Amdanom Ni

Mae SNAP Cymru yn elusen genedlaethol, unigryw i Gymru, a sefydlwyd ym 1986. Ei phrif nod yw hyrwyddo addysg pobl yng Nghymru a chefnogi eu cynhwysiant.

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim ac annibynnol i helpu i sicrhau’r addysg gywir i blant a phobl ifanc ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau. Rydym yn darparu cyngor a chymorth ar ystod eang o faterion, gan gynnwys asesiadau, cynlluniau datblygu unigol (CDU), bwlio, presenoldeb yn yr ysgol, gwaharddiadau, darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a gwahaniaethu.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau eiriolaeth, osgoi a datrys anghytundebau, cyngor ar wahaniaethu, a hyfforddiant i blant a phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Mae SNAP Cymru wedi gweithio i hwyluso partneriaethau ers dros 40 mlynedd ac mae ganddo gyfoeth o wybodaeth a phrofiad. Rydym yn dal Marc Ansawdd Arbenigol yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol ar gyfer cyngor addysg, ac fe’n dyfarnwyd Gwobr Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol.

Ni yw prif ddarparwr Cymru o wasanaethau cyngor, eiriolaeth, ac osgoi a datrys anghytundebau ADY annibynnol, gan gefnogi plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr i ddeall eu hawliau, cymryd rhan yn hyderus mewn penderfyniadau, a datrys materion yn gynnar.

Mae SNAP Cymru yn gweithio gyda pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, ysgolion, darparwyr y Blynyddoedd Cynnar, darparwyr gofal cymdeithasol, Gyrfa Cymru, a phartneriaid y Trydydd Sector.

Pwy allwn ni eu helpu?

Pob teulu, plentyn a pherson ifanc sy’n byw yng Nghymru sydd ag, neu a allai fod ag, Anghenion Dysgu Ychwanegol neu Anableddau, a rhwystrau eraill i addysg,
er enghraifft plant mewn angen, diffyg ymgysylltiad, tlodi, amddifadedd, neu Saesneg neu Gymraeg fel ail iaith.

Gallwn hefyd helpu gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, ac eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys ysgolion, colegau, a sefydliadau addysg gymunedol eraill.

Ein Tîm

Cwrdd â’r Ymddiriedolwyr

Gweledigaeth ac Effaith

Gwobrau

Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol

Mae’r Marc Ansawdd Arbenigol yn safon sefydliadol sy’n berthnasol i unrhyw sefydliad sy’n darparu gwasanaeth cynghori a gwasanaeth cyfreithiol drwy ‘wasanaeth arbenigol’. 

Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol

Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn wobr flynyddol sy’n cydnabod ac yn tynnu sylw at ragoriaeth mewn gweithgareddau gwirfoddol sy’n cael eu cynnal gan grwpiau yn y gymuned.

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr

Mae’r wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn dangos ein bod wedi cyflawni’r gofynion ymestynnol ar gyfer y safon genedlaethol hon. 

Gwirfoddoli

Codi Arian

Cyfrannwch