyn nhw cyn gweithredu?”

Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn wedi cael profiad o wahaniaethu ac rydych chi eisiau gweithredu o’i herwydd, byddwch chi angen sefydlu ffeithiau eich achos. Bydd hyn yn eich helpu chi i benderfynu a yw gwahaniaethu anghyfreithlon wedi digwydd yn ogystal â chefnogi eich achos wrth i chi weithredu.

Meddyliwch am y pethau canlynol a fydd yn eich helpu chi i sefydlu ffeithiau eich achos:

• a yw eich plentyn chi yn anabl o dan y ddeddf?
• pwy yw’r unigolyn neu’r sefydliad a all fod wedi gwahaniaethu yn erbyn eich plentyn?
• beth yn union ddigwyddodd?
• pryd ac yn lle y digwyddodd?
• a wnaeth unrhyw un ei weld yn digwydd – pa dystiolaeth sydd?
• pa anfantais neu niwed a ddioddefodd eich plentyn? – (heb anfantais, mae’n debyg na fyddai eich hawliad gwahaniaethu yn llwyddo)
• a oes gennych chi unrhyw enghreifftiau penodol o driniaeth annheg?
• pam ydych chi’n meddwl bod eich plentyn chi wedi cael ei drin yn annheg ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn?
• pa effaith a gafodd hyn ar eich plentyn?

Pa bethau ddylwn i feddwl amdanyn nhw cyn gweithredu?

Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn wedi cael profiad o wahaniaethu ac rydych chi eisiau gweithredu o’i herwydd, byddwch chi angen sefydlu ffeithiau eich achos. Bydd hyn yn eich helpu chi i benderfynu a yw gwahaniaethu anghyfreithlon wedi digwydd yn ogystal â chefnogi eich achos wrth i chi weithredu.

Meddyliwch am y pethau canlynol a fydd yn eich helpu chi i sefydlu ffeithiau eich achos:

  • a yw eich plentyn chi yn anabl o dan y ddeddf?
  •  pwy yw’r unigolyn neu’r sefydliad a all fod wedi gwahaniaethu yn erbyn eich plentyn?
  •  beth yn union ddigwyddodd?
  •  pryd ac yn lle y digwyddodd?
  •  a wnaeth unrhyw un ei weld yn digwydd – pa dystiolaeth sydd?
  •  pa anfantais neu niwed a ddioddefodd eich plentyn? – (heb anfantais, mae’n debyg na fyddai eich hawliad gwahaniaethu yn llwyddo)
  •  a oes gennych chi unrhyw enghreifftiau penodol o driniaeth annheg?
  •  pam ydych chi’n meddwl bod eich plentyn chi wedi cael ei drin yn annheg ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn?
  •  pa effaith? 

Hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd – sut ydw i’n ei wneud?

Gall Tribiwnlys Addysg Cymru wrando ar hawliadau ynglŷn â gwahaniaethu ar sail anabledd gan ysgol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae’r weithdrefn yn debyg iawn i honno sy’n dod ag apêl ynglŷn â datganiad ADY, a gyfeirir ato fel ‘apêl ADY’.
Mae Tribiwnlys wedi cynhyrchu canllawiau ynglŷn â chyflwyno hawliad o wahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn ysgol.

Gwelwch hefyd > TAC06 – Canllawiau hawlio (llyw.cymru) Nod y canllaw hwn yw eich helpu drwy’r broses hawlio gyda Thribiwnlys Addysg Cymru (y Tribiwnlys). Mae’n disgrifio pob un o’r camau yn y broses, a pha gymorth sydd ar gael.

Amserlen
Ar gyfer hawliadau ynglŷn â gwahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn ysgol, mae’n rhaid i’r hawliad gael ei dderbyn gan y Tribiwnlys  o fewn chwe mis ar ôl y digwyddiad gwahaniaethu yr ydych chi’n gwneud hawliad amdano.

Cyflwyno’r ffurflen apêl
Gellir dod o hyd i ffurflenni Hawliad Gwahaniaethu ar safle’r dribiwnlys Croeso i | Education Tribunal (llyw.cymru).

Dylech chi egluro:

  •  Anabledd eich plentyn
  •  Y gwahaniaethu y mae’n ei brofi
  •  pa rwymedi ydych chi eisiau
  •  pa dystiolaeth sydd gennych chi

Byddwch chi angen copïau o adroddiadau proffesiynol neu ddogfennau eraill sy’n helpu i egluro anabledd eich plentyn. Os derbyniwyd diagnosis ynglŷn â chyflwr penodol, mae’n rhaid i chi ddarparu copïau o ddogfennau sy’n dangos hynny. Dylech chi gyflwyno’r dystiolaeth hon gyda’ch ffurflen hawliad.
Yn ogystal, dylech chi anfon copi o unrhyw ddogfennau a all helpu’r Tribiwnlys i ddeall ynglŷn â beth y mae’r hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd. Gallai hyn gynnwys gohebiaeth, copïau o ddogfennau a anfonwyd o’r ysgol neu ddatganiadau ysgrifenedig gan bobl a fu’n dyst i’r digwyddiadau.

Unwaith mae’r cais wedi cael ei gofrestru
Dylai’r llythyr cofrestru eich hysbysu chi o ddyddiad y gwrandawiad; neu unrhyw gyfarwyddiadau rheoli achos unigol sy’n cael eu penderfynu gan gadeirydd y Tribiwnlys (y barnwr) a byddan nhw hefyd yn anfon gwaith papur ar gyfer mynychu’r Tribiwnlys atoch chi er mwyn i chi eu cwblhau a’u dychwelyd.

Y gwrandawiad
Gwrandewir ar hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd gan baneli sy’n cynnwys tri aelod.
Mae’r ysgol yn debygol iawn o gael ei chynrychioli gan gyfreithiwr neu fargyfreithiwr.  Ni fydd y panel fel arfer yn dod i benderfyniad ar y diwrnod, ond bydd yn anfon dyfarniad ysgrifenedig ar ôl y gwrandawiad.
Gall SNAP Cymru eich cefnogi chi drwy gydol y broses hon.

A allaf i ddefnyddio datrysiad anghytundeb neu gyfryngu i ddatrys fy anghydfod?

Gallwch chi ystyried defnyddio datrysiad anghytundeb ar unrhyw adeg – hyd yn oed cyn symud i’r broses ffurfiol. Gall penderfynu cyfryngu ddigwydd ochr yn ochr â chyflwyno Hawliad i TAAAC ac nid yw’n atal eich hawl i gyflwyno hawliad. Os yw’r anghydfod eisoes yn y broses gyfryngu, dylid hysbysu’r tribiwnlys a gellir rhoi amser ychwanegol. Gall datrysiad anghytundeb (GDA) fod yn gyflymach, yn llai o straen ac yn rhatach na mynd i dribiwnlys neu lys, a gall achosi llai o niwed i’r berthynas rhyngoch chi a’r ysgol.
Gellir sefydlu darpariaeth briodol ar gyfer y plentyn yn gyflymach yn dilyn cyfryngu a gellir cytuno ar becynnau cefnogaeth mwy creadigol neu hyblyg. Gall canlyniad cyfryngu yn aml iawn gynnwys ymddiheuriad, eglurhad neu rywbeth nad oes gan lys Tribiwnlys y grym i’w orchymyn. Unwaith bod setliad wedi cael ei benderfynnu, gellir llunio cytundeb cyfryngu.

Gallwch chi ddefnyddio GDA:

  • Cyn/ochr yn ochr â gwneud apêl i Dribiwnlys AAA
  •  Mater yn yr ysgol na ellir ei ddatrys o fewn prosesau’r ysgol
  •  Pryderon ynglŷn â gwahaniaethu a methu â darparu addasiadau  rhesymol

Ni ellir gwarantu llwyddiant, ond mae gan y broses ganran dda o lwyddiant. Hyd yn oed pan na ddaethpwyd i benderfyniad, mae llawer o bobl yn ei gweld yn broses ddefnyddiol iawn – maen nhw’n dysgu am y parti arall ac ambell waith, maen nhw’n gallu datrys yr anghydfod ar ôl hynny cyn mynd i dribiwnlys. Mae llawer o bartïon yn fwy bodlon gyda’r canlyniad na chyda tribiwnlys neu benderfyniad yn y llys, oherwydd eu bod wedi setlo pethau eu hunain a heb gael pethau wedi’u gosod arnyn nhw. Gellir cael cytundebau rhannol hefyd.

Help a Gwybodaeth Ychwanegol

Er mwyn gofyn am gymorth, gallwch chi anfon e-bost at y tîm cyfreithiol yng Nghomisiwn Cydraddoldebau a Hawliau Dynol Cymru

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD)

Llinell Gymorth: 0845 604 8810
E-bost: wales@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com

Deddfwriaeth
Ar gyfer y Ddeddfwriaeth Cydraddoldeb ynglŷn â gwahaniaethu mewn ysgolion perthnasol, gweler Deddf Cydraddoldeb 2010, Rhan 6 (ar ddolen allanol legislation.gov.uk), Adrannau 84-89 a 98 ac Atodlen 10 (hygyrchedd ar gyfer disgyblion anabl), 11 (ysgolion, eithriadau), 13 (addysg, addasiadau rhesymol) a 14 (elusennau a gwaddolion addysgol).
Gwybodaeth ynglŷn ag Addysg Bellach
Ar gyfer y ddeddfwriaeth gydraddoldeb berthnasol ar wahaniaethu mewn AB gweler Cydraddoldeb

Gwybodaeth ynglŷn ag Addysg Bellach
Ar gyfer y ddeddfwriaeth gydraddoldeb berthnasol ar wahaniaethu mewn AB gweler Cydraddoldeb Addysg Uwch – Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (OIA)
Gall myfyriwr gyflwyno hawliad o wahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn prifysgol neu sefydliad addysg uwch yng Nghymru a Lloegr. Byddai myfyriwr yn anfon ei gŵyn at Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (SDA). Bydd y myfyriwr fel arfer yn gorfod bod wedi disbyddu’r weithdrefn gwynion fewnol. Ceir sawl mater na all SDA wrando arnyn nhw, fel cwestiynau o farn academaidd, ond gallan nhw wrando ar gwynion gwahaniaethu. Os yw myfyriwr yn cwyno wrth SDA o fewn chwe mis i’r gwahaniaethu honedig, yna mae’r cyfyngiad amser ar gyfer ei ddwyn i’r llys yn cael ei ymestyn o dri mis.
Gellir cael mwy o wybodaeth oddi wrth safle OIA

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru TAAC
Croeso i | Education Tribunal (llyw.cymru)

Triwbiwnlys Addysg Cymru
Uned Tribiwnlysoedd Cymru

Blwch SP 100
Llandrindod
LD1 9BW

Rhif ffôn: 0300 025 9800
Rhif ffacs: 0300 025 9801
E-bost: tribiwnlysaddysg@llyw.cymru 

neu tribunal.Enquiries@llyw.cymru

 

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch